Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dywed Saun iter's Newsletter ar awdurdod ddi- ammheuol," fod Stephens wedi cyrhaedd i Paris. ac mai Galway oedd y porthladd o'r hwn y diangodd. Gwelir adar to yn awr yn lieolydd Ballarat, gan ei bod yn yraddangos foil yr hinsawdd yn dygymmod ^'u cyfansoddiad. Y mae Deddfwneuthurfa Ohio wedi pasiocyfraith yn sefydlu wyth awr yn ddiwrnod gwaith, trwy bleid- lais o 70 yn erbyn 14.. Dywed y Scotsman fod y Davenports, y rhai sydd yn bresennol yn cvflawni eu campau yn Edinburg, wedi ymwrthod a'u honiadau fel "cyfryDgau," ac wedi cyfaddef mai twyllivyr ydynt. Mae y London and North Western Railway Com- pany yti awr yn gwneyd cerbydau newyddion, gydag ystafelloedd ynddynt i ysmoeio, a lie arall i yfed coffi. Yn mrawdlys Stafford, dydd Mercher diweddaf, dedfrydwyd George Bentley, llafurwr, i gatl ei grogi yn mis Ion- am lofruddio John Pool, yn Ecelesliail, yn mis lon- awr diweddaf. Ymddengys oddi wrth adroddisd swyddol y Uyw- odraeth fod 14,283 wedi eu rhestru yn iIlwyr yn 1863-64; diffyg o 3,387; enoiliodd 3,014. Y nifer a enciliodd yn 1864- 65 oedd 3,144. Dychwelwyd Mr. Eckerglsv, yr ymgeisydil Tory- aidd droa Wigan, trwy fwyafrif o 411 o blaidleisiau yu erbyu 349. Priodolir aflwyddiant yr ymgeisydd Rhyddfrydig, Mr. Lancaster, i ddylanwad gwrth- wynebol teulu Crawford, y rhai sydd yn edrych ar Wiganfel bwrdeisdref llogell. Y mae y Hong genbadol John Wesley wedi mynod yn ddrylliau yn morgilfach Tonga. Cymmerodd y digwyddiad le yn niis Tachwedd diweddaf, pan oedd y Hong yn dwyn amryw genhadcn, rhai o'r rhai a ganlynid gan eu gwragedd, i gyfarfod dos- liarth yn Nukualofa, y brif orsaf yn ynys Tongata- bu. Ni chollodd neb ei fywyd. A/tafaeliad BeiVlalI yn Rlttiftiiii.-Dyniunwyd ar ohebydd y Morning Herald wrthddyweyd yr adrodd- iad a gyhoeddwyd gan Mr. Odo liussell o barth i attafaeliad Beiblal1 yn Rhufain. Dywed yr ysgrifen- ydd uchod—" Os dygwyd nifer mawr o'r cyfleithiad Italaidd Protestanaidd i mewn, y mae y cyfryw betli yn dra thebygol; ond y mae y cyfieithiad Seisnig at wasanaeth personol i'w gael yn mhob ty yn Ehufain, Pabaidd a Phrotestanaidd—ac ni ddangosir un gwnthwynebiad iddo. Gyda golwg ar lawddrylliau, gall unrhyw ddyn dieithr gadw un trwy genad aw- durdodau Ffraingc. Ni welais un erioed yn cael ei attafaelu, oddi eithr oddi ar bersonau drwgdybus; ao y owe yr adroddiad mor faleisus ag ydyw o an- wireddus.

Advertising

GARIBALDI ITALY AT GARIBALDI…