Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
21 erthygl ar y dudalen hon
Y CYNNWYSIA0. I
Y CYNNWYSIA0. I Digwyddiodau, &c. 1 Y Senedd. 2 Tromeddau a Damweiniau 3 Gwallter Ddewrfryd 3 Uith o Liverpool. 3 Prif Erthyglau «. 4 ffevydcliou Cymreig 4 Dinbyoh 5 y Vord Gron ao Eisteddfod Gwreosam 6 Bsrddoiiiaeth 6 Uuohnadoedd 6 Aiholiad blynyddol Athrofa y Msthodistiaid Bala.. 7 Bothetida-renmaenmawr 7 Hysbysiadau 8.
[No title]
Y MAE y Temps, newyddiadur a gyhoeddiv yn Paris, wedi cylioeddi llytliyr dyddorol o Caer Cystenyn, yn yr hwn y rhoddir uianyl- ion, o awdurdod ddiammheuol, dybygid, o hunan-laddiad y diweddar ymherawdwr ABDUL-Aziz. Yr oedd rbai yn tybied y gallasai ei fod wedi cyfarfod a'i farwolaeth mewn rhyw fibrdd arall; ond y mae y gred iniaeth iddo gyflawni hunan-laddiad, yn ol yr hysbysiadau, yn cryfhau yn awr; a gellir dyweyd erbyn hyn fod hyny wedi ei brofi ar dystioliaethau digon credadwy.
[No title]
Ymddengys fod y cynghorion a roddwyd gan Mr. MACDONALD, A. S, a Mr. BROWN i lowyr gogleddbarth sir Stafford wedi dwyn ffrwytb, o herwydd y mae y dynion yn gyff- redinol wedi ail ddechreu ar eu gwaith, ar y gostycgiad o ddeg y cant.
[No title]
————— 0 ————— Y mae adeilad Ysgol Waddoledig Dr. WIL- LIAMS, yn Nolgellau, i gael ei dechreu yn ddioed, gan ei bod wedi ei gosod am 2,313p «
[No title]
Ychydig ddyddiau yn ol, cymmerodd dam- wain ofidus le yn Nghonwy. Fel yr oedd dau fachgen, meibion Mr. GEORGE HILL, un 0 wylwyr y glenydd, yn ymdrochi dan bont y ffoi-dd haiarn, aeth yr ieuengaf, fel y tybir, i le rhy ddwfn, ac ymdrecliodd yr hynaf ei achub; a chan nas gaUai nofio, boddodd y ddau. _♦ ——————
[No title]
Ymddengys fod haelioni crefyddol ar gyn- nydd yn mhlith Methodistiaid Liverpool. Nid oedd cyfanswm eu casgliadau y flwyddyn ddiweldaf yn ddim llai na 10,155p. at wahanol achosion crefyddol; yr hyn oedd yn gynnydl o ddeg y cant ar y flwyddyn flaen- orol,
[No title]
+. ——.— Y mae Prif Weinidog Twrci wedi gor- ehymyn i lywodraethwyr y taleithiau i beidio cario allan y diwygiadau a gyhoeddwyd dan y teyrnasiad diweddar, ac i aros hyd nes y cyhoeddir y cyfreithiau newyddiou. Der- byniwyd adroddiad swyddol o Berlin i'r pwr- pas fod y galluoedd mawrion wedi amlygu eu cymmeradwyaeth o gynnygiad y Porte o gad- oediad, ac wedi ymrwymo o'u tu hwythau i wneyd eu goreu i ddarbwyllo y gwrthryfel- wyr i'w dderbyn.
[No title]
■— + Dydd Llun diweddaf, cynnaliwyd cynnadl edd ddylanwadol o gynnrychiolwyr Anghyd ffurfiol, o dan gyfarwyddyd y Gymdeithas er Bhyddhad Crefydd, a'r cenhadon cynnulleid- faol, yn Westminster Palace Hotel, Llundain, i'r dyben o gymmeryd i ystyriaeth natur a manylion Mesur Addysg Elfenol Arglwydd SASDON. Cymmerwyd y gadair gan Mr. M' ARTHUR, A. S. Anerchwyd y gynnadledd gan Syr HitNRY HAVELOCK, A. s, Mr. HENliY RICHARD, A. s, Syr CHARLES DILKE, A. S., Mr. E. J BSKINS, A. S., Mr. R. DA VIES, A. 8, Mr. M. LLOYD, A. S., Mr. ILLINGWORTH, &c a phasiwyd peaderfyniadau yn condemnio mesur y Llywodraeth mewn llawer o ystyr- laethau pwysig. Un peth ag y gosodid pwys arbenig arno oedd, nad oedd y mesur yn ym- wneyd yn ddigon difrifol a'r cwestiwn mawr o addysg orfodol. Peth aratl, am yr hyn y aauleuid yn ei erbyn oedd, ei fod yn ymyryd hawhan c-ydwylod trwy amddifadu rhi :i: Anghydffurfiol, mewn miloedd o blwyfydd, i ddewis ysgolion i'w plant; ac hefyd am ei fod wedi ei gynllunio yn uniongyrchol gyda golwg ar roddi addysg yn fwy etto o dan ly wodraetb clerigwyr yr Eglwys Sefydledig. A phender fyniad diysgog y gynnadledd oedd, y dylai yr boll aelodau seneddol Rhyddfrydig wrthwyn ebu y mesur hwn hyd eithaf eu gallu, ac yn mhob modd ag y goddef ffurfiau y Ty iddynt wneyd hyny. Y mae y dybiaeth yn cryfhau y bydd raid i'r Llywodraeth gael holl nerth y mwyafrif sydd ganddynt yn arfer ufuddhau mor ffyddlawn pan y byddo arwyddion perygl yn ymddangos, yn wyneb y gwrthwynebiad mawr sydi yn amlygu ei hun i'r mesur hwn. Po fwyaf a astudir arno, mwyaf yn y byd o'i annhegwch sydd yn ymddangos.
[No title]
Nos Wener, yn Nhy y Cyffredin, gofynodd Arglwydd HARTINGTON i'r Llywodraeth, pa wladlywiaeth y bwriedir ei chefnogi trwy symmudiadau Llynges Mor y Canoldir. Nid oedd Mr. DISRAELI yn teimlo ei hun at ei ryddid i roddi attebiad pendant, ac nis gallai roddi y papyrau a ofynid yn ddioed ar fwrdd y Ty. Dywedodd wrth Dy y Cyff- redin fod Cofeb Ty y Cyffredin wedi ei thynu yn ol, fod y galluoedd mawrion wedi eyttuno i beidio rhoddi gwasgiad ammhriodol ar y Sultan, eu bod yn unfrydol yn cymmhell Servia i arfer cymmedroldeb, ae i gydnabod MOUBAD V. Credai Mr. DISRAELI y cedwid heddwch. ♦
[No title]
Nid oes yn awr ddim llai na pheJwar ugain miliwn o bunnau o aur yn Ariandy Ffraingc, y mae agos i wyth miliwn ar hugain yn Ariandy Germany, a thros saith miliwn ar hugain yn Ariandy Lloegr. Dan amgylchiadau cyffredin buasai hyn yn rhoddi symbyliad mawr i fasnach o bob math. Ond ar hyn o bryd, y mae masnach yn hynod o farwaidd. Ni bu y gofyn am 16 a haiarn mor fychan er's llawer o amser; ac nid oes un tebygolrwydd y ceir adfywiad buan. Ym- ddengys fod rhanau o Ddeheudir Cymru yn dioddef yn drwm oddi wrth y marweidd-dra presennol yn y fasnach. ♦
[No title]
Dydd Sul diweddaf, digwyddodd damwain i gwcli, trwy yr hyn y collodd tri ar ddeg o bersonau eu bywydau, ger Eastbourne. Gad- awodd nifer o lafurwyr a chrefftwyr East bourne, a phlentyn tair mlwydd a hanner oed, y farchnad bysgod mewn ewch perthynol i SAMUEL a J. HUGGET, i ymddifyru ar y m6r, dan ofal un o'r perchenogion. Pan wedi morio o ddeutu milldir a hanner oddi yno, gwelwyd y cwch yn myned o'r golwg yn ddisymmwtli. Anfonwyd cychod yn ddioed i'w gwaredu. Un dyn, RICHARD DEAN, yr hwn oedd yn nofio ar rwyf, oedd yr unig un a godwyd i fyny yn fyw o'r pedwar ar ddeg. Dywed ef fod pwff o wynt cryf wedi taro ar y cwch, gan ei droi i raddau ar ei led ochr, ac yn ddisymmwth daeth cryn lawer o ddwfr i mewn. Cynghorodd HUGGET, y cychwr, y bobl oedd ynddo i eistedd yn llonydd, ac I ymwastadhaodd y cwch i raddau. Modd bynag, ymdyrasani ar un ochr idd", a sudd odd yn ddioed. Y geiriau olaf a glywodd oedd, "Yr oeddwn yn meddwl mai fel hyn y byddai." Llwyddodd ef (DEAN) i gael gafael ar rwyf, ac felly cadwodd ei hun i nofio hyd nes yr achubwyd ef gan gwch o'r lan. Cafwyd hyd i'r holl gyrph.
[No title]
Nid ydyw yr olwg a goir yn bresennol ar agwedd wleidyddol Yspaen yn edrych yn addawol. Arwydd ddrwg ydyw fod y Llyw- odraeth yn edrych yn ofnus ar ganlyniadau rhyddid barn a llafar. Y mae pedwar neu bump o newyddiaduron Rhyddfrydig Madrid wedi eu hattal yn ddiweddar. Arwydda Rhyddfrydiaeth ar y Cyfandir yn fynych rywbeth hollol wahanol i'r byn a olygir wrth y gair yn y wlad hon. Cyssylltir ef a'r syn- iadau mwyaf eithafol, ac yn enwedig felly yn Yspaen. Dywed gohebydd y Times, pa fodd bynag, nad oedd y newyddiaduron hyn sydd wedi tynu anfoddlonrwydd Senor CANOVAS DEL CASTELLo-gwladweinydd ag y disgwylid ar ua ymmaint oddi wrth ei gymmcdr- oldeb a'i synwyr cryf-yn gefnogwyr syniadau gwyllt ac eithafol, ond yn bytrach eu bod yn gysson yn eu cefnogaeth i olygiadau cym- medrol a cliyfansoddiadol." Diau fod y wlad- lywiaeth hon yn un annoeth iawn. Y mae Erthygl yr XI. o'r cyfansoddiad newydd yn caniatau can lleied ag y gall unrhyw weinidog it. sonia o gwbl am addefiad crefyddol ei gan- iatau. O'r braidd y caniateir ganddi ryddid i Brotestaniaid i addoli; ond er hyny, y mae gwrthwynebiad y Pabyddion eithaf yn ei herbyn yn cryfhau bob dydd. 0 dan yr am- gylchiadau hyn, gallesid disgwyl am i'r Llyw- odraeth sydd mor ddyledus i syniadau rhydd- frydol y wlad, i fabwysiadu cwrs a fuasai & thuedd ynddo i heddychu y pleidiau, ac nid ochri gyda'r naill ar draul darostwng y llall. Y mae yn ddiammheuol fod y disgwyliadau a fu unwaith yn lied uchel wrth y Llywodr- aeth, yn awr i raddau pell yn troi yn siom- edig, ac yn tueddu i argyhoeddi y rhai a dybient fod Yspaen, bellach, ar ol ei holl helyntion, wedi dysgu doethineb, eu bod yn camgymmeryd. Ond y gwirionedd ydyw, lie y byddo yr offeiriadaeth yn meddu y dylan- wad sydd ganddi yn Yspaen, y mae y gobaith am ryddid, a thegwch, a chyfiawnder yn nesaf peth i ddim.
[No title]
Y mae pwlpud symmudol GEORGE WHIT- FIELD, yr hwn sydd yn eiddo i Gymdeithas y Traethodau Americanaidd, yn awr i'w weled yn yr Arddangosfa Fawr yn Philadel- phia. Pinwydd ydyw ei ddefnydd, ac y mae wedi ei wneyd fel y gellir yn rhwydd ei dynu yn ddarnau oddi wrth ei gilydd, a'i osod ynghyd dracbefn Traddododd y pregethwr mawr hwnw tua dwy fil o bregethau or pwl pud hwn. yn meusydd Lloegr, Cymru, ac America; a mynegir iddo wneyd y sylw un- waith. fod yr efengyl wedi ei phregethu o hono i fwy na deng miliwn o bersonau. Yr oedd ei boblogrwydd yn ddigyffelyb, a'r daioni a wnaeth i achos crefydd yn ddirfawr. —+
[No title]
Dydd llun diweddaf, cyhuddwyd dyn o flaen ynadon y fwrdeisdref yn Brighton- gan y Parch. JOHN MARTIN, gweinidog Ym- neillduol yn y dref, aelod o fwrdd y gwarch- eidwaid—o fod yn orphwyllog, a chael ei adael yn rhydd pan yn y sefyllfa hono. Aflonyddodd y carcbaror ddwy waith ar y gynnulleidfa a addolai yn nghapel Bristol Road, ac ar un adeg i'r fath raddau nes lluddias y gwasanaeth crefyddol yn mlaen. Satan oedd yr enw a roddai ar Mr. MARTIN, a hawliai iddo ei hun ddoniau i brophwydo, a mynai fyned i fyny i'r pwlpud i gyhoeddi cenaflwri a ymddiriedwyd iddo. Tra yr oedd ger bron yr ynadon, yr oedd ymddygiad y cyhuddedig yn rhyfedd a dyeithr, a dyfynai yn barhaus ddarnau o'r Ysgrythyr. «
[No title]
Yn nechreu yr wythnos hon, ymwelodd dirpvwyaeth oddi wrth Gymdeithas Gwneu- thurwyr Papyr Lloegr ac Ysgotland Ag Ar- glwydd DERBY, yn mhei-thynaa i'r tollau a godir gan wledydd tramor ar bapyr Prydeinig, y rhai sydd yn dylanwadu yn niweidiol iawn ar y rhai sydd yn cario yn mlaen y gwaith yn y wlad hon. Mewn attebiad, dywedai ei arglwyddi-teth, gan ein bod wedi mabwysiadu y gyfundrefn o fasnach rydd, ei bod yn rhy ddivfeddar i son am gyflesiant (reciprocity); efe a addawai, pa fodd bynag, yr ymdrechid gwneyd pob peth oedd yn bossibl i symmiid yr hyn sydd yn wrthwynebus yn y tollau ar bapyr Prydeinig a gymmerir i wledydd ereill, ac ar y tollau a gyfodir ar garpiau a aafonir i'r wlad hon. «
[No title]
Yn nghyfarfod y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, yr hwn a gynnaliwyd yn Llundain nos Lun diweddaf, Syr BUTHERFORD ALCOCK -y Ilywydd newydd-yn y gadair, darUen- wyd llythyr oddi wrth Mr. E D. YOUNG, yr hwn a fu gynt yn un o'r ymchwilwyr oedd gyda Dr. LIVINGSTONE, ag sydd yn ddiweddar wedi cymmeryd gofal sefydliad cenhadol Ys- gotaidd yn agos i gongl de orllewinol Llyn Nyassa. Dywedai y Parch. Mr. HALL-er mai i Mr. YOUNG y perthynai yr anrhydedd o roddi yr agerlong Italia gyntaf ar Lyn Affricanaidd; a dywedai hefyd, os oedd y gaethfasnach i gael ei llethu a'i diddymu yn effeithiol, fod yn rhaid morio y Uynau hyn; a chan fod un agerlong yn awr yn nofio y Llyn Nyassa, gobeithiai efe yn gryf y byddai i'r esiampl gael ei dilyn gan ereill. 4..
[No title]
Y mae cryn gynnydd wedi ei wneyd gyda'r parotoadau i gyanal yr Eisteddfod Genhedlaethol yn Wgwrecaam. Nid ydyw y Llywyddion a'r siaradwyr wedi eu dewis, ond gwneir hyny yn ddioed ar ol cyttuno ar yr amser y eynnelir hi. Nid oes dim llai na phum cant o gyfanooddisdan wedi dyfed i law. Disgwylir y ceir un o'r eisteddfodau mwyaf mawreddog a llwyddiannus a gynnal- iwyd erioed yn y Dywysogaetb.
[No title]
Y mae esgobion Yepaen wedi cymmeryd sefyllfa ag y teimlant yn fuan neu yn hwyr ei bod yn anniffynadwy. Gan siarad fel eu cynnrychiolydd yn y Senedd ddydd Iau di- weddaf, dywedodd Esgob SALAMANCA y bydd- ai iddynt bob amser wrthwynebu rhyddid crefyddel fel peth hollol anghydweddol a Phabyddiaeth. Dengys hyn beth ydyw anian y grefydd Babaidd. Er fod y Pabydd- ion yn hawlio rhyddid crefyddol mewn. gwledydd Protestanaidd, nid ydynt yn baro4 i ganiatau rhyddid crefyddol i Brotestaniaid mewn gwledydd Pabaidd.
[No title]
Yn ol y Christian World y mae cryn siarad am undeb arall yn Ysgotland. Mewn cyfar- fodydd diweddar a gynnaliwyd gan gynnrych- iolwyr yr eglwysl cynnulleidfaol, awgrymodd Dr. WILLIAMS, Pnlsford, y priodoldeb o ymuno i'r Undeb Efengylaidd-enwad ag sydd yn dal cyssylltiad agos ig enw JAMES MORRISON, Glasgow, ac y mae y cynllun wedi ei dderbyn yn ffafriol gan y cylcbgronau » berthynant i'r Cyfundeb diweddaf; yn gystal a chan yr Advance, cylchgrawn perthynol i'r Annibynwyr. Dywed yr Evangelical Union Record fod arwyddioa yr amseroedd yn mysg yr enwadau mwyaf ya Ysgotland, yn dangos y dymunoldeb, ao fe allai yr angen- rheidrwydd, o undeb buan a llawn rhwng y cyfundeban lleiaf, os mynai y diweddaf i'v gallu gael ei deimlo yn helaethach nag y teimlwyd ef hyd yma. Dywed y Christian News, y cyhoeddiad hynaf a fedd yr Undeb Efengylaidd:—" Y mae amgylchiadau yr am- ser presennol yn galw am i'r cyfundeban hyn ymuno. Gwnai cymmysgiad Eor gwahanol elfenau i un cyfan mawr unedig, yr ydym yn sicr, ddirfawr les i eglwyai Ysgotland. ■ 0
[No title]
Fe ymddengys fod y Softasiaid yn cael edrych arnynt fel ffynnonell perygl i Lyw- odraeth newydd Twrci, canys y mae y SHEIK-UL ISLAM wedi gwahardd iddynt gario arfau, nao ymgynnsll mewn heolydd oy- hoeddus. Cesglir oddi wrth y dilltawrwydd gyda golwg ar symmudiadau pellach Servia fod Ymherawdwr Rwssia wedi Ilwyddo i ddarbwyllo Llywodraeth Servia i fabwysiadu gwladlywiaeth heddychol. Mynega telegram o Berlin fod Llywodraeth Twrci o honi ei hun wedi cynnyg i'r gwrthryfelwyr ddau o ammodau Cofeb Berlin-cadoediad am dri mis, ac ymdrafodaeth uniongyrchol. Ond pa un a ydynt yn barod i'w derbyn nl. wyddys. Y peth tebycaf ydyw mai eta gwrthod a wnant. Hysbysa telegram a Gaer Cystenyn fod cryn anghyttandeb yn flfynu yn mhlith Gweinidogion Twroi ar y cwestiwa o ddiwygiadau. Dywedb fodi MIDHAT PACHA yn ewyllyslo sefydlu oyfon- drefn wir gyfansoddiadol, ond barna y Gweinidogion ereill y byddai gwneyd hyny yn beryglus-nad ydyw y boblogaeth yn ddigon golenedig i'r fath gyfaewidiad.
[No title]
Yn Senedd ddiweddaf Ffraingc cariodd y blaid offeiriadol eu cynllun i sefydlu yr hyn a gamalwant yn Brif Ysgolion Rhyddion wrth yr hyn y deallant Prif Xogolioya wedi eu rhyddhau oddi wrth reolð y Llywodr- aeth, ao wedi eu gosod yn gwbl dan reolaeth yr offeiriadaeth. Y llynedd cafodd y aefydl- iadau hyn hawl i roddi grlddo, Y maa