Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
Y CYNNWYSIAD. I
Y CYNNWYSIAD. Digwyddiadau. 1 y Senedd |i TroseddMaD?mweimau 2 pwy Ddamwain Arswydus ar y Ffordd Haiarn 3 YrOlrheiuiwr 3 Genedigaethau, &e..n It' .n ,n *J PrifErthyglM 4 Newy(ldion Cymreig Cymmanfa fierddorol Undeb Ysgolion Sabbothol Annibynwyr Gogleddbarth Fflint 5 Arddangosfa Amae thyddol Siroedd Dinbych a Ffiint 5 Llanbedr-pont-Stephan 5 Caernarfon 6 Barddoniaeth Afarchnadoedd 6 Gohebiaethau 7 Hysbysiadau
[No title]
DYWEDAI y Daily News am ddydd Llun diweddaf, wrth gyfeirio at ragolygon y cynhauaf, fod y gwlawogydd eisoes wedi gwywo i raddau y gobeithion a goleddid ychydig wythnosau yn ol am gynhauaf tor- eithiog, a'i fod yn dyfod yn gwestiwn o bwys erbyn hyn a waredir y cnydau sydd yn awr ar y meusydd. Dywed nad oes yn awr obaith am guwd mawr o rawn, y cwestiwn sydd yn cyflwyno ei hun i sylw ydyw, a ellir dyfod yn agos i'r cyfartaledd. Mewn amryw biirthau o'r wlad yn ddiau y mae yn rhwym o fod dan y cyfartaledd; ond y mae yn ym- ddangos fod rhai dosbarthiadau eraill ag y mae yn bossibl y ceir mwy na'r cyfartaledd. Yn siroedd canoldirol Lloegr, ac mewn am- ryw bartbau eraill, y mae y gwenith a'r haidd wedi eu curo i lawr fel pe byddairoller wedi ei dynu drostynt. Pe ceid gwynt sych a heulwen cynnes, pa fodd bynag, gwnai lawer o ddaioni i'r yd sydd yn y sefyllfa yma; ond y mae yr ystormydd mynych o wlaw a geir yn gwrthweithio dylanwad y gwynt a'r haul, ac y mae lie cryf i ofni fod y grawn yn gorfod dioddef yn llymdost. Yn ffodus, nid oes lawn cymmaint o wlaw, ac y mae mwy o haul nag oedd yn haf 1879 ac nid ydym, er pob peth, yn disgwyl gweled cymmaint o fethiant eleni a'r Ilynedd. Y mae y tywydd ysblenydd a gafwyd y dyddiau diweddaf, pa fodd bynag, wedi gwneyd cyfnewidiad mawr yn y cnydau, ac erbyn hyn y mae y gobeith- ion yn cryfhau y ceir cynhaaaf rhagorol etto.
[No title]
Digwyddodd damwain ddychrynllyd i'r gerbydres a elwir y Flying Scotclbman-y tien cyflymaf sydd yn rhedeg rhwng Edin- burgh a Llundain-boreu ddydd Mawrth di- weddaf. Fel yr oedd yn nesau at Berwick tua thair milldir oddi wrth y dref hono gadaw- odd y peiriant y rheiliau yn sydyn, a rhedodd yn erbyn yr amglawdd. Gwnaed y cerbydau gan mwyaf yn ddrylliau man. Lladdwyd gyriedydd y peiriant, y tanwr, ac un o war- cheidwaid y tren; ac er fod llawer o'r teithwyr wedi eu niweidio yn dost, credir nad yw eu niweidiau o nodwedd beryglus.
[No title]
Ni dderbyniodd y cynnygiad a ddygwyd yn mlaen gan Mr. ARTHUR ARNOLD yn Nhy y Cyffredin, nos Wener diweddaf, yn mherth- ynas i'r attalfeydd a roddir ar ffordd dadfor- iad anifeiliaid tramor i'r wlad hon, ond ugain o gefnogwyr. Gwrthwynebid ef yn bender- fynol gan y Llywodraeth. Ar ol y ddadl bu rhaviiad ar y penderfyniad, a gwrthodwyd ef gan fwyafrif o 174. Dywed y Times, wrth syhvi ar y ddadl, fod araeth Mr. MUNDELLA yu erbvn y cynnygiad ya anattebadwy.
[No title]
Mewn canlyniad i benderfyniad y Canghell- lys yn yr Iwerddon, y mae y swm blynyddol o tua phymtheg punt ar hugain i'w rhoddi mewn ymddiriedaeth i'r Athrofa Frenhinol Wyddelig er sefydlu proffeswriaeth i'r leithoedd Celtaidd." Y mae y swm hwn yn ddoilliedig o drysorfa a gasglwyd er coff- adwriaeth am y diweddar Barch. JAMES TODD, D. D., awdwr Hanes Bywyd Sant Paddy, &c. Yn ol trefniad y Canghell-lys y mae y proffeswyv i gael eu pennodi ar wahanol adegau gan yr athrofa, i ddarlithio ar 1yngciau gosodedig iddynt yn dal cyssyllt- iad a'r leithoedd Celtaidd. Ymddengys fod rhai o'r tanysgrifwyr i'r drysorfa yn ystyried fod y swm yn rhy fychan i sefydlu proffeswr- iaeth, wrth feddwl beth sydd wedi ei wneyd mewn cyssylltiad a hyn yn Ysgotland ac yn Rhydychain, ac o blegid hyny yn dymuno gweled yr arian yn cael eu defnyddio i'r dyben o gyhoeddi llawysgrifau Gwyddelig gwerth- fawr, i'w cyflwyno i'r llyfrgelloedd cyhoeddus er coffadwriaeth am Dr. TODD.
[No title]
Dywed un o newyddiaduron Leipsic fod dadl wedi codi rhwng Awstria a Lloegr yn mherthynas i gwestiwn o fordwyad y Danube. Y mae Awstria wedi cynnyg i'r Ddirprwy- aeth Ddanubaidd, fod dirprwyaeth barhaol o'r talaethau y mae yr afon yn rhedeg drwyddynt, o dan ei llywyddiaeth hi, yn cael ei ffurfio; er llywodraethu mordwyad yr afon rhwng Galatz a'r Pyrth Haiarn. Gwrthwynebwyd hyn gan Brydain. Ond y mae Awstria yn dadleu y dylai y ddirprwyaeth fod yn gyn- nwysedig yn unig o gynnrychiolwyr y tal- aethau y mae yr afon yn myned drwyddynt. Y mae Germany yn pleidio Awstria yn y peth hwn.
[No title]
Prydnawn Sadwrn diweddaf, fel yr oedd yr agerlong y Dunoon Castle yn nesau at Gour- ock, ar ei mordaith tua Glasgow, ac ar ei bwrdd tua saith gant o bleserdeithwyr, taraw- odd yn erbyn craig oedd yn guddiedig dan y dwfr, pan o ddeutu dau cant o latheni oddi wrth y lie i lanio, a dechreuodd suddo yn gyflym. Dygwyd hi, pa fodd bynag, i'r lanfa pan oedd o'r bron yn llawn o ddwfr. Fel y gallesid yn naturiol disgwyl, yr oedd y dychryn mwyaf yn ffynu yn mysg y mor- deithwyr, y rhai oeddynt yn cael eu gwneyd i fyny o athrawon ac ysgolheigion Ysgolion Sabbothol Bowling, a mwnwyr yn gweithio yn Dgweithydd gl6 Barrow a Higgens. Glan- iwyd hwy yn ddiogel oil. Gadawyd yr ager- long ar y traeth, ac wrth ei chwilio cafwyd fod twll mawr wedi ei wneyd ynddi gan y gwrthdarawiad yn erbyn y graig.
[No title]
Dywed gohebydd y Times o Gaer Cystenyn, fod Llywodraeth Twrci, heb aros am attebiad y Galluoedd, wedi dechreu dwyn yn mlaen ddiwygiadau yn Asia Leiaf, prif linellau pa rai sydd wedi eu gwneuthur yn hysbys i'r Llysgenhadon yn ddiweddar. Dywed yr un ysgrifenydd, hefyd :—" Nid ydyw y Sultan a'i Weinidogion, tra yn cydnabod difrifwch y sefyllfa i ryw raddau, mewn un modd mor ddychrynedig ag y gellid disgwyl iddynt fod; ac y maent yn parhau yn hyderus na bydd i unrhyw ganlyniadau difrifol ddilyn agwedd fygythiol y Galluoedd. Tybiant fod undeb Ewrop yn fwy mewn ymddangosiad nag ydyw mewn gwirionedd, ac y bydd hyny yn dyfod i'r golwg pan y cynnygir niesurau gorfodol." —————— «
[No title]
Y mae Miss IKGLE, nurse yn meddygdy Guy, Llundain, wedi ei chael yn euog o ddyn- laddiad, o herwydd ddarfod iddi, drwy esgeul- usdra, achosi marwolaeth un oedd dan drin- iaeth feddygol yn y meddygdy hwnw. Wrth ddychwelyd y rheithfarn euog, dadganodd y rheithwyr eu barn fod esgeulusdra mawr yn y peth hwn yn y sefydliad. Wrth gyhoeddi dedfryd ar y garchares, mynegodd y Barn- wr HAWKINS yr hyn sydd yn deimlad pur gyffredinol yn mherthynas i drefniadau mewnol y meddygdy. Wedi iddo feio y swyddogion meddygol am na buasent yn arol- ygu y nurses yn well, dywedai Mr. POLAND nad oedd llywodraethiad y nurses yn eu dwy- law hwy, attebodd y Barnwr, "Yn sicr y mae gan y swyddogion meddygol sydd yn gyfrifol am iechyd y rhai fyddo dan driniaeth feddygol yno ryw lywodrae' h dros y nurses." Nid oedd y Barnwr, y mae yn ymddangos, yn gyfarwydd yri y ddadl sydd wedi gwneyd cymmaint o drwst yn .1 ddiweddar. Y mae swyddogion meddygol Guy yn cwyno fod yr awdurdod hwn wedi ei ddwyn oddi arnynt. 0 dan y rheolau a ddaethant i rym yn ddiw- eddar, drwy gydsyniad llywodraethwyr y sefydliad, nid y meddygon ond y feistres (matron) sydd yn rheoli y nurses. T ywed y meddygon eu bod hwy wedi eu darostwng i weini ar y nurses, yn lie bod y nurses yn cael eu cyfarwyddo ganddynt hwy. Ymddengys fod Miss INGLE yn un o'r nursts sydd wedi ei dwyn yno gan y feistres dan y gyfundrefn newydd. Y mae Dr. MOXAR yn dyweyd mewn cyfeiriad at hyn, nad yw yn debyg y bydd y cyhoedd, sydd yn teimlo dyddordeb mewn rhyddid crefyddol, yn foddlawn i weled Meddygdy Guy yn cael ei wneyd yn beiriant bychan i ledaenu teimlad ac egwyddorioD Uchel Eglwysyddiaeth. Y mae yn ymddang- os fod a fyno hyn a'r gyfundrefn bresennol sydd mewn grym yno.
[No title]
Cynnaliwyd Cynnadledd flynyddol yr Home Rulers ddydd LIun diweddaf, yn New- castle. Yr oedd y Fwyllgor Gweithiol yn Llundain wedi cymmhell cenhadon i fod yn bresennol o wahanol barthau y deyrnas, a hysbysu fod Mr. PARNELL, A. S., y llywydd, i gymmeryd y gadair. Hysbyswyd hefyd y buasai Ilawer ereill o aelodau blaenllaw y blaid yn bresennol. Nid oedd end pedwar o aelodau seneddol yn bresennol, pa fodd byn- ag; sef y Meistri. PARNELL, BARRY, J. 0. KELLY, a NELSON. Cafodd Mr. PARNELL dderbyniad brwdfrydig. Yr oedd yn y gyn- nadledd liaws o gynnrychiolwyr o brif dref- ydd Lloegr. Yn mysg penderfyniadau ereill a fabwysiadwyd, yr oedd un yn cymmerad- wyo gwaith Cymdeithas Liverpool yn tori y cyssylltiad oedd rhyngddi a'r gangen ogledd- ddwyreiniol, aelodau yr hon oedd wedi rhoddi prawf o'u bradwriaeth drwy gefnogi ymgeis- iaeth Mr. PLIMSOLL, yn groes i benderfyniad y Pwyllgor Gweithiol. Beth yw meddwl y bobl hyn, pan yn condemnio rhai o'u cyd- genedl am wneyd eu goreu i attal un o'r sen- edd nas gallant ddisgwyl dim caredigrwydd i'r Iwerddon oddi ar ei law, a cheisio danfon un arall yno oedd yn wir gyfaill i'w gwlad, ac yn barod i wneuthur a allai er.ei chyn- northwyo yn ei chyfyngder. Y mae yn am- mhossibl peidio dyfod i benderfyniad, mai yr unig amcan sydd mewn golwg ganddynt ydyw cadw y cyffro yn fyw. Etholwyd Mr. PARNELL yn unfrydol yn llywydd am y flwyddyn nesaf, pryd y cynnelir y cyfarfod- ydd yn Glasgow.
[No title]
Ymddangosodd yr hyn a ganlyn yn y Daily Telegraph, ac nid yn fynych y ceir hanes rhyfpddach. Cafwyd corph Negro y dydd o'r blaen yn yr Afon Seine, ger Grenelle. Gyrwyd y dyn truan i gyflawni hunanladdiad gan eisieu; ac yr oedd wedi ysgrifenu i lawr ei ystori, a'i selio i fyny mewn bocs bychan, a diogelu y bocs wrth ei berson. Ymddengys oddi wrth ei adroddiad, fod ei dad yn benaeth Affricanaidd,yn talu gwarogaethi benaeth uwch o A byssinia, yr hwn, wedi codi mewn gwrth- ryfel yn erbyn yr uchbenaeth, a laddwyd mewn brwydr. Daliwyd ei ddau fab ef gan yr uchbenaeth-yr hynaf o ba rai oedd yr hwn a gyflawnodd yr hunallladdiad-ond II wyddas- ant i ddiangc. Tra yn crwydro yn rhos-dir- oedd Bar-el-Azrak, dringodd y mab hynaf i ben coeden, mewntrefn i gael golwg ar y wlad oddi amgylch ac wrth edrych o'i amgylch, gwelai fod sarph fawr wedi ymlapio am ei frawd, ac yn ei wasgu i farwolaeth. Wedi colli ei gydffoadur yn y dull dychrynllyd hwn, aeth yn mlaen ar draws y corsdiroedd am saith wythnos, o'r diwedd, cyrhaedd- odd i derfynau llywodraeth yr Aipht, lie y caf- odd dderbyniad caredig; ac wedi gorphwys yno dros ychydig ddyddiau, aeth yn nghwm- ni amryw filwyri Cairo. Darfu i'r Khedive, nid yn unig wneyd i fyny ei angenrheidiau ar y pryd, ond talodd draul ei daith o Alex- andria i Paris, lie, fel y sylwai yn doddedig yn ei ddyddlyfr, y tybiai y gallasai ennill ei! fywoliaeth; "ond,"meddefe, Ilymafelyn mhob man arall, y mae yn rhaid bod o ryw ddefn- ydd mewn trefn i fyw-ae nid wyf ii, ysyw- aeth, wedi dysgu dim. Gwell genyf, gan hyny, fel hyn, na threngu yn araf, a marw gan newyn.
[No title]
Darllenwyd telegramau swyddol o India! yn y ddau Dy o senedd ddydd Llun, er galw yn ol o Cabul gyda llawn gymmeradwyaeth y Cadfridog STFWART, a Mr. LEPEL GRIFFIX, y goruchwyliwr politicaidd gydâ'r fyddin yn Cabul. Ergwaduadroddiadauoeddwedieii taenu ar led ar y mater hwn, dywedodd Ar- dalydd HARTINGTON nad oedd y milwyr* yn cael eu galw o Cabul mewn canlyniad i'r gorchfygiad a fu ger Candahar, ond fod hyn wedi ei gynUunio er's amser maith gan y Llywodraetb, ac nis gellid dywedyd fod y fyddin Brydeinig yn ymgilio o wlad y gelyn ar ol cael ei gorchfygu, yn gymmaint a bod y cadfridogion ROBERTS a PHAYRE ar eu ffordd yn myned i gyfarfod y gelyn oedd wedi bod yn orchfygwr. Yn ol telegram a d derbyn- iwyd gan Reuter o Simla, nid oedd y gelyn wedi gwneuthur un ymosodiad ar Candahar i fyny hyd at y 5ed o'r mis hwn ond mynegid fod AYOOB KHAN wedi cyrhaedd i Koh Karan, pellder o bedair milldir oddi wrth y ddinas hono. Dydd Sul diweddaf, y cychwynodd y Cadfridog Roberts a'i fyddin ar eu hymdaith o Cabul i Candahar. Dywed Gohebydd y Times o Cabul mai y pellder oddi yno i Can- dahar yw 313 o filldiroedd, a bod Syr FREDERICK ROBERTS yn gobeithio y gall gyr- haedd yno mewn pump ar hugain o ddydd- iau.
[No title]
Dywed y Globe fod newyddion wedi eu derbyn, o Zanzibar yn hysbysu fod y Cadben CARTER a Mr. CADENHEAD, o'r Cwmni Bren- hinol Ymchwiliadol Belgiaidd, wedi eu llof- ruddio gan y penaeth WRAMBO, yn nghanol- barth Affrica. Hwyrach mai yr ysbeilydd mawr MERCAMBO a olygir, ond fod yr enw wedi ei newid wrth ddanfon yr hysbysrwydd gyda'r pellebyr.
[No title]
Y mae y Barnwyr LUSH a MANISTY wedi cyhoeddi eu dyfarniad ddydd Mawrth diwedd- af yn achos etholiad Sandwich, yn dadgan fod Mr. CAMPTON ROBERTS, yr aelod ceidwad- ol, wedi ei ddiseddu, ond yn gorchymyn fod pob ochr i dalu ei cifostsgi ei hun. Pender- fynai y Barnwyr fod y naill ochr a'r llall yn arfer llwgrwobrwyaeth i raddau helaeth, a bod enwau y goruchwylwyr a'r rhai a dderbynient y llwgrwobrwyon i gael eu hanfon i Lefarydd Ty y Cyffredin.
[No title]
Wrth gydnabod llwngcdestyn Ty yr Ar- glwyddi, mewn ciniaw cyhoeddus perthynol i Gwmni y Pysgwerthwyr, y dydd o'r blaen, dywedodd Arglwvdd DERBY, os oedd efe i farnu oddi wrth yr hyn a gymmerasai le yn Nhy yr Arglwyddi mewn cyssylltiad a Mesur Aflonyddwch yr Iwerddon, nad oedd ganddo- ef hawl i siarad ond dros leiafrif bychan o'r Ty hwnw. Nis gallai, pa fodd bynag, lai na meddwl nad oedd hyd yn oed yn mysg y mwyafrif yn Nhy y Cyffredin ryw frwdfryd- edd mawr dros y Mesur a daflwyd allan mor ddiseremoni gan yr Arglwyddi. Ni thybiai yr effeithiai hyn ddim ar berthynasau y ddau Dy. Yr oedd Ty yr Arglwyddi, medd efe, yn gyfansoddedig o ddynion a. chanddynt lawer iawn i'w golli, ac nid oeddynt yn dewis ei golli. Parai yr amgylchiadau hyn iddynt fod yn ochelgar wrth dderbyn syniadau a chynnygion newyddion; ond pan y gwelent fod llai o berygl cyhoeddus drwy dderbyn syniadau a chynnygion newyddion na thrwy eu gwrthod, a bod y dewisiad yn gorphwys rhwng rhoddi ffordd ar un Haw, a chythrwfl cyhoeddus ar y llall, hwy a dderbynient yn llawn y cyfryw gynnygion. Gan hyny, yr oedd efe yn beiddio meddwl, heb gymmeryd arno brophwydo-am, fel y dywedai, ei fod ef yn un o'r rhai a dybient nad oeddym yn sicr o ddim ond marwolaeth a threthi—nad oedd dim perygl nad elai y ddau Dy ya mlaen yn y dyfodol yr un mor unol ag yr aethent yn yr amser a aeth heibio. Gwelir fod Arglwydd DERBY yn cymmeryd golwg- obeithiol, na bydd i waith yr arglwyddi yn dyfod allan mor gryf a phenderfynoM wrth- wynebu yr hyn a gymmeradwyai Ty y Cy- ffredin effeithio dim ar y teimlad da sydd yn ffynu rhwng Ty y Cyffredin a hwythau, na rhwng y genedl a hwynt. Ond gall ei ar- glwyddiaeth gael ei siomi yn hyn. Y mae llawer o Byddfrydwyr y brif ddinas eisoes yn dechreu symmud yn mlaen mewn ffordd na bydd eu harglwyddiaethau yn edrych yn gymmeradwyol arno. Cynnaliwyd cyfarfod yn Llundain yr wythnos ddiweddaf, yn yr