Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

24 erthygl ar y dudalen hon

"TIYNCMTAWS AM ATHROD YNI…

YSToml FRAWYCHUS YN LLEYNJI

CAERNARFON. I

I 'CAERGYBI. j

I BETHESDA A'R CYFFINIAU.…

I PORTHDINORWIG. I

IDINAS, PORTHDINORWIG..1

[No title]

I ., w Y u,,10,N HI W J:1;1JUA…

RHOSYBOL. I

AMLWCH.-...I -. - . -_, -.._?…

IABERYSTWYTH.- I

CHWECH 0 BLANT WEDI EU LLOSGI.

CYMANF.v GERDDOROL ANXIBYN-.…

CYLCHWYL GERDDOROL IHARLECH.

YMLADDFA DEIRW.

I LLYTHYR LLUNDAIN.

Advertising

! MANCHESTER

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MANCHESTER I Nos SADWRN. AT FECHGYN EIFION." I Ni phetruswn ateb eich gofyniad Dylech yn bendifaddeu godi'r faner genedlaethol i fyny yn yr etholiad nesaf-Cymruyngvntaf a Rhyddfrydiaeth yn ail. Nid rhaid i unrhyw ddyn yn Eifion fod yn llai o Rydd- frydwr ohcrwydd ei fod yn Gymro anhyblyg. Nid ydyw Rhdddfrydwyr Ysgotland ar Iwerddon bythyngadaelilhawliauplaid sefyll ar ffordd iawnderau eu gwlad; ac hefyd, mae y Rhyddfrydwyr gonestaf a chywiraf, megys John Bright, ac ereill yn dilyn yr egwyddor hon yn ffyddlon. Pe buasai Mor- gan Lloyd wedi dilyn yr un egwyddor, a gwneyd' Cymru yn hobby nid simple, Morgan Lloyd a fuasai heddyw, ac ni fuasai Senedd- wr 0 flynyddoedd 0 brofiad yn cael ei wrthod genych chwi am gyfreithiwr Ileol cymharol adnabyddus. Yr ydych chwi yn Eifion wedi cael y fraint o roddi warning 1 r aelodau Seneddol Cymreig nas gellir ei chamddeall. Mae Mr John Roberts yn waed newydd," a diamheu y caiff ei ethol, a bydd ilygaid pob Cymro arno. Os bydd iddo ef godi anrhydedd cynrychiolaeth Cymru yn y. Senedd, bydd ei etholiad yn drugaredd i'n gwlad ond os dilyna esiampl ereiTl, a wneyd ei hun yn rhyw fath 0 greadur direswm yn werth i ddim ond i ufuddhau i "chwip" plaid, yna "dyn a'i helpo," bydd yr A. S. wedi ei andwyo a'i lindagu yn bur fuan. Mae gorfoledd mawr yn Manceinion oherwydd Ilwyddiant y SHIP CANAL BILL, I yr hwn a dderbyniodd y Royal Assent ddydd Gwener diweddaf, ag sydd yn awr yn meddu grym cyfraith-chwifiai y banerau amryliw yn gyffredinol trwy y dref, ac y mae arwydd- ion 0 lawenydd i'w gweled yn mhob man. Mewn un pentref bychan yn ymyl Man- chester, mae nifer 0 foneddigion wedi anrhegu y trigolion ft phedwar "eidion tew" tuag at wneyd gwledd i ddathlu llwyddiant y Mesur, ac y mae y bob! hyny yn bwriadu deehreu bod yn llawen" o ddifrif rai o'r dyddiau nesaf. Mae hanes gyrfa y Mesur drwy y Senedd yn ddigyffelyb yn hanes mesurau o'r fath, sicrheir nad ydyw y costau mewn cefnogi a gwrthwynebu y Mesur yn ddim llai na phum' can mil o bunau, ac y mae y cyfreithwyr a'r gler sydd yn en canlyn wedl cael eu gwala o lyfu eu bysedd o'r mel aur. Yr orchest nesaf fydd codi y swm anferth o arian sydd yn angen- rheidiol i ddwyn y gwaith i derfyniad ond cvmaiut ydyw ffydd y capitalists yn yr an- turiaeth, fel y dywedir fod un firm 0 financiers yn Llundain wedi cynyg benthyca yr holl arian angenrheidiol i'r cwmni. Beth bynag fydd canlyniadau yr anturiaeth enfawr hon, un peth fydd sicr, y bydd y gamlas pan orphenir hi, yn foddion i wneyd yr hen gono arIanog y "Manchester man yn hollol annibynol ar ei wesyn balch, y Liverpool gentleman." Yr wythnos ddiweddaf, cynhal- iwyd cyfarfod dylanwadol yn mharlwr y Maer yn y Town Hall, dan lywyddiaeth Esgob Manchester, i hyrwyddo y Fund tuag at gynorthwyo COLEG ABERYSTWYTH. Y prif symudydd gyda'r achos rhagorol hwn ydyw yr Henadur J. F. Roberts, yr hwn sydd wedi gweithio yn ardderchog 0 blaid y coleg er ei sefydliad cyntaf. Mae hanes y coleg, ac yn enwedig yr anffawd a 1 cyfar- fyddodd wedi twymno calon y Saeson yn ogystal a'r Cymry, a diau y cesgjir rhai miloedd 0 bunnau yma at y Fund. Mae Toriaid Cymreig y dref hefyd, chwareu teg iddynt, yn defnyddio eu noli ddylanwad gydag Arglwydd Salisbury, i geisio ganddo ganiatau y 4,OOOp grant i'r coleg hwn, yr iivn yn ddiamheu a wna. ,I I 11-t3 ,1 lORWERTH.

* BRIWSION 0 RHYL.

IMARWOLAETH CERFLUNYDD CYMREIG.

Y JUBILI DDIRWESTOL.

RHOSDDU.

Advertising