Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Y SYMUDIAD YMOSODOL.

EISTEDDFOD GADEIRIOLI ANIBVNWlfR…

Advertising

Gwobrwyo yn Ysgolion Elfenoi…

Nod Angen Oymdeithas ---Lenyddol.---

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nod Angen Oymdeithas Lenyddol. Darllen lIawer-yn dda. Yr wyf yn rhoi hyn yn olaf, nid am fy mod yn ei ystyried yn beth i ddilyn ysgrifennu a siarad, ond am fy mod yn ei ystyried y peth mwyaf ei bwys i aelodau cymdeithas lenyddol. Heb gymeryd cryn lawer o wrtaith llyfrau i mewn i r meddwl, fydd dim llawer o raen nallewyrch ar ddim ddaw o hono, mwy nag a fydd ar ffrwyth maes heb roddi i'r maes wrtaith materol. Ac heb sylwi, a sylwi llawer, a'r dduUiau meddyliau'r meistriaid llenyddol, ddaw byth lun da ar ffurfiau meddyliau ysgrifenedig nen lafaredig rhai yn dysgu. Nid drwy efrydu gramadeg y daeth Robert Louis Stevenson i j fedru ysgrifennu mor rasnus a phrydferth, meddai ef ei hun, ond drwy ddarllen gweithiau awduron da, a chraffu ar eu harddull, a dysgu llawer darn o honynt: a dyma'r gwir am bawb arall a ddaeth ae a ddaw i fedru ysgrif- ennu'n dda. Sylwi ar ddull y meistriaid," ebe John Morley—" craffu ar yr engreifftiau mawr." "Mae Uyfrgell dda yn athrofa wirioneddol." ebe Thomas Carlyle, ac eraill: ond fydd y Uyfrgell oreu ddim yn athrofa, nac yn dddim arall o werth mawr, heb wneyd defnydd o honi. 'Roedd Paxton Hood gyda eblyfaill yn llyfrgell gwr enwog un tro, gwr wedi gwneyd gwaith mawr," ac enw mawr iddo'i hun; ac ebe cyfaill, "Dim rhyfedd i hwn fod wedi dyfod i fod yr hyn ydyw Ond fel v dywedodd Paxton Hood, fe allasai fod ami un arall pur wahanol yn y cwmpasoedd yn meddu llyfrgell gystal a gwell: y mae llawer un yn meddu ei gwell, mae'n debyg. heb ddyfod yn ddim byd tebyg i'r gwr hwnw. Nid meddu arfau a wna gelfyddydwr, ond dysgu eu defnyddip ond rhaid i'r celfyddydwr wrth arfau a rhaid i'r sawl a ddelo'n gelfydd mewn meddwl a mynegi wrth lyfrau. Ty tlawd yw ty heb lyfrau, beth bynag arall fydd ynddo. Tlawd yw y plant a fegir mewn ty felly, er pob cyfoeth materol; a thlawd a fyddant wedi tyfu yn ddynion a merched. Nis gellir dyn goleuedig, uchel ei fwynhad a ffrwythlon ei feddwl, heb gael o hono flas ar ddarllen. Yr wyf yn cofio gweled Mark Pattison yn cwyno'n dosturiol, mewn rhyw lyfr neu bapur, wrth son am fycbander bil y ilyfrwerthwr yn llawer o gartrefi'r deyrnas. yma,-eartrefi a biliau am gant a mwy o bethau dianghenrhaid a dibwrpas yn heidio iddynt. A wnaiff y rhai y perthyn iddynt o ddarllenwyr hyn o ysgrif feddwl am y gwyn hon—ac yn enwedig y rhai sydd yn perthyn i gymdeithasau llenyddol ?-O'r Geninen, --prif gyhocddiad y genedl.

IGyfarfod Llenyddol a Cherddorol…

I Chwedlau am Robin Ddu -Eryri.

I MINFFORDD.

Advertising