Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

22 erthygl ar y dudalen hon

NOTES AND COMMENTS.

PEMBROKE DOCK.

------PEMBROKE.

.NEYLAND.

Advertising

AN EAGLE SHOT.

Advertising

FISHCUARD.\1

COODWICK.

---SOLVA-

ST. DAVIDS.

NEWTON.

Dmis Old Age Pensioner Dead.

Advertising

---'''--WOODSTOCK,I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WOODSTOCK, I Arferiad blynyddol gan ysgolion Sabbothol Woodstock, Dreamlod, a Walton yw difrifgadw'r Nadolig trwy ymgyunull i un o'r mannau uchod i adrodd Pwnc a chanu mawl. Cynhaliwyd y cwrdd eleni yn Woodstock, a chan fod yr hun mor ffafriol daeth yr ysgolion a llawer o wrandawyr yn nghyd mewn rhif lluosog. Dech- reuwyd oedfa'r boreu gan ysgol Woodstock yn adrodd y deg gorchymyn fel pennod o flaen y Pwnc; yna arweinwyd mewn gweddi gan y Parch. R. Thomas, Greenfield, yr hwn hefyd oedd yn arholi yr ysgolion. Adroddodd y plant gyfran o'r holwyddoreg a chanu dwy don yn ddestlus iawn dan arweiniad Mr. Thomas, Wallis. Adroddwyd y rhan flaenaf o'r ddegfed bennod o'r Hyfforddwr, am y Gyfraith, gan yr ysgol, a cafwyd datganiad da ar yr anthem, "Pwy welaf o Edom yn dod," gan y cor, dan arweiniad Mr. Thomas etto, a priodol yw nodi, gan mae dyma y tro cyntaf iddo ddod allan fel arweinydd y cor mawr, ei fod wedi gwneyd e1 waith yn odidog. Adroddodd ysgol Dreamlod yr ail rhan o'r bennod uchod, ac yr oedd atebion i'r gofynion yn barod iawn, ac yn foddhaol. Canodd y plant dwy don dan arweiniad y cer. ddor adnabyddus, Mr. W. J. Bateman, Myrtle House, Dreamlod. Ysgol Walton yn olaf, ac adroddodd y pedwerydd bennod o'r Hyfforddwr, am Berson Crist, a'r Cyfammod Gras. Canodd y plant dwy don a'r cor mawr anthem dan yr arweinydd medrus, Mr. George Jenkins, Marble Hall. Wedi cael ychydig gynghorion amserol gan y Parch. J. Morris, Llanstephan, gorphen- odd y cwrdd boreu trwy weddi. Yn y prydnawn cafodd plant ysgol Woodstock "tea party," a credaf fod y rhai oedd yn bresenol wedi gwneyd eu rhan i'r pethau da a danteithiol oedd wedi cael eu parattoi ar eu cyfer. Gweinyddwyd ar y bwrddau gan Mrs. Evans, Woodstock, Miss Devonald, Bank House; Mrs. Lewis, Henner; Miss Phillips, Woodstock; Miss Llewellin, Woodstock; Miss Lewis, Woodstock; Miss Brown, Greenfield; Mrs. Owens, Wallis; Mrs- Adams, Bigas; a gwnaethant eu gorchwyl yn anrhydeddus ac yn rhwydd. Yn yr hwyr trs. ddodwyd darlith gan y Parch. J. Morris, Peny- graig. Llanstephan, ar y testyn, "Y tri llanc yn Babylon." Llywyddwyd gan y Parch. R. Thomas yn absenoldeb J. Harries, Esw., C.C., Southfield. Cafwyd darlith dda, ac yr oedd y gwrandawiad cafodd y darlithydd gan y nifer mawr oedd yn bresenol yn brawf eglur o'u cym- meradwyaeth. Mae Mr. Morris yn adnabvddus fel pregethwr, fel darlithydd, ac fel cofiantydd, ac felly nid rhyfedd ein bod wedi cael cystal darlith ar y Tri Llanc dewr. Wedi talu y pleid- leisiau o ddiolchgarwch i'r darlithydd a'r cad- eirydd gan Mr. Lewis Herne a Mr. Bateman, Morvil, terfynwyd y cwrdd trwy ganu emyn a gweddi gan y Parch. B. Thomas. Digon yw dweyd ein bod wedi treulio y dydd yn hynod ddedwydd yn eu plith, a chiedaf eu bod i gyd yn teimlo mae "da oedd bod yno," a dywedaf "Melus moes etto" yn fuan.

CLARBESTON ROAD NOTES.

. FOOTBALL.

HAVERFORDWEST QUARTER SEiSluNS.

ST. NICHOLAS.

Advertising

[No title]

Family Notices