Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

BWRDD GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.

MAENTWROQ. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MAENTWROQ. I IYR EGLWYS A CHWESTIYNAU CYMDEITH- ASOL.—Nos Fercher diweddaf, yn Gilgal, bu y Parch. Rhys Jones (W.), Ffestiniog, yn traddodi anerchiad rhagorol ar y testyn amafero!. Llywyddwyd yn ddoeth gan y Parch H. Ellis. Dyma'r ail o'r gyfres, y mae Undeb yr Ymneillduwyr wedi eu trefnu i'w cael yn ystod tymhor y gauaf. Er i'r tywydd droi yn anffafriol, daeth cynulliad da ynghyd, a chafwyd gwledd mewn gwirionedd gan Mr. Jones. Troedd ei ymdriniaeth ar y mater yn wir feistrolgar. Cynygiwyd a chefnogwyd diolchgarwch gwresocaf iddo am ei araeth gampus gen y Mri J. R Jones (Gerallt), a Joseph Lewis. Dechreuwyd y gwasanaeth drwy ddarl'en a gweddio yn hynod o bdodol gan Mr John Davies, Lodge. CYDYMDEIMLAD—Dymunwn ddatgan ein cydymdeimlad dyfnaf a Mr Thomas Roberts, Shop Isaf. yn ei brofedigaeth chwerw o golli ei anwyl fam, yr hyn a gymerodd le Rhagfyr 15fed, wedi cyrhaedd o honi yr oedran teg o 78 mlwydd. Gweddw, Mr Robert Roberts, gynt o'r Siamber Wen, Llanelidan, ydoedd, yr hwn a'i rhagflaenodd dros ugain mlynedd yn ol, a'r hwn a fu am Haws o flynyddoedd yn flaenor ffyddlawn yn eglwys y M.C. yn Llanelidan. Ar adeg ei marwolaeth arcsai y ymadawedig gyda'i mab-yn-nghyfraith a'i merch, Mr a:Mrs Evans, Maerdy Ucbaf, Gwyddelwern. Claddwyd ei gweddillion dydd LIun canlynol, yn mynwent y Methodistiaid Rhiw, ger Rhuthyn, Yn y ty. cyn cycbwyn, gwasanaeth- wyd gan y Parchn R. J. Jones. Llaneledan, a E, Edwards, Carrog. Wrth y bedd darllenodd Mr Edwards gyfran o'r Ysgrythyr, a gweadiodd Mr Davies, Wern Ddu, yn ddwys a gafaelgar. Wedi hyny, cynhaliwyd gwasanaeth angladdol ynycspel, dan lywyddiaeth y Parch R. J. Jones. Cymerwyd rhan gan y rhai canlynol, Mri John Jones, Segrwd, T. 0, Jones, U.H. Penvparc, Parch D. Jones (B.), Pandy'r Capel, a Mr Gomer Roberts, C.S.. Cefngriolen. Dygodd yr oil obonynt y dystiolasth uwchaf i ragoriaethau amlwg y ddiweddar Mrs Roberts. Yn mysg pethau eraill, dywedid, fod petbau crefydd yn cael .11e mawr yn ei meddwl a'i bywyd. Troed wedi ei chynysgaeddu a dynoljaeth dda. Byddai yn siriol a charedig gyda'i chymydogion, ac fel mam yn ei theulu yr oedd yn llanw ei chylch yn ffyddlon a gofalus. GwedBiodd lawer dros ei phlant, a gwnaeth ei goreu i roddi y cyfeiriad iawn iddynt mewn bywyd. Gofalai hefyd dros y gweision a'r morwynion fyddai yn ei gwasan- aeth. Troed ei chynghorion a dylanwad distaw ei bywyd yn dweyd er daioni arnvnt. Erys ei choffadwrlaeth yn fendigedig.

----PENRHYNDEUDRAETH -

ATEB I ANERCH

I YSGOLDY'R GARREGDDU.

I CYFLWYNEDIG-

-FFESTINIOG.