Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

LLOFRUDDIAETHAU YN. PERU.I

TAN MAWR YN MANCHESTER. PNBM.…

IYMLADDFA ANGEUOL RHWNG: DWY…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I YMLADDFA ANGEUOL RHWNG DWY DDYNES. DYDD Llun, Mai 20tin, cynnaliwyd trangholiad yn Preston, ar gorph dynes o'r enw Catherine Gallagher, yr hoa a laddwyd mewn ymladdfa a gymmerodd le rhyngddynt y prydnawn Sadwrn blaenorol, gan wraig weddw o'r enw Ann Hastie, yr hon a ddyg- wyd i'r llys o dan ofal heddgeidwad. Walter Johnson a ddywedai ei fod ei y noswaith a nodwyd, wrth glywed twrf dychrynllyd yn dyfod allan o dy Gallagher, yn Hope street, wedi troi at y drws, a'r peth cyntaf a welodd, ydoedd y ddwy wraig a enw- yd ar lawr yn ymladd &'u gilydd. Codasant i fyny gyda'u gilydd, y naill yn gafael yn ngwalit y Hall, a thra yr oeddynt mewa cyflwr hanner ymgrymol, ciciodd Mra. Hastie y drangcedig, yr hon a syrth- iodd i'r llawr yn uniongyrchol. Dywedodd gwraig o'r enw Mrs. Hodgkinson ei bod hithau, ychydig cyn i'r ymladdfa gymmeryd lie, wedi gweled Ann Hastie yn Friargate, pryd y gofynodd iddi i ba leyr oedd yn myned, yr attebiad a roes ydoedd, Yrwyf yn myned i ladd Kata Gallagher; y mae fy shawl gand-di, a mynaf ei chael, onid e, Uaddaf hi." Mary Gallagher, merch fach naw mlwydd oed y drMgced- ig, a ddywedodd, fod Ha8tie wedi ?i fi)d? drangee ty hwy o ddeutu pump o'r gloch prydnawn Sadwrn, a gofyn i'w mham pi ham na wnai hi dalu am y thauil. Dywedodd ei mbatn wrthi, os aroaai hyd y dydd Sadwrn dilynol, y rhoddai iddi bedwar swllt. Yoa aethant gyda'u gilydd i dafarndy, o'r jhwn y dychwelasant yn mhen o ddeutu hanner awr, pryd y deohreuasant gweryla ac ymladd â'u gilydd; a thra yr oedd y ddwy ar lawr, daeth ei thad i mown. Penliniai Ann Hastie ar frest ei mham, gau ei dyr- nodio yn ei gwyneb. Pan gyfjdasant, aeth Haties allan, gan waeddi—"Gall y d-I farw gyda hi o'm rhan i." Eiateddodd Mrs. Gallagher i lawr, a deohreuodd ei gwaed lifo yn arutbrol; yna eymmer- wyd hi i'w gwely, He y bu farw yn fuan. Dywed- odd Walter Johnson-y tyst a holwyd gyntaf, iddo ef yn fuan wedi i'r ymladdfa fyned drosodd, weled John GlIagher-gwr y drangeadig-scann Hastie, yn sefyll ar riniog y drws. Yr oedd braieh Gallag- her o amgylch gwddf neu wasg Hastie, a dywedodd rywbeth wrthi, i'r hyn yr attebodd hithau—"Yr ydym yn all right bellach." Priodolai Dr. Ridley, meddyg, yr hwn a wnaeth archwiliad ar y corph, farwolaeth y wraig anffodus i effeithiau cio neu ddyrnod. Dychwelodd y rheith- wyr ddyfarniad o "Ddyn-(es)-laddiad," a thraddoJ- wyd y garchares i sefyll ei phrawf ar y cyhuddiad hwnw yn y frawdlys nesaf.

IDAMWAIN ARSWYDUS AR FWRDD…

PRAWF TIOHBORNE.

[No title]

I LLEWELYN:

AMAETHWR O'R DEHEUDIR YN LLYS…