Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
TRAWSFYNYDD. I
TRAWSFYNYDD. I Nos Iau, 15fed cyfisol, yn Vestri Moriah yn Nghymdeithas y Bobl Ieuanc, cafwyd dadl rbagorol ar Pa un ai yr aelwyd, ai yr eglwys sydd yn gyfrifol am ddirywiad yr Ysgol SabbotboL" Yn absenoldeb Mr Hugh Jones, Ty'nddol, ilywyddwyd yn fedrus gan Mr J. Griffiths, Tyn-y pistyll. Agorwyd dros yr aelwyd yn ddeheuig, gan Mr R. Jones, Tremprysor, ac ategwyd yn hynod o fedrus, gan Mrs Lewis, Pant-y-celyn, Agorwyd dros yr egiwys, gan Mr J. Williams, Gwynfa, gyda llawer o dan yn ei speech, a medrusrwydd. Cafwyd gair yn fyr gan amryw o'r brodyr, Yna rhowd y raatsr i bleidlais, ac yr oedd y ddwy ochr yr un faint. Yna rboddodd y Llywydd ei bleidlais yn 01 ei dyb ef mai yr aelwyd oedd fwyaf cyfrifol, ANRHYDEDD. Gwelwn fod Miss Gwen Evans, merch ieuengaf Mr a Mrs David Evans, Station Road, sydd yn gwasanaethu gydag Arglwydd ac Arglwyddes Mount Stephen, yn Brocket Hall, wedi cael yr anrhydedd o weini ar eu Mawrhydi y Brenin a'r Frenhines yr wythnos ddivJeddaf, pan ceddvnt ar ymweliad a'r Palas ucbod. Diau yr erys yr aragylcbiad r yn fyw ar ei chof flycyddoedd lawer, ac y caiff gy.feirio ato yn y dyfodol gyda dyddordeb arbenig. CYMDEITKAS PDIWYLLIADOL EBENEZER (A )—" Noson gyda'r Beirdd gafwyd yn y Gymdeithas hon nosi Iau, Rhagfyr 8fed, a phrofodd yn ddyddorol ac adeiladol, Yn absenoldeb y llywydd penodedig, llywyddwyd gan weinidog yr eglwys, pryd y darllenwyd papyrau IJafiuÚwr, a meddylgar i'w ryfeddu, gan y rhai cantynol:-Mr. Omri Roberts, Bodlondeb, ar "Elfed Mr Ellis H. Evans, Ysgwrn, ar Ben Bowen Mrs Owen, Glis- goed, ar Ann Griffiths; a Mr Edwin Lloyd, Rhiwlas, ar Eifion Wyn." Gwnasth y pedwar eu gwaith yn odidog, a chafodd neges bywyd a barddoniaeth yr arweinyddion hyn ei ddangcs allan yn onest iawn. Rhoddwyd datganiad gan Mr Ellis Jones, Bodlondeb, a'i barti, yn ntchreu ac ar ganol y cyfarfod, a mawr werthfawrogid eu gwasanaeth. Cyfarfod Cystadleuol brwd geir nos Iau, Rhagfyr 22ain. Dener yno's llu, MARWOLAETH,—BA angau yn bylcha eio yr wythncs hon yn ein hardal. Yn blygeiniol iawn boreu ddydd Mawrth diweddaf bu farw Mr Isaac Roberts, Ty'nybryn. Bu yn nychu am lawer o flynyddoedd. Yr oedd yn ffarmwr profiadol. Gadawodd weddw a phedwar o blant i alaru ar ei aIr gyda pa rai y mae ein cydymdeimlad dyfnaf. DEWIS ORGAN YDD.—Bu eglwys Moriali, M. C yn dewis Organydd i'r Egiwys nosSabboth diweddaf, a syrthicdd y goelbren ar Miss Jennie Hughes, Brongwyndy. Bu Miss Hughes wrtbi yn anhlysurol o'r blaen. Merch ydyw i'r Cyngborydd Robert Hughes, Brongwyndy, Y mae Egiwys Moriah yn edrych yn mlaen hefyd am eu Gwyl Bregethu flynyddol y Nadolig eleni eto, Llawen genvru ddeall mai un o biant yr ardal hon sydd yn cynal gwyl bregethu y Wesleyaid yn Ffestiniog eleni, sef y Parch Richard Jones, BA., Bagiiit, Mab ydyw Mr Jones i'r ban frawd Mr Griffith Jones, Frongaled. EIN MASNACHDAI.—Y mae yn amlwg oddi- wrth ein masnachdai fod y Nadolig yn ymyl, gan yr olwg atdyniadol a welir ar y ffenestri. EISTEDDFOD Y NADOLIG,-Clywsom fod dau gor yn bwriadu myn'd oddiyma i'r Eisteddfod i'r Blsenau i geisio am y wobr. Pob llwyddiant iddynt, ""AA..A.AÂ,A
-Cyfarfod Ysgol Utlca,- I…
Cyfarfod Ysgol Utlca, I -) Maentwrog. Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol yn Utica y Sabboth diweddaf. Yn nghyfarfod y boreu dan lywyddiaeth Mr Robert Jones, Coedyglyn, pasiwyd p'eidlais o gydymdeimlad a Mrs Rowlands, priod y rJiweddaf Mr D. J. Rowlands, Ysgrifenydd gweithgar y Cyfarfod Ysgol, a si&racwyd gan amryw o'r cynrychiol- wyr ar y penderfyniad. Dechreuwyd y cyfar- fod trwy i ddosbarth adrodd rhan o'r Ysgryth- yr ac arv/einiwyd mewn gweddi gan gynrych- ydd Bethel. Cafwyd anarchiad ragorol iawn gan frawd ieuanc o Penystryt, Mr Richard Jones, ar "lawn ddefnyddio Bore Oes 11 Mater y Gyfeillach ar ol cyfarfod y boreu oedd Adolygiad ar Daflen y Safonau," yn cae! ei agor gan Mr R. Percy Hughes, a chymerwyd rhan yn yr ymdrafodaeth gan yr oil o'r Cyn- rychio!wyr. Llywyddwyd yn y gyfeillach gan Mr Hugh Davies, Hendremur, a therfynwyd y cyfarfod gan gynrychiolydd Bethania. Llyw- ydd cyfarfod y prydnawn ydoedd Mr George Pritchiard. Adroddwyd rhan o'r Ysgrythyr gan ddosbarth Miss Mary Jane Roberts, ac ar- weiniwyd mewn gweddi gan gynrychiolydd Ebenezer. Holwyd y Dosbarth Canol a'r bynaf yn Iago 2, gan Mr George Pritchard, a'r plant gan Mr Robert Jones. Cafwyd unawd yn ystod y cyfarfod gan Miss Maggie Roberts Daeth nifer dda o'r cynrychiolwyr ynghyd, a theimlwyd fod y ddau gyfarfod yn dra bywiog a dyddorol.
-,---THARLEOH. -.VI
T HARLEOH. V CYMDEITHAS POBL IEXJAINGC TABERNACL (B )—Nos Fercher, Rhagfyr 14eg, cafodd y Gymdeithas noson ddifyr ac adeiladol iawn, pryd y rhoddod4 y Parch. D. Davies, ein gweinidog, anerchiad rhagorol ar "Adroddiad y Lleiafuf." Yn ei anerchiad profodd Mr Davies fod y gwrthddadleuon sydd yn erbyn yr Adroddiad yn hollol ddisail, ac befyd rhoddodd oleuni mawr arno gan ddaogos ei egwyddorion sylfaenol yn syml ac yn ddeaUadwy i bawb. Siaradwyd yn mhellach yn wresog iawn gan amryw o'r aelodau, a hawdd oedd dgall fod eu cydymdeimlad dyfnaf a'r tlawd a'r gorthrymus, a'n dytaumad all oedd am eu codi i safle uwch a chadarnach i fwynhau eu bywyd yn y byd. Diolchwyd i Mr Davies am gymeryd y drafferth o wneyd anerchiad mor ragorol i'r Gymdeithas. Cafwyd cynulliad da er bod y tywydd yn anffafriol.
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. CARDIAU NADOLIG.-Cyn rhoddi eich archeb am Private Greeting Cards gelwch yn sioa Mrs Roberts, Saron House, i weled y llyfr o gardiau detholedig sydd yno. Dyma'r detholiad harddaf a rhataf sydd i'w gael. N A DO L I G LLAWEN .r-Dymuna Evan Hughes, Butcher, hy&bysu holl drigolion Ffestiniog, ei fod wedi darparu First Prize Beef at y Nadolig. Sicrheir Nadolig llawen wrth ei brynu, Ac wrth ei fwyta ni bydd tynu." Dydd LIuD, hebryngwyd gweddillion yr eneth ieuanc Myfanwy Williams i fynwent y LI an, yn 14eg oed. Yr oedd Myfanwy yn un a hoffid gan bawb, a mawr ydyw tristwch y plant ar ei hoi. Yr oedd Band of Hope Engedi wedi dod i daJu y gymwynas olaf iddi, a chan- assnt Emynau yn swynol iawn o dan atweiniad Mr. Evan Owen, Manod House. Gwasan- aethwyd yn y ty ac wrth y beld gan y Parchn. J. E. Hughes, Engedi, a J. R. Jones, Peniel. Yr un dydd, rhoddwyd i orphwys yn rnhridd- eliau y fynwent, y brawd ieuanc Tommy M. Thomas, Dduallt, yn 22 oed. Cafodd gystudd maith a blin, ond dioddefodd y cwbl yn dawel, Gwssanaethwyd wrth y beddgan y Parchn. H. Ellis, Maentwrog, a J. R. Jones, Peniel, a chafwyd gair gan Mr. Edward Jones (Asaph Collen) yn deimladwy iawn, a rboddai anog- aeth daer am i'r ieuengctid ddilya ol bachgen mor ragorol. Dan nawdd y Gymdeithas Lenyddol nos Lun diweddaf, yn Nghapel Engedi, cafwyd Darlith thagorol gan Mr. O. R. Hughes, M A., Llanrwst, ar Emynyddiaeth Cymru." Daeth cynulliad lluosog ynghyd, Be yr oedd y Ifar- lithydd yn ei h-xyliau, diau i bawb gaei ei foddhau yn fawr. 0 dan lywyddiaetb y Parch, R. T. Phillips yn y Clwb Rhyddfrydol, nos Iau, cynhaliwyd cyfarfod dyddorol iawn. Cymerwyd rhan mewn adrodd a chanu gan y rhai canlynol Parch. Rhys Jones, Mri. James Richards, R. T. Williams, Edward Davies, D. J. Davies, H. Jones, J. Hughes, R. G. Lloyd, J. Ll. Prodger, a R. R. Jones. Yn Dolwyddelen y bu Mr. Wm. Stephen nos Sadwrn diweddaf, yn beirniadu y canu. Deallwn iddo roddi pob boddlocrwydd, ac y bydd yno eto yn bur fuan, Y.M I.-Nos Iau diweddaf, o dan lywydd- iaeth Mr. G. J. Edwards, cafwyd dadl ar Gosb eithaf y Gyfraith, sef pa un a'i mantais a'i anfantais fuasai dilyn y cyfryw." Agorwyd ar yr ochr gadarnhaol gan Mr. R. W. Davies, I Penybryn, ar ochr nacaol gan Mr. J. Morris, Ty'nymaes. Wedi i amryw o'r aelodau siarad ar y pwnc ymranwyd, a chafwyd mwyafrif dros yr ochr cadarnhacl. Cynhaliodd Cymdeithas Lenyddol Bethel (A ), ei chyfarfcd nos Fawrth, o dan lywydd- iaeth y Parch. R. Talfor Phillips, Llwyn, ac arweinyddiaeth Mr. Owen Hughes, Sun Street, pryd y cafwyd Dad!, Pa un ai y Cenhadwr, y Masnachwr, ynte y Gwleidyddwr, ydyw y gaUu cryfaf yn ngwareiddiad y Byd." Agorwyd gan Mri. Morris Owen, John Williams, a Wm. Owen. Sisradpdd amryw, a chafwyd mai y cenhadwr ydyw y ga'lu cryfaf er gwareiddio y Byd.—YSG.
CAROL NADOLIG.I
CAROL NADOLIG. Hed fy enaid i wlad Canaan, I gael gweled baban hardd, Dyma fwriad Duw yn gyflawn, Bywyd trwyddo Ef a dardd Gwrid y nefoedd ar ei ruddiau, Gwyndra sanctaidd uwch ei ben, Mor o gsriad ar ei aeliau, Gwenau Duw a ddaeth trwy'r lien, Rhodd i'r byd yw Iesu hawddgar, Canwn i ti heddyw glod, Dyma y goleuni Uachar A lewyrchodd is y rhod Anfoidroldeb digyfnewid Wyt mewn preseb oer a gwael, Aur goronog Geidwad enaid, Rhodd i'r byd o'r Orsedd hael. Clywch swn canu trwy y cread, Beth a ddaeth ond toriad gwawr, YmagorQdd dorau cariad I drugaredd ddod i'r llawr; Dyn ac angel sydd mewn undeb, Yn eu miwsig swynol, lion, Pan yn plygu i wel'd wyneb Baban pur a glan ei fron. Yn ei gryd fe hwylia'r bydoedd Trwy'r eangder wrth ei air, Rhag eu hyrddio i'r dyfnderoedd Neu eu berwi fel mewn pair Pen Cynlluniwr, Pen Rheolwr, Pen Cynhaliwr oesau'r byd, Cyfamodwr ac Eiriolwr, Talodd lawn yn llawn mewn pryd. Brynhyfryd, Brynhyfryd, EVAN WILLIAMS, Trawsfynydd.
MAE ARNOM EISIAU MAM.I
MAE ARNOM EISIAU MAM. Yn hwyr ar nos Nadolig, Wrth imi ddod o'r dref, Canfyddais ddau fachgenyn mwyn Yn wyle'n drist eu llef A gofyn waaethum iddynt, Pam wylwch blant dinam ? A dyma'r ateb gefais i, Mae arnom eisiau mam." Yr hynaf dd'wedodd wedyn, Yn drist a gwelw'i wedd, L, in tad sydd yn y dafarn, A'n mam sydd yn y bedd Ae er pan roed hi yno Ni gawsom lawer cam, A theimlo'r ydym fwy o hyd, Fod arnom eisiau mam. Ar'hyn fe ddaeth boneddwr Oedd swyddog yn y dref, Ac arwain wnaeth y bechgyn hoff I'w balas gydag ef; Es innau adref wedyn Yn araf iawn fy ngham, A chofio wnaethum ar y pryd Bu genyf finnau fam. Tanygrisiau. J. W. JONES,'
-A -CHRISTMAS WISH I
A CHRISTMAS WISH To George Davidson, Esq., Plas Wern Fawr, Flsrlecu. Who came to little Harlech, on kindly thoughts intent? Who proved a good Samaritan on generous' actions bent ? George Davidson, we know his name, his bounties have no end, A brother to his neighbours and to the poor a friend. Who thought of Harlech's working men when hard times fell their way ? Who gave them each employment ? but there I need not say We know it was George Davidson,—we know his kindly heart, In every charitable request he never lacks bis\ part. Who gladdens little children's hearts withXmas Trees and toys ? Who gives them sweets and leaparties, and turns their care to joys ? George Davidson, I say, ana may old Harlech, ring with cheers, In wishing him a bright Yule Tide and the happiest of New Years. Harlech. ALICE PARRY,
IGAIR 0 GYDYMDEIMLAD j
GAIR 0 GYDYMDEIMLAD A Mr. a Mrs. Richard Jones, Trem Prysor, Trawsfynydd, yn eu profiad tlym o golli eu hanwyl blentyn NAOMI, Tachwedd 20, 1910, yn 13 mis oed. Deheulaw cydymdeimlad Ddewiswn droi yn iaith Ich cymorth dan y pwyad Achosa'r gruddiau Ilaith. Fa 'madrodd all fynegu Ing calon mam a thad, Wrth gael eu goddiweddu GatÍ angeå'u plentyn Had?, s Gefynau tynion hiraeth Rydd heddyw chwerw loes; Os Duw gaiff ymddiriedaeth, Gras geir i gario'r groes. Profasoch gael yr aelwyd Cyn hyn dan dywell lem, Er hyny dim ni chafwyd Fel profiad 1910, NAOMI, peroriaeth eich aelwyd, ddinam, A syrthiodd, drwy ddamwain, yn aberth i fflam Ond erys ei henaid yn ddiogel-maei lief Mewn cydgord &'i thelyn 'mysg engyl y net; I harddu Caersalem, ei galw a wnaeth Jehofah trugarog, trwy gyfrwng eich aeth, O'r aelwyd i uno aelodau y cor Na phalla'u gogonedd am gaiad yr Icr. Er dwysed y gofid a'r hiraeth y sy'. Siriolwch, gyfeillion, cswch gwrdd a hi fry. Trawsfynydd. R. H. R.
IIER COF I
ER COF Am fy niweddar ffrynd Mr D. Hughes, Crydd, Tanygrisiau, yr hwn a fu farw Mawrth, 1910, Dyn gwylaidd, mwyn, di-rodres iawn, A thawel yn ei ddydd, Yn Eoffi parcbu pawb drwy'r fro, Oedd Dafydd Huws y Crydd." 'Roedd ynddo yntau lawer bai, Fel Ilawer eraill sydd,- Ond rhyw dynerwch guddiai'r oil Yn Dafydd Huws y Crydd." Mewn hen lenyddiaeth hyddysg oedd, Ac yn mhrif bynciau'r dydd," Ac nid oedd neb a'i sponiai'n well, Na Dafydd Huws y Crydd." I'r Gweith-dy elem gyda'r nos,- A phawb a'u sgwrs yn rhydd, Ac athraw anwyl yn ein plith, Oedd Dafydd Huws y Crydd." Mae Ilawer o'i cyfeillion hyn Yn awr yn ngwlad y dydd, Ac ar eu holau, wedi myn'd Mae" Dafydd Huws y Crydd." Ei arfaq gloewon sydd yn thwd, A'i faingc yn wag y sydd, > A chlwyfus yw fy nghalon drom, Heb Dafydd Huws y Crydd." Tanygrisiau. J. W. JONES, I
BLAEiMAU FFESTINIOG.-I
BLAEiMAU FFESTINIOG. PRESANTAU AT Y NADOLIG.-Mae digonedd o Steam Engines, Hot-air Engines, Workink Models, Cinematographs, Films, Clockworg Railways, Motor Cars, &c., yn nghyda phob math o Toys a Pbresantau eraill at y Nadolig i'w cael yn siop T. H. Owen, Cycle Depot, Church Street, Mynwch weled beth sydd yno mewn pryd. PENODIAD FWYSIG.—Yn y British Medical Journal arv Rhagfyr 17, o dan restr y penod- iadad i'r Llynges a'r Fyddin, y mae a ganlyn am ein cyd-drefwr galluog, Dr Carey Evans, mab Dr R, D. Evans, Llys Meddyg ;—" Lieut. T. J. Carey Evans, S,. Lucknow Division, is appointed Specialist in Advance Operative Surgery from October 26 Llongyfarchwn ef yn galonog, gan fod y penodisd hwn yn un i gylch uvichaf yr alwedigaeth lawfeddygol. LECSIWN I'W CHoFio.-Beth yw hyny? Wyddoch chwi am y masnachdy anferth Bon Marebe" yn Top Cromwell Street, gan J. N. Edwards, Ltd., wedi cael ei llenwi i fyny a phob math o Lestri o'r designs diweddaraf, a'u prisiau yn anghredadwy bron o ISel. Daliaut i'w cydmaru ag unrhyw fasnachdy ya Lloegr a Chvmru. Son am y Living Pictures wir! Dowch i wel'd y Show Room fawr a'i llond o ddadrefn ardderchog! Gwerth cacnoedd o bunnau yn Stock newydd. Mae gwahoddiad cynes i bawb i gael eu gwel'd yn rbad ac am ddim. Ni fu gweil arddangosfa yn Ffestinicg erioed. Cyn gwneyd eich pryniant weithwyr lion, Dowch i wel'd y Show room hon. TABERNACL —Nos Iau diweddaf, cynhaliwyd y Gymdeithas o dan lywyddiaeth y Parch R. R. Morris. Noson Wleidyddol oedd hon i foi, ac yr oedd disgwyl mawr am dani. Ar ol cacu emyn, galwyd ar yr ymgeisydd oedd i gyn- rychioli Rhyddfrydiaeth yn y Senedd, sef Mr W, H. Joseph; yna yr ymgeisydd Llafur, sef Mr R. J. Jones; ac yn olaf yr ymgeisydd Toriaidd, sef Mr John Idwal Jones, a chafwyd anerchiadau campus ganddynt. Ar ol iddynt hwy anerch, cafwyd gair gan eu cefnogwyr, sef Mri D. Jones, L. Jones a W. Lewis. Wedi hyny yr oedd yr ymgeiswyr yn cael cyfleusdra i atteb cwestiynau, y rhai a roddwyd gan yr etholwyr, a buont yn ffodus i atteb y cyfan. Rhaid dweyd mai yr ymgeisydd Llafur a Thoriaidd oedd fwyaf dan y morthwyl. Gwaith pwysicaf y cyfarfod oedd y dewis, a dewiswyd trwy y Tugel (ballot). Cafodd yr ymgeiswyr bleidleisiau fel y canlyc :—Ymgeisydd Rhydd- frydol, Mr W. H. Joseph, 22; ymgeisydd Toriaidd, Mr J. Idwal Jones, 19 ymgeisydd Llafur, Mr R. John Jones, 7. Yr oedd y dis- gwyliadau yn uchel am gyfarfod da, ac ni siomwyd neb. Ceir y noson nesaf gyda'r Emynwyr Cymreig, sef3 Williams Pantcelyn, Edmund Prya ac Ann Griffiths.-D. Nid oes gwell Cod Liver Oil i'w gael yn un- man na'r hwn a werthir am bris hynod o isel gan HUGH JONES, Chemist, Medical Hall. GWYL FLYNYDDOL Y GARR EGDDU.-Pryd- nawn dydd Iau, cynhaliodd cyfeillion Capel y Garregddu eu gwledd flynyddol, Te, Darlith, a Swper. Cafwyd bwyl dda gyda'r bwydydd, a phawb yn nodedig o siriol o'r dechreu i'r diwedd. Y mae y cyfeillion yn y capel hwn yn arferol a bod yn ilwyddianus iswn yn eu gwyl, ac nid oeddynt yn ol eleni i'r blyn- yddoedd goreu a gawsant. Am saith o'r gloch, yn y capel, traddododd y Parch Pulestone Jones, M.A., Pwllheli, ei ddarlith ddyddorol a galluog ar Adar y Nef a'u Nhythod." Fel y sylwodd y Cadeirydd, Mr D. White Phillips, ar y dechreu, yr oedd y testyn yn un anhawdd iawn i neb wybod pa gyfeiriad a gymerai j Darlitbydd, pa un ai "adar y ne/oedd" yn yr ystyr Feiblaidd a chyffredin i'r gair, ynte deitiaid nef y gogoniant. Y Darlithydd a ddywedodd nad y naiU ria'r IlaU, and yr eglwys fel pren neu gysgod i adar nytbu a noddi ynddi: yr eglwys fel cysgod i wahanol agweddau ar fywyd, Yr adar y sylwodd ef arnynt yn dod i nythu yn nghangau y pren bwn oeddynt,-Trefn, Rhyddid Cymdeithasol, Addysg, a Beirniadaeth. Yr oedd ei ymdriniad ar y materion uchod, yn nodedig o ddyddorol ac addysgiadol, yn cael ei fritho a sylwadau byw a chwarens. Brysied eto i'n plith gyda gwledd gyffelyb. J. N. Edwards, Limited. Sefydlwyd 1869. Berlin House a Bon Marche. Anrhegion Nadolig! Yr ydym newydd dderbyn adref gyflawnder o nwyddau gwasanaethgar fel Anrhegion, megis Cyllill Byrddau a Llwyau ardderchog, o bob math, mewn prisisu gostyngol na welwyd eu tebyg o'r blaen. Hefyd y pethau mwyaf angenrheidiol yr adeg hon o'r flwyddyn, megis Mincing Machines, Dripping Tins, Cake Tins, &c &c. Dewch yn gryno ac yn gynar, Mynwch wario wragedd hawddgar. Arbedwch arian yn y ddau fasnachdy enwcg uchod. BRYNBOWYDD.—Y Sabboth diweddaf, llan- wyd pwlpud Brynbowydd, gan y Parch Job Miles, Aberystwyth. Yn y gwasanaeth hwyrol datganodd Miss Louze James, R.A.M., lesu, cyfaill f'enaid cu gydag effaith nodedig. Yn ddiau, dyma un u ser dyfodul llwyfanau ein gwlad. Y mae iddi ein dymuniadau goreu. Y LLYTHYRDY,—Dymunir arnom wneyd yn hysbys y cauir y Letter Boxes haner awr yn gynarach nag arfer ncsweithiau Gwener a Sadwrn yr wythnos hen, ac i awgrymu y priodoldeb o bostio yn gynar er mwyn sicrhau deliveries prydlon. DIRWESTOL. Cynhaliwyd cyfarfod dir- westol nos Sadwrn diweddaf, o dan lywydd- iaeth Mr. John Hughes, Ar ol canu ton, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Brawd Edward Edwards. Ton Cyffredinol. Anerchiad gan y Parch. Enoch E. Jones, Bowydd. Ton Cyflredinol. Anerchiad gan y Parch. R. B. Davies, Fforddlas, a diweddwyd y cyfarfod ganddo. Treulir y cyfarfod nos Sadwrn nesaf i. ganu Carolau i ddechreu am- 6-30.—T. R. BRVNBOWYDD.—Nos Lun yn Vestri Bryn- bawydd, cynhaliwyd Cyfarfod i ganu Carolau, o dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylhadol. Dechreuwyd gan Mr W. J. Williams, The Square. Carolau, gan. Mr Moses Roberts, Miss Blodwen Jones (Llinos Dwyryd), Miss Sarah A. Morris. Cor Excelsior, Miss Mary C. Parfy, Church Street, Mri D. H. Jones, D. Jones, Thomas H. Jones, 48, Dorfil Street, a Mrs Griffiths, Tegfan. Caed anerchiad ar y Nadolig, gan Mr Robert Griffiths. Tegfan, yn absenoldeb anocheladwy Mr Evao Williams a fethodd ddod yno. Gofalwyd am yr offeryn, gan Miss M. J. O. Davies, a'r Mri Thomas R. Jones, David H. Jones, a William O. Edwards, Tanygrisiau. Diweddwyd gan Mr W, C. Williams, The Square. HAND-BELL RINGEIRS,-Nid y Lecsiwn na'r Veto ydyw "Topic of the day" yn Blaenau Ffestiniog y dyddiau hyn, ond ymweliad yr Hand-Bell Ringers o Yorkshire nos Iau oesaf, ■> Rhagfyr 29ain, ac yn sicr ddigon mae gwledd mewn ystor i'r ardal. Byddai yn wertb myned i'r Neuadd Gynull, pe dim ond i glywed y Delection "Oleuni Mwyn" (Lead Kindly Light). Os am sicrhau lie, mynwch gael tocyn cyn noson y Cyngherdd. LLYFRAU RHAGOROL AR WERTH.—Yn yr Auction a gynhelir ddydd Iau nesaf ar ddodrefn Mr D. E. Hughes, Llys Gwaenydd, Blaenau Ffestiniog, bydd y Llyfrau canlynol yn cael eu gosod ar weith Bywyd John Wesley gan y Parch John Evans, Eglwysbaph, Gemau doethineb gan loan Eifion, 4 cyfrol hardd o Esboniad Barnes ar y Testament Newydd (yn Gymraeg), Cofiiant y Parch D. Howells, Ffestiniog, eto, y Parch D. Roberts, Rhiw, eto v Parch V. Rowlands, Llangeitho, gyda'i bre- gethau, Y Gofadail Fetbodistiaidd sef 47 o bregethau gan weinidogion Methodistaidd, Pwlpud Anibynol Meirion," "Pleser a phoen" gan Trebor Aled, Y Drysotfa-degau o rifynau, Gospel Problems (Palmer), "The Theologic- al Review" 12 Vols, in splendid binding, "Burns and Scott" (Poetry), "Good Words" (2 Vols), "Life of Crist" (Jeremy Taylor) 3 Vols, Platform Echoes (j. B. Gough), "Gold and the Gospel" (Prize Essay), Maurice's Sermons," "The Bible and its Theology" (Vance Smith), "The Sermon on the Mount" (Bishop Gore), "Young Wales Pulpid, Olive Twist (Dickens), "Mrs Gale's Business" (Pett Ridge). Gwerthir hefyd iu mawr o lyfrau eraill gyda Desk a Bookshelves yn nghlyn a hi. DEWIS DIACONIAID.—Nos Sul diweddaf, dewisiwyd pump o ddiaconiaid gydag unfryd- edd eithriadol gan Eglwys Calfaria. Y gwyr da eu gair a etholwydoedd, F. P. Dodd, Ysw., M.Al, a'r Mri J. Jones, Tre Angharad; Robert Ellisj, TowynRoad; Evan B. Morris, Salem House; a John H. Jones, Minffordd. Gorphwysa y dewisiad yn dawel iawn ar feddwl a theimlad yr holl aelodau.-AELOD. GWLADWEINYDD MWYAF EI OES.—Bydd y Parch George Davies, B.A., Brynbowydd, yn traddodi ei anerchiad ohiriedig ar y testyn uchod yn Ystafell y Clwb Rhyddfrydol, nos Iau, Rhagfyr 29ain. Rhoddir gwahoddiad cynes i bawb o'r aelodau, a bydd iddynt ryddid i ddwyn eu cyfeillion gyda hwynt. MARWOLAF,TH.-Prydn awn Sadwrn diwedd- af, ar ol hir gystudd, bu farw Mr. Evan Davies, 99, Wynne's Road, Blaenau Ffestin- iog, yn 74 mlwydd oed. Claddwyd ei weddill- ion yn fnynwent Bethesda, prydnawn dydd Mercher, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. Enoch E. Jones, Bowydd. Gedy weddw, ynghyda phump o feibion a thair o lerched i alaru ar ei ol. Y GOLWG.—Mae yn fantals i bawb sydd arnynt angen Gwydrau cywir i'r golwg, ddeall mae yr unlg Optician yn Sir Feir- ionydd sydd wedi pasio Arholiadau mewn PROFI Y GOLWG ydyw Mr. Hugh Jones, F.S.M.C.. Medical Hall, Blaenau Festiniog.
rv PRENTEG, "^V%^i
rv PRENTEG, "^V%^ Ya ysgoldy y lie uchod, cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol nos Sadwrn diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. W. Parry. Cafwyd cyfarfod difyr a hwyliog a chynulliad da. Y beirniad c'anu cedd Mr, R. Rowlands, Penmoria, a'r adrodd Mr. Jones. Tanygraig. Decbreuwyd trwy ganu ton agoriadol. Yna cafwyd anerch- iad far a phwrpasol gan y llywydd. Enillwyr v gwobrwyon oeddynt a ganlyn Adrodd, "Spectcl Taid," i rai dan 8 oed. 1 M, M. Parry; 2 W. Morris Evans. Canu""WiDches- ter Old i Safon I. Maggie Griffiths. Adrodd vr Emyn, Fe elai plant at Iesu Grist i Safon II.. Evh Williams. Canu "Maidstone" i Safon II Eben Griffiths, Evie Williams, a SaHy M. Griffiths. Adrodd, Dici ein ci ni" i Safon III. a IV Ivor H. Roberts. Canu "Yspryd sarctaidd gwrando," i Safon III a IV., Jennie B. Jones Arholiadau Safon IV. 1. Jack Griffiths, 2 Lilian Jones. Safon VI. 1 R. Griffiths, 2 M. Roberts. 3 G. H. Griffiths. Safon VII. 1 R. Griffiths, 2 E. Griffiths a K. Evans. Dosbarth dan 2lain oed, R. H. Farry. Crynhodeb o hanes Isaac, 1 I-L T. Rogers a T. Williams. Ateb cwestiynau o'r Hyfforddwr, penodau 1. i III. i Safon VI, Maggie Roberts. Canu, Plygiad y Bedol," Ellina Griffiths. Adrodd, Saf i fyny dros dy Wiad," K. Evans. Canu ton ar yr olwg gyntaf. Mr. R. Jones, London Terrace. Y dorth frith oreu, 1 Mrs. Griffiths, Ty Capel; 2 Mrs. Morris, Bryn Eglwys. Unrhyw Solo, Mr. Griffith Jones, London Terrace. Adrodd "Newfoundland Carlo," i bob oed, Miss J' Roberts, London Terrace. Talwyd diolch- iadau i'r beirniaid, a chydnabyddwyd hyny gan y ddau -J. D.
I:- W- - - J 7YYYYYYYT;LŠAÑÃU1
I:- W- J 7YYYYYYYT;LŠAÑÃU1 LLAFUR, GORPHWYSDRA, ADLONIANT.— Nos Sadwrn, yn Nghapel Bron Tecwyn (W.), traddodwyd Darlith ar y testyn ucbod gan Mr. W. 0. Jones Aber. Yr oedd y cynuUiad yn lluosog, a'r darlitbydd yn ei hwyliau goreu. Cadeiriwyd gaoCapten 0. Roberts, Tygwyn. Caed elw sylweddol yr hwn oedd yn myn'd at yr achos yn y lie. EIN CYMDEITHASAU —Yn Soar nos Iau, caed papurau y naill gan Miss E. Jones, Lloyd Street, a'r llall gan Miss Jennie Roberts, Soar, ar "Brydlondeb a ffyddlondeb i foddion Gras." Wedi sylwadau pellach gan yr aelodau diolch- wyd i'r chwiorydd am eu pspurau gwerthfawr ac amserol,—Yn Bethel (M.C.), nos Sabboth, darllenwyd papur ar Pam yr wyf yn Fethod- ist," gan Mr. William Jones, Gwilym House, Llywydd y Gymdeithas. Diolchwyd i'r cyfan- soddwr am ei bapur. Pasiwyd i anfon cyd- ymdeimlad a dwy o'r aelodau sydd yn wael er s tro, sef Miss L. J. Ellis, Tygwyn, a Miss Nesta Thomas, Glanllyn. LLANW UCHEL.-Nos lau a nos Wener yr wythnos o'r blaen, yr oedd gwynt cryf o'r de yn chwythu gyda'r canlyniad fod y ffordd o flaen Glanywern yn anrhamwyadwy, gan fod oddeutu dwy droedfedd o ddwfr yn y ffordd. Yr oedd yn dop llanw a'r gwynt o'i du, a dyna'r rheswm fod y fath ddwfr y nesweithian hyn. SAETHU.—Nid Plismyn ond Pheasants, Daeth Arglwydd Harlech a'i Parti gydag ef i'r Glyn yr wythnos hon i saethu Ceed lair. Tebyg y bydd ein Barglwyddiaeth mewn hwyl dda wedi i Mp. Ormsby Gore enill yn Mwrdd- deisdrefi Dinbych. Mae yn debyg y buasai hwn wedi myned trosodd er's amser onibai am yr etholiad. j