Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Dywed newyddiadur a gyhoeddir yn Lyons, ddydd Llun diweddaf, wrth roddi adroddiad o .araeth a draddodwyd gan y Cadfridog BEART, ddydd Sal, ar yr aohlysnr o ddadorchuddiad cofadail a gyfodwyd i goffadwriaath brodorion o'r ddinas hono a gwympasant yn y flwyddyn 1870, ei fod wedi defnyddio yr ymadroddion caulynol" Nid ydyw y fyddin wedi canu yn iach yn dragywydd i Alsace-Lorraine. Yn yr argrsphiad a gyhoeddwyd or un new- yddiadur ddydd Mawrth, addefir fod yr ad- roddiad yn un anghywir, a dywed fod y cad- fridog, yn anerch y cymdeithasau milwraidd lliosog oedd yn bresennol ynfwyaf neillduol, ae yn eu plith yr oodd un yn dwyn yr enw Alsace-Lorraine, ac mai yr hyn a ddywedodd oadd ■—" Yr wyf yn diolch i breswylwyr y ddinashon sydd wedi ein dilyn yn yr orym- daith i'r llanerch yma, a'r cymdeithasau gwladgarol hyn, yn mhlith jrrhai yr wyf yn llongyfarch un -enw-sydd yn anwyl am byth i Ffraingc." Tra y byddo talaethau Alsace a Lorraine yn meddiant Germany, bydd y wlad hono yn gwylio ar bob gair a ddywedtr mown perthynas iddynt. gan y Efrangcod.
[No title]
Proffesa Dr. TANNER ei fod wedi profi i'r byd y possibh-wydd i ddyn fyw ar ddwfr am ddeugain niwrnod. J'aw dros y Werydd yn awr hanes hynod avail, sydd yn dangos ygall dyn fyw lawer yn hwy o dan amgylchiadau tra anffafriol. Yn yr enghraifft hon, pa fodd bynag, nid trwy fyw heb ymborth y dangos- wyd y gall dyn fyw o dan anfanteision mawr- ion. Darganfyddwyd BENJAMIN ZECHLER, y dyn anffodus y cyfeirir ato, yn ol y newydd- iaduron Americanaidd, yn nghymmydogaeth Albany, yn Mhennsylvania, ychydig amser yn ol, lIe y cafwyd ef wrtho ei hun mewn bwthyn coed, yn yr hwn y bu yn garcharor heb nemawr ddim goleuni, ac ond ychydig o awyr, am saith-mlynedd ar-hugain. Ynystod yr holl amser hwn, ni chaniatawydiddo adael ei fwthyn truenus. Cynnwysai ei gaban un ystafell yn unig, a hono heb un ffenestr ami, ac yma y cafwyd ef heb un cerpyn o ddillad am dano, a'i goes wedi ei chadwyno yn ddi- ogel wrth ystabl haiarn gref wedi ei-gyru i flocyn o bren. Yr oedd llawr yr ystafell yn droedfedd o drwch o dom, a'r olwg ar y dyn truan yn creu ofn nid bychan yn ei ymwel- wyr. Yr oedd ei wallt yn disgyn, oddi ar ei ben yn amryw droedfeddi o hyd, a'i farf yn cyrhaedd o'r bron i ben ei liniau. Nid oes angenrheidrwydd dywedyd ei fod yn awr, pa fodd bynag yr oedd pan y cadwynwyd ef gyntaf, yn hollol orphwyllog. Gwaeddai yn y modd mwyaf brawychus pan y neshaodd ei ymwelwyr ato, a gofynai holl nerth amryw o ddynion i'w orchfygu pan y gwneid ymgais i'w ryddhau, a dyfodagef allan i oleunidydd. Dywed ei frawd, yr hwn hefyd oedd geidwad ei garchar, ei fod yn orphwyllog pan y car- charwyd ef gyntaf ganddo yn y caban coed; ac y mae ymchwiliad yn cael ei wneuthur i hyn yn awr gan awdurdodau y dosbarth hwnw o'r wlad. Gyda golwg ar y driniaeth annynol a gafodd y truan am fwy na chwarter canrif, nis gall fod ond un farn. Un o'r pethau rhyfeddaf mewn cyssylltiad a'r achos gofidus hwn ydyw, iddo fod yn alluog i fyw am gynnifer o flynyddoedd yn y fath sefyllfa ddirboenus.
[No title]
Y mae carcharor gwleidyddol, yr hwn a gymmerwyd i fyny rai misoedd yn ol ar es- gynlawr gorsaf y (Fordd haiarn yn St. Peters- burg, newydd roddi terfyn ar ei einioes drwy ymgrogi yn ei gell, ar ol gwneyd cyfaddefiad i awdurdodau y carchar. Dadguddiodd enwau arweinwyr y cynllwyn Nikilaidd, ac hefyd enw yr hwn a gyflawnodd y weithred anfad o geisio chwythu i fyny y Palas Gauaf- ol, a'r hwn sydd wedi bod er's peth amser mewn dalfa ar yr ammheuaeth ei fod yn gyf- ranog yn y trosedd. Yn ystod amser ei gar- chariad, cyn gwneyd cyfaddefiad, gwrfchodai y carcharor atteb un cwestiwn. Dyn dyeithr ydoedd, a chymmerwyd ef i fyny ar y cyntaf am fod rhywbeth yn creu drwgdybiaeth yn y cludgelfi oedd ganddo gydag ef. Cafwyd ar ei berson swm mawr o arian, ac yr oedd ganddo yn ei ganlyn gist yn cynnwyts cryn swm o ddefnyddiau ffrwydrol.
gxmMMu 4 gamwtiulait. I:
gxmMMu 4 gamwtiulait. I: DAMWAIN ARSWYDUS AR Y I FFORDD HAIARN. PUMP 0 BERSON AU WEDI SO LLADD; DEG AB HUGAIN WEDI RU NIWEIDIO. .I PARHAU y mae galanas y ffyrdd haiarn o hyd, tel Y mae yn alaethus meddwl. Y mae genysp heddyw etto un ddamwain arswydns arall i'w chwanegu at y lliaws a gofnodwyd genym o fewn yr ychydig wythnosau diweddaf. Nos Sadwrn diwcddaf. aeth yn wrthdarawiad difrifol rhwng un o dre cwmni llinell y London and South Western, pan ar ei ffordd o orgaf Waterloo i Hampton Court, a pheiriant oedd wedi ei adael heb unrhyw vngHn wrtho ar y brif linell, ac am yr hwn, fe 3 dywedir, yr oedd y dyn a ofaM am yr arwyddion wedi aDghoSo, gan ddyweyd fod y ?eU yn glIr. Lladdwyd pedwar o bersonau, & cbabddo ddeutu deg ar hugain eraill eu banafu, a rhai o honynt yn drwm. Mewn un peth y mae tebygrwy^da r K y ddamwain hon i'r un a ddigwyddodd yn Paisley ychydig ddyddiau yn flaenoroL Yn y trychineb hwn. trén nwyddau oedd wedi cael ei adael yn esgeulns ar y llinell. tm y rhoddwyd yr arwydd "pob peth yn glir" i'r tren teithwyr oedd yn prysur ddynesu. Yn y ddamwain nos Sadwrn, achoawyd y dinystr, fel yr ydys wedi crybwyll. gan yr agerbeiriant a adewsid yn dtttotai ar y rheiliau hwyraeh wedi ei lwyr anghofio gan yr arwyddwr blinedig ar ol diwrnod o lafur malth a chaled. Ar y block system y mae y llinell hon yn cael ei gweithio ar hyd y blynyddoedd. robl dlixlioa yn dyfod o Waterloo i Lambeth i farchnata oedd y nifer liosocaf o'r teithwyr, yr ydym yn deall.
YMLADDFA GYDA GWYLLIAID I…
YMLADDFA GYDA GWYLLIAID I LLWYNI AWSTRALIA. YN y newyddiaduron sydd newydd gyrhaadd i'r wlad hon o Awstralia, ceir adroddiadau manwl a dyddorol am y modd y daliwyd Kelly a'i gydwyll- iaid beiddgar, y rhai a fuont am cyhyd o amscr yn cyflawni ysgelerderau mor anfad mewn gwahanol barthau o'r drefedigaeth. Ymddengys fod y 6ntai ysbeilgar hon, ar y 26ain o Fehefin, wedi myned I le o'r enw Sebastopol, a gwneuthur ymosodiad ar benty neu gaban, yn mha un yr oedd pedwar o heddgeidwaid, a dyn o'r eaw Skerritt a'i wraig, yn aros. Rhoddasant orfodaeth ar Almaenwr oedd yn adnabod Skerritt i fyaed i mewn i wneyd ymotyn- iadau yn gyntaf. Nid oedd hyn ond ystryw o'r eiddynt i gael y dyn i'r golwg. Y foment yr sgor- odd Skerritt y drws, saethwyd ef trwy ei lygvh M chwympodd y truan i lawr yn farw yn gyrchol. Wedi liyny, galwodd y gwylliaid a» y heddgeidwaid i roddi eu hunain i fy n y, h n y gommeddasant hwy ei wneyd, wrth gwra. coi hyny, ond nid ayn ceiaio rhoddi y caban ar dan; yr hyn gyda Haw y methaaant ei gwblhau), aethant ym- aith. Anfonwyd hysbysrwydd am yr hyn a dl. wyddasai i Beechworth, ac oddi yno pellebrwyd ef yn mlaen i Melbourne. Yn dd-oed, ar dderbymad y newydd, anfonodd yr awdurdodau yno drSn ar benig gydag olrheinwyr brodorol, a chwaneg o gwn- stabliaid, i fangre y gyflafan. Gan nad oeddynt heb ofni ymosodiad ar, neu o leiaf rhyw berygl i'r trêu, anfonwyd peiriaut-pilot engiii&—o i llaen i edrych a oedd y ffordd yn glir. Pan wedi cyr- haedd o fewn milldir a chwarter i Glenrowan, cyf- arfyddwyd y peiriant gan ddyn a ymddangosai yn dra chyffrous, a'r hwn a ddywedai fod Glenrowan yn meddiant Kelly a'i ddyhirogod, y rhai oeddynt wedi dryllio y llinell islaw yr oraaf. Disgwyl i'r swyddogion ddyfod yn mlaen yn ddifeddwl mewn ffwdan a brys, a chyfarfod a'u dinystr, yr oedd yr ysbeilwyr, yn ddiau. Siomwyd hwy, modd bynag. Trodd y peiriant yn ei ol gyda'r newydd hwn. Mor gynted ag y traethodd efe y genadwn, di- flanodd y dyn yn y coed; ond caed prawf digonol o wirionedd yr hyn a ddywedai. Y tu ol i drofa led chwyrn yn y llinell yr oedd y rheiliau wedi eu codi o'u lleoedd; a phed aethai y tren yn ei flaen, y canlyniad anoeheladwy fuasai iddo gael ei ddym- chwelyd bendramwngl i agenfa ddofn ac erchyll. Aeth yr arolygwr Hare, ac un neu ddau o'r hedd- geidwaid, yn mlaen i'r orsaf ar.y peiriant, a'r tren arbenig yn eu dilyn yn uniongyrchol. Y foment y rhoddasant eu traed ar y platfform, cawsant brawf diymwad nad oedd y gwylliaid neppell, canys o'r gwestty sydd yn ymyl, gollyngwyd er- byd atynt. Cerddodd Hare yn hyf, pa fodd bynag, at y gwestty; ond pan ddaeth efe o fewn rhyw gump ar hugain o latheni i'r ty, wele ddyn yn ym. rithio o'r tu ol i un o'r conglau, ac yngollwngergyd ato, gan yr hon yranafwyd yr arolygwr yn ei ar- ddwrn. Dychwelwyd yr ergyd hon gan gwcstabl o'r enw Kelly (o'r un enw a phenaeth y dyhirogod), a gvvr o'r enw Rawlings. Ergydiodd Hare, hefyd, atynt, er wedi ei glwyfo. Ychydig cyn i Hare gael ei saethu, llwyddodd un o heddgeidwaid y dref, yr hwn oedd wedi ei ddal yn garcharor gan y gwylliaid, a'i ddwyn i'r gweatty, i ddiangc oddi yno, gan ddyweyd nad oedd i mewn ddim 1'ai ua dcu. gain o bersonau o gwbl yn cael eu cadw mewn dalfa ganddynt. Taniodd yr ysbeilwyr bedair o ergydion drachefn at geidwaid yr hedd, gan eu hferio i ddyfod yn mlaen. Wedi i o ddeutu awr fyned heibio yn y modd yma, ymgeleddwyd gar- ddwrn Hare, gan un o ohebwyr y wasg, oedd wedi dyfod yn y tren arbenig. Nid oedd yno feddyg rheolaidd o un math i'w gael; yna dychwelodd y swyddog i'r ffosydd yr oedd yr heddgeidwaid wedi gosod eu hunain ynddynt; ac ail ddechreuwyd tanio ar y gwestty. Clwyfwyd dau blentyn a garcharid gan y gwylliaid oddi mewn. Parhaodd yr heddgeidwaid i gadw eu t&n i fyny ar hyd y nos; ac yn y cyfamser, derbyniasent gryn adgyf- nerthion o'r gorsafoedd cylchynol. Mewn un gawod led drom o ergydion a ollyngwyd atynt, cafodd un o'r gwylliaid, adyn o'r enw Joe Byrne, ei saethu yn ei forddwyd, pan ar y weithred o yfed i i nogyn o chwisci yn y bar, a bu farw yn bur fuan mewn canlyniad. Rhoddwn y gweddill o'r hanes yn ngeiriau (cyfieithiedig) llygad-dyat:—- "Torodd y wawr dranoeth yn glir a hafaidd. Amgylchynaaai yr heddgeidwaid y gwestty yn mhob eyfeiriad ond o'r tu ol iddynt wele enbyd- rwydd heb ei ddisgwyl yn eu goddlweddyd. Ned Kelly (brawd i'r penaeth) oedd yr acnos o hono. Ymddengys mai efe oedd y dyn a saethodd yr ar- olygydd Hare yn nechreu yr ysgarmes, ac iddo yntau gael ei archolli yn ei fraich gan yr ergyd a anfonwyd yn ol yn ad-daliad iddo. Nia gallai ddy- chwelyd yn ei ol i'r gwestty heb osod ei hun yn y perygl mwyaf. Am hyny, neidiodd ar farch a chyflymodd ymaith. Ond wedi myned am encyd o ffordd, cymmerodd ail feddwl, a phenderfynodd ddychwelyd, ac ymladd ei ffordd at ei gymdeitli- ion. Yn amddiffyniad i'w gorph yr oedd ganddo blatiau trymion chwarter modfedd o drwch o haiarn. Pan ddaeth o fewn cyrhaedd ergyd, taniodd y cwn- atabl Kelly, a guard y tren, Dowsett, ar y dyhiryn. Taniodd naw o'r heddgeidwaid ato hefyd. Parai rhai o'r bwledau iddo yatagro, ond chwarddai ef yn uchel am ben y cyfan. Dychwelodd eu tergydion hwy ergydion o'i tawddryU ei hun. Ymd g o?fe?eHy)t, a bron na chredai y rhai a geiaient ei ladd fod ei einioea dan nawdd twyngyfaredd Am hanner awr, hwy a fuont yn cario yr ymladiita hon yn mlaen. Khuthrodd yr heddgeidwad Steel ato pan nad oedd Kelly ond rhyw ddwy lath o bellder oddi wrtho, a thaniodd, gan annelu at ei goesau. Dygodd hyn y gwylliad i'r llawr, ond etto yr oedd efe yn parhau i ymladd yn gethin. Neidiodd Steel arno, pa fodd bynag, ac ymaflodd yn y Haw yr oedd y dryll ynddi. Taflwyd ef bellach ar ei hyd i'r llawr. Wedi ei drechu yn y modd yma, rhual gyda ffyrnigrwydd bwystfil anwar, a melldithial yr heddgeidwaid yn ddychrynllyd; ond pan ddiosg- wyd ei arfogaeth oddi am dano (a'r pryd hyny y deallwyd dirg<;lwch yr anhawsder i w iadd ag er- gydion), ymostyngodd yn bur dawel, a dygwyd ef i'r orsaf. Yr oedd wedi ei archolli mewn tri o wahanol fanan, ond nid yn farwol. Y mae efe bellach wedi ei anfon i Melbourne i'w gadw yn y carchar yno. Pan aed i mewn i'r gwestty, yr hwn a roddwyd ar dan o'r diwedd, caed cyrph meirwon tri o'r fintai. Dan Kelly, Hart, a Byrne; Jones, perchenog y lie, hefyd, oedd wedi marw; ac yn mhen ysbaid ar ol hyny, bu farw dyn o r enw Skerry. Ymddengys fod y fintai, ar ol iddynt saethn Skerritt, wedi myned i Glenrowan, gan gym- meryd meddiant o'r lie hwnw, a chareharu y trig- olion yn y gwestty a'r orsaf. Dywedir fod rhyw rai yn y dreflan yn cydymdeimlo yn fawr a r gwyll- iaid, ac yn bygwth dial eu marwolaeth. 0 her- wydd y bygythion hyn, y mae y dynion a roddas- ant wybodaeth am danynt wedi cael eu cymmeryd o'r gymmydogaeth er mwyn eu diogelwch."
I Y TRYOHINEB YN NGWAITH GLO…
I Y TRYOHINEB YN NGWAITH GLO SEAHAM. I MANYLION CHWANEGOL. Y mae yn ddrwg genym orfod dyweyd fod yr ofnau gwaethaf wedi eu sylweddoli yngln ir ffrwydrad ofnadwy yn y lofa hon. Cyfrifir fod 184 o leiaf o ddynion wedi myued i lawr y aiafft nos Fawrth, ac ofnir fod llawer yn chwaneg. 0 r rhai hyn, caed 67 i fyny yn fyw, ar 01 ymdrechiadau gwronaidd o du y rhai a ymgynimerasant 4 rgwaith o wneyd yr archwiliad. Bernir fod y chwech ugain glowyr ereill, neu gallai fod eu nifer o 170 i ISO, wedi cyfarfod aft marwolaeth bob un. Diffoddwyd y tin a dorodd: allan yn y gwaith, o ddeutu wyth o'r gloch b V.11 ddydd Iau, ac yna ail ddechreuwyd ar y g h o archwilio, pan y daeth yn eithaf ogiur lOd y trychineb wedi dechreu yn haen Hutton, ynjfaha un, fel yr oedd yn fwyaf anffodua, y Kitihi. i y nifer liosocaf o'r glowyr pan dorodd y danchwa allan. Nid oes dim sicr yn wybyddus am yr achoa o'r ffrwydrad. Dechreuwyd dwyn cyrph y laeirw i fyny yn iiwyr noa Iau. Yoiddeogys fod lia,% b o'r glowyr hyn yn aelodau o'r gysideitha • oyfeilkar sydd yn perthyn i Gymdeithas Mwnwy Northt mberland a Durham; ac mewn canlyniad na bydd y gweddwon a'r amddifaid yn cael eu gadael yn gwbl ddiddarpariaeth ar eu oyfer Dywedii- y bydd gan bob gwraig weddw hawl i gael 58. yn yr wythnos o'r drysorfa, a 2s. ar gyfer bop plentyn. Y mae hon yn ffaith gysurus i'w chofnodi yngljn it hanes trychineb alaethus fel hwn, ac yn siarad yn uchel am feddylgarweh a darbodaeth y glowyr eu hunain.
I SABBATH LLAWN ANFFODION.
I SABBATH LLAWN ANFFODION. YR oedd y Sabbath cyn y diweddaf yn ddydd trycliinebus, i feaur mawr, mewn amryw fanau yn Switzerland, fe ellir casglu oddi wrth y newyddion sydd wedi cyrbaodd y wlad hon oddi yno. Wele ychydig enghreifftiau. Trwy ddymehweliad owoh yn agos i Ouchy, boddodd dau ddyn yn Llyn Geneva; trwy dan yn Muri, coilodd pump ereill eu bywydau; a'r un diwrnod, anrheithiwyd rhan helaeth o Berne, a chymmydau Halinemoss, Trutigen, a pharthau ereill yn yr un cantref, gan ystormddychrynllyd, nas gwelwyd ei bath, dybygid, er's llawer o flynyddau, o daranau a chenllysg mawrion. Mewn un cwmmwd, yagubwyd pob pont o'r bron oedd yno ymaith gan lifddyfroedd, ae y mae yr amaethwyr agoa oil wedi eu dwyn i ddibyn dinystr yn eu hamgylchiadau gan y galanas- tra a wnaethpwyd trwy y dymmheatl ar eu hadeil- adau a'u cnydau. Boreu dranoeth, yr oedd y porfaoedd ar lechweddau y mynyddoedd i'w canfod yn orchuddiedig gan genllyag, a'r dyffrynoedd yn orlawn o ddwfr, ac yn ymddangos fel llynau anferth eu maintioli.
IYMDDYGIAD HYNOD TRI 0 DDYNION.
I YMDDYGIAD HYNOD TRI 0 DDYNION. YN fuan wedi nawn ddydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, cerddai dyn ar hyd glanau yr afon Ribble, yn Ashton, pan y cyfarfyddodd a benyw, ymddaDgosiad isel a phruddaidd yr hon a dynodd ei sylw; ac am hyny eiateddodd yntau i lawr ar lan yr afon i wylio ei symmudiadau. Wedi iddi fyned am beth pellder, gwelai hi yn tynu ei bonet oddi am ei phen, a'i shawl oddi am dani, ac yna yn diflanu o'r golwg yn sydyn. Gwaeddodd y dyn ar ddau o ddynion eraill a ddigwyddent fod gerllaw, ac aethaut eill tri gyda'u gilydd at y fan y dillanas. ai y ddynes ynddo, a chawsant hi ar ei phen mewn ffOB, allan o a un yr oedd y llanw yn cilio. Ym. dafiu yno yn f wriadol a wnaethai, yr oedd yn eglur. Gwelaant ar unwaith ei bod yn hollol farw, ond yn lIe myned yn uniongyrchol i fynegu y peth i'r heddgeidwaid, hwy a oedasant fyned am dair awr. Pa reswm oedd ganddynt i'w roddi am eu hym- ddygiad hynod nid yw adroddydd yr hanes yn mynegu. M or gynted ag y clywodd y swyddogion, pa fodd bynag, aethant i'r fan a nodid iddynt, a chymmerasant go, ph y druanes ymaith. Pwy yw hi, nis gall yr heddgeidwaid wybod, er pob ymof- yniad a wneir ganddynt. Bernir oddi wrth ei hymddangosiad ei bod o bymtheg ar hugain i ddeu- gain mlwydd oed. Wrth gwra, y mae yr achos o'i hunan laddiad hefyd yn ddirgelwch. Dimai a cbyllel fechan yn unig a gafwyd yn ei llogellau.
I HEDDGEIDWAD CREULAWN. I
I HEDDGEIDWAD CREULAWN. YN un o heolydd dinaa Liverpool, o ddeutu hanner I awr wedi chwech o'r gloch prydnawn ddydd Llun, yr wythnos ddiweddaf, gallesid gweled golygfa eithaf greaynol, ond ar yr un pryd un eithaf cyff. redin yno, nid amgen dwy fenyw yn ymladd yn gieiddlyd y naill a'r Hall, o herwydd rhyw gweryl bychan a dibwya o bossibl, a gyfodasai rhyngddynt gan guro, cripio, a brathu eu gilydd, a thynu en gwalltiau yn ddyrneidiau. Aeth dau wr leuangc a ddigwyddent fod yn pasio ar y pryd atynt gyda'r bwriad o'u gwahanu, ond cyn iddynt hwy fedru gwneyd hyny, wele heddgeidwad boldyn yn gwneuthur ei ymddangoaiad yn maea y frwydr. Heb ddywedyd gair wrth neb, ond yn y modd mwyaf diaeremoni, efe a ymaflodd yn un o'r ddwy ddynes gerfydd ei gwallt; cododd hi i fyny ar ei, thraed felly a Uusgodd hi ar hyd yr heol am beth peUder—y cy&n gerfydd ei chudynau gwaut, ie. i — aller. Cyn ei hyrddio i fyny ar ei thraed hefyd gwelodd yu oreu roddi cio iddi, ac nid esgidj? yg. ? iftonenon oedd am ei draed chwaith. Yt oedd >'mddyr y awyddog yn un bwysttitM.l.t a barbaraidd i r eithaf, yn ol tystiolMth ben,lal1 '? rhai a edrychent arno. Gaiinad pa mor an« eddus oedd i'r ddwy ferchetan ddigymmen?d hyn ym baffio felly ar Mnol yr heol gyhoeddus, n?er )):J gweddaidd oedd iddo ef, swyddog talgryf, ac wrth ei swydd yn dysgu ymddygladau heddyebol i bobl i ymddwyn yn y modd y gwnaeth. Nid oedd yn yr amgylchiadau ddim yn cyfiawnhau ei ymddy2 lad ef, a dyweyd y lleiaf; ac yn sicr, nid oedd cy lawniad eflfeithiol o'i ddyledswyddau yn galw arnoi gigyddio dynes fechan o'r fath yn y dull a ddisgrif iwyd. Dylai ei draha, yn sicr, gael ei ddwyn i glustiau ei uchafiaid. Canlyniad ei ymddyoiad fu i beth terfysg gyrameryd lie, o herwydd i rai o'r edrychwyr anturio dyweyd ea barn yn bur ddigel am dano ef a'i ddyhirweh.
TANIO 26,000 0 FARTLAU OLEW…
TANIO 26,000 0 FARTLAU OLEW GAN FELLTEN. YN Bradford, Pennsylfania, Unol Dalaethau yr America, ar yr 28ain o'r mis diweddaf, yn 01 newyddiaduron sydd newydd gyrhaedd i'r wlad hon oddi yno, tarawyd cerwyn, neu danc" an. ferth ei faintioli, yn yr hwn yr oedd llonaid pum mil ar hugain o farilau o olew, gan fellten, a than, iwyd y cyfan mewn eiliad. Yr oedd y Hoegfa yn un anniagrifiadwy o fawreddog. Heb fod neppell o'r un man, yr oedd o ddeutu ugain o "dalJgciau" mawrion eraill, ac ofnid rhag iddynt hwythau danio hefyd. Attaliwyd ymlediad y galanastra pa fodd bynag, trwy gloddio ffosydd o amgyleh y tangc oedd eisoes ar dan. Goleuid yr holl ddy. ffryn fel pe buasai hanner dydd gan y goelcerth ofnadwy. Trwy yr holl gymmydogaeth yr oedd o ddeuta deunaw can mil (1,800,000) o farilau oolew wedi eu hystorio beth pe buasai y cyfan wedi eu tanio gan y fellten? Trwy ddirfawr ymdrech, pa fodd bynag, Ilwyddwyd l gadw yr oil ond y pum mil ar hugain a nodwyd, a mil erallllo farilau, rhag myned yn aberth i'r elfen ddifaol. Gwnaed crynlawer o anrhaith ar eiddo cyffredinol yr un pryd.
I YMGAIS DDIEFLIG I DDINYSTRIO…
YMGAIS DDIEFLIG I DDINYSTRIO || TRKN CYFLYM. M Boreu ddydd Uun diweddaf, gwnaethpwyd ym. gais o'r fath fwyaf dieflig, ond yn attwyddiannus trwy drugaredd, i ddinystrio y tren cyflym i Y sgotland (Scotch express) sydd yn arfer gadael gorsaf Euston yn Llundain am 5.15 o'r glocii bob boreu. Yn agos i orsaf Bushey, yr hon sydd yn un filldir ar bymtheg o bellder o Euston, dargan. fyddwyd sypyn yn cyunwys pylor dynamite gan y dynion oeddynt yn gweithio ar y llinell i'w had. gyweirio. Aeth y tren dros y pylor ffrwydriadol, yn ffodus, heb gytfwrdd ag ef a pheri iddo danio. Yr oedd y "peiriant uffernol," o herwydd rhyw ammhariaeth, wedi methu tanio. Pe llwyddasai y cynllun anfad, diau y buasai y gerbydrea yn cael ei gwneuthur yn gandryll, a phawb oedd yuddi naill ai wedi eu Uadd neu eu dinystrio. Hysbyswyd y peth i'r awdurdodan yn ddioed gan yr is-feistr ya Bushey, a'r canlyniad fu gosod dynion o fewn pellder pennodol i'w gilydd, ar hyd y llinell i wylio, Pwy oedd awdwr neii awdwyr y brad ofnadwy yn ei amcan sydd ddirgelwch hollol.
IGWEHYDDION ACCRINGTONI] YN…
I GWEHYDDION ACCRINGTON I] YN "SEFYLL ALLAN." 11 Nos Lun diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod mawr a chyffrous iawn gan y gwehyddion yn neuadd y dref yn Acorington, er penderfynu pa un ai "sefyll allan" am chwaneg o gyflog a wneid yn y dosbarth hwnw. Nid oedd dim llai na mil o weithwyr ya bresennol, a'r teimlad yn rhedeg yn ucliul iawn. Ymddengys mai yn ol penderfyniad y cyfarfod hwn yr oedd y gwehyddion yn yr ardaloedd cylchynol yn bwriadu gweithredu. Fel rheswm dros sefyll allan, dywedwyd ei bod yn debygol y gellid cael deunaw cant o bunnau bob wythnos i'w cynnorth. wyo, yn yr ymdrech os byd(lent yn penderfynu gwneyd hyny, ac y mae yn ddiau ddarfod i hyuy ddylanwadu yn ddwfn ar deimlad y cyfarfod. tian un gwehydd cynnygiwyd fod y cwestiwn rhyng- ddynt hwy a'u meistriaid yn cael ei benderfyuu trwy gylafareddiad gan bersonau wedi eu nodi gan y ddwy blaid. Yn ei araeth dros ei gynnygiad, efe a ofynai i'r gweithiwr a oedd ganddynt fal dosbarth eisieu codi terfysg a fyddai yn foddion i ddwyn y gwýr meirch a'r gwýr traed arfog arnynt ? Y r Deud peth felly wedi digwydd dan amgylchiadau eyff. elyb mewn adeg a aeth heibio, meddai. Eiliwyd y cynnygiad gan rywun arall; ond hwtiwyd y ddau f lawr gan y gynnulleidfa gyffrous ni fynent dditn o'u cynghor a phenderfynwyd, trwy fwyafnf ar. uthrol i sefyll allan, bydded y canlyniadau yr hyn a fyddont. Y mae y cyffro erbyn hyn wcdi ymleuu i amryw ardaloedd eraill yn mharthau gog.eddol a dwyreiniol swydd Lancaster, ac yniddengys y meistriaid a'r gweithwyr yn benderfynol am or- uchafiaeth.
I y ( ECYN DU AR Y 1 MERSEY."
I y ( ECYN DU AR Y MERSEY." I MEWN rhifyn diweddar o'r Temperance C'hronidp, I dywedir fod yn y "Llecyn Du ar y Mersey (Liverpool), gynnifer a thair mil o fasnachdai i werthu diodydd meddwol ynddynt, a dylanwad pa rai sydd o'r fath fwyaf andwyol a melldithio ii ac ar bawb a'u mynychant. Anhawdd yw ffurtlO dirnadaeth am aruthredd dylanwad tair mil 0 dafarnau mewn un dref. Un canlyiua' i'r drafnidiaeth ofnadwy hon yn nhrwyth y f,,II(Iit ydyw, fod deng mil o bunnau yn cael eugwano; dano bob dydd yn Llynlleifiad. Trwy drugaie'' i y mae ochr wen i'r ddalen.ddu hon, pafodd bynag. Nid yw y "Llecyn Du ar y Mersey" yn llawn mor ddu ag y bu. Nid yw Liverpool}!! gymmaint o uifernle ag y bu, fel y mae goica y modd Y mae yno erbyn hyn dn a dcugalll 0 cocoa-homes wedi eu sefydlu, a rhyngddynt Y lllae y sefydliadau bendithfawr hyn yn g«"e"- lIIaBDach sydd yn cyrhaedd uwch law trrgaln u 1 yn y flwyddyn. Chwanegir at eu rhif bob yn hefyd.
TREN AR GOLL.o.C
TREN AR GOLL. o .C Y MAE Cwmni Llinell Ffordd Haiarn Ta Kansas a'r Tawelfor, yn Unol Dahethau yr ?? ica, o fewn yr yehydig wythuosau i e af, Nvet 1I. gwario dwy fil a hauner o ddoleri mewn gwne ymchwil am un o'u treaM a redodd ymaitJi, a aeth yn llwyr ar goll; ae erbyn hy (ILIO rhoddi yr ymdrech i fyny mewn aoobnith '"?'? ?t<) byth i ddyfod o hyd iddo. 0 ddeutu pM?" ,t o filldiroedd i'r gorllewin o ddinas Kansas ei y mae y Hinell yn rhedeg trwy Ie a elwir Monúà<JP' A'r ddinas hon, beth amser yn 01, mwelodd J?
[No title]
Os gwneir Roumania yn deyrnna, dywedir y bydd I i ddeilikid TywyBog Serria «i gyhoeddi yntau yn frenin.
[No title]
svdd i'w Iknwi i fyny i gael eu rhoi ynmhob ■ ?y yn yr wythnos yn diweddu ddydd Sadwrn, J Ebrill 2il, 1881 M y mae tenant y ty ar rhai fyddo yn cymmeryd ystafelloedd ynddo i lenwi yn yr attodlou bob manylion (oddi gerth yr hyn fyddo yn dal cyssylltiadachref- ydd) ynghylch personau fyddo yn y lie nos Sabbath, Ebrill 3ydd, a'r cyfnfydd i gasglu yr holl attodleni o fewn ei ddosbarth y dydd LIun canlynol. Ifid-yw ylddirwy am oogeu- luso llenwi yrattodloni i fod yn Hai na phunt, nac yn fwy na pbum punt. Y mae yr attod- leni i gael eu casglu o dy i dy, ac i gael eu cywiro os ceir eu bod yn anghywir. Y maent i'w dychwelyd i'r cofrestrwyr, a hwy- thau i'w danfon i'r Cofrestrydd Cyffredinol, at wasanaeth Bwrdd Llywodraeth Leol. Bydd dirwy o ddim llai na phunt, a dim mwy na phum punt, am wrthod rhoddi hysbysrwydd, ac am roddi aAtebion twyllodrus.