Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

BWRDD GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.

MAENTWROQ. I

----PENRHYNDEUDRAETH -

ATEB I ANERCH

I YSGOLDY'R GARREGDDU.

I CYFLWYNEDIG-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I CYFLWYNEDIG I Mr Hugh Rowlands, 7, Summer Hill; Blaenau Ffestiniog, a Miss Williams, Bot- twnog, foreuddydd eu priodas yn Nghapel M.C., Rhydbacb, Rhagfyr 31, 1910. Mae hynt o fryniau Meirion I wastadeddau Lleyn I brydydd o'r mynyddoedd Yn destyn can ei hun. Ond wedi cyrhaedd yno I gylch yr all or lan, Mae'n ddigon hawdd i brydydd Gael testyn gloewach can. Nid annaturiol canu Mewn cylch o hedd mor wyn, Y gamp i gyd fai peidio Ar fore hardd fel hyn. Foregwaith dydd priodas Pwy warafuna gan Os bydd y pyrth yn loew v A'r fodrwy aur yn lan. Os gwa i beth yw enw < A theitl yr angel gwyn A'ch dygodd heb gyfeiliorn Bob cam i gylch lei hyn. Cyfrinach yw ei enw. Nis gwn am neb a'i gwyr, Pe holid byd am dano o fore gwyn hyd hwyr. Beth bynag yw ei enw Mae'r angel yn yr wyl, A'i fendith ar y fodrwy, A'i ras yn gloewi r hwyl. Pwy wyr na ddaeth di,eithriaid o bell j'r wyl ar hynt,— Daeth Iesu a'i ddisgyblion I'r wyl yn Nghana gynt. Pan ddaw Efe bydd gwyrthiau Llawenydd ar ei fio- 'Does neb ond Ef yn siarad Nes troi y dwfr yn win. 'Rwyn cofio'r briodasferch Flynyddoedd fu heb len Yn cychwyn gyrfa bywyd Wrth droed y Wyddfa wen. Mae llwybrau'r Wydddfa heddyw Yn wynion fel o'r blaen, A cbwithau'n aros hefyd A'ch enw'n wyn heb staen. Daeth y priodfab yma 0 drum y mynydd draw, A modrwy aur ysblenydd I Mary yn ei law. Mae'n ddolen aur ddihalog, Ddigraith, debygaf fi, Yn arwydd o'r cyfamod Sydd wedi'ch uno chwi, Ar law y biodasferch Boed iddi wisgo'n dda, A'r haul dywyno drosti Am fwy na deugain ha'. Os yw yr angel yma, Dymunaf arno'n wir, I gadw modrwy Mary Yn gyfan gyfnod hir. Tramwywch yn galonoe Yn mlaen dan nef ddilen, A llu fo'ch dyddiau llawen Ar fryniau Meirion wen. Yn croesi'r hen fynyddoedd, Os gwelwch gwmwl du, Ar aden ftydd ewch drwyddo I wres yr heulwen fry. Mae esgyn drwy'r cymylau Yr anian ffydd erioed- Gall lamu drwy'r wybrenau Heb ysgol dan ei throed. A'r cenad gwyn sydd yma Nas gwn ei enw'n iawn, A gadwo'ch ffydd yn loew 0 fore hvd brvdnawn. Tabernacl. R. R. MORRIS,

-FFESTINIOG.