Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Y SYMUDIAD YMOSODOL.

EISTEDDFOD GADEIRIOLI ANIBVNWlfR…

Advertising

Gwobrwyo yn Ysgolion Elfenoi…

Nod Angen Oymdeithas ---Lenyddol.---

IGyfarfod Llenyddol a Cherddorol…

I Chwedlau am Robin Ddu -Eryri.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Chwedlau am Robin Ddu Eryri. Credaf y gellir ymddiried mwy yn nilysrwydd yr hanesyn canlynol :-Yr oedd Robin yn areithio ar Ddirwest yn rhyw gwr o'r Deneudir. Cawsai weUII hwyl nac arferol. Ar y diwedd, cododd y cadeirydd (tiPYD o gnal, gellid meddwl) i gynyg diolcbgarwch a dywedai ei bod yr araith oreu a glywodd ef erioed ar Ddirwest. Credai ei bod wedi argyhoeddi pawb (yna gostyngoddi ei lais, trodd at y darlithydd, gan sibrwd) ond Robin ei hun." Digiodd y bardd yn arswydes wrth y dyn am ei haerllugtlwydd. Yr oedd y Bardd Du yn areithio ar Ddirwest yn Llangollen; ac ar y diwedd awgrymcdd hwyrach y gwnaent dipyn o gasgliad iddo tuag at dalu'r tren a Hetty. Gofynodd os byddai rywun cystal a myn'd a'r ladsn oddeutu. Edrych braidd yn ddiflas yr oejd y dyrfa ar y casgliad, ac amryw yn llecbian allan. O'r diwedd cynygiodd y diweddar Mr Richard Griffith (brawd Y Gohebydd ") sefyll wrth y drws i dderbyn eu bewyllys da. Na, os ewch chwi at y drws, Mr Griffith," ebe Robin Ddu. "fe a'r bobl yma allan trwy'r ffenest! Ebe ef, wrth areithio ar Ddirwest, un tro, yn Mangor: "Chewch chwi byth fawr o chwanegiad at eich gwybodaeth mewn ty tafarn. Cyn i mi ymuno a dirwest, yr oeddwn gyda chyfaill yn cael haner peiut mewn tafarndy yn Nghaernarfon acw a dyma hen wreigan i mewn i ymofyn ceiniogwerth o furym. Diar anwyl Beti Huws,' ebe'r dafarnwraig, 'ydech chi'n mendio yn o dda? Mi fuoch yn wael iawn, onido ? I Don wir, ebe'r hen wraig, 'mi fum yn wael iawn 'roeddwn i'n meddwl ya siwr, Mrs Jones bach, 'mod i'n myn'd i dragwyddoldeb.' Wedi iddi droi ei chefn, ebe'r dafarnwraig wrthym, Glywsoch chi'r hen greduras yna yn son am dragwyddoldeb ? Dyn 'styrio deiff hi fwy i dragwyddoldeb nag yr a ina!' 'Tewch, da chwi, mam, ebe'r ferch mae mam yn meddwl. welwch chi. nad oes ond un tragwyddoldeb,—O'r Geninen, Cyhoeddiad Ceuedlaethol,

I MINFFORDD.

Advertising