Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

ICAPEL NEWYDD Y METHODISTIAID…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAPEL NEWYDD Y METHODISTIAID I CALFINAIDD YN SEACOMBE. Yr oedd dydd Sadwrn, Mehefin 3ydd, yn ddydd o Uchelv. yi yn Seacombe, lie sydd ar Ian gorllewinol yr alton Mersey, gyferbyn a Liverpool, yn enwedig felly yn ei gyssylltiad 4g achos y Methodistiaid Calfinaidd yn y lie, gan mai ar y dydd hwnw y gosodwvd y maen ceffadwriaethoI" yn y capel newydd sydd yn cael ei adeiladu yn Liscard Place. Y mae y pwyllgor gweith- iol wedi bod yn hynod ffortunus gyda'r anturiaeth er pan y eyohwynwyd hyn gyntaf. Y maent wedi Ilwyddo i gaelIle i adeiladu arno y buasai yn ammhossibl cyf- arfod â'i brydferthaoh syrthio ar gynllun sydd yn gydweddol &'r lie; ac wedi cael y gwaith i'r fath addfedrwydd, fel y cymmerwyd cyfle ac adeg ein Gym- manfa fiynyddol i osod y maen penaf i mewn yn yr adeilad; ao yn enwedig yn y gwr y llwyddwyd i'w gael i wneyd hyny—y gwr da ei galon a hael ei ysbryd, David Davies, Ysw., AS., Llandinam, yr hwn, fel pen saer celfydd, a'i gosododd yn "well and truly" yn ngwydd tyrfa liosog; a diau y buasai yn llawor iawn Uiosooach oni bae am y gwlaw oedd yn ymdywallt ar y pryd. Yr oedd pob daipaviaeth o dan ofal y Meistri D. E. Owen, D.:Ricbards. a T. Rogers, wedi cael eu gwneyd gogyfer a'r amgylohiad, eisteddleoedd wedi eu trefnu, esgynlawr wedi ei godi, a.'r llumanan yn cyhwfan; ond yn annisgwyliadwy, er fod ''wyneb y wybren" yn peri pryder i lawer mynwes y boreu, daeth y gwlaw yn gen- Uif, fel y bu raid i'r dyrfs, ar ol sicrhau y maen wneyd am y capel yn Victoria Road, yr hwn a orlanwyd yn ebrwydd. Cymmerwyd y gadair gan y Parch. Riohard Lumley, gweinidog y lie, ac yr oedd llu o weinidogion, diaconiaid, a charedigion yr achos o'i am- gylob. Yn eu plith yr oedd y gwron o Landinam y Parohn. Owen Thomas, John Hughes, Owen Jones John Foulkes, a Joseph Williams, Liverpool; Dr: Edwards, o'r Bala; John Jones, Rhos Thomas Grey Manchester; James Muir, gweinidog yr eghvys Bres- byteraidd Ysgotaidd Egremont; MeUtri David Jones a John Griffith, diacoDiaid eglwys Seacombe; John Jones, Edward Jones, Joseph Owen, David Richards, David E. Owen, ac ereill o aelodau y pwyllgorgweithiol. Dechreuwyd y eyfarfod gan y Parch. John Morgan Jones, Caerdydd ac yna, rhoes y eadeirydd grynodeb o hanes yr aohos yn y lie er ei gychwyniad cyntaf. Dechreuwyd yr aohos Methodistaidd Cymreig yn Sea- oomba trwy oflferynoliaeth yr hen batriarch Robert Owen, tad Mr. Joseph Owen, Tower View, a thad yn- nghyfraith Mr. John Jones, Fgremoni. Ganwyd ef yn air FÔn ac wedi bod am rai blynyddoedd yn gweithio yn sir FSint, symmudodd i'r ardal hon rywbryd cyn y flwyddyn 1830. Pan y ddaeth yma gyntaf, arferai fyned i addoll i hen eglwys Wallasey, er ei fod yn Fethodist trwyadl, gan nad oedd yma yr un cyfle arall iddo gael ond diau nad oedd ysbryd Robert Owen yn galla ymddigooi ar yr hyn a gai yno, gan ei fod wedi bod yn eistedd o dan weinidogaeth dynion o stamp John Jones, Treffynnon. Gan fod yna ychydig o Gymry fel yntau, gan mwyaf o sir Fflint, fe benderfyn- odd y mynai godi aohos Methodistaidd Cymreig yn y lie. Nid oedd y rhagolygon yn rhyw addawol iawn a. chan Bad oedd ef, na'r rhai a ymgynnullent gydag ef, ond dynion a ymddibynent yn hollol ar lafnrwaith eu dwylaw, yr oedd yn rhaid iddynt ymfoddloni ar babell hynod ddiaddurn i addoli ynddi. Weithiau cyfarfydd- ent mewn gweithdy, weithiau mewn ty annedd, hen ddarllawdy, neu ysbytty, rhywle lie y gallent addoli Duw ynddo; ac felly y buont yn orwydro o babell i babell, fel dyeithriaid a phererinion, ond trwy "gyf- lawn ddilyn," yr oodd y myrtwydd, er yn y pant, yn graddol dyfu, fel cyn hir y penderfynasant estyn eu cortynau, a siorhau eu hoelion, a mynai yr hen dad gMl oapel newydd a thrwy gynnorthwy parod y cyf- eillion yu Liverpool, capel newydd a gaed. Rhyfedd y gorchestion a all diwydrwydd a dyfalbarhid el wneyd. Adeiladwyd y capel newydd yn Chapel Street, a dydd coromad em grasusaf Frenhines, yr 20fed o Febefin, 1837, oedd dydd el agoriad; ao o herwydd hyny, galwyd y capel yn Victoria Chapel." Y mae pob un sydd yn ofni Duw yn anrhydeddu y brenin hefyd. Pregothwyd y bregeth gyntaf yn y oapel newydd gan y diweddar Barch. Richaid Williams Liverpool. Buwyd yn addoli yn Victoria Chapel am o ddeutu pedair blyn- edd ar bymtheg; ond o herwydd fod y Cymry yn Ilios. og', a'r achos yn oynnyddu, aeth yr adeilad yn rhy fychan, a phenderfynodd Robert Owen gael He mwy. Rhoddodd yr achos drachefn o Baen y brodyr yn Liver- pool, a phenderfynwyd prynu yr adeilad y mae yr eglwys yn arfer ymgynnull ynddo yn bresennol gan y brodyr Y Wesleyaid Seisnig, yr hwn a saif yn Victoria Road. Yr oedd y diweddar Barch. Henry Rees o'r farn fod y "Victoria" yn Chapel Street yn helaeth ddigon ar y pryd, ao y byddai y gynnulleidfa yn yr adeilad newydd i'w gweled fel brala mewn nines, un yma ac un acw, yn ymgolli yn ei eangder; ond pryn- wyd y capel; a rhyw Sabbath cyn hir, yr oedd Henry Rees yno i bregethu, a ohafodd gynnulieidfa lied iiosog. Aroly bregeth, gofynodd Robert Owen, Wel, Mr. Rees, ddarfu chwi gyfrif y brain lieddyw V' Nuddo, Robert," meddai yntau, "yn tydech chwi 'n rhai mor wych am heidio." Dywedai y parchus gadelrydd fod hanes yr eglwys yn Seaoombe yn dwyn yr un nodau yn ei chychwyniad a'i ohynnydd a'r eglwys fawr yn mhob oes, er ei chy- ohwyniad cyntaf. Ychydig iawn o wyehder bydol sydd wedi dyfed i'w rhan erioed-" Pathan distadl y byd a ddewisodd Duw, fel y gwaradwyddai y pethau cedyrn tlodion y byd, a rhai dirmygus y byd y mae efe wedi gwneyd defnydd o honynt i ddwyn ei amcanion gogon eddus i ben. Ac nid oedd Robert Owen nac yn esgob nao apostol, ao heb feddu yr un cyssylltiad traddodiadol yngltn All hanes ond meddai yr hyn sydd yn an nhraethol gryfach, meddai gariad at Fab Duw, allosgid ei fynwes gan awydd i gael ei gyd-ddynion i gredu ynddo, fel y mae yr achos erbyn hyn wedi dyfod i'r fath bwysigrwydd, fel yr ydym yn teimlo yr angenrheid. rwydd am le helaethach a phrydforthach i addoli ynddo. Ond y mae Robert Owen wedi myned er's blynyddoedd bellach oddi wrth ei waith at ei wobr; a gwyn fyd na welid llawer mwy o ddynion yn meddu cyffelyb ysbryd iddo. Wedi yr anerohiad gan y llywydd, cyflwynwyd llwyar arian hardd, a morthwyl o dderw ac ebony, wedi eu gwneuthur gan Mr. T. J. Paris, Lord Street, Liverpool, i Mr. Davies, gan Miss E. M. Griffith, unig ferch John Griffith, Ysw. Yr oedd yn gernedig arno gynllun o'r capel newydd, gydag inscription priodol-o dano; yr oil yn werth o ddeuta 15p.; ao er fod Mr. Davies wedi der- byn y fath roddion lawer gwaith o'r blaen, hwyrach na fedd yr un a fydd yn rhagori llawer ar y trowel a gyflwynwyd iddo gan y foneddiges ieuango ddydd Sad- wrn diweddaf. Ar ol y cyflwyniad, gwnaeth y bonedd- wr haelfrydig a thrilling speech," chwedl y llywydd, a diweddodd trwy wneyd fel y bydd yn gwneyd bob amser; sef, rhoddi cheque am 200p. tuag at fund y capel newydd. Caed un arall am 50p. gan David Roberts, Ysw., Liverpool, yr bynaf o ddiaconiaid ein tref 5p. gan Afro. Davies, yr hon a ddaethai yno gyda'i phriod haelfrydig, ao amryw symiau ereill. Dywedai Mr. Davies fod dau beth yn ei gymmhell i roddi y ddau cant; nid yw bob amser yn rhoddi dau ar y fath am- gylchiad, ond teimlai ei fod dan rwymau i roddi dau yno, a byny, yn un peth, o herwydd yr haelioni mawr sydd wedi cael ei ddangos gan yr eglwys ei hun, heb law llawer o garedigion y tu allan iddi; a pheth arall, prydferthwch y llanerch a ddewiswyd i adeiladu arni. Y mae yn un o erthyglau ffydd y boneddwr o Lan dinam, y dylai ty i Dduw fod yn rhagori oddi fewn 11.0 oddi allan ar bob ty arall; ao nid crediniaeth yn unig ydyw hyn ganddo, ond gweithir hyny allan ganddo mewn ymarferiad fel y dywedai y Dr. o'r Bala, wrth anerch y cyfarfod, ei fod mown cyfarfod pregethu yn ngbymmydogaeth Llandinam tua'r adeg y gorphenwyd y capel hardd a adeiladwyd gan Mr. Davies, lie y mae y Porch. David Lloyd Jones yn gweinidogaethu. Yr oedd ftlr. Davies, meddai, wedi cymmeryd gofal neill. duol i harddu, dodrefnu, a chwblhau y capel newydd; ond wrth fyned heibio Llandinam, canfyddai y Dr. fod yno liaws o bethau o ddeutu preswylfod y dyn ei hun yn mhell o fod wedi eu cwblhau, a gofynodd i Mr. Davies yr achos o hyny. Wel," meddai yntau, ni oddefai fy nghydwybod ddim i mi gwblhau ac addurno fy nhy a fy ngerddi fy hun, heb yn gyntaf gwblhau a dodrefnu ty i Dduw Israel." Ac felly y gwuaeth. A llawenychai yn fawr wrth edrych ar gynlluu y capel newydd yn Seacombe, y bydd nid yn unig yn anrbyd- add i Arglwydd Dduw y nefoedd, ond y bydd hefyd yn anrhydedd i'r gymmydogaeth; ao y mae golwg addaw- ol iawn y bydd, pan y cwblheir ef, yn hollol ddiddyled. Y mae yma yr haelioni mwyaf canmoladwy wedi cael ei ddangos gan bawb, a chan rai yn neillduol felly, fel y mae yr eglwys ei hun wedi casglu o ddeutu 1,500p. Dau o'i haelodau yn rhoddi 200p. bob un unJlSOp.; un arall lOOp.; pedwar wedi rhoddi 5Op. yr un dau 40p.; dau 30p.; pedwar 25p.; dau 20p.; dau 15p., &c a rhoes un weddw dlawd bunt, am yr hon y gellir dy- weyd ei bod wedi cyfranu mwy na hwynt oil. Y swm cyntaf a dderbyniwyd oedd bp, mewn cafladwriaeth am y Robert Owen y soniwyd am dano; a derbyniwyd lOOp. er cM am y diweddar Mr. W. Owen Roberto. Nid oes ar ffeithiau fel y rhai hyn angen llythyrau canmoliaeth y maent yn ddigon i ddangos fod cariad at Iesu Grist a'i achos yn llawer iawn cryfaoh yn myn- wesau y rhai sydd yn ei broffesu nag y myn llawer ei fod. Ond nj ddylid myned heibio heb gydnabod yn neill- duol garedigrwydd y boneddwr, ar dir yr hwn y mae y capel yn cael ei adeiladu arno. Anfynyoh iawn y cyf- arfyddodd yr un eglwys erioed i chymmaint o garedig- rwydd ag a ddeibyniodd eglwys Seacombe oddi ar law Charles Salusbury Mainwaring, Ysw., Liaethwryd, Ceryg-y-Druidion, yr hwn yn ewyllysgar a addawodd iddynt gael yr unig lanerch a ddewiswyd ganddynt- llanerch nas gellid cael ei phrydforthach o fewn y plwyf ao heb law hyny, rhoddodd IjOp. yn rhydd ac yn siriol tuag at ddwyn y draul. Bydded iddo dderbyn til yn ei fynwes; ao os gwel yr "Hen Gorph y gall wneyd rhyw gymmwynas iddo rywbryd, yr ydym yn gobeithio nad anghofia ei garedigrwydd tuag at un o'i hiliogaeth yn Seacombe. Anerchwyd y cyfatfod gan y Dr. ar Our Doctrine and Church polityond gan fod y cyfarfod wedi myned yn faith eisoes, a phregethu i fod yn y gwahanol addoldai yn y dref, cyfyngodd ei hunan i atteb dau gwestiwn yn unig sef. Pwy ydym 1 a Pha beth ydym ? Tuag at atteb y cyntaf, ni wnai ond cyfeirio yn unig at Iyfrau, fel y gallai pawb gael mantais i chwilio drosto ei hun. Enwodd drl o Iyfrau-.—Bywyd Arglwyddes Huntingdon, Bpwyd Charles o'r Bala, a -The Christian Leader of the last centuryAm y owestiwn olaf, dywedodd y parchus Ddr. y gallwn ddilyn ein tarddiad "to an eminent clergyman in the Church of England, about the time of Wesley," yr hwn, o her- wydd fod y cylch yr oedd yr Eglwys wedi ei osod iddo weithredu ynddo yn llawer iawn rhy gyfyng, a dorodd dros ei derfynau, gan fyned i'r prif-ffyrdd a'r caeau i gyhoeddi bywyd tragwyddol i bechadur. Nid oadd y Fam Eglwys yn foddlawn iddo, a bu raid iddo ddewis un o ddau beth sef, un ai rhoddi i fyny ei ymdrech i ddwyn pechaduriald at y Gwaredwr, neu ynte gael ei ddifuddio o nawddogaeth yr Eglwys. Cyfododd Daniel Rowlands tua'r un adeg, yr hwn a fu yn un o'r prif offerynau i sylfaenu aohos y Methodistiaid yn ein gwlad. Nid oedd Charles o'r Bala ond secondary cause, o herwydd fod cyfeiriad arall, er nid llai gogoneddus, i weithrediad ei feddwl. Cyfyngai Mr. Charles ei hun yn gwbl i'w sphere ei hun. Ei ddrychfeddwl mawr ef oedd dyfod a'r werin yn gydnabyddus A Gair Duw, ao yn yr awydd hwnw y cafodd y drychfeddwl o'r Feibl Gymdeithas ei fodolaeth, yr hon, o dan fendith Duw, sydd wedi dyfod yn ffaith mor bwysig fel y mae y byd yn teimlo ei ddylanwad. Dywedai fod Calfiniaoth yn gyfystyr a'r gair efengylaldd; a bod y Methodistiaid Calfinaidd yn hollol yr un syniadau a'r blaid efengyl- add ya yr Eglwya Sefydledig.. Y mae cyffes em Ilfydd yn cynnwys yr un peth yn hollol a'r deugain erthygl namyn un; yr un peth a ddysgai Dr. Owen, a'r un peth a ddysg Spurgeon yn bresennol. Ac er fod yr EgJwys yn ein cyhuddo o fod yn sismaticiaid etto, y mae ei hymddygiad tuag at ei phlant yn myned yn mhell i brofi fod y seism yn llechu o dan ei gwiagoedd ei hun. Cynnygiwyd diolcbgarwoh y cyfarfod i'r boneddwr o Landinam gan y Parch. Owen Thomas, yn oael ei gefn- ogi gan y Parch. John Hughes, a chafodd y derbyniad mwyaf brwdfrydig gan yr holl dyrfa. Ond dywedodd Mr. Davies nad oedd angen diolch arno ef, nac yn wir yn haeddu dioloh; o blegid yr oedd ef wedi dyfod yno dros ei Feistr Mawr, ao yr oedd yn gobeithio cael. braint gyffelyb lawer gwaith cyn marw, a gobmthiaf gael byw yu hir etto; a therfynwyd un o'r oyfarfodydd mwyaf brwdfrydig. Y mae diolch y pwyllgor gweitbiol, ac yn enwedig yr eglwys, yn ddyledus i'r personaii hyny sydd wedi hyr. wyddo y gwaith yn mlaen, a gobeithiwn y caiff pob un o honynt weled y maen olaf yn cael ei osod, a'r adeilad gwyoh wedi ei gwbl orphen. Y maent, habjlaw cyf- ranu yn helaeth o'u harian, wedi, ao yn rhoddi eu ham- ser, fel nad oes dim yn cael ei adael ganddynt a allant ei wneyd heb ei gyflawni; ao y mae yn sicr genym y bydd gweled y cyfan wedi ei orphen yn fwy na thAI am eu holl drafferth. Bydd yr adeilad pan ei gorphener yn werth o ddeutu 4,000.p., ao yn cynnwys lie i tua 270; end y mao yn cael el adelladu ya y fath fodd fel y gellir ei helaetha, pan y bydd angen am hyny, heb gyffwrdd a'r muriau allan- 01, fel ag i gynnwys o ddeutu 200 o elsteddleoedd yn chwaneg. Adeiladir of o lime-stone a godir yn air Ddinbych. Yr architect ydyw, Mr. R. G. Thomas, Pont Menai; a'r contractor am yr holl waith ydyw Mr. William Jones, o Beaumaris. Disgwylir y bydd y gwaith wedi ei orphen erbyn tua Chymmanfa y Sul- gwyn y flwyddyn iseasf. Bydded i fendith Ditw orphwys arno, ei bresennoldeb gael ei fwynhau ynddo, eneidiau lawer gael eu hachub trwy ei ordinhadau, ao awyrgylch foesol y gymmydogaeth gael ei phuro trwy ddylanwad y ddysgeidiaeth a gyfrenir o hono.-J. E.

BWRDD Y LLYWODRAETH LEOL.

EISTEDDFOD CERYG-Y-DRUIDION.

CWN DEFAID.

[No title]

CYMMANFA Y SULGWYN YN LIVERPOOL.