Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
DYDDIAU GWOBRWYO YR YSGOLION…
DYDDIAU GWOBRWYO YR YSGOLION SIROL: Ffestiniog a Llanrwst. YSGOL FFESTINIOG. I Nos Wener, yn y Neuadd Gynull, cynhal- -iwyd cyfariod gwobrwyo yr Ysgol hon. Yn absenoldeb y Parch. J. Rhydwen Parry, Cadeirydd y Rheolwyr, bu Mr R, Walker Davies, B.A Cae'rblaidd, mor garedig a chymeryd y gadair ar fyr rybudd. Y mae Mr Davies yn fawr ei sel gyda'r Ysgol o'r dechreu, ac wedi bod ar Fwrdd y Rheolwyr ar hyd y blynyddoedd. Cefnogid ef ar y llwyfan gan y Prif-athraw. F. P. Dodd, M.A., a'r Staff. Mrs Tom E. Ellis, Aberystwyth, a Mrs Dr Jones, Isallt. Yr oedd golwg brydferth nodedig ar enethod yr Ysgol wedi gwisgo mewn gwyn, a'u canu yn-swynol dros ben o dan arweiniad y Prif-athraw. Mwynhaodd y. gynulleidfa eu datganiadau o'r Alawon Cymreig canlynol rhwDg y gweithrediadau eraill,-Blodau'r Grug, Moel y Wyddfa, Breuddwyd y Bardd, Solo-gan (Miss Hannah C. Davies, High St yn arwain gyda'r alaw yn y ddwy ddiweddaf), a Caniad Pibau Morfvdd. Y Prif-athraw, Mr Frank P. Dodd, M A., a roddodd ei adroddiad blynyddol am waith yr Ysgol, yr hwn gyda'i wyleidd-dra arbenig a'i ddiffyg ymffrost sydd yn fawr iawn ei barch gyda'r athrawon cynorthwyol, y dvsgyblion, a'r holl wlad o amgylch. Dywedodd Mr Dodd iddo dybio with baratoi ei 16eg adroddiad i'r Rheolwyr na fuasai yn anyddoro! ganddynt wybcd rhywbeth o hanes y rhai aethant trwv'r Ysgol hon er ei sylfaeniad yn Ionawr 1895, Yr oedd wedi ceisio dilyn cwrs yr hen ddys gyblion, a Hwyddodd yn achos tua chwe' chant o honynt, ac yr oedd fel y canlyn:-Athrawon mewn Ysgolion Dyddiol, 130; Athrawon mewn Ysgolion Canolraddol, 20; Y Weinidogaeth, 30 (yn evnwvs tri yn Eglwys Loegr); Chwarel- yddiaeth, 32 (un o honynt yn Oruchwyliwr Chwarel. sc unarall yn aelod o'r Ddirprwyaeth Freiniol ar Fwngloddiau a Llech Chwareli); Arianwyr, 21 Yswirio, 6; Peirianyddiaeth a Thir Fesuriaeth, 14; Gwasanaeth y Goron, 12; Y Llythyrdy, 12; Amaethyddiaeth, 15; Ffer- yllwyr, 10; Masnach eraill, 65; Meddygiaeth, 7 Cyfraith, 4; Clercod, 20; Reilffyrdd, 10; Dressmaking a Millinery. 12 Saerniaeth, 7; Gwasanaeth teuluaidd, 7 Gweinyddesau, 5 Peirianyddiaeth, 6; Llongwyr, 5; Arch- adeiiadwyr, 2 Deintyddiaeth, 2 Newyddiad- wriaeth, 2 Broker, 1 Gwawl-luniaeth, 2; 14 yc bresenol yn parhau cwrs eu haddysg mewn ysgolion eraill; 18 yn y colegau; 9 wedi ymfudo; 14 wedi meirw; 94. mercbed gan mwyaf, wedi dychwelyd gartref, o'r thai y mae 23 wedi priodi. Yn ystod y deng mlynedd diweddaf cymerodd 36 eu graddau. 19 gydag Anrhydedd. Cynwysai y graddoau hyn 8 A (Caergrawnt), B.Sc. (Rhydychaio), B A., M.A., B Sc., M.Sc., B.D, (Cymru), a M n. (Brussels). Yr oedd 169 (80 o fechgyn, a 89 o enethod) yn awr yn yr ysgol, a dangossi y nifer duedd cynyddu er gwaethaf yr amgylch- iadau gwasgedig yn yr ardal, a'r cvrnewidiadau 1 lluosog fu ynddi y ddwy flynedd ddiweddaf. Ymwelwyd a'r ysgol ddwywaith ac yn Gorph- enaf arholwyd y dysgyblion gan y Bwrdd Canolog Cymreig gyda'r canlyniad isod:- Honours, 1: Tystysgrif uwchaf, 1; Tystysgrif Hynaf, 8; etc, leueogaf, 19. Daeth yr unig Dystygtif Anrhydeddus ddaeth i'r Sir i'r ysgol hen, a bu i Miss Elizabeth E. Roberls yr hon a'i henillodd gael Exhibition y Sir gwerth deg punt, ac un Rendal gwerth tair punt am dair blynedd. Yn ychwanegol enillodd Exhibition mewn cystadleuaeth agored gwerth deg punt y flwyddyn yn ngholeg Aberystwyth, Pasiodd Lily Evans ei Matriculation yn Mhrif Ysgol Cymru yn y Dosbarth Cyntaf, Matriculatiodd pump er-aill yn rhinwedd eu Tystysgrifau. Bu hanes yr hen ddisgyblion yn yslod y flwyddyn yn un ddisglaer iawn. Anrhegwyd Mr Morris Owen, M.Sc, a Chymrodoriaeth yn Mbrif Ysgol Berlin; cymerodd Mr: Edwin A, Owen y radd o B.Sc gydag Anrhydedd yn y Dosbarth blaenaf mewn Anianaeth, ac anrhydedd yn yr ail ddosbarth mewn Celfyddydiaeth, ac anrhegwyd ef a Myfyriaeth yn Mhrifysgol Cymru, ac yn ddilynol yr 1851 Exhibition Scholarship c 6150 y flwyddyn; y mae hefyd yn gwneyd gwaith Ymchwiliadol yn Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Cymerodd Miss Kate W. Roberts ei gradd o B A. gydag Anrhydeddd yn Ellmynaeg, ac anrhegwyd hi Ysgoloriaeth Postgraduate Osborne Morgan, ac y mae yn awr yn Ngoleg Newnham, Caer- grawnt. Cafodd hefyd gynyg Ysgoloriaeth Gilchrist gan Brifysgol Cymru, ond gwrthod- odd hi. Cymerodd Miss Dorothy Jones ei gradd o B.A. (Cymru), gydag Anrhydedd yn yr Ail Ddosbarth mewn Cymraeg; a Mr W. A. Humphreys gyda gradd gyffelyb gydag Anrhydedd y Trydydd Dosbarth mewn Cym- raeg, Yr oeddynt yn falch o hawlio fel hen dd>sgybl, Dr T. J. Carey Evans, yr hwn y flwyddyn hon a sicrhaodd Gymrodoriaeth yn Ngholeg Breiniol Llawfeddygon, a thrydydd lie ar restr yr Indian Medical Service. Yr oeddid yn teimlo yn fawr yr anghyfleusdra gyda diffyg lie yn yr adeiiadau, ac yr oedd eangu y cyfryw yn bwngc y byddai yn rhaid ei gymeryd mewn Haw yn fuan neu i'r Ysgol ddioddef. Yr oedd y Staff ag yntau yn myned yn mlaen gyda'r teimladau rhagoraf, a dym- anai gydnabod eu parodrwydd i gydweithio yn mhobpeth er llwydd yr Ysgol. Collwyd Miss Gwladys Lewis, yr athrawes hynaf yn yr Ysgol, ond cafwyd Miss Cotterill yn ei lie Hefyd penodwyd Mr Evan E. Griffith yn byfforddwr mewn gwaith coed yn yr Ysgol. Wedi datganiad gan, y cor,. anerchwyd y dysgyblion gan Mrs Tom E. Ellis, yr hon a ddatganodd ei boddhad o gael dod i'r ardal unwaith yn rhagor; ardal o'r hon yr oedd gan ei diweddar briod feddwl mar uchel bob amser. Ni byddai iddi hi amcanu rhoddi anerchiad; ond yn unig ddywedyd ychydig eiriau syml wrth y plant fela ddywedai wrth ei bachgen ei hun. Dymunai arnynt feithrin ysbryd o barch- edigaeth ar bawb hyn na hwy. Prif ddiffyg yr oes sydd yn codi yw, diffyg parch. Cofied y genethod am barchu ac mhamau ar yr ae!wyd. gan gofio yr aberth mawr a wnaatbant drostynt. Nid oedd dim yn diraddio mab a merch na diffyg parchu rhai hynach na hwy eu hunain. Boed iddyntfod yn ofalus am eu hymddygiadau yn mhob cylch os am enill edmygedd pawb o'u hamgylch. Na foed i'r merchedsymed fod gweithio a'u dwylaw yn ddiamhydedd iddynt; yn hollol fel arall yr oedd (cymeradwyaeth). Datganodd y Cor. a rhanodd Mrs Ellis y Tystysgrifau fel y eanlyn:-Tystysgrif Anrhyd- eddus, Elizabeth Elen Roberts. Tystysgrif Uwchaf, Evan Llewelyn Lewis. Tystysgrifau Hynaf, Gwladys Mary Arthur, Griffith Edwards, Mary Catherine Evans, William John Hughes. Evan Jones, Henry P. Jones, Margaret Roberts, a Peter Aubrey Roberts. Tystysgrifau Ieuengaf (Form 4), Gwyneih Davies, Owen Griffith Davies, Winifred Davies, David W. Evans, Eva Jenkins, D. Malcolm Jones, M. OIwen Jones, R. M. Jones, W. Emyr Jones, Edmund Morris, Ella Roberts, Jennie P. Roberts, Elizabeth Rowlands, Cassie Williams, a William C. Williams. Eto (Form 3), Frank Cytil Dodd, Blodwen Griffiths, Evan Pritchard, a Morris Roberts. Enillwyr y Gwobrwyon oeddynt :—Form 6, Elizabeth Elen Roberts, a hi gafodd y wobr (gwerth gini) rhodd yr hen ddysgyblion.-r-Form 5, W. J. Hughes, G. M. Arthur, a M. C. Evans.—Form 4, Edmund Morris, Lizzie Rowlands, a Maggie Olwen Jones.—Form 3a, Frank Cyril Dodd, Morris Adams. Blodwen Griffith, ac Evan Pritchard, -Form 3b, Ifor W. Hughes, G. C. Williams, ac Elina Davies.- Form 2, Gwilym E. Owen, Mathew H. Rowlands, a Mary Roberts.-Form 1, Salhe Rowlands, Dewi Roberts, a Robert Jones, Am ymddygiad da, i'r hwn yr oedd safon nodedig uchel. P. Aubrey Roberts ac Ella Roberts, ei chwaer. Am Byngciau Teuluaidd (rhodd Mrs Dr Jones)., Gwyneth Davies. Mr Morgan E. Phillips, B.Sc., «a roddodd grynhodeb dyddorol o'r ddarlith draddododd Mr H. C. Devine o flaen yr ysgolorion y nosol, cynt ar "pdyfadol y dysgyblion yn yr ysgol- ion," Sylwodd Mr Phillips mai nid wrth gerdded bob nos o'r Fourcrosses at y Commercial Hotel y byddai i'r bobl ieuaingc gymwyso eu bunain at swyddfeydd pwysig a safleoedd oeddynt yn agored iddynt. Pwysai yn drwm ar y rbieni i adael y plant yn yr ysgol hyd nes y byddai cyfnewidiad eu bywyd wedi cymeryd lie tua'r pymtbeg oed: hwn oedd y cyfnod pwysicaf yn eu hanes, ac ond eu gadael yn yr ysgol nes i hyny fyned drosodd byddai gobaith da am daaynt. Yr oedd yn awr yn bosibl gadael y plant yn yr Ysgol Uwchelfenol nes byddant yn 17eg oed a hyny yn rhid. Na foed i'r irhieni wertbu genedig- aeth fraint y plant am saig o fwyd (cymer- adwyaeth) Ar gynygiad Mrs. Jones, Isallt, a chefnogiad Mr. h. O. Jones, diolchwyd yn gynes i Mrs. Ellis am ei phresenoldeb a'i chynorthwy; ac i'r Cadeirydd ar gynygiad Mr. Dodd. Di- wediwyd trwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau" a Duw gadwo'r Brenin." Y mae i Mr, Dodd, yr Athrawon cynorthwyol, y Rheolwyr, a'r Lifgyblion, ein llongyfarchiadau mwyaf calonog ar safie lwyddianus yr Ysgol.
I YSGOL LLANRWST.,
YSGOL LLANRWST. Nos Iau, cymerodd yr Uchel-wyl i Wobrwyo a rhanu Tystysgrifau y Disgyblion yn yr Ysgol hon. Yr oedd y Neuadd wedi ei llenwi hyd i fod yn anghysurus. Yr oedd genethod yr Ysgol wedi eu gwisgo mewn gwyna'u trefnu ar gylch ar y llwyfan, tra'r oedd y becbgyn ar yr ochr aswy iddi. Llenwid y gad air gan Mr W. J. Williams, u.H.. Cadeirydd y Rheolwyr, a chefnerthid ef gan, ei gyd-reolwyr, y Prif athraw a'i gynorthwywvr. Rhapwyd y gwobr- wypn gan Mr William George, Criccieth. Y Prifathraw (y Parch J. 1. Farr, M,A,,) a ddarllenodd restr o'r disgyb!ion fuont yn Ilwyddianus yn' Arboliad y Bwrdd Canoleg Cymreig Tystysgrif Uwchaf, William Arthur Jones. Tystysgrif Hynaf, Louisa Jane Brom- well, Elizabeth Hughes, John Rowland Morris, Hugh Oswell Owen, Sarah Florence Roberts, a Robert Bagshaw Wynne Tystysgrifau Ieuengaf, Olwen Davies, Albert Pritchard Evans, Lilian Catherine Hughes, David Henry Jones, Griffith Trefor Jones, Gwilym Jones, Catherine Lduisa Keates, Jennie Lewis, Edward Thomas Roberts, Ellen Williams, Catherine Williams, Samuel Williams. Exhibition yn Ngholeg Bangor, William Arthur Jones. Yna rhanodd Mr George y gwobrwyon fel y canlyn: Form 6, William Arthur Jones. Form 5, Louisa Jane Bromwell, John Rowland Morris, Hugh Oswell Owen. Form 4, Catherine Louisa Keates, Dftvid Henry Jones, Griffith Trefor Jones. Form 3, merched, PhiMis Wynne, Blodwen M. Davies, Morfydd Evans, Margaret Williams; becbgyn. Thomas Edward 1 Roberts, William Jcnes, John Thomas Jones a John Lloyd Rogers yn gydradd. Form 2, merched, Mary H. Parry, Catherine M. Williams, Gwladys Winifred Jones, Amelia M. Evans; bechgyn, John William Davies, John Bulkeley Jones, William Francis Wynne, Frank Smith. Gwobrwywyd 24 o fechgyn, ac wyth o fetched am gysondeb mewn bod yn yr Ysgol. Cafwyd anerchiad gwresog iawn gan y Cadeirydd. Dywedodd fod yn falch ganddo gael llywyddu, yn enwedig pan yr oedd yr Ysgol yn cyraedd ei chan'mlwyddiant, Bu yn ei ddyddiau boreaf yn yr Ysgol pan oedd y Parch W, Lewis yn gofalu am dani, a pharchai y llyfrau dderbyniodd ynddi yn wobrwyon. Llawenhai weled y gwerthfarogiad teilwng ddangosid o'r Ysgol gap y rhieni a'r plant. Yr oedd gan y Rheolwyr gynllun o data eu hystyriaeth i wella yr adeiladau ac eangu y terfynau i gyfarfod a'r galwadau parhaus ddeuent ar yr Ysgol. Am yr Adroddiad gyhoeddwyd gan y Bwrdd Addysg yr oedd yn dda ganddo ddywedyd nad oedd Llanrwst, beth bynag, yn troi allan y "penau coed" y cyfeiriai yr Adroddiad atynt, Y Prifathraw, y Patch J. I. Farr, M.A., a ddywedodd fod yn rhaid fod i Ysgol ddaliodd ystormydd tri chanrif hanes dyddorol, ond cyfyngai ef ei sylwadau i gylch llai na thri chan' mlynedd. Gweithiodd yr Ysgol yn dawel a digynwrf, eto yn dra effeithiol; ac er colli tua dwsin o P.T's, yr oedd 120 yn aros yn yr Ysgol, a'r .-hit yn cynyddu yn barhaus. Yr oedd y gwaith wnaed yn ystod y flwyddyn yn rhoddi boddlonrwydd, ac yr oedd yr Ysgol yn sefyll yny dosbarth cyataf o ran cyfartaledd y pasio, ac yr oedd yn sefyll mor uchel y flwyddyn oedd ar derfynu a'r ua Ysgol yn y Dywysogaeth. Nid oedd y llwyddiant i'w fesur oddiwrth yr hyn a wnai y bechgyn ar frig yr Ysgol, ond ar lwyddiant yr Ysgol fel cyfan- gorph ac nid oedd ef a'i gynorthwywyr wedi rhoddi eu Hafur ar y disgyblion disgieiriaf ar rhoddi eu Ilafur ar y disgyblion 'Gallai ef draul esgeuluso y rhai llai galluog. Gallai ef ddywedyd cryn lawer am ddisgyblion yr Ysgol er 1880, a'r safle uchel gyrhaeddodd 1 lawer o honynt. Yr oedd yr Ysgol mewn angen am fwy o dir at gael lie i'r dysgyblion ehwareu, yr hyn oedd mor hanfodol i iechyd eu cyrph a'u meddyliau. Mr W. George a gafodd dderbyniad brwd- frydig, a dywedodd iddo glywed llawer iawn o son am Ysgol Rad Llanrwst," ond ni wyddai o'r blaen mai yr un ydoedd ag Ysgol Sircl y dief. Llawenhai glywed adroddiad calonogol y Prif-athraw, ae ami y sel oedd yn Nyffryn Conwy o blaid Addysg Ganolraddol. Gwelodd yr ysgol a'r lie ehwareu perthynol iddo, ac hyderai y rhoddid ystyriaeth i'r cais am gael eangu y lie hwnw er mantais i iechyd y dysgyblion. Nid oedd am bregethn iddynt ar fanteision a chyfrifoldeb bywyd yr ysgol, nac am ddarlithio i'r plant, y rhieni, a'r athrawon, gan nad oedd neb o honynt yn hoffi peth felly. Ond beth am y Bwrdd Canolog Cymreig ? yr hen Fwrdd Canolog anwyl, yr oedd yn dod yn dra hwylus pan oedd gan rywun eisiau dywedyd rhywbeth drosto ei hun, ond ofnai nad oedd y ddadl geirid yn mlaen rhwng gwahanol Awdurdodau Addysg o nemawr fudd i addysg ei hun, a gobeithiai y deuai i ben yn fuan. Ar yr un pryd yr oedd un peth yn tsraw ei sylw ef y dydd o'r blaen wrth ddaillen adroddiad y Bwrdd Canolog Cymreig. Ymddengvs fod 13.760 yn cael eu dysgu yn yr Ysgolion Sirol hyd y llynedd, ac o'r rhai hyny yr oedd yn debygol fod miloedd yn gadael yr ysgolion bob blwyddyn beth oedd yn dod o honynt? Elai amryw o honynt am gwrs o addysg pellach mewn ysgolion etaill; ond tarewid ef gan nifer fawr o rai oeddynt wedi graddio ac oeddynt ar hyn o bryd yn athrawon cynorthwyol mewn rhai o'r Ysgolion Sirol. Nid oedd yn ymddangos fod yr un o'r Prif- athrawon yn meddu graddau, er fod 250 o athrawon cynorthwyol graddedig. Gall hyny fod oherwydd i'r Prif-athrawon hyn gael eu penodi cyn ffurfiad y Bwrdd Canolog Cymreig Y ffaith ddymunai ef bwyso arni oedd, nad oedd ond cyfran fechan o'r mil elai allan yn flynyddol o'r ysgolion hyn yn cymeryd i fyny addysg fel galwedigaeth. Catasai wybod beth oedd yn dod o'r dysgyblion eraill. Dywedid wrtho fod liawer yn myned i fasnachdai yn y trefi i weithio am gyflog fel cyflog labrwr, a hyny heb unrhyw ragolwg ar ddyrchafiad. Dylid creu argraff ar feddwl y plant a'r rhieni nad oes dim diaorhydeddus mewn enill bywoliaeth trwy "chwys y wyneb." Wrth gyfarwyddo y rhai o ddalentau dysglair, ni ddylid anghofio y rhai fyddai raid bod gyda goruchwylion cyffredin bywyd. Ni charai weled Cymru yn gadael ei thraddodiadau dan yn y gorphenol trwy esgeuluso Ilafur dwylaw. Ceir Dewi Wyn yn desgrifio ei bun fel "Amaethon boddlon, a bardd" a felly yn dangos ei gred yn nydd euraidd llafur, Rhaid paratoi yr oes sydd yn codi at y dyddiau y bydd urddas llafur yn cael ei gydnabod ar bob Haw, a chydymdeimlad llawn a i amcan, sef gwneyd pawb yn ddeiliaid teilwng o gymdeithas, ac yn llawn awydd i weithio er lies dynoliaeth yn gyffredinol,- Pasiwyd pleidlais o ddiolch gwresog, i Mr George am ei sylwadau gwerthfawr. Yn dilyn cafwyd caneuon difyras, a pberfformiad o'r Digrif gerdd The Rivals," yn hynod o dda, ac y mae clod mawr yn ddyledus i Miss Holt am y modd effeithiol y dysgodd y plant i fyned trwy eu darnau mor ddifeth. Llongyfarchwn y Prif-athraw a'r holl Staff ar waith y lfwyddyn.
I'-- - -- --- - - --Pwy yw…
I'- Pwy yw Eifyn ? v. Yn y II Dryeh," papyr Ekdnabyddus Cymry'r America, am Rhagfyr laf, ymddangosodd yr hyn a ganlyn, dan y penawd uchod: Mri, Gol.: Carwn wybod enw priodol Elfyn, awdwr talentog 'Shon Abwd yn Codi'r Angor' a ymddangosodd yny 'Drych.' Dyma'r peth goreu wyf wedi ei weled yn y Gymraeg er ymddangosiad Rhys Lewis,' ac er mai ystori fer ydyw, yn fy marn i y mae i fyny a dim a geir yn ogweithiau Thackeray neu Dickens Yr wyf wedi ei darllen eisoes fwy nag unwaith, ac y mae y desgrifiad byw a roddir o ddylanwad dywediadau ffraeth-dduwiol yr hen bererin ar y gwahanol gymeriadau, yn enwedig yr hen bechadur haerllug Evan Ddwywaith, wedi dwyn lleithder i'm llygaid bob tro, Yn sicr i chwi, y mae mantell yr anfarwol Daniel Owen wedi disgyn ar ysgwyddau yr awdwr athrylith- gar hwn. Byddai yr ystori hon yn gaffaeliad gwerthfawr i gylchgronau crefyddol y wlad hon. Pwy tybed a ddyry i ni gyfieithiad teilwng o'r gwreiddiol ?-Morgan L. Williams, Philadelphia, Pa."
[No title]
SPECTOLS GWERTH EU CAEL.-Mae cael Spectol o'r Medical Hall yn sicrwydd pendant i'r prynwr nas" gall gael ei gwell yo unman arall am yr un bris. Mae Hugh Jones wedi gwneyd astudiaeth faifwl o ansawdd lenses a'r golwg. Efe ydyw yr unig Optician yn Sir Feirionydd sydd wedipaslo arholiadau cydnabyddedig yn y gelfyddyd hon.-Cofier hyn nad oes neb yn MJaenau Ffestiniog yn defnyddio Spectol nas, gall H. J. ddweyd ei gwir werth yn rnhen ychydig fynudau.-Cofier y Cyfeiriad:—HUGH JONES, D.B 0 A F S M.C, Chemist & Ophthalmic Optician, The Medical j Hall, Blaenau Ffestiniog. j
ILLYS MANDDYLEDIONI ILLANRWST..
LLYS MANDDYLEDIONI LLANRWST. Dydd Gwener, o flaen ei Anrhydedd y Barnwr I Samuel Moss. Ail Grybwyll Achosion. I Mr Alun Davies (Mri R. O. Jones a Davies), a gyfeiriodd at achos David Roberts, Grocer, Capel Garmon, yn erbyn W. 0. Roberts, 3, Tyddyngwyn Terrace, Blaenau Ffestiniog, yr hwn odd wedi atafaelu am y swm dyledus. Gofynodd Mr Davies am i'r atafaeliad gael ei rwystro am fod y Diffynydd wedi talu 17/4 allan o'r 1:,1 12s 4c dyledus, i fab yr Hawlydd yn ei fasnacbdy yn Eettwsycoed.—Mr J. D. Jones, ar ran yr Hawlydd, a ddywedodd iddo ysgrifenu at y Diffynydd Ionawr 7, yn gofyn am y £ l 12s 4c ac ar Mawrth 29, anfonodd y Diffynydd at yr Hawlydd yn dadieu yn erbyn y cyfrif, Anfonodd ef (Mr Jones), drachefn at y Diffynydd yn gofyn am fanylion, a chan na chaed atebiad ihoddwyd yr achos yn y Ll ys I ar Mehefin 22 am y swm a hawlid.; Gorphenaf 2, bu i'r Diffynydd dalu 17/4 i fab yr Hawlydd yn ei fasnachdy yn Bettwsycced. Gorphenaf 5, daeth yr achos o flaen y Llys, ond ni ddaeth gair ffordd yn y byd oddiwrth y Diffynydd am y taliad yn Bettwsycoed, ac archodd ei An- rhydedd i'r arian gael eu talu yn ol 5/- y mis. Gan nad oedd dim yn cael ei fdalu, atafaelwyd Hydref 11, ac yr oedd y Ceisbwl mewn medd- iant i fyny i'r dydd hwnw. Pan atafaelwyd y bu i'r Diffynydd son gyntaf arc y taliad o 17/4. Er nad oedd yr Hawlydd yn debyg o gael dim o'r 17/4 dalwyd i'w fab, cherwydd fod hwnw wedi gwneyd cytundeb Drosghvyddiadol, eto yr oedd yn barod i'w tynu allan o'r swm dyl- edus. Bai y Diffynydd ei hun oedd ei fod wedi gadael i'r peth redeg o Hydref 11 i chwyddo y fees.-Daliodd ei Anrhydedd i'r Hawlydd weithredu yn hollol resymol yn yr achos, ac archodd i'r Diffynydd dalu y fees, Mr. J. D. Jones a gyfeiriodd at achos Evan Williams, Cigydd, Trefriw, yn erbyn Ellen Thofmas, Tynewydd, Trefriw. Yn Llys Gorphenaf bu i'w Anrhydedd ercbi i'r £ 6 3s 9c dyledus gael eu talu yn ol punt y mis yn misoedd yr haf, a deg swllt y mis yn misoedd y gauaf.— Gostyngodd si Anrhydedd y taliad i 5s y mis yn lie 10s. a bod y mater i'w grybwyll wrtho eto yn y Gwanwyn os bydd angen am hyny, F. C. Cobden ac Ardalydd Queensbury yn Diffynwyr. Mrs. Mc'Gregor, Nantbwlchyrhevrn, a wysiodd F. C, Cobden ac Ardalvdd Queens bury am arian dyledus i'w diweddar wr.—Mr. T. Latimer Jones ar ran Mr. Cobden a ofynodd am ohiriad gan fod ei gyflogydd yn rhy wael i allu bod yn bresenol ya,y Llys.-Mr. ]. D. Jones ar ran yr Hawlyddes a ddywedodd i'r Diffynwyr gymeryd helwriaeth a bod Mr. Mc'Gregor yn geidwad helwriaeth iddynt, a bod y gost i'w ranu rhyngddynt. Bu i Gyfreithiwr yr Ardalydd anfon i hysbysu fod ei Arglwyddiaeth yn awr yn Ne America, ac na ddyebwelai hyd ddiwedd Ionawr. Yr oedd yn cydsynio a gobiriad ar yr amod fod y Diffyn- yodion i fod yn gyfrifol am y costau i fyny hyd y dyddiad hwnw.-Caniataodd ei Anthydedd ohiriad ar y telerau a nodwyd, Eiddo y diweddar David Hughes, Ty'nycoed, Penmachno. Winnie Eeans, Ty'nycoed, Penmachno, a ofynodd am ddatganiad y Llys mai Ymddiried- olwr i eiddo ei thad oedd ei brawd Griffith Hughes, Foelas Terrace, Capel Garmon, ac nid perchenog (legatee) -Mr. Clement Davies (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr. J. D. Jones) a ymddangosodd dros yr Hawlyddes a Mr. W, Twigge Ellis dros y Diffynydd. Mr. Davies a aeth yn fanwl trwy'r amgylch- iadau. Gofynodd am i'w Anrhydedd ddatgan fod y £349 17s 4c oedd yn awr yn London City & Midland Bank Llanrwst, adawyd gan dad Mrs Hughes, fu farw Tachwedd 2, yn cael eu dal gan ei brawd Griffith Hughes fel vmddiriedolwr. Gweithiai ei thad D. Hughes fel coedwigwr ar etifeddiaeth y Penrhyn, a chynilodd _(200, Ionawr 1903 cododd y swm hwnw o'r Llythyrd% a dododd hwy yn yr Ariandy, a dododd ^20 arall i mewn Gorphenaf 1904, yna /4Q yn Medi 1995, ac /20 Rhagfyr 1906. Hyd yr arnser yma yr oedd yr arian i mewn yn ei enw ef ei bun, ond o hyny allan yn ei enw ef a'i fab Griffith Hughes. Y ddadl oedd p du yr Hawlyddes, fod yr arian yn yr arii n y yn tnw y ddau er mwyn cyfleusdra yn unig, gan fod David Hughes yn rnhell dros ei 70 oed a bu farw Tachwedd 2, 1910, yn 79 mlwydd oad. I brofi mai mater o drefniant er mwyn hwylusdod oedd fod y ddau enw yn yr Ar andy, ac nid yn drosglwyddiad yr eiddo i Griffith Hughes ar ol dydd ei dad, galwyd yr Hawlyddes, E. J. Evans (ei gwr), Richard Davies (gwr chwaer hynaf yr Hawlyddes), Jane Roberts, Eidda (chwaer y diweddar David Hughes), a Robert Williams, Rhianfa, Penmachno (cydweithiwr a David Hughes). oil yn tystio mai trefniant erl hwylusdod yn unig oedd yr un yn yr ariandy. Mr Ellis, o du y Diffynydd, a ddadleuodd fod yr achos yn troi yn hollol ar fwriad David Hughes wrth wneyd y trefniant. Yr oedd Rheolwr yr Ariandy a'r Diffynydd yn deall fod y trefniant yn cael ei wneyd i'r arian fyned drosodd i'r un fyddai yn goroesi y llall.—Y Diffynydd a dystiodd i'w dad wneyd pobpeth yn glir iddo ef, fod yr holl arian iddo ar ol ei ddydd. Yr oedd gan ei dad eiddo gwerth tua /66 ar adeg ei farwolaeth yn Ty'nycoed.—Mr E. Jones-Owen, U.H., Rheolwr yr Ariandy, a roddodd adroddjad manwl am y trefniant gyda dodi dau enw yn yr Ariandy. Yr oedd yr arian yn ddieithriad yn myned i law yr hwn fyddai fyw hwyaf. Cododd Griffith Hughes -(20 o'r arian, fel y deallai ef, elai [10 at y costau claddu. Y swm yn yr Ariandy oedd (348 17s 4c. Dywedodd G. Hughes wrtho fod 110 o'r arian dalodd ei dad i mewn Mawrth 23, 1909, yn perthyn iddo ef yn bersonol. Ei Anrhydedd a ddaliodd fod yr arian 03dd yn yr Ariandy yn cael ei dal gan y Diffynydd fel Ymddiriedolwr, ac y dylii gael ei ranu yn gyfartal rhwng y tair merch a'r brawd (G. Hughes). Y Diffynydd Griffith Hughes i daln costau y rhwng archeb roddwyd yn y Llys diweddaf i beidio cyffwrdd yn yr arian nes y penderfynid yr achos, a'r gweddill o'r costau i ddod o'r etifeddiaeth,
- - - - - - - - - - ........…
TREFRIW. Cynhaliwvd Cyfarfod y Cyngor Plwyfol nos Fercher, y Parch Henry Jones yn y Gadair, yr oedd hefyd yn bresenol. Dr. Williams; Mri. C. Adamson; David Roberts, Central Buildings; R. Evans; T. R. Williams; S. Hughes; W. Owen a R. E Thomas (Clare). Dewisiwyd Mr David Roberts (Dewi Deulyn) yn aelod o'r Cyngor yn He y diweddar William Owen. Ar gais Mr R. Roberts, yr Ysgolfeistr, can- iatawyd gwasanaeth y Neuadd i ranu gwob- rwyon i blant yr •ysgol ar Rhagfyr 22 Gan fod y prisiau am gerbyd i gario y bibell ddwfr at ddifodd tan yn rhsdeg o £ 7 10s i £ 12 10s, pasiwyd i Mri Adamson a T. R. Williams gymeryd y peth o dan ystyriaeth er mwyn cael trefniant rhatach at y pwrpas. Bu trafodaeth faith ar ail wneyd y Bont wrth y Fairy Falls. Yr oeddid wedi prynu yr haiarn angenrbeidol at y gwaith gan Mii. Bott a Stennett, a daeth dau gynygiad i law am wneyd y gwaith. Ni wnaed y ffigyrau yn hysbys, ac ar awgrym Mr T. R. Williams, fe drowyd y mater yn ol iddo ef wneyd cynllun a manylion ar y Bont, pedair troedfedd a haner yn lie un chwe troedfedd a haner. Ymddangosodd Mr Chambers o flaen y Cyngor i hysbysu fod y Llyfrgell Gyhoeddus wedi ei chau o ddiffyg cefnogaeth, a bod dyled arni o £ 3 10s. Cafwyd trafodaeth faith ar y mater, ac yn y diwedd pasiwyd i dalu ;,Cl 5s a maddeu y gweddill dyledus i'r Cyngor, a chymerwyd pobpeth drosodd ond y Bwrdd Bagatelle, yr hwn allai y Pwyllgor ei werthu i glirio eu gofynion, a bod y llyfrau i'w cadw yn yr Ysgol ar hyn o bryd.
PENRHYNDEUDRAETH,
PENRHYNDEUDRAETH, 2 lbs. Currants, 1 lb. Raisins, iI; lb, C. Peel, 2 Powders, am Swlit. Pure Lard. 7d., per Ib C. Peel, 4--d., per lb.-j. HUMPHREYS, Gwalia. NADOLIG LLAWEN.- Dymunwn Nadolig llawen i bawb gartref ac oddicartref sydd yn cymeryd dyddordeb yn y golofn hon. CYFARFOD LLENYDDOL. Diameu mai cyrchfan pobloedd y cylch yma dydd Llun fvdd Cyfarfod Llenyddol Nazareth. Mae ihagolygon am gyfarfod campus, gan fod llu o yrcgeiswyr ar yr oil o'r Testynau. Bydd y drysau'n agored am 5 o'r gloch dechreuir am 5 30. DWY LECSIWN YN 1910.-A Grand Christmas Bazaar now open at Tecwyn View, Penrhyn. Os am le i ddewis Cardiau Nadolig, Cymraeg neu Saesneg, digonedd o amrywiaeth mewn Toys, &c. Ccfiwch alw gyda Mr J. H; Roberts. ENILL '-Da,.gonym gael cyfle eto i len- gyfarch y gantores enwog Miss A. E. Davies ar ei gwaith yn enill yn Eisteddfod Abermaw yr wythnos o r blaen. Nos Wener, yn y Demi o dan Sywvddiaeth y P. D. John Prichard, cafwyd papyr rhagorol gan Mr. Henry J. Richard ar Ddirwest a Phurdeb," at cafwyd sylwadau pellach gan amryw o'r aelodau. Cynhaliwyd Gobeithlu Nazareth nos hu, o dan lywyddiaeth Mr. D. Lloyd Griffith. Cymerwyd rhan mewn adrodd a chanu gan Teddy Lewis, John Thomas Williams, David M. Lewis, Moses Lewis, Annie Jcnes, Minnie Evans, Jane Ellen Jones, Olwen A. Evans, a Lizzie Davies, Penlan, Cafwyd Unawd gan Mr. Henry Jones Richard. Prydnawn Iau diweddaf, yn Ysgoldy Gor- phwysfa, cynhaliwyd cyfarfod i ddathlu pan blwydd y Gymdeithasa ffurfiwyd i'r plant, er ccmeryd dyddordeb yn Nghymdeithas: plant amddifad Dr Barnardo. Y mae tua ugain wedi vmuno, arhoddwyd iddynt de rhigorol gan Lady Osmond Williams ac amryw foneddigesau eraill am yr ymdrech maent wedi eu wneyd y flwyddyn aeth heibio. Difyrwyd bwy a chwareuon ac a Phqnograph Lady Williams. Canwyd yo ystoc] y cyfarfod gan y rbai can- lynolKatie Pritchard, Nellie Jones, Ellen a Meinwen Williams Adroddwyd gan Hughie H. Jones, Y Bryn. Rhoddwyd aarhegion i'r plant ar derfyn y cyfarfod. Yr oedd y cyfarfod dan ofal y chwiorydd, Misses Owen a Roberts, Meirion House; Miss Deborah Jones, Mount Hazel; Mrs William Owen, Minffordd Mrs Dr Hughes, a Miss Ann Joifss, Mount Pleasant (Ysgrifenyddes). Hyderwn yr ymuna nifer fawr o'r plant eto i wneyd gwaith dros y Gymdeithas. i Dvdd Gwener diweddal, trwy drwydded yn Swyddfa'r Cofrestrydd, Portnmadoct yn mhires- enoldeb Mr J. Bennett Jones, unwyd Mr Robert Lloyd, Penlan, Penrhyn, a Miss Lizzie Pugh Jones, Church Street, Penrhyn. Y gwas, ydoedd Mr Owen E. Jones, Porthmadoc, a'r forwyn oedd Miss Alice A. Jones (chwaer y briodasfereh) Nos Fawrth diweddaf, cynhaliwyd Gobeithlu Carmel (A ) dan lywyddiaeth Mr Robert W. Davies. Cymerwyd rhan gan y rhai canlynol: mewn adrodd—Robert T. Evans, Willie Owen. Ellis D. Lewis, Lizzie E. Davies, Tommy Williams, Robert Owen, Ellen Jane Roberts; dadl gan Lizzie E. Davies a Lizzie E. Lloyd; mewn eanu-William D. Lewis, Annie Parry a J. Griffith, Winnie Jones a M. Giiffiths; Cor yr Aflwyd, May Williams, parti Willie Owen. Canodd y plant amryw weithiau dan arweiniad Mr Robert D. Roberts, a chafwyd gwers ar y Modulator, Dechreu yr wythnos hon, cyrhaeddodd Mr John Lloyd Williams, Penbryn View, a Mr Rhys Williams, Penbryn, gartref o'r America.
[No title]
Am brisiau Argraffwaith o bob desgrifiad ymofyner yn gyntaf yn Swyddfa'r Rhedegydd,, k I