Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
SHOP YR ERYR (wrth yr Hall) BLAENAU FESTINIOG. At Bawb y Perthyn iddynt. DYMUNIR drwy hyn wneyd cais taer a therfynol (gob- eithiaf) ar fod y cyfrifon dyledus yn y Masnachdy uchod gael eu gwastadhau YN YSTOD Y MIS HWN (sef Rhagfyr 1910). Ac os na bydd yn gyfleus i setlo yn I LLAWN, byddis yn ddiolchgar am gyfran "on ac- count." Yr eiddoch, THOMAS ROBERTS. Rhagfyr i, igio. BRITISH MADE. UNDER GOVERNMENT INSPECTION IS OUR BEST 1 jm OVERWEIGHT (Daypole (DaqaPine ili&YP garih REDUCED TO nor .I I WITP THE i.lb. EXTI|A GIVEN FIIEE WITH EACH I-lbo, j-lb. EXTII)T GIVE" fllEE WITH EACH *-lb. 2 oz$. EXTIIA GIVEN FREE WITIt EAOH t-Ib. ALSO OUII %En o m An ?,dim& ?  IAYC. MARGARINE (Made rrom Choicest Nuts and Milk), NOW PRICED g D. AT with OVERWEIGHT as above (or 2 lbs. nett tor ONE SHILLING.) MMPOLE PAIRV COMPANy. LTD. 12, Church Street, Blaenau Ffestiniog. The Largest Retailers of choicest quality Butter, Tea, and Margarine in the Kingdom. Over 660 Branches now open. Assembly Rooms, BLAENAU FFESTINIOG, CYNHELIR WalGtiQlgDl Flynuddoi y ROYAL OAKELEY SILVER BitND, Nos Sadwrn, Rhagfyr 31, 1910. Bydd Cystadleuaetlfau fel y canlyn s— 1.-Corau Meibion, heb fod dan 20 na thros. 30 mewn nifer, a gano yn oreu, "Milwyr Rhufeinig." (Ni chaniateir i neb ganu ond gydag un Cor.) Gwobr 93 3s. 2.—Challenge Solo, i unrhyw lais, "The Sailor's Grave" (Sullivan). Gwobr 91 is. 3.-Unawd Tenor neu Baritone i rai heb enill 15s yn flaenorol. Gwobr 10s 6e. 4.-Unawd Soprano neu Alto, i rai heb enill 15s yn flaenorol. Gwobr 10s 6c. Beirniad F. P. DODD, Ysw., M.A. 6. -Adroddiad, Gweddi a Gwawr," allan o'r Garnedd Aur gan Carneddog. Gwobr 10s 6c. Beirniad:-BRYFDIR. Enwau yr Ymgeiswyr i fod ynjllaw Ysgrifenydd y Seindorf, LEWIS DAYIljSS, Shop "Y Gloch, Blaenau Ffestinlog, erbyn Rhagfyr 24, 1910. "■ I" f „ "r- nr- l.j J Vn hollol y petk sydd arnoch I. ei angen I Gallai y dywedwch Nid oes arnaf angen am Tonic." Y mae pob cyfan- soddiad dynol yn teimlo effeithiau dirwasgol ein dull annaturiol o fyw. Oes o fyn'd, o frys a ffwdan, yw yr oes hon, a rhaid fod ei dylanwad niweidiol ar y corff yn anocheladwy. Yr ydym yn dra agored i oerfel, ac i ddiffyg ar y cylla a'r afu, mae'r nawsion amhur yn cymysgu a'r gwaed, mae'r netfau yn gwanychu, yr ydym yn agored i lu o anhwylderau cyffredin, ac yn cael ein bygwth gan afiechydon gwaith. Yr ydym yn iach a chryf un dydd, a'r diwrnod wedyn allan o hwyl, ac efallai yn beryglus wael. I Mae eisiau Rhywbeth, a'i eisiau ar bawb. I GWILYM EVANS' QUININE BITTERS yw y feddyginiaeth gryfhaol, ac adfywiol, sydd yn gwrthweithio a6echyd, ac yn cadw organau y codI mewn llawn yni, a'r holl system mewn cyBwr perffaith. Wedi eu gwneyd o Difer o'r cynyrchion mwyaf iachusol a bywydol gwybyddus i feddygon. Mae !!wydd anghydmarol QUININE BITTERS GWILYM EVANS yn hawdd i'w brofi pan eu cymerir ar ol ymosodiad o'r Anwydwst, neu pan yn wan a digalon, heb archwaeth, yn isel ysbryd, digwsg, lluddedig, a blin ar ei einioes. Ond i cbwi roi prawf ar un botel, cewch ryddhad buan oddiwrth eich iselder a'cb gwencfid, ac adenillwch eich archwaeth. Nid oes dim araH yn debyg iddo. Cedwch ef yn eich cartref, a pham nad ei gymeryd fel gochelydd. Gwneir ef yn hollol o Lysiau, ac efe yw'r medd- yglyn goreu yn y byd i godi'r gwan i fyny. Gwna fywyd yn werth i fyw. Rhoddwctf brawf ar botelaid. GWERTHIR YN MHOBMAN, mewn poteli 2s. 9c. a 4s. 6c. yr un. GOCHELWCH DWYLL WYR. Gofelwch bod enw "Gwilym Evans," ar y label, ystamp. a'r botel, Unig Berchenogion:- QUININE BITTERS MANUFACTURING CO., Llanelli, S.W. it! .IE.  B.ft M!?m Evans Quinine Bitter Gwilym Evans Quinine Bitters: MILLENIUM, ST. PATRICK, CAMBRIAN PRINCE, and 3 Vs. You don't get the BEST FLOURS if you don't get THESE. Digestive Wheaten Meal in 4lb and Sib bags. The portmadoc Flour faills, Co.
NODIADAU -WYTUNOSOL 1
NODIADAU WYTUNOSOL 1 DAETH Y DIWEDO. I Daeth diwedd yr Etholiad Cyffredincl nos Lun diweddaf a dydd Mawrth gwybuwyd beth yw dedfryd y wlad yn yr achos pwysig yn yr hwn y galwyd arni i farnu rhwng y Llywodraeth neu Dy'r Cyffredin ar y nailllawa Thy yr Arglwyddi ar y Haw arall. 4 Yr hyn y mae wedi ei wneyd ydyw cadarnhau y dyfarniad a roddodd yn mis Ionawr diweddaf. Ni feddylia neb rhesymol am wadu hyn. Dyna'r ftaith sicr, ac y mae fleithiau yn bethau ystyfnig Gall ffol eu hanwybyddu, a dyn rhagfarnllyd gaueullygaid rhag iddo eu gweled fel y maent, ond nis gall neb wneyd ym- aith a hwynt. Yn mis Ionawr etholodd y bobl 397 o wyr a ddalient fod yn rhaid i honiadau Ty'r Arglwyddi roddi ffordd i hawliau'r bobl, a 273 o wyr a ddygent fwy o sel dros yrarglwyddi a'u honiadau na thros y bobl a'u hawliau. Felly yr oedd gan bleidwyr hawliau'r bobl fwyafrif o 124 yn Nhy'r Cyffredin. Yn yr etholiad sydd newydd derfynu etholwyd 398 o bleidwyr hawlia'r bobl a 272 o amddiffynwyr honiadau dos- barth bychan. Felly mae'r mwyafrif Trtedi cynyddu ychydig bach, Lle'r oedd yn 124 y mae yn 126. Nid yw'r gwahaniaeth yn werth son am dano. Saif y wlad ar ddiwedd y flwyddyn He y safai ar ei ddechreu. Yn y senedd ddi- weddaf yr oedd 397 yn cael eu gwneyd i fyny o 275 o aelodau'r Blaid Ryddfryd- ol, a 40 o aelodau Llafur a 82 o aelodau'r Blaid Wyddelig. Felly mae Rhydd- frydwyr 3 yn llai, a Phlaid Llafur 2 yn fwy a'r Blaid Wyddelig 2 yn fwy nag i7 inw—BBaa oedd, a'r Toriaid 1 yn llai. Pa gysur y mae'n ddichonadwy i'r arglwyddi a'u cyfeillion ei dynu o hyn nid ydyny yn gwybod.
NiFER Y PLEIDLEISiAU. '_I
NiFER Y PLEIDLEISiAU. Mae'n naturiol i ni gydmaru'r pleid leisiau a roddwyd yn mis Ionawr a'r pleidleisiau a roddwyd yn mis Rhagfyr, Yn mis Ionawr yr oeddynt fel hyn Lloegr, 2,304,946 o Ryddfrydwyr 428, 376 Llafur; 2948 Gwyddelig; yn gwneyd cyfanswm o 2,736,265. Rhifa'r pleid- leisiau Toriaidd 2,667,066. Felly yr oedd eu lleiafrif yn Lloegr yn 69,199. Yn Nghymru—Rhyddfrydwyr, 174,100 Plaid Llafur, 48'652—yn gwneyd cyfan- swm o 222,752, a'r Toriaid 97,116. Felly yr oedd eu lleiafrif yn 125,636. Yn Scotland-Rhyddfrydwyr, 362,010; Plaid Llafur, 41,082-yn gwneyd cyfan- swm o 403,092; a'r Toriaid 273,481. Felly yr oedd eu lleiafrif yn 129,611. Yr Iwerddon Rhyddfrydwyr, 20,522; Llafur, 3,951 Cenelwyr, 123,715-yn gwneyd cyfanswm o 148,188; a'r Tori- aidd 72,432. Felly yr oedd eu lleiafrif yn 65,756. Yn mhob rhan o'r deyrnas yr oedd gan bleidwyr hawliau'r bobl fwyafrif sylweddol. Yn awr mai cyfan- swm y pleidleisiauidrwy yr holl deyrnas fel hyn :-Rhyddfrydwyr, 2,294,507 Plaid Llafur, 384,288; Gwyddelig, 129, 618; a'r Toriaid 2,425,817. Dyry hyn fwyafrif o 372,618 i Blaid Cynydd. Fel mater o degwch, rhaid crybwyll y ffaith fod 163 o aelodau wedi eu hethol yn ddiwrthwynebiad a bod y rhan fwyaf o lawer o'r rhal hyny yn Doriaidd. Ond wedi cydnabod hyn, gan y Rhyddfryd- wyr nid gan y Toriaid y mae achos i fod yn lláwen.
IY WEINYDDIAETH.
Y WEINYDDIAETH. Rhaid cofio nad ydyw y Weinyddiaeth wedi ymddiswyddo, eithr fod pob aelod o honi yn dal y swydd a ddaliai cyn I ( dadgorphoriad y senedd. Ad-etholwyd hwynt oIlond dau, sef Mr Malei (Is- ysgrifenydd Rhyfel), a Mr Parlington (un o'r Chwipiau Cynorthwyol). Bydd yn rhaid iddynt hwy ymddiswyddo yn awr. Gellir bwrw y cymerir lie Mr Malet gan Mr Acland, yr hwn a'i daliai hyd yr etholiad yn Ionawr. Y pryd hyny collodd ei sedd, a bu yn rhaid iddo roddi ei swydd i fyny. Y pryd hyny cymerodd hi gan Mr Malet. Mae'n weddol sicr y bydd iddi yn awr ddychwelyd i Mr Acland. Amser a ddenys pwy fydd olynydd Mr Parl- ington. Bu ef oherwydd gwaeledd trwm yn analluog i gymeryd dim rhan yn yr etholiad, ac i hyny y priodolir ei orchfygiad. Nid oes reswm dros gredu y gwneir unrhyw gyfnewidiad arall yn y Weinyddiaeth.
IGYNRYCHIOLAETH CYMRU.
I GYNRYCHIOLAETH CYMRU. Gwaetha'r modd enillodd y Toriaid ddwy sedd yn Nghymru—Caerdydd a, Bwrdeisdrefi Maldwyn, a chollasant un sef Maesyfed. Gan fod Bwrdeisdrefi Dinbych yn eu meddiant eisoes a'u bod wedi llwyddo i'w cadw, gallant ymffrost- io fod eu haelodau Cymreig (?) yn rhifo tri. Nid ydym yn gwarafun iddynt y llawenydd a gant. Gosododd campiau Syr J. D. Rees Ryddfrydwyr Bwrdeis- drefi Maldwyn dan anfantais ddiifawr, ond yr ydym yn hyderus y gall Mr Humphreys-Owen droi Mr Prys Jones o'i sedd ond iddo ddal i ymgydnabyddu a'r etholwyr o hyn i'r etholiad nesaf pa bryd bynag y cymer hwnw Ie.
I Y CAM NESAF.
I Y CAM NESAF. Mae'n hollol ddiameu genym mai un o'r pethau cyntaf a wna Mr Asquith, wedi i'r cldadl ar Araeth y Brenin gymeryd lie, fydd dwyn i Dy'r Cyffredin fesur y Feto. Buddioi fydd trefnu amser rhesymol i'w drafod, gan ei fod yn fesur mor bwysig ni ddylid ceisio ei wthio trwodd yn frysiog ac ni ddeuai ddim lies o hyny. Mae ei fynediad trwy Dy'r Cyffredin yn hollol sicr, a'r cwestiwn ydyw beth a fldigwydd iddo yn Nhy'r Arglwyddi. Er ffoled ydyw llawer o aelodau sefydliad hwnw nid ydym yn tybied y bydd iddynt ei daflu allan. Yr hyn sy'n debygol ydyw y treuliant amser hir i'w drafod ac y ,cynygiant ynddo welliantau, ond mai'r diwedd fydd iddynt roddi ffordd ar bob mater o bwys. Ni fynent er dim i lu mawr o Ryddfrydwyr gael seddau yn Nhy'r Arglwyddi am dymor a chael teitlau a fyddent yn edrych tra byddant byw, ac yn rhan o'r etifeddiaeth a adewant i'w plant. Gwna hyny teitlau yn gomon" a thynai yn ddirfawr oddiwrth eu gwerth cymdeithasol. Rhaid cofio wedi'r cyfan fod teitl nad yw yn eiddo ond ychydig ganoedd o wyr yn y wlad yn bwysicach ac yn werthfawrocach yn ngolwg y rhan fwyaf o arglwyddi nag ydyw sedd yn eu ty. Rhyfeddwn yn fawr oni fydd grym cyfraith yn mesur y Feto erbyn haner blwyddyn i heddyw. «
GWEITHWYR EGNIOL
GWEITHWYR EGNIOL 0 holl aelodau'r Weinyddiaeth, y Prif Weinidog a Cbanghellor y Trysorlys a'r Ysgrifenydd Cartrefol a weithiodd galet- af ac effeithiolaf hefyd o ddechreu'r etholiad hyd ei diwedd. Rhaid fod- elL nerth naturiol wedi ei clrpthu hyd yr eithaf, a'u bod yn flin feddwl a chorph. Mae'r tri eisoes wedi ymneillduo dros amser i adnewyddu eu nerth. Brysiodd y Oangbellor i Ddeheubarth Ffrainc, lie yr erys am fychydig wythnosau, ac wedi'r Nadolig (yr hwn a dreulia gartref yn yr Alban), derbynir ef gan y Prif Weinidog. Yn Mhalas Blenheim, pres- wylfa wych ei gefnder. Due Marlborough, y cais Mr Winston Churchill orphwys- dra. Nis gwyddom a baid y Due hwnw a'i flino trwy "rinoian" ynghylch y Canghellor a'i ddiffygion a'i ffaeleddau ami. Gan fod Mr Winstcn Churchill at Mr Lloyd George yn gyfeillion mynwes- ol, nis gallai oddef i'r Due ddywedyd geiriau angharedig am dano. 0 ceidw ei ras ei deimladau iddo ei hun, da; ond os myn eu mynegu nid erys Win- ston "ynhir dan ei gronglwyd.
YSPIWYR.
YSPIWYR. Heddyw (dydd Mercher) yn Leipzig, decbreuir prawf dau swyddog yn myddin Prydain, y rhai a ddaliwyd (bedwar mis yn ol) yn tynu darluniau o rhyw s amddiffynfeydd yn yr Almaen. Y Cadben French ydyw'r naill, a'r Is- I, Gadben Brandon ydyw'r llall. Cyhuddir hwy oldeyrn fradwriaeth, ac os profir