Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

ODlIl WBTIT EIN GQIIEDYDD…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ODlIl WBTIT EIN GQIIEDYDD O'R DEIIECDIR). I Dydd Sadwrn, Ebrill y Zfed. Caerphili a'i rhagolygon. —Nid yw Caerpliili yn ddieithr yn banes hynafiaethol ein gwlad. a iawn genym fod Caerpliili a'r gymmydogaeth mewn cyf- lwr mor gynnyddfawr a gobeithiol yn bresennol. Agorir gweithiau glo ar raddfa helaeth yn mhob eyf- eiriad, ac felly tyra Iluoedd yma o weithwyr o wa- hanol raoau y wlad, Adeiledir niferi o dai newydd- ionyno; ond nid oes er hyny agos digon o dai i Syfknwi angenion y trigolion. Nid ydym un amser Yli caru gweled Ueoedd yn cynnyddu yn mhob ystyr ond mewn ystyr grefyddol. Nid ydyw Caerpliili felly; o blegid adeiledir capelau heirdd yn bresennol ar gyfer angenrheidiau eynnyddol yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Yr ydym yn llon-gyfarch y Parch. ])avid Richards, a'r Parch. T. E. Rowlands, ar y rliagolygon gobeithiol sydd o'u blaen. Dylai ou lieghvysi fod yn falch fod ganddynt weinidogion yn nieddu y fatli gymmeriadau mor ddisglaer, ae mor IVelthgar 0 blaid achosy Gwaredwr mawr. Cyliyd ag yr ii masnach a chrefydd yn mlaen megys law yn liaw mewn tref neu bentref, y mae llwyddiant par- liaol y He hwnw yn ddiogel. Dymunem ni o'u calon lwyddiant mawr i drigolion Caerpliili, yn fas "achol ac yn grefyddol. Ysgol Frytanuidd yn y Groeswen.-Cymmydogaetb wledig yw cymmydogaeth y Groeswen, er nad yw nemawr o ifordd oddijwrth gymmydogaethau gweith- 11,01 Poblogaidd. Trwy gydymdrech y prif-fardd taledfryn a'i eglwys barclius, y mae Yogol Frytan- aidd newydd ei eliychwyn yno, ac y mite dros dri- gain o blant ynddi eisoes, ae y mae yn cynnyddu II WythnoBol. Dcallwn fod Mrs. Caledfryn WiI- liams yn cymmeryl dyddordeb neiilduol yn yr ysgol. Yn wir, y mae Mrs. Williams yn fendith fawr i'r trigolion yn gyifredinol oddi ar ei dyfodiad i'r gymmydogaeth. Ayoriad Nazareth, Llwynhendy. Llwynhendy sydd gymmydogaeth boblog, ychydig dros dtlwy fill- dir o dref Llanelli ae Abertawe. Y mae yno achos gan y Bedyddwyr er's blynyddau, ae achos gan yr Annibynwyr ar y Bryn, tua banner milldir oddi yno. Yr oedd amryw Fethodistiaid yn y gymmydogaeth, ond yr oeddynt hyd yma dan yr angenrheidrwydd o fyned i dreii Llanelli neu Gastcll Lhvchwr, i addoli. Trwy ymdrechion nifer feelian o aclodau Capel New- ydd, Llanelli, adeiladwyd capel tlws a destlus gerilaw Llwynhendy, a chafoddei enwi yn Nazaretli. Agor- wyd ef dydd Sabbathadydd Llun Pasg, pany pregeth- wyd gan y Parchedigion B. 1). Thomas, Llandilo; D. Jenkins, Babell, Mynwy; T. Levi, Treforris; T. Walters,Cilycwm. Dangoswyd caredigrwydd mawr gan drigolion y gymmydogaetl^yn gyffredinol, mewn llettya dieithriaid. &c. Y mac ysgoldy eang o dan y capel, lie y bwriedir cynnal yr Ysgol Sabbathol, yr hyn sydd gynllun y dylid ei ddilyn yn mhob man. Cafwyd oedfaon hwylus, a chasglwyd yn haelionus at dalu dyled y capel. Dylem grybwyll i dros gan punt gael eu casglu yr haf diweddaf at y capel hwn fel cynnyrch dau gyngherdd gan Miss Watts. Ein dymUDiad ni ydyw ar i'r fechan fyned yn fil, a'r wael yn genedl gref." Robert Coe, y Iloft-udd.-Nid oes diwedd ar yr anwir- eddau a dacnir rnewn perthynas i gyffesiad y dyn ieu- angc anffodus uchod. Cyhoeddwyd yn y Daily Leader ddydd Mawrth diweddaf, ei fod wedi cyffesu ei euogrwydd wrth gaplan y carchar, y Parch. E. G. Williams. Dywedid fod Coe wedi dyweyd iddo fyned i yrnladd a J. Davies, y llofruddiedig, nos Sadwrn; ei daTaw i lawr, a'i gieio lies ydoedd yn credu ei fod wedi ei ladd; yna ei adael, gan ddychwelyd i'r man y nos Lun ganlynol, a chael allan nad oedd y truan yn liollol farw, ac iddo dori ymaith ei ben oddi ar ei gorph, a'i daflu gcrfydd ei wallt am bell- der oddi wrth ei gorph. Cynnaliwyd brawdlys clnvarterol Abertawe ddydd Mawrth, yn Abertawe, a galwodd un o'r ynadon sylw at yr hyn a gyhoedd- wyd yn y Daily Leader y boreu hwnw. Yr oedd ceidwad y carchar Yll digwydd bod yn bresennol yn y llysdy ar y pryd, a gofynwyd iddo ai gwir fod Coe wedi cyffesu. Attebodd nad oedd y sail leiaf i'r chwedl. Ysgrifenodd y Parch. E. G. Williams i'r Leader boreu dranoeth i ddyweyd mai anwiredd noeth oedd chwedl y cyffesiad, a ehyhoeddwyd ei 'ythyr; ond dywedai y golygydd fod y person a ddanfonodd yr hanes iddo wedi ei gael oddi wrth bersonau y gallasai ymddibyiiu ar eu geirwiredd. Daeth y si allan fod Coe yn yfed gormadedd o wir- odydd poethion; ond ymddengys yn awr fod hyny hefyd yn anwiredd. Deallwii ei fod yu darllen yr Ysgrythyrauyn ddyddiol, ac yn gwneyd ei eithaf i barotoi ei hun ar gyfer ei dynged druenus. Y mae i gael ei grogi ddydd Iau nesaf. Caredigrwydd i ddeiliaid gweithdy Undeb Lhnelli.— Trwy garedigrwydd Mrs. Stepney, boneddiges y Milwriad Stepney, yr hon sydd yn bresennol yn Llundain, cafodd deiliaid gweithdy Llanelli giniaw ysblenydd o gig eidion a plum pudding ddydd Llun y Pasg diweddaf. Ar ol einiaw, cafodd y plant a'r ben bobl ddigonedd o eurafalau, myglys, trcwlwch, &c. Yr oedd Mr. Thomas Thomas, Tymclyn Inn, yn bresennol yn arddangos Mrs. Stepney, a cliyn- northwywyd i wneyd yr oil yn ddedwyddgan Mr. a Mrs. Jones, Mr. W. George, a Miss Evans. Cawsant oil yn y prydnawn de fel arferol, a digonedd o "hot crosS buns" ar draul Mrs. Charles William Nevill, Westfa, boneddiges C. W. Nevill, Ysw. Er fod Mrs. Stepney yn absennol o Lanelli er's misoedd bellacli. nid anghofiodd dlodion y gweithdy. Capel y Methodistiaid Cafinaidd y/i Mhontyrynys- weit.-Deallwn fod cweryl annymunol yn bresennol mewn perthynas i lease capel y Methodistiaid yn y lie 'uchod. Myntumia perchenog y Or nad yw y lease a roddwyd gan ei dad i ymddiriedolwyr y capel o un gwerth, o blegid, medd efe, nad oedd gan ei dad hawl i roddi y gyfryw lease. Trueni mawr fod eweryl rhwng personau am berchenogaeth ty perch- enog holl gyrau y ddaear." Nid oes derfyn ar blentyneiddiwch a ffolineb plant dynion. Yr Ar- glwydd a chwardd am ben y fath Ifwlbri. Khoddwn chwaneg o fanylion ar y mater yn fuan. Cyfarfod Diuiygiad Seneddol yn Llanelli,—Cynnal- iwyd cyfarfod hynod boblogaidd a gwresog yn Llan- elli neithiwr o blaid mesur Diwygiadol y lly wodraeth. Cymmerwyd y gadair gan y Milwriad Stepney. Pasiwyd penderfyniadau cefnogol i'r mesur yn ystod y cyfarfod, a chymmerwyd rlian yn y eyfarfod gan C. W. Nevill, Ysw.; J. II. Rees, Ysw.; Parchn. D. ltees, a D. M. Evans; J. Buckley,'Ysw,; J. Thomas, Ysw.; Dr. Norton, Mr. David Thomas (Dewi Elli); Dr. Lewis, a Mr. Warren. Yr oedd W. Morris, Ysw. A. S. yn bresennol, ae anerchodd y eyfarfod mewn araeth ragorol. Yr oedd yr areithiau yn hynod alluog, yn neillduol eiddo y Parch. D. M. Evans a Dewi Elli, ac yr oedd y Milwriad Stepney yn ei hwyliau goreu. Yr oedd y cyfarfod hwn yn Ilwyddiant per- ffaith yn mhob ystyr o'r dechreu i'r diwedd, ac yn glod mawr i dref Llanelli. Drylliad berwedydd ger Abertawe.-Drylliodd ber- wedydd prydnawn dydd Mercher diweddaf, yn ngwaith Alcan Cwmfelin, ger Abertawe, trwy yr hwn y cafodd pump o ddynion eulladd, Ni wyddys beth oedd yr achos i'r berwedydd ddryllio, ond diau y deuir o hyd i'r gwir aclios ar y trenglioliad, yr hwn sydd wedi ei agor o flaen Edward Stride, Ysw, Yr Eisteddfod Genhedlaethol am 1867.-Y niae pob argoelion yn awr mai yn Nghaerfyrddin y cynnelir yr Eisteddfod Genhedlaetliol y flwyddyn nesaf. Cyn- naliwyd cyfarfod cyfrifol yn Llysdy y Dref, nos Iau diweddaf, i'r diben o ystyried y priodoideb o ddeisebu Cynghor yr Eisteddfod gyda golwg ar gael yr eis- teddfod i Gaerfyrddin y flwyddyn nesaf. Cymmer- wyd y gadair gan William Morris, Ysw., A. S., a ebynimerw, yd rhan yn y cyfarfod gan yr Archddia- con Williams, y Parchn. Latimer Jones, Thomas Lewis, Reol y prior; John Thomas (leuan Morgan- y Dr. Nicholas, Dr. Lewis, a W. Morris (Gwilym T?we') Abertawe. Penderfynwyd deisebu y Gyng- lior ar y mater, a phennodwyd Mr. Edward Joseph, ?W?iam Thomas (Gwilym Mai) yn ysgnfen- yddin anrhydedus. ssrt amrywiol syh?dau pwrpasol gan GWllym Tawe yn ei araeth. Un gen- ??XtSdKw Gwilym. a theimla ddyddor- d??awr y?yddiant yr Ei.teddiod Genhedi. aethol. Marwolaeth Mr. Phillip Mainwuriitg, Llanelli.- Drwg genym gofnudi marwolaeth yr hen dad yn yr efengyl, Mr. Phillip Mainwaring, Caedubacli, Llan- elli. B it fariv yji I led dd isymivtli dydd Lluii diwed d- af, a'i bwys ar ei Anwylyd. Bu yn aelod gyda'r An- nibynwyr am flyiiyddau lawer, a liarddodd ffyrdd sancteiddrwydd. Yr oedd efe yn perthyn i'r dos- bartii hwnw o Gristionogion a adnabyddir wrth yr enw Gristionogion distaw." Glan Alun wedi marw.—Fstn oeddwn ar ddanfon y Ilytliyr liwii i'r Ilytiiyrdy, d ietli eiii eyf,.till Gwil- ym Tawe i fewn atom, a'i ddagrau yn gwlychu ei ruddiau; a chyn i ni allu siglo dwylaw, gwaeddodd allan, Gohebydd anwyl, wyddost ti pwy sydd wedi niarw ? Glan Alun, fachgen." Yr oedd newydd we'ed y EANER. a'r peth cyntaf a ddarllenodd ynddi oedd hanes marwolaeth Glan Alun. Eisteddodd i lawr, a (lyivedodd There's one of my bosom friends gone. He was a clever fellow, Gohebydd, and a true friend." Y mae hiraeth mawr yn mysg llenorion y Deheudir ar ol y galluog Glan Alun.

CYFLWYNIAD TYSTEB GAN YR IFORIAID…

Family Notices

I LLANUWCBLLYN.

I UNDEB CERDDOROL DIRWESTWYR…

[No title]

gifjwjjtlfliHto r Hfjjtlww.