Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

BANGOR A'I IIELYNTION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BANGOR A'I IIELYNTION. Y Darlleniadau Ceiniog.—Yr ydym ni yn Ifangor yma yn cael ein digoni a cbyfarfodydd pleserus. Cynnaliwyd y Darllcniadau Ceiniog nos Fawrth di- weddaf yn y Penrhyn Hall. Yr oedd yr ystafell eang wedi ei gorlenwi; ac v mae yn dda genyf allu dyweyd fod y cyfarfod wedi cael ei gario yn mlaen yn bur liryddiannus, a bod y dorf wedi cadw eu hunain yn dipyn llonyddach, nac y gwnaethant yn y cyfarfodydd blaenorol. Christy's Minstrels.—Y mae y 11 Cliristy's Mins- trels wedi bod yn talu ymweliad a'n dinas yr wytli- nos hon, Am 8 o'r gloch nos Ian, yr oedd yr Hall wedi ei llenwi gan foneddigion a boneddigesau parchusaf ein dinas. Canwyd amryw ddarnau yn gampus dros ben; ac yr oedd y program yn un hollol newydd. Gallwn ddyweyd na welsorn yr un cwm- peini o Christy's yn Mnngor mor lwyddiannus a'r cwmpeini yma, a gellir dyweyd mai hwy ydyw y rhai mwyaf llwyddiannus a fu yma etto. Yr ydym yn deall eu bod yn bwriadu rhoiidi performance arall heno (nos Sadwrn) etto. Swrdd Lleol.—Dydd Iau oedd y diwrnod a ben- nodwyd i ethol tri o foneddigion i fod yn aelodau yn y Bwrdd Lleol, yn lie y tri oedd yn myned allan. Enwau y boneddigion oedd yn myned allan ydyw Meistri G. Simpson, Meshach Roberts, a Thomas Lewis; ac ail etholwyd y tri. Mae yn ffaith nodedig fod pedwar allau 0 saith o aelodau y bwrdd yn Ym- neillduwyr; ac y mae hyn dipyn o ryfeddod mewn dinas mor glerigol a Bangor. Excursions.—Daeth y ddwy excursion gyntaf y flwyddyn hon i mewn i Bangor ddydd Gwener, un o Manchester ac un o Birkenhead a Liverpool. Yn ffortunus, yr oedd y tywydd yn deg, fel y gallodd Ilawer o lionynt weled Pontydd Menai,a manauereill o hynodrwydd o amgylch.

LLOFFION 0 DDYFFRYN ABERDAR.

-BETHESDA. - I

CYFARFOD CHWARTEROL ANNIBYNWYR…

I Y LLOFRUDDIAETH YN MOUNTAIN-ASH.

BRAWDLYS SIR FYNWY.

[No title]