Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

"ESGYMUNDOD Y METHODISTIAID."…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"ESGYMUNDOD Y METHODISTIAID." I FONEDDIOION, „ J.J „ Y mae eich erthyglau chwi ar •• jisgymuuuuu y Methodistiaid," yn MANER Gorphenaf Weg a'r 28ain; a llythyr Aelod ar yr un testyn yn MANER Awst 4ydd; a llythyr Pregethwr nodedig yn yr un FANEK, ar y "Dr. Edwards ar Saesnigaeth a Dic-Sion-Dafydd- laeth," wedi rhoddi i mi lawer o syndod a boddhad. Nid wyf yn synu dim at haerllugrwydd a thra-arglwydd- iaeth arweinwyr y Gymmanfa Fethodistaidd, ynghyd a'r gwangc anniwall a ddacgosant am ARIAN at y colemu, y gronfa, y fugeiliaeth, ao at Saesnigo y cyfun- deb, Sic. Canys yn gyffelyb y mae arweinwyr y cym- manfaoedd wedi arfer bod erioed, o'r gyntaf a gynnal. iwyd gan "y dyn pachod," "mab y golledigaeth," hyd Gymmanfa Dolgellau (gwel y "Cymmanfaoedd Cref- yddol" yn MANER Rhagfyr 31ain, 1879, a lonawr 7fed, y flwyddyn hon). Ond yr hyn sydd yn fy synu ydyw y byrbwylldra, a'r diffyg synwyr, barn, medr, a cliyt- rwysdra a arddengys arweinwyr y cymmanfaoedd Cym- reig, mewn cymmhariaetli i arweinwyr y cymmanfa- oedd Groegaidd'.a Rhufeinig. Bu'r cymmanfawyr hyny mor gyfrwys fel mai yn araf iawn y cynllumasant pa fodd i ddarostwng y werin, ae i'w hysbeilio o u rhyddid a'u harian. Buont fwy na 500 mlynedd cyn cyrhaedd yr eithafoedd gwaradwyddus hyny; sef, o'r amser yr oedd "dirgelwch yr anwiredd" yn dechreu gweithio Yn amser Paul, o gyleh y fl. 54, hyd amser Gregory Fawr yn y fl. 590. Ac nid oedd na "BANER," na dim arall o'r fath, hyd y gwyddys, ar ffordd yr lien gym- manfawyr i gyihaead pinael eu rhwysg a'u gorthrwm. Ond welo arweinwyr y cymmanfaoedd Methodistaidd yn ceisio dringo pen eu pinacl hwy cyn bod y cyfun- yn ceisio dringo pi, deb yn llawn 150 oed! a hyny ar draws rheolau eglur eu Cyffes Ffydd a'u "Gweithred Gyfreithiol" (Constitu. tional Deed); a hefyd, er fod miloedd o "aelodau cyff- redin y cyfundeb yn deall y rhai hyny yn llawn cystal, os nad gwell, na hwythau. Pe buasai arweinwyr y cym- manfaoedd Cymreig mor gyfrwys a hen arweinwyr y cymmanfaoedd cyntefig, buasent yn oynllunio i ddi- ddymn" y cyfryw reolau a. ddyfynasoch chwi yn eich erthygl ar "Esgymundod y Methodistiaid" (BANER Gorphenaf 28ain, t.d. 3.), cyn dechreu "rhedeg i'r un- rhyw ormod rhysedd ag y rhedasant yn Nghymmanfa Dolgellau; canys ymddengya i mi y gallasent wneyd hyny (neu o leiaf, gynnyg at ei wneyd), pe buasent yn ddigon dengar, cyfrwys, a gwagelog. Dyma fy sail i feddwl fel hyn:- "Yn mhob Cymdeithasfa Chwarterol caiff yr holl gorph neu gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd ei ystyried megys yn bresennol drwy eu swyddogion neu eu cynnrychiolwyr y rhai a allant fod yno yn bresennol; ac y mae, a bydd grym ac awdurdod y cymdeithasfa- ne y rnae, a byd 1, oedd chwarterol dywededig yn ddigonol i drefnu a rheoli pob materion a gweithrediadau perthynol i'r cyfundeb yn mhob man ac y mae, bydd awdurdod gan y cymdeithasfaoedd chwarterol dywededig i am- lygu achos crefydd yn mhlith y Methodistiaid Calfin- aidd Cymreig trwy DDEllEUDIR a GOGLEDD CYMRU, ac mewn unrhyw ran o LOEGR lie mae unrhyw eglwysi y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig cyfansoddedig o'r cyfundeb yn ymgynnulledig. A hon aretmauau a phenderfyniadau yr amrywiol eglwysi a chyfarfodydd misol y sir a allant gael eu cymmeryd dan ystyriaeth gan y gymdeithasfa chwarterol ddywededig, a'u cym- meradwyo, cyfnewid, diddymu, a'u diwygio yno."— Gweithred Gyfreithiol, hysbysol o Amcanion a Threfn- iadati Cyfumeb y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig, t.d. 30 1. Ond wele arweinwyr ein eymmanfaoedd ni, yn ol eich tystiolaeth chwi, Foneddigion y FAKER, yn "arosod" bugeiliaid, achosion Seisnig, cronfa, a chasgl- iadau arianol eraill, ar yr eglwysi yn ddiarbed, a hyny heb i'r eyfryw achosion erioed ael eu hanfon i'r eg- lwysi," a heb "ofyn eu barn erioed mewn un sir, a ad- waenoch chwi yn dda, beth bynag am siroedd eraill;" ao heb gynnyg "cyfnewid, diddymu, na diwygio y rheolau sy'n gofyn hyny yn benaant! Ac i goroni yr haerllugrwydd gorthrymus—o blegid pa beth yn amgen y geiiir ei ddyweyd am dano? wele un, o leiaf, o ar- weinwyrl y gymmanfa yn annog "diaconiaid" yr eg- lwysi i "roddi marc" ar bob pregethwr na chydsynia Ali fympwy afreolaidd ef; i'w gau allan o'u "pwl- pudau; ac i'w "wneyd ef yn ddyn esgymunedig" fel un heb fod "yn loyal i'r cyfundeb!" Wel wfIt! a mil v t, i'r fath haerllugrwydd afiywodraethus! meddaffi. Yn sicr, y mae fod y fath eiriau wedi eu harfer yn y fath le, ao heb fod cymmaint ag un gwr wedi protestio yn eu herbyn ar y pryd, yn tueddu i ddarostwng cym- meriad yr hen gyfundeb ger bron yr holl fyd Cristion- ogol! A pha beth a ddywed gelynion Cristionogaeth, tybed, am y fath haerllugrwydd? Y mae arweinwyr hunandybus cymmanfaoedd an• Annibynol ac an-ysgrythyrol yr Annibynwyr a'r Bed- yddwyr Cymreig, wedi bod yn hwy o gylch can mlyn- edd na'r eiddo y Methodistiaid cyn cyrhaedd eithaf- oedd eu haerllugrwydd hwy ar yil eglwysi; sef o Walter Cradoc a Vavasor Powel hyd yn awr. Ond dengys gweithrediadau cyfarfodydil an-Annibynol yr Amwythig, y Bala, a lleoedd eraill, ac yn enwedig un erthygt sydd yn y lÐusgedydd am y mis hwn, fod eu clerigwyr cyflogedig hwythau yn prysur ddarpar cyn- Ituniau i farchogaeth yr egtwyai, druain! Ai nid ydyw arweinwyr y Methodistiaid, a'r cyfundebau diweildaf a enwyd, mOWll difrif, Y11 gwybod fod y wlad yu gwe1ed en rhaib atmi-.?H am arian nc awdul'dod.l-" I ?yr?bryd hwn sydd mor gryf yn euphth yn cren rn?hrn yn meddyHau miloedd yn erbyn Cristionog- aeth ei hun? Modd bynag, y mae gan eglwysi yr An- nibvnwyr un fraint, o leiaf, yn rhinwedd yr hon y oallant herio gwaethaf y cymmanfiiwyr; sef, y mae eu caaehidd hwy yn eiddo yr eylmm, yn gwbl annibynol aw cwrdd chioarterol, yr nndeb sirol, y gymmanfa, a phob cyfarfodydd anysgrythyrol eraul a gynnelir o r t. allan i'i- eglwysi. Ar bwys yr hawl oruchel hon, <^all yr eglwysi Annibynol f,,ti-cio, a chau eu pul- pudau" rhag pob un o'r clerigwyr cymmanfaol, fel un heb fod "yn loyal" i'r egwyddor Annibynol, a i wneyd ef yn ddyn esgymunedig-pe y dilynent esampl anfon- eddigaidt1 Dr Edwards." Hefyd gall yr eglwysi An- nibynol annog eu haelodau eu hunain i bregethu a gweini yr ordinhadau; neu alw rhai o .leoedd eii aiil l .w gwasanaothu, heb "ymgynghori ar Cwrdd Chwarter,' M'r 'Undeb Sirol,' na'r 'Gymmanfa Flynyddol. Gwyddom am eglwys Annibynol feclian yn 1\1- a wnaetb. hyny am ysbaid to blynedd, nen chwaneg. er gwaethaf trahausder yr "Undeb birol. \n y cyfamser, cynuyddodd yr eglwys hono o 30 i dros 100 o aelodau; a phan welodd tywysogion yr Undeb Sirol" na fedrent ua'i tlifodi, na'i nychu chwaith, dy- mimasant gymmod it hi :-it'r hyn y cydsyniodd Iiitliau. Gresyn nad ymroddai yr eglwysi Annibynol yn gyff- redin drwy yr holl wlad i ddilyn cynlluii synil ac .111- fiheledi" y Testament Newydd, trwy ddewis amryw henuriaid non esgobion yn mlwb eglwy8 (Act, xiv. 23; Tit. i. 5, 7), i'w "bugeilio,"a'u porthi (Act. xx. & 1 Ped" v. ddynion sydd heb fod yn chwennyeh arian, neu aur, neu wisg neb;" eithr gan "weithlo a'u dwylaw," fely gallont "gynnorthwyo y gweiniaid," yn ol esampl a cliyfarwyddyd yr apostol Paul i henuriaid neu esgobion eglwys Ephesus: Act. xx. 17, 28-3,i. Ac hefyd trwy annog a chefnogi eu holl aelodau sydd yn meddu eymmhwysder i hyny, mewn cymmeriad a thalent i "dramwy gan bregethu y gair," a "phregethuyr Arglwydd Iesu, yn. ol esampl holl aelodau eglwys Jerusalem (Act. viii, 1, 4, a xi. 19-24), a hen bregethwyr bendigedig y Methodist- iaid! Yn lie hyny, cyflogir rhyw un<jierigyn syehlyd i wneyd y gwaith y dylai yr holl esgobion a r eglwysi ei wneuthur; a goddeflr i hwnw fod yn arglwydd, yn lle yn weinidog iddynt. Ond credu yr ydwyf fi mai felly fydd, yn hwyr neu hwyraeh, fel y eYllnyddo trais a gorthrwm y derigwyr eyflogedig, ac y delo eredmyr yn gyffredinol i s?nM a deall eu hawhau a'u dyled swyddau eu hunain, fel eu hamlygir yn e? u "Llyfr Cyfraith" anffaeledig, ?yXya?dr..in! yr oedd cu cyc?y?r Am y Wesleyaid, druarn! yr oedd eu cychwynwr cyntaf hwy yn ddyn mor gyfrwys a ebraffus, fel | yn^ I&niodd efe.o'r dechreu, i roddi yr holl gape1ydd, a'r holl aelodau, 'y yn gwbl dan lywodraeth, ac at ewyllys a gwasanaeth y clerigwyr. Ond diau fod yr amser yn agoshau, fel y cynnydda gwybodaeth eu deiliaidy Testament Newydd, ac y tyfa eu hanmbymaeth medd- yliol, pan yr ysgytiant hwythau "faieh gorthrwm eu '1 -I.1.. A vn clerigwyr oddi ar eu inysgwyuuau. r J U\A.u. J"" J- eglur gan yr anil rwygiadau sydd wedi bod eisoes, ae yn para i fod, yn y cyfundeb Wesleyaidd; megys Cyf- undeb N ewydd y Wesleyaid, y Wesleyaid Cymmanfaol, y Wesleyaid Bach, a'r cyffelyb. Yr hyn sydd yn rhoddi i ni foddhâd mawr, gyda golwg ar y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig ydyw, fod yn eu plith rai miloedd o "aelodau cyffredm, sy'n deall rheolau a threfniadau" y cyfundeb, fel y u gosodir allan yn y Gyffes Ffydd ac yn y "Weithred Gyfreithiol," yn llawn cystal a'r clerigwyr colegol cyt- logedig-a dealled arweinwyr y cymmanfaoedd fod eu nifer yn cynnyddu mor gyflym fel na oddenr eu gorthrwm a'u tra-arglwyddiaeth yn hir etto. A r hyn sydd yn fy moddhau yn ddirfawr yw, fod genym ni, fel Cymry, un cyhoeddiad cofnodol-sef y FANER- sydd yn adnabod eu cynlluniau, ac yn meddu digon o allu ac annibyniaeth ysbryd i'w harddangos ger bron y byd, a'u gwrthwynebu, ac yn barod i aberthu pob peth ar all or rhyddid a "barn bersonol" yr aelodau Er ei chlod, gwnaeth y FANER hyny lawer gwaith yn barod- a gwna hyny etto er gwaethaf haerllugrwydd a thrais arweinwyr cymmanfaol y cyfundebau! Wei, liwyddiant a ffyniant hoff anwyl i bawb sydd yn erbyn Torlaeth yn uladol ac eolwysig, ac o blaid gwir Rvililfrvdiaeth, vw dvmuniad ditfuant eich brawd, I SILAS.

-TALIESIN, _.._1

DOWLAIS.I

[No title]

Advertising

ITRYCHINEB HYNOD YN YRI IWERDDON.…

AFFGHAN I STAN.I

"NODYN" ARALL AT TWRCI.

SEFYLLFA YR IWERDDON.II

BODDIAD DAU FACHGEN YNI M…

Marchnad Anifeiliaid Hull,…

Marchnad Anifeiliaid Salford.…

- --- 0-IMarchnad Anifeiliaid…

Advertising

PA UN AI MANTAIS AT ANFANTAIS…