Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

ISEFYLLFA TWRCI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SEFYLLFA TWRCI. Y MAE Twrci yn parhau yn destyn siarad a phryder i wladweinyddion Ewrop -ac yn debyg o barhau hefyd. Dydd lau diweddaf, gofynodd Mr. OTWAY yn JShy y Cyffredin i'r ls-ysgrifenydd Tramor, a oedd Llywodraeth y wlad hon wedi rhoddi ar ddeall i'r Llyw- odraeth hono, os byddai i'r Sultan gydsynio a gofynion Cynnadledd Berlin, a chyflwyno i allu arall feddiant o rai o dalaethau ei Ylll- lierodraeth, yr ymrwymai hi a'r Galluoedd Mawrion i sicrhau iddo feddiant o'r gwedd- ill o'i diriogaethau yn Ewrop 1 O'r braidd y mae yn rhaid dywedyd fod attebiad Syr CHARLES DILICE yn nacaol. Ond dywedodd yn mhellach, fod y Llywodraeth wedi derbyn cynnygiad o amryw leoedd-os bydd i'r Sul- tan gyttuno i gario allan yn llawn delerau Cynnadledd Berlin, y dadganai y Galluoedd Mawrion mewn ysgrifen nad oeddynt yn bwriadu galw ar Twrci i roddi i fyny rhagor o'i thiriogaethau. Nid oedd Llywodraeth ei Mawrhydi, meddai, yn teimlo gwrthwyneb- iad i hyn. Ond gellir edrych yn ammhetis, dybiem ni, ar y priodoldeb i'r Llywodraethau gofnodi dadganiad y gall amgylchiadau gvva- j lianol hollol yn y dyfodol eu gwneyd yn ddi- rym. Ac y mae cofnodi bwriad y galluoedd i beidio gofyn am chwaneg nag a hawlir gan Gynnad!edd Berlin, yn edrycli yn debyg i addefiad ar eu rhan, os byddai iddynt wystlo eu hunain drwy ymrwymiad pellach, eu bod yn debyg o fyned dros y terfynau o fewn pa rai yr oeddynt yn flaenorol wedi addaw ym- gadw. Pan yr arwyddasant delerau y Gyn- nadledd hono, y dybiaeth ydyw nad oeddynt yn bwriadu gofyn i Twrci am fwy nag a en- wyd yn y Cyttundeb. Os felly, o'r braidd y mae dim yn galw am i ymrwymiad arall gael ei wneyd i'r un perwyl; os nad ydynt yn tybied eu bod wedi darnio yr ymherodr- aeth hono yn dda: a clian fod y gofynion hyn yn dyfod ar ol y rhai a ganiatawyd eisoes, y byddai yn hawddach gan Twrci ganiatau y rhai diweddaf. Y mae yn ddigon tebyg fod y Sultan yn ofni fod yn mwriad y galluoedd ei ysbeilio o'i holl diriocaetbaii-ac o her- wydd ei fod yn ofni hyn, tybir, mae'n debyg, y bydd yn fwy parod i ymostwng, ond cael sicrwydd ysgrifenedig nad ydyw hyny mewn bwriad. Ond nid yn erbyn gelynion allanol yn gymmaint y mae arni eisieu ei diogelu. Y gelynion sydd yn ei bygwth ydyw annhrefn, annheyrngarwch, a dadfeiliad oddi mewn iddi. Hyd yn oed yn awr, y mae terfysg- oedd chwanegol yn ei bygwth. Y mae Albania—os nad ydyw eisoes mewn gwrth- ryfel-yn benderfynol, fel y tybir, o daflu ymaith iau y Sultan, a chyhoeddi ei hanni- bvniaeth. Nis gall y Galluoedd Ewropaidd roddi sicrwydd o ddiogelwch i Twrci yn er- byn gwrthryfel ar ran ei deiliaid. Ac ni byddai gwaith y Sultan yn cyflawni dymun- iad y galluoedd yn achos Montenegro, ac yn achos Groeg, yn gosod rhwymedigaeth ar y Galluoedd i ymyryd er cynnorthwyo Twrci i ddarostwng gwrthryfel yn mysg ei deiliaid Albanaidd:-a diamraheu na feddyliai un o honynt am gymmeryd y fath gwrs. A phe yr ewyllysiai Roumelia Ddwyreiniol a Bul- garia ymuno a'u gilydd i wrthryfela, nid oes neb yn meddwl y byddai y Galluoedd yn ystyried mai eu dyledswydd hwy fyddai dyfod allan i geisio eu hattal. Y peth doethaf y mae yn bossibl i Twrci ei wneyd dan yr amgylchiadau ydyw derbyn ar unwaith y telerau a osodwyd i lawr yn Berlin, ac ymosod yn ffyddlawn ar y gwaith o'u rlioddi mewn grym, a dwyn diwygiadau eang i mewn yn y dull y mae yr ymherodr- aeth yn cael ei llywodraethu.

MESUR Y CLADDEDIGAETHAU. I

TR A MOR.