Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
19 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Yr oedd dydd gtfyl yr iriandai ya un gogoneddus trwy yr holl wlad. Erbyn hyn, y mae yn ymddangos fod yr haf wedi dyfod i'n phth i arcs. Yr oedd nifer yr ymbleser- wyr yn mhob man yn anneirif, a phawb yn ymddangos fel wedi gosod meddylfryd ei gal on ar fynu cymmamt o foddhad iddo ei hun ag oedd yn bossibl o'r diwrnod. Pe buaaai Syr JOHN LUBBOCK yn byw yn y canol oesoedd, nis gellir ammheu am foment na fuasai un o'r heD babau yn falch o'r cyf. leusdra i'w gaaoneiddio neu ei santoli. Yn wir, y mae hyd yn oed goleuni diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn mynu galw y diwrnodd y bydd efe yn foddion arbenigol i'w neilldnoli yn Wyl Sant LUBBOCK.' Fel dyn llawn o fywyd, gweithgarwcb, a theimlad da, gwyddai cadeirydd newydd Cynghor Sirol Llnndain gymmaint o fendith i fyrdd- iynau a allai dydd o *yl o'r fath yma yn awr ac yn y man fod. Y mae y naiU flwyddyn ar ol y llall wedi mwy na phrofi doethineb a charedigrwydd dihafal yr ysbryd yn mha un y lluniwyd y ddeddf sydd yn awdvrdodi I G*.rl y Bangoiau.'
[No title]
Yn mysg y newyddiaduron diweddaf o'r I India ceir fod Cymdeithas Iechyd y cyhoedd yn Calcutta wedi anfon deiseb at y Llywodr- aeth i ddymuno arni basio deddf ar bWDgc y gwahanglwyf, heb aros am adroddiad y ddir- prwyaeth y bwriedir ei phennodi. Awgrymir y dylai gwahangleifion gael ymddwyn tuag atynt yn mhob modd mewn dull cyffelyb i'r modd yr ymddygir tuag at wallgofiaid. Yr adroddiadau am y flwyddyn diweddaf a ddangosant ddiffyg mawr yn nerbyniadau talaeth Burmah iatteb i'r costau. Y mae trealiau y filwriaeth i mewn yn y cyfrif hwn. Bwriedir gwneyd arolygiad dioed ar y ffordd y gwneir llinell ffordd haiarn Zhob- Gomal, gan gychwyn yn y pen agosaf i Peshin iddi. Yn nghymmydogaeth Bareilly, y mae liifogydd enfawr wedi claddu amryw bentrefydd o dan dwfr. Y mae Amir Aff- ghanistan yn awr wedi dychwelyd i Cabul, ei brif ddinas. Y priodoldeb o anfon con- hadaeth ato o'r India ydyw y prif gwestiwn sydd o dan aylw yn awr.
[No title]
Dydd Mawrtb, yr oedd y Barnwr VAUGHAN WILLIAMS yn penderfynu achos o gryn hynodrwydd yn mrawdlys Liverpool. Yr wythnos o'r blaen, cafodd dynes, A'i enw FRIEL, ei barnu yn euog o ymosodiad. Hi a ffraeodd gyda dynes arall, pan y darfu i un WILLIAM CARR ymyryd rhyngddynt, ac i'w gospi am hyny, tarawodd y fenyw FRIEL J ef yn ei ben a phocer. Gwysiwyd hi o flaen yr ynadon am ymosodiad, a dirwywyd hi i 20s. a'r costau, neu] bythefnos o garchar. Trodd yr ymosodiad allan i fod yn un llawer mwy difrifol nag y tybid ei fod ar y cyntaf, modd bynag. Bu CARR farw, a thraddod- wyd FRIEL i sefyll ei phrawf am ei ladd., Amddiffynid hi gan Dr. COMMINS, yr hwn a ddadleuai, yn gymmaint a bod. y ddynes wedi ei heuogfarnu a'i chospi am ymosod arno, nad oedd y gyfraith yn caniatau cymmeryd unrhyw weithrediadau pellach yn ei herbyn. Cymmerodd y barnwr amser i ystyried y pwynt hwn, a daeth i'r pender- fyniad nad oedd digon o rym yn nadl y Dr: iattalyrailbrawfiifynedynmlaen. Mewn canlyniad, y mae y ddynes wedi ei hanfon i garchar am chwech wythnos, yr hyn, ar wahan i'r cwestiwn cyfreithiol, nas gellir Hai nag edrych arno fel cospedigaeth ysgafn iawn am farwolaetbu dyn a gyflawnai ei ddyledswydd wrth geisio cyfryngn rhyngddi hi a'i gelynes. A godir yr achos, ar y pwynt cyfreithiol, nis gwyddom.
[No title]
Erbyn hyn y mae pob sicrwydd fod y Cadfridog RIVAS, y swyddog milwrod perth- ynol i fyddin SAN SALVADOR a droes yn fradwr iddi, wedi cael ei orchfyga. Efe a ddiangodd o'r brifddinas, ar yr hon yr ymosododd ddydd lau, yr wythnos ddiwedd- af, wedi ei llwyr orthrechu; ond dranoeth erlidiwyd ar ei ol, a daliwyd ef mewn lie ychydig filldiroedd o bellder o'r ddinas; ac yna fe saethwyd mewn modd cyhoeddus yn el' gofn. Pe yn euog o ryw drosedd heb law bradwriaeth cawsai ei saethu a'i wyneb at ei saethwyr. Gwnaed arddangosiad cyhoeddus ar ei gorph, hefyd. Rhoddir ar ddeall fod amryw wyr blaenllaw yn gyfranog gydag ef yn ei fradwriaeth. Gwneir yr ymchwil- iad manylaf ir holl amgylchiadau mor faan fyth ag y ceir hamdden, lie y bydd y cythrwfl presennol wedi tawelu. Parhaodd RIVAS a'i wyr i warchau ar y brifddinas am ddengain awr, a gwnaed anrhaith mawr ami. Ni chafodd dim llai na chant o bersonau eu saethu yn feirw yn yr heolydd. Dywedir fod y milwyr perthynol i'r llywodraeth a fuont yn cymmeryd rhan yn y brodoriaeth yn barod i gymmeryd eu hanfon i unrhyw fan y gwelo y llywodraeth yn dda i ymladd drosti.
[No title]
Y mae adroddiad tair blynyddol cyntaf Cymdeithas Gyd-genedlaethol Cyflafareddiad newydd gael ei gyhoeddi; ac ysgrif nodedig o galonogol ydyw hefyd, yn dangos fod y symmudiad da hwn yn ymleda yn gyiym. Y syniad o dan ddylanwad pa un y gweith- redai y sylfaenwyr ydoedd fod gwaith gallu- oedd Ewrop yn chwanegu yn feunyddiol at eu nerth milwrol yn gosod yr heddwch cyffredinol a hendithion penaf gwareiddiad yn yr enbydrwydd mwyaf, ac yn chwanegu yn ddirfawr at y perygl i ryfeloedd dori allan; ac am hyny, penderfynwyd gwneyd appel difrifol at bob plaid ft dosbarth o ddynion i gefnogi y symmudiad er cael gan y teyrnasoedd benderfynu eu cwerylon trwy gyflafareddiad yn lie rhyfel, a bod bwrdd eyflafareddol cyd-genedlaethol yn cael ei sefydlu. Dywedir fod genym esampl yn barod o hyn yn Llysoedd Cyd-genedl- aethol Unol Dalaethau yr America a'r Undeb Helvetaidd yn Ewrop. Cael yr un peth i'r oil o'r teyrnasoedd ydyw yr hyn yr amoenid ato. Nid penderfynu y mater gan ganolwr, yn gymmaint a thrwy ben- derfyniad cyflafareddwyr wedi eu dewii gan y ddwy blaid mewn ymrafael, chwaith; ond barn deg yn cael ei rhoddi gan lys y teyrnasoedd, yn gosod i lawr yn bendant pa beth ydyw eyfrailh y teyrnasoedd mewn amgylchiad neillduol. Yn bendifaddeu, bydded Ilwydd mwy nag erioed i'r gym- deithas hon.
[No title]
Gwnaed rhai ceisiadau i daflu ammheuaeth ar gywirdeb yr adroddiadau a gyhoeddwyd ynghylch y deddfau newyddion llymion sydd wedi eu pasio gan lywodraeth Rwssia yn erbyn yr Iwerddon. Ond, fe ymddengys mai yr oil a ellir ei ddyweyd ydyw, fod yt ymherawdwr etto heb roddi ei enw wrthynt. Eu bod wedi eu tynu allan gan gynghor y wladwriaeth sydd ddiammheuol) ac nichym- merir cam o fath hwn byth ond gyda chyd- syniad a ohymmeradwyaeth y penadur. Y mae hyd yn oed yr ordeiniadau sydd ar hyn o bryd mewn grym yn erbyn yr Iwerddon yn cael eu nodweddu gan lymdoster ofnadwy. Nid oedd yr angen lleiaf, gan hyny, am basio rhai eraill tostach. Gydag ychydig eithriadau neillduol a nodir yn y ddeddf, a rhai eraill sydd wedi eu hennill trwy lwgrwobrwy, rhaid i bob Iuddew Rwssiaidd fyw o fewn terfynau tiriogaeth sydd yn gorwedd yn mharthau gorllewinol a de- orllewinol yr ymherodraeth. I'r rhandir hwn y cyfyngir hwy, gyda'r eithriad o'r rhai a allant ddangos tystysgrif eu bod yn grefftwyr medrus, wedi graddio yn y prif ysgolion, neu wedi etifeddu dinas fraint yn y wlad. 0 dan y ddeddf newydd, modd bynag, bydd y crefftwr yn colli ei hawl-fraint, a'r lleill a ommeddir i fyned &'a gwragedd a'u teuluoedd gyda hwynt allan o'r rhandir. Ni chaniateir iddynt chwaith hyd yn oed ardrethu tir i'w ddiwyllio, na myned i un- rhyw gyssylltiad tirol. Oa rhydd yr ym- herawdwr ei enw wrth y mesur hwn, cyf- lawna weithred ffolaf ei oes!
[No title]
Yn ffodus, bu mwngloddwyr y Deheudir a sir Fynwy yn alluog i ddyfod i gyttundeb heddychol a'u meistriaid ynglyn a'r codiad a ofynent yn eu cyflogau; ac i wneyd hyny heb nemawr anhawsder, na llawer o oediad. Gan fod y llithr-raddfa mewn arferiad yn y dosbarth, pwngc syml, mewn cymmhar- iaeth ydoedd penderfynu pa faint o godiad yr oedd gan y dynion hawl iddo. Y ffigiwr y penderfynwyd arno wedi myned uwch ben y cyfrifon ydoedd 3p. 15s. yn y lOOp. yr hyn sydd yn codi cyfartaledd y cyflogau presennol i 50 y cant o'u cyferbynu â'r hyn oeddynt yn 1879, a chyn hyny. Ar y telerau hyn, ail ddechreuodd pawb ar ei waith. Y mae yn amlwg fod masnach yn ddiweddar wedi ymëangu yn fawr mewn swm; onid 6 ni fuasai y raddeg yn caniatM unrhyw godiad o gwbl. Yn anffodus, y mae llawer mwy o anhawsderau ynglyn i'r ammodau y mae y docwyr yn Nghaerdydd, a manau eraill, yn gweithio danynt; a'r un modd y gellir dyweyd am wyr y ffyrdd haiarn. Canmolir cynfaer Caerdydd am y rhan a gymmerir ganddo i geisio dwyn y pleidiau i heddwcb. Yr oedd gwft y ffyrdd haiarn yn foddlswn ymddiried p
i CYNNWKSIAD, I
i CYNNWKSIAD, Hysbysiadau « ?' l??vddndtu ? ?. ?. — 3 (?enedi?ethftu, &c. ?. ?.  I'rif Erthyglau ». J Pa bryd y ceir DadgyssylHiad .? J Y WeoIeyiMd a RhyddfrydiMth 4 Newyddion Cymreig ?. «« 5 Cofnodion CyNtedinoI 5 Gobcbiaethau. n. Barddoniaeth 6 Arglwydd ac Arglwyddes Dunlo wedi cymmoai b Coleg Llanymddyfri » Y Senedd Eisteddfod Corwen Y Miliynydd Cymreig yn Califformis Telogrartis or Tolegraff Oiffs ° Hofruddieeth ddwhl yn Llundain. n. 8 Marchuadoedd n. 8 Newyddioo Diwedde.f. 8
[No title]
YN Nhy yr Arglwyddi, ddydd L!uo, rhodd- wyd y cydsyniad brenhinol, trwy ddirprwy- aetb, i'r cyttundeb rhwng Brydain a'r Almaen. Ar un adeg, bu rhai o aelodau Ty y Cyffredin yn arddangos tuedd i godi gwrthwynebiadau. Unpeth a wrthwynebid ganddynt ydoedd, fodynys Heligoland yn cael ei rhoddi i fyny i allu tramor, a'i ym- herodraeth Brydmnig trwy hyny yn cael ei darnio, meddent; ac hefyd, hyny yn cael ei wneyd heb ofya ytighylch barn a theimlad yr ynyswyr eu huuain. Dadleuent, yn mhellach, nad oedd Brydain yn cael cym- maint o fanteision yn Affrica o dan y cyttundeb ag a ddylasai eu cael. Modd by nag, aeth e« holl ddadwrdd yn ofer, gan ddarfod mewn mtfg: a bellach, wele y cyt- tundeb rhwng y ddwy wlad yn ffaith safadwy.
[No title]
Yn Nby yr Arglwyddi, nos Lnn diwedd- af, galwodd larll GRANVILLE sylw at am- gylchiadau Deheubarth Affrica yn y dyddiau hyn; ae yn enwedig sefyllfa pethau yn Ngwiad y Swazi (Swaziland). Y mae yn natariol i'r hen bendefig Rbyddfrydig gallnog a enwyd deimlo dyddordeb arbenig yn ngweithrediadau Swyddfa y Trefedigaetbau, canys yn ngweinyddiaeth diweddaf Mr. GLADSTONE, efe oedd y prif ysgrifenydd ynddi. Y Prif Ysgrifenydd yn awr ydyw Arglwydd KNUTSFORD, yr hwn a attebodd y cweetiwn a ofynodd yr iarll iddo, trwy ddyweyd fod y llywodraeth newydd orphen gwneyd cyttundeb a Gweriniaeth Deheu- barth Affrica, o dan ammodau pa un y bydd annibyniaeth Gwlad y Swazi yn cael eu sicrhau, tra y mae yr ymsefydlwyr o fysg y bobl wynion i gael eu llywodraethu gan fath o weinyddiaeth XJndebol, aelodau pa un a enwir gan Brydain a'r weriniaeth. Caniat- 4eir i'r brodorion hawl ar eu hamgylchiadau ea hunain.
[No title]
0 hyn i ddiwedd y senedd-dymmor, bydd gan yr Arweinydd SMITH reolaeth lwyr ar boll waitb Ty y Cyffredin. Fesur ychydig ac ychydig y llwyddodd efe i attafaela pob peth yn y modd hwn. Y cam cyntaf oedd, cymmeryd y nosweithiau a feddiannir yn ol ben arfer neu I gofitwm' gan yr aelodau cyffredin at wasanaeth y llywodraeth. Ar ol hyny, attafaelwyd y Mercherau ganddo; ac yn ddarpariaeth chwanegol yn yr un cyfeiriad, gorchymynwyd cynnal eisteddiad- au ar y Sadyrnau. Ar ol gwneyd hyn oil, un peth oedd yn nnig ag y gellid ei wneyd er mwyn ennill y rheolaeth yn llwyr sef, attai gweithrediad 'rheol y deuddeg o'r gloch,' fel ei gelwir, yr hon a waharddai i unrhyw fater ag y gallai dadl godi arno gael ei gymmeryd ar ol yr awr bono. A dyma y gwrhydri diweddaf a wnaed gan Mr. WIL- LIAM HENRY SMITH. 0 hyn i'r diwedd, rhaid i Dy y Cyffredin eistedd am chwech o ddyddiau yr wythnos, hyd ues y byddis wedi myned trwy yr holl waith angenrheidiol i'w wneyd. Yn ffodus, i'r rhai sydd eisieu cael ymwahanu yn fnan, y mae mwyafrif y Ty wedi barnu yn ddoeth gadael i Mr. SMITH gael ei ffordd; ac ar ddirwyn pob peth i fyny y mae yntau wedi gosod ei fryd yn awr. Gorea yn y byd po gyntaf, yr iint ymuitb, hefyd.
[No title]
0 fewn yr ychydig flynyddoedd diweddaf, un o nodweddion mwyaf arbenigol masnach yn ein prif ddinasoedd ydyw codiad a chyn- nydd ystorfeydd (emporiums) anferth eu mttintioli, yn mha rai y bydd pob caugen o fasnach yn cael ei chario yn mlaen, a'r drafnidiaeth ryfeddol a wneir ynddynt. Yn naturiol, teimla masnachwyr y siopau byeh- i ain y gwrthwynebiad cryfaf i, a'r dygasedij. j mwyaf tuag at y cawr-fasnachdai hyn. Hwyrach nad yw y teimladau llawn mor gryf yn awr ag y ba; er hyny, y mae yn parhau, ac nid ar fyrder, yn ddiau, y gwelir ef wedi llwyr ddiflanu. Yn Mharis, modd bynag, y mae y rhai min wedi cael achos newydd, a mawr ydyw cythradd eu meddyl- iau o'i herwydd. Tra yr oeddynt o'r blaen yn cystadlu o dan awfantais & sefydliadau cawraidd o fath y • Louvre Magasin,' y Ben Marche,' a'r Printempt,' y rhai sydd yft cyfrif en gwasanaethyddion wrth y mil- oedd, y mae y senedd wedi pasio deddf sydd yn gwneyd ad-drefniad trwyadl ar y trethi ar y mathau hyn o fasnachdai. Un o'r effeithiau, medd y gwrthdystwyr ydyw, y 1 caiff y sefydliadau mawrion hyn dalu pym- theg punt y cant yn llai o dreth nag a ddis- gyoa arnynt hwy.
[No title]
Nid oes wrthwynebydd i Mr. ABEL THO- MAS i gael ei ddwyn allan yn Nwyreinbarth sir Gaerfyrddiny mae y Torlaid wedi tori eu calonau. Nid oes ynddynt awydd o gwbl-yn naturiol iawn, hefyd-i beryglu cael eu gorthrechu yn gywilyddns mewn rhaubarth ag y gwyddant fod Rhyddfryd- iaeth a Radicaliaeth mor hynod o gryf ynddo. Yr oedd yma gyfleusdra iddynt i ennill sedd newydd i'w plaid, y mae yn wir; ond, nid oedd calon ynddynt i fentro. Yr oil a allant ei wneyd yn awr ydyw, ym- ffrostio eu bod hwy yn bobl bach dawel, yn caru heddwch; ac am hyny, eu bod wedi gollwng Mr. THOMAS i gerdded dros y cwrs heb beri dim auhunedd. Yr ydym yn eithaf boddlawn iddynt gymmeryd pob mymryn o glod sydd i'w gael yn y cyfeiriad hwn. 'Graslawn' iawn ydynt! Ond, dylid dyweyd nad cedd canlyniad yr etholiad di- weddaf yn ffafriol iddynt i fod yn ddim ond wraslawn.' Tray rhifai yretholwyr 8,660, cafodd y diweddar Mr. PCGII, yn 1885, 4,487 o honynt, a'i wrthwynebydd, Syr MARTIN LLOYD, lai na hanner hyny. Yr oedd hyn yn fwy nodedig, hefyd, wrth gofio mai Tori y byddai Gwlad Myrddin yn arfer ei anfon i'w chynnrychioli yn Y blynyddoedd blaenorol. Helaethiad yr etholfraiat a bar- odd y cyfnewidiad.
[No title]
Rhaid i'r aelodau seneddol hyny sydd yn telmlo fod ymgystlwyn diweddar y lIywodr- aeth a'r Fatican yn waradwydd iddi, ac yn ddiraddiad ar enw da Brydain, weithredu y gras o amynedd am ennyd yn hwy. Nid ydyw yn debyg y cyhoeddir y papurau, y galwant hwy am danynt yn fuan. Dywed- odd yr Arweinydd SMITH yn y Ty nos Fawrtb, fod papnrau yaglyn a chenadaeth y Due o NORFOLK yn 1887 yn barod, ond nad ydynt yn cynnwys dim ag y gellir ei alwyn boliticaidd, ac nad ydynt yn ddim amgen nag ysgrifan ffurnol yn unig. Gadawyd y papurau ynglyn & chen- hadaeth Mr. ERRINGTOU yn y Swyddfa Dra- mor i fod yn gyfarwyddyd yn y dywaol. Am fod ynddynt bethau sydd yn dal perth- ynas & phersonau unigol, yn gystal ag a gwledydd eraill, rhaid i'r llywodraeth gael gwneyd archwiliad manwl arnynt cyn eu cyhoeddi. Pan yr adgofiwyd ef fod yr addewid a wnaed ganddo yr wythnos ddi- weddaf yn cymmeryd i mewn gyhoeddiad papurau cenhadaethau blaenorol i'r rhai hyn, yn ogystal a rhai diweddarach, addefodd Mr. SMITH fod hyny yn ffaith; a dywedodd mai dyna oedd un rheswm dros oedi. Tipyn o gyfrwyader, os nad dichell, a ddangosai y givr da yn y drafodaeth hon; ac y mae yn amlwg mai yr unig amcan sydd ganddo mewn golwg ydyw lleateirio neb i godi dadl cyn ymwahauiad y senedd ar fater ag yr ofna na ddaw y llywodraeth allan o hono yn rhyw glir iawn. Nid yw o gwbl yn debygol y gw61 y papurau gofynedig oleu y dydd eleni, os bytb, o ran hyny.
[No title]
Yn ein plith ni yn y wlad hon-nen yn hytracb, yn mhlith ei debyg yn y cylchoedd uchelryw-y mae ymherawdwr yr Almaen yn y dyddiau hyn. Daeth arno chwant cael golwg ar ei naic, y Frenhines VICTORIA, unwaith yn rhagor; ac am hyny, cymmeroid wib yn ei bleserlong dros y m6r. Glaniodd yn Cowes foreu ddydd Llun diweddaf, lie yr oedd ei ewythr, Tywysog CVMRU, yn bresennol i'w dderbyn a'i groesawu. Gyda'r tywysog yr oedd amryw eraill o'r tylwyth breohinol. 0', porthladd, cymmerwyd ei fawrhydi mewn cerbyd i Osborne House, palas y frenhines yn Ynys Wyth, Ile yr oedd pob croesaw yn ei aros. Dangoswyd arwyddion helaeth o lawenydd a chroesaw gan drigolion yr ynys. Yr holl longau, hefyd, oedd yn y gymmydogaeth a wisgasid yn y modd goreu er dathlu yr amgylchiad. Amlwg ydyw fod yr Almaen a Phrydain ar well telerau yn awr nag y buont er's llawer o amser.
[No title]
Eglur ydyw nad ydyw y Ilywodraeth yn teimlo y dyddordeb y dylai hi ei deimlo yn nghyflwr presennol Armenia, a'r ysgelerder- au erchyll a gyflawnir yno gan y Tyrciaid a'r Kurdiaid. Nid ydyw y wybodaeth a ddyry ei swyddogion yn y wlad iddi ond prin ac ammherffaitli i'r eithaf; ac yn mhen dyddiau lawer ar ol i ohebwyr arbenig y Daily News anfon edroddiadau cyflawn a meithion am yr hyn a ddigwydd yno, y bydd y llywodraeth yn cael ciywed dim am danynt; ac am hyny, pan y gofynir cwestiyn- au iddi yn Nhy y Cytftedin ar bwys ad- roddiadau y newyddiadur, bydd raid iddi, yn y lie cyntaf, gael ceisio eu gwadu, neu daflu ammheuaeth ar eu cywirdeb; ac yna, yn mhen rhai dyddiau, cydnabod eu gwirionedd yn llawn. Yr un modd am yr erchyllderau a gyflawnir yn Macedonia, hefyd.
[No title]
Un o'r cyhuddiadau lleiaf a mwyaf dibwys y gellir eu dwyn yn erbyn gweinyddiaeth Arglwydd SALISBURY ydyw diffyg parch i gyssondeb. Y mae genym gynnifer o bethau eraill i'w gosod wrth ei drws fel y mae hwn, mewn gwirionedd, yn myned i'r cysgod yn eu hymyl. Ac etto, ni ddylai y darlfenydd anghofio y cyhuddiad hwn. A fynai efe gael enghraifft arno? Fe'i ceir yn hylaw, yn y modd gwahanol yr ymddyga hi tuag at y Swazi yn Neheubarth Affrica, a'r Gwyddelod yn yr Iwerddon. Fel yr ydys yn crybwyll mewn paragraph arall, y mae hi newydd wneyd cyttundeb, un o ammodau sylfaenol yr hwn ydyw fod y llwyth croenddu a enwir yn cael sicrhau iddo Ymreolaeth, nen hawl i reoleiddio ei amgylchiadau ei hun. Yn yr Iwerddon gommeddir yr un a'r un- rhyw beth yn y modd mwyaf pendant. Cedwir y Gwyddelod o dan grafengau creu- lawn Balfouriaeth fel rhai perffaith annheil- wng a pheryglus i ymddiried iddynt unrhyw awdurdod ar eu hachosion. I Cyssonieb sydd eisieu,' medd un o'r diarebion,
[No title]
Byth er pan y cyhoeddwyd y gyfraith fil. wraidd yn Neheubarth Macedonia, y mae y Oristionogion sydd yn byw yno wedi dioddef pob math o galedi. Yehydig ddyddiau yn ol, cymmerodd yr awdurdodau Tyrcaidd o ddeutu ugain o Gristionogion i'r ddalfa, oil yn wyr parchua ac uehel mewn -cymdeithas yn Siatista, er mwyn eu gorfodi i ddadguddio enwau y rhai y tybid ea bed yn rhoddi lloches i wylliaid. Cymmerwyd hwy i dref a'i henw Servia, a churwyd hwy yn ddidru- garedd gan yr heddgeidwaid oedd' yn eu hebrwiig. Nodir un achos arbenig o greu- londeb. Gyda mileindra digyffelyb, gwth- iodd rhai o honynt fidog i mewn i ffroen dyn a'i enw NICHOLAS DOUGLAS, yr hwn syddqa min, os nad, bellacb, wedi marw, mewn can- lyniad i'w hysgelerder. Dilynwyd y daiiad- I an anghyfiawn hyn gan rai eraill. Yn ol telegram a dderbyniwyd yn Athen, y Sab- batb, y mae o ddeutu dau cant o bersonau o ddosbarth Anaselitza wedi eu dal a'n cym- meryd i'r dref o'r un enw, lie y eawsant eu har- teithio er mwyn dirdynu arian allan o hon- ynt. 0 herwydd y gweithredoedd ofnadwy a gyflawnir, y mae cyflwr y Cristionogion yn y rhanau deheuol o Macedonia yn prysur fyned yn annioddefol.
[No title]
Ychydig ddyddiau yn Ql, anfonodd y Cardinal- W ANNING, ac esgobion Pabaidd Lloegr, lythyr bngeiliol allan at ea cyd- grefyddwyr i'w taer gymmhell i ymwrthod a gwirodydd meddwol, ac i wneyd eu rhan i ledaenu egwyddorion dirwestol yn eu teuIa. oedd. Apostol arall, o radd a dosbarth gwahanol-Mr. BRAMWELL BOOTu-hefyd, a enfyn lythyr o'i eiddo yntau at filwyr Byddin yr Iachawdwriaeth yn erbyn yl. mygu. Ar ran y cadfridog' yr ysgrifena Mr. BOOTH; a rhydd annogaeth gref i'r milwyr i ystyried y drygau anneirif sydd yn dilyn yr arferiad o'r myglys yn mhob ffnrf arno. Dywed ei fod, nid yn unig yn niweidiol i iechyd, ond hefyd yn arferiad aflan; yn cynnwys gwastraff ar arian; yn peri anhunedd i'r rhai nad arferant ysmygu; ac yn arferiad annaturiol o hunan-foddbâd, nad oes na rheswm nac esgus i'w roddidrosto. Perswadio y mae y llythyrwr, cyn belled a hyn yna; ond y mae yr elfen gospawl yn dyfod i mewn i'r epistol cyn y cyrhaeddir ei ddiweddglo. Nis gall yr hwn fydd yn ymarfer A diodydd meddwol fod yn filwr; felly, hefyd, nid oes dim dyrchafiad i fod i'r milwr fydd yn ysmygwr. Ni chaitf fod yn drysorydd (rhag iddo wario yr arian i bryaa tybaco, y mae'n debyg), yn ysgrifenydd— nac, yn wir, unrhyw swydd pa bynag. Eglur ydyw fod gwyneb Mr. BOOTH yn gryf yn erbyn yr ysmde.