Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

DYDDIAU GWOBRWYO YR YSGOLION…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYDDIAU GWOBRWYO YR YSGOLION SIROL: Ffestiniog a Llanrwst. YSGOL FFESTINIOG. I Nos Wener, yn y Neuadd Gynull, cynhal- -iwyd cyfariod gwobrwyo yr Ysgol hon. Yn absenoldeb y Parch. J. Rhydwen Parry, Cadeirydd y Rheolwyr, bu Mr R, Walker Davies, B.A Cae'rblaidd, mor garedig a chymeryd y gadair ar fyr rybudd. Y mae Mr Davies yn fawr ei sel gyda'r Ysgol o'r dechreu, ac wedi bod ar Fwrdd y Rheolwyr ar hyd y blynyddoedd. Cefnogid ef ar y llwyfan gan y Prif-athraw. F. P. Dodd, M.A., a'r Staff. Mrs Tom E. Ellis, Aberystwyth, a Mrs Dr Jones, Isallt. Yr oedd golwg brydferth nodedig ar enethod yr Ysgol wedi gwisgo mewn gwyn, a'u canu yn-swynol dros ben o dan arweiniad y Prif-athraw. Mwynhaodd y. gynulleidfa eu datganiadau o'r Alawon Cymreig canlynol rhwDg y gweithrediadau eraill,-Blodau'r Grug, Moel y Wyddfa, Breuddwyd y Bardd, Solo-gan (Miss Hannah C. Davies, High St yn arwain gyda'r alaw yn y ddwy ddiweddaf), a Caniad Pibau Morfvdd. Y Prif-athraw, Mr Frank P. Dodd, M A., a roddodd ei adroddiad blynyddol am waith yr Ysgol, yr hwn gyda'i wyleidd-dra arbenig a'i ddiffyg ymffrost sydd yn fawr iawn ei barch gyda'r athrawon cynorthwyol, y dvsgyblion, a'r holl wlad o amgylch. Dywedodd Mr Dodd iddo dybio with baratoi ei 16eg adroddiad i'r Rheolwyr na fuasai yn anyddoro! ganddynt wybcd rhywbeth o hanes y rhai aethant trwv'r Ysgol hon er ei sylfaeniad yn Ionawr 1895, Yr oedd wedi ceisio dilyn cwrs yr hen ddys gyblion, a Hwyddodd yn achos tua chwe' chant o honynt, ac yr oedd fel y canlyn:-Athrawon mewn Ysgolion Dyddiol, 130; Athrawon mewn Ysgolion Canolraddol, 20; Y Weinidogaeth, 30 (yn evnwvs tri yn Eglwys Loegr); Chwarel- yddiaeth, 32 (un o honynt yn Oruchwyliwr Chwarel. sc unarall yn aelod o'r Ddirprwyaeth Freiniol ar Fwngloddiau a Llech Chwareli); Arianwyr, 21 Yswirio, 6; Peirianyddiaeth a Thir Fesuriaeth, 14; Gwasanaeth y Goron, 12; Y Llythyrdy, 12; Amaethyddiaeth, 15; Ffer- yllwyr, 10; Masnach eraill, 65; Meddygiaeth, 7 Cyfraith, 4; Clercod, 20; Reilffyrdd, 10; Dressmaking a Millinery. 12 Saerniaeth, 7; Gwasanaeth teuluaidd, 7 Gweinyddesau, 5 Peirianyddiaeth, 6; Llongwyr, 5; Arch- adeiiadwyr, 2 Deintyddiaeth, 2 Newyddiad- wriaeth, 2 Broker, 1 Gwawl-luniaeth, 2; 14 yc bresenol yn parhau cwrs eu haddysg mewn ysgolion eraill; 18 yn y colegau; 9 wedi ymfudo; 14 wedi meirw; 94. mercbed gan mwyaf, wedi dychwelyd gartref, o'r thai y mae 23 wedi priodi. Yn ystod y deng mlynedd diweddaf cymerodd 36 eu graddau. 19 gydag Anrhydedd. Cynwysai y graddoau hyn 8 A (Caergrawnt), B.Sc. (Rhydychaio), B A., M.A., B Sc., M.Sc., B.D, (Cymru), a M n. (Brussels). Yr oedd 169 (80 o fechgyn, a 89 o enethod) yn awr yn yr ysgol, a dangossi y nifer duedd cynyddu er gwaethaf yr amgylch- iadau gwasgedig yn yr ardal, a'r cvrnewidiadau 1 lluosog fu ynddi y ddwy flynedd ddiweddaf. Ymwelwyd a'r ysgol ddwywaith ac yn Gorph- enaf arholwyd y dysgyblion gan y Bwrdd Canolog Cymreig gyda'r canlyniad isod:- Honours, 1: Tystysgrif uwchaf, 1; Tystysgrif Hynaf, 8; etc, leueogaf, 19. Daeth yr unig Dystygtif Anrhydeddus ddaeth i'r Sir i'r ysgol hen, a bu i Miss Elizabeth E. Roberls yr hon a'i henillodd gael Exhibition y Sir gwerth deg punt, ac un Rendal gwerth tair punt am dair blynedd. Yn ychwanegol enillodd Exhibition mewn cystadleuaeth agored gwerth deg punt y flwyddyn yn ngholeg Aberystwyth, Pasiodd Lily Evans ei Matriculation yn Mhrif Ysgol Cymru yn y Dosbarth Cyntaf, Matriculatiodd pump er-aill yn rhinwedd eu Tystysgrifau. Bu hanes yr hen ddisgyblion yn yslod y flwyddyn yn un ddisglaer iawn. Anrhegwyd Mr Morris Owen, M.Sc, a Chymrodoriaeth yn Mbrif Ysgol Berlin; cymerodd Mr: Edwin A, Owen y radd o B.Sc gydag Anrhydedd yn y Dosbarth blaenaf mewn Anianaeth, ac anrhydedd yn yr ail ddosbarth mewn Celfyddydiaeth, ac anrhegwyd ef a Myfyriaeth yn Mhrifysgol Cymru, ac yn ddilynol yr 1851 Exhibition Scholarship c 6150 y flwyddyn; y mae hefyd yn gwneyd gwaith Ymchwiliadol yn Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Cymerodd Miss Kate W. Roberts ei gradd o B A. gydag Anrhydeddd yn Ellmynaeg, ac anrhegwyd hi Ysgoloriaeth Postgraduate Osborne Morgan, ac y mae yn awr yn Ngoleg Newnham, Caer- grawnt. Cafodd hefyd gynyg Ysgoloriaeth Gilchrist gan Brifysgol Cymru, ond gwrthod- odd hi. Cymerodd Miss Dorothy Jones ei gradd o B.A. (Cymru), gydag Anrhydedd yn yr Ail Ddosbarth mewn Cymraeg; a Mr W. A. Humphreys gyda gradd gyffelyb gydag Anrhydedd y Trydydd Dosbarth mewn Cym- raeg, Yr oeddynt yn falch o hawlio fel hen dd>sgybl, Dr T. J. Carey Evans, yr hwn y flwyddyn hon a sicrhaodd Gymrodoriaeth yn Ngholeg Breiniol Llawfeddygon, a thrydydd lie ar restr yr Indian Medical Service. Yr oeddid yn teimlo yn fawr yr anghyfleusdra gyda diffyg lie yn yr adeiiadau, ac yr oedd eangu y cyfryw yn bwngc y byddai yn rhaid ei gymeryd mewn Haw yn fuan neu i'r Ysgol ddioddef. Yr oedd y Staff ag yntau yn myned yn mlaen gyda'r teimladau rhagoraf, a dym- anai gydnabod eu parodrwydd i gydweithio yn mhobpeth er llwydd yr Ysgol. Collwyd Miss Gwladys Lewis, yr athrawes hynaf yn yr Ysgol, ond cafwyd Miss Cotterill yn ei lie Hefyd penodwyd Mr Evan E. Griffith yn byfforddwr mewn gwaith coed yn yr Ysgol. Wedi datganiad gan, y cor,. anerchwyd y dysgyblion gan Mrs Tom E. Ellis, yr hon a ddatganodd ei boddhad o gael dod i'r ardal unwaith yn rhagor; ardal o'r hon yr oedd gan ei diweddar briod feddwl mar uchel bob amser. Ni byddai iddi hi amcanu rhoddi anerchiad; ond yn unig ddywedyd ychydig eiriau syml wrth y plant fela ddywedai wrth ei bachgen ei hun. Dymunai arnynt feithrin ysbryd o barch- edigaeth ar bawb hyn na hwy. Prif ddiffyg yr oes sydd yn codi yw, diffyg parch. Cofied y genethod am barchu ac mhamau ar yr ae!wyd. gan gofio yr aberth mawr a wnaatbant drostynt. Nid oedd dim yn diraddio mab a merch na diffyg parchu rhai hynach na hwy eu hunain. Boed iddyntfod yn ofalus am eu hymddygiadau yn mhob cylch os am enill edmygedd pawb o'u hamgylch. Na foed i'r merchedsymed fod gweithio a'u dwylaw yn ddiamhydedd iddynt; yn hollol fel arall yr oedd (cymeradwyaeth). Datganodd y Cor. a rhanodd Mrs Ellis y Tystysgrifau fel y eanlyn:-Tystysgrif Anrhyd- eddus, Elizabeth Elen Roberts. Tystysgrif Uwchaf, Evan Llewelyn Lewis. Tystysgrifau Hynaf, Gwladys Mary Arthur, Griffith Edwards, Mary Catherine Evans, William John Hughes. Evan Jones, Henry P. Jones, Margaret Roberts, a Peter Aubrey Roberts. Tystysgrifau Ieuengaf (Form 4), Gwyneih Davies, Owen Griffith Davies, Winifred Davies, David W. Evans, Eva Jenkins, D. Malcolm Jones, M. OIwen Jones, R. M. Jones, W. Emyr Jones, Edmund Morris, Ella Roberts, Jennie P. Roberts, Elizabeth Rowlands, Cassie Williams, a William C. Williams. Eto (Form 3), Frank Cytil Dodd, Blodwen Griffiths, Evan Pritchard, a Morris Roberts. Enillwyr y Gwobrwyon oeddynt :—Form 6, Elizabeth Elen Roberts, a hi gafodd y wobr (gwerth gini) rhodd yr hen ddysgyblion.-r-Form 5, W. J. Hughes, G. M. Arthur, a M. C. Evans.—Form 4, Edmund Morris, Lizzie Rowlands, a Maggie Olwen Jones.—Form 3a, Frank Cyril Dodd, Morris Adams. Blodwen Griffith, ac Evan Pritchard, -Form 3b, Ifor W. Hughes, G. C. Williams, ac Elina Davies.- Form 2, Gwilym E. Owen, Mathew H. Rowlands, a Mary Roberts.-Form 1, Salhe Rowlands, Dewi Roberts, a Robert Jones, Am ymddygiad da, i'r hwn yr oedd safon nodedig uchel. P. Aubrey Roberts ac Ella Roberts, ei chwaer. Am Byngciau Teuluaidd (rhodd Mrs Dr Jones)., Gwyneth Davies. Mr Morgan E. Phillips, B.Sc., «a roddodd grynhodeb dyddorol o'r ddarlith draddododd Mr H. C. Devine o flaen yr ysgolorion y nosol, cynt ar "pdyfadol y dysgyblion yn yr ysgol- ion," Sylwodd Mr Phillips mai nid wrth gerdded bob nos o'r Fourcrosses at y Commercial Hotel y byddai i'r bobl ieuaingc gymwyso eu bunain at swyddfeydd pwysig a safleoedd oeddynt yn agored iddynt. Pwysai yn drwm ar y rbieni i adael y plant yn yr ysgol hyd nes y byddai cyfnewidiad eu bywyd wedi cymeryd lie tua'r pymtbeg oed: hwn oedd y cyfnod pwysicaf yn eu hanes, ac ond eu gadael yn yr ysgol nes i hyny fyned drosodd byddai gobaith da am daaynt. Yr oedd yn awr yn bosibl gadael y plant yn yr Ysgol Uwchelfenol nes byddant yn 17eg oed a hyny yn rhid. Na foed i'r irhieni wertbu genedig- aeth fraint y plant am saig o fwyd (cymer- adwyaeth) Ar gynygiad Mrs. Jones, Isallt, a chefnogiad Mr. h. O. Jones, diolchwyd yn gynes i Mrs. Ellis am ei phresenoldeb a'i chynorthwy; ac i'r Cadeirydd ar gynygiad Mr. Dodd. Di- wediwyd trwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau" a Duw gadwo'r Brenin." Y mae i Mr, Dodd, yr Athrawon cynorthwyol, y Rheolwyr, a'r Lifgyblion, ein llongyfarchiadau mwyaf calonog ar safie lwyddianus yr Ysgol.

I YSGOL LLANRWST.,

I'-- - -- --- - - --Pwy yw…

[No title]

ILLYS MANDDYLEDIONI ILLANRWST..

- - - - - - - - - - ........…

PENRHYNDEUDRAETH,

[No title]