Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
PREGETH Y PARCH EVAN WATKIN.…
PREGETH Y PARCH EVAN WATKIN. (0 YSGBIFLYFR EBEN FARDD.) Fy anwyl Garedigion, gelwir n i roddi cyfri 0 honoch i'r Barnwr mawr-geilw y Barnwr Watkin!" — ni ddy wedaf finau ddim y pryd hyny, rhag ofn y bydd yno ddim, Watkin arall; geilw drachefn "Evan Watkin!" dy wedaf finau "Syr!yntau a ofyna-" Pa le y mae y Defaid hyny a osod- ais dan dy ofal?"—minau a atebaf,-Nid defaid oeddynt, syr! ond geifr blewog, corniog bod ag un ;-Bobol! mi ewch ar eich penau i uffern gan sicred ag y lladdaf finau y gwibedyn yma—(mae yn taflu ato &'i hoM nerth wrth ddyweyd y gair)--diawst i mi misiais 0!—mi ewch chwi i uffern er hyny bob pen 0 honoch
[No title]
Cyfeirier y Farddoniaeth i EIFIONYDD, I Caernarfon. I
[No title]
Fel hysbysiad yn unig y gallwn gyhoeddi Uinellau ar enedigaethau, priodasau, marwol- aethau, neu anorchiadau 1 bersonau anghy- -Oedd. N id ydym yn cymeryd i ystiaeth 5 ailvngdod llenorol darn au a gyhoeadir fel rvst?ulati. Am delerau, ymofyuer Wr oihc?ddwyr.
g dolefu (SirDtJffroL I
g dolefu (SirDtJffroL I DAN OLYQIABTH D. JENKINS, Mus. BAOJ I COLEG ABERYSTWYTH. I Gan fod Coleg Aberrstwyth yn goleg y bobl, ac wedi ei godi a'i gadw pan oedd YY rhan fwyaf o'r cyfoethogion, yn enwedig cyfoethogion Eglwys Loegr, yn cadw draw, md annyddorol fydd gan y wlad, yn enw- ?7??d, ?n  edig y cerddorion, gael ar aaeaii ioa yr un o'r llyfrau cerddorol wedi eu hachub o'r tftn dmystriol a fu yn bygivth Ilosgi pob- peth oedd yn perthyn i'r coleg. Ar ol i'r cwbl oedd yn perthyn i'r Museum a'r Library gael eu cario allan yn wahanol bentyrau, naturiol oedd i gerddor chwilio am y llyfrau cerddorol. Mae yn wybyddus i lawer fod y diweddar Mr Powell, Nant Eos, wedi bod yn hael iawn tuag at y coleg, ac yr oedd yr aaran gerddorol yn agos iawn at ei galon. Yr oedd y rhan fwyaf, os nad yr oil o'r llyfrau cerddorol, wedi eu rhoddi ganddo ef. Yn y pentwr llyfrau, y peth cyntaf ddaeth i'n Haw oedd full-score over- ture Wagner i Tauhauser. Fe tfyr y cyfar- dd fod hon yn cael ei hystyried yn un o'r rhai mwyaf grymus o eiddo awdwr cerddor- iaeth y dyfodol, fel y ca' ei alw gan rai. Mewn rhan arall o'r pentwr daethom 0 hyd i'r vocal score o Walkllre, un o'r darnau mwyaf rhyfedd a ysgrifenwyd erioed; ac y mae Ride of Wolkurxt yn cael ei hystyried y darn mwyaf beiddgar a gynyrchwyd erioed. Ar ol hyn daeth vocal score Soleu- grin, sonatas Beethoven, masses Cherubim, yn gystal a darnau o waith Mendelssohn. Ar ol cael ein boddloni fod yr oil o'r llyfrau cerddorol ar gael, aethum i chwilio beth oedd wedi d'od 0 Coffee Service Mo- zart, ac ar ol ychydig 0 drafferth cafwyd un cwpan fan hyn a'r Hall fan draw, fel erbyn cael y ewbl fedrem yn nghyd gwel- \yyd fod yr oil yn gyflawn. Pwy bynag fydd yn tatu ymweliad ft'r coleg pan wedi ei ail-adeiladu fe fydd yn werth iddynt gael golwg ar y coffee service hyn. Yn ymyl y rhai hyn yr oedd casket ddrudfawr, wedi ei gwneyd o'r gemau prydferthaf, yn cynwys darn 0 coffin Schlumann. Yn yr un lie gwehvyd llythyrau o eiddo Mendelssohn. Cherubim, Syr Sterndale Ben- nett, Dr Blow, a llawer o gerddorion ereill. Mae llaw-ysgrifen Mendelssohn yn debyg iawn i eiddo y diweddar Ieuan Gwyllt, yn ysgrifen eglur a phrydferth. Mae eiddo Cherubim yn hynod 0 anniben ac aneglur. Ceir rhai darnau cerddorol 0 waith hen gerddorion Seisnig yn eu llawysgrifau, a dyddorol dros ben ydyw eu cydmaru. Achubwyd yr holl offerynau, a hyny yn ddianaf. Golwg brydferth oedd ar y cwpan gafodd Cor y Deheudir yn Llundain, yn nghanol y pentwr, a syndod ydyw na buasai y cwol wedi eu mathru gan y brys oedd pawb wrthi I yn cario allan. Edrychai y baton gafodd Caradog 0 Aws- tralia, a'r un arall o California, eystal ag erioed; ac y mae yr oil o'r llyfrau ereill yn ddianaf, ac yma dylem ddiolch i Lywydd y tywydd am ei nodded, onidfi buasai yr holl lyfrau a'r documents wedi eu distrywio. Yn ddiddadl, y mae clod uchel i bobl Aberys- twyth am weithio mor rhagorol, hen ac ieuainc, tlawd a chyfoethog, am eu hym- drech i achub cymaint 0 drysorau gwerth- fawr. Y rheswm ein bod yn talu sylw i'r pethau hyn ydyw, ein bod yn credu yn ddiysgog y daw adeg eto ag y bydd y ganghen gerddorol yn llawn waith yn y coleg nwn, fel ag y bu, acyr oedd o'r pwys mwyaf fod y llyfrau gwerthfawr oedd yma ar gael, er mwyn i'r efrydwyr gael mantais i ymgydnabyddu a llyfrau mor ddrudfawr, ac anhawdd cael o hyd iddynt. Mae full score o unrhyw opera gan Wagner yn costio lOp 10s; felly, fe welir y pwys oedd fod y rhai hyn ar gael. Mor belled ag y gellid canfod, nid oes un o'r llyfrau wedi colli, ac y mae hyn yn glod i onestrwydd y bobl. Da gan ein calon ddeall ar ol y cyfarfod brwdfrydig a gynlialiwyd yn y dre yma, dydd Iau, fod eareaigion addysg o bob cwr o'r wlad yn barod a'u harian i ail adeiladu y coleg. Yr oedd y gwron o Landinam ar y blaen fel arfer yn ei haelfrydedd, ac y mae yn fwy pwysig i Goleg Aberystwyth, gael Llan- dinam o'u pl?if na chael y Llywodraeth o'u plaid. Hir oes iddo fyw bywyd syml a haelfrydig. Dynion o'r natur hyn sydd eisiau arnom yn Nghymru; ie, dynion a digon 0 wroldob (courage) ynddynt fel Mr David Jones, Lerpwl, a'r Yswain o Lan- dinam, fedranfedrych ar rwysg a balchdery byd yma gyda dirmyg, a chyfranu eu mil- oedd at achosion daionus. Dyma y dynion sydd eisiau arnom yn mhob cylch cym- deithasol yn Nghymru, ac nid rhyw bobl balcha dreuliant eu holl elw ar ymddangosiad a balchder. Beth ydyw ein gwlad fendigaid well o'r man cyfoethogion sydd yn byw yma, heb wneyd dim ond gloddesta a porthi eu balch- der, ac edrych i lawr ar Ymneillduaeth yn ei gwisg blaen, syml a gonest! Na, dynion syml fel Stephen Evans, Roberts, Manchester, a'r enwog Hugh Owen a Samuel Morley, ydyw y dynion goreu welodd Cymru; ac ni ddylem eu hanghofio, ond eu parchu a'u hedmygu. Do. genym ddeall fod yna rai dynion sydd wedi teimlo bywyd syml a phlaen rhwng ein mynyddoedd, wedi gadael arian yn eu hewyllys tuagat Goleg Cenedl- aethol cyntaf Cymru. Dydd Sadwrn, cawsomy pleaer o fod yn bresenol yn Nghylchwyl Criccieth, cafwyd canu da ar rai pethau, ac yr oedd y dethol- iad yn newydd a chwaethus. Gobeithio y gwna y pwy!lgor i ffwrdd 3,'1' arferiad ffol a diamcan 0 roddi gwobr am chwythu yn y grogen ginio. Mae hyn yn blentynaidd i r pen, ac nid ydyw ond gwastraff ar amser ac arian. Erir pwyllgorsWrhau band-master Seisnig i ofaiu am gystadieuaeth y cyrn pres, dim ond un ddaeth yn mlaen. Yr wyf yn credu fod y pwyllgorau yn plygu gormod 0 lawer i whims y eyrn pres, ac y gallasent arbed y draul yn dda. oherwydd achwyn wnant pwy bynag fydd yn beirniadu. Ma.e y pwyllgor i w ganmol am eu trefniadau, a cnariwyd y cwbl yn mlaen yn hynod o ddeheuig. Yn y Gymanfa Ganu a gynhaliwyd yn Cemaes, sir Fon, yr unig beth oedd yn tynu yn 01 0 werth y datganiad oedd gerwinder y eisiau, Yr oedd amcan rhagorol gan yr arweinyddion a'r cantorion am y syniadau oedd yn y penillion; ond, yn sicr, mae yn rhaidji rai ohonynt ofalu beidio gwaeddi a sgrechian wrth ganu. Da fyddai i gantor- ion sir Fon yn gyffredinol ddangos eu serch at rywbeth heblaw anthemau fel "ArgIwydd, pftr i mi wybod dy ffyrdd," "Arglwydd, chwiliaist ac adnabuost fi," alr anthem A bydd arwyddion. Yn y cyfarfod dan sylw, cafwyd canu da yn y "Sanctus" ac anthem yr Ysgol Sabbothol." Gofaler am beidio gosod rhagor nag un darn maith erbyn y tro nesaf, ac un neu ddau ddarn syml gydag ef; Yn sicr, mae gormod fi amser yn cael ei dreulio gyda'r anthemau, a rhy fychatt gy(la'r tonau. Mae hwn yn wall ag sydd yn perthyn bron i bob dosparth trwy Gymru. Os rhaid cael darnau meithion, gofaler beidio cael rhagor nag un: ond ein profiad ydyw m,,?g,vell ly dditi cael dwy anthem syml a .,11119 idfaol, er mwyn i bob capel gael siawns i ddysgu yr anthem au.
g (Solofn ^Mr&restoL !
g (Solofn ^Mr&restoL Bellach mae agos i'r holl ddosbarthiadau etholiadol yn Nghymru wedi neillduo eu hymgeiswyr Seneddol. Hyderwn fod dir- westwyr yn mhob He yn ofalus i fynu deall barn a theimlady cyfryw, yn Geidwadwyr a Rhyddfrydwyr, gyda golwg ar wleidydd- iaeth dirwest. Pan yn galw gyda hwynt dylai y ddirprwyaetli ymddwyn yn eofn a didderbyn-wyneb (fel y darfu dirwestwyr Rhyl y nos o'r blaen roddi Arglwydd Gros- venor o dan arholiad), a mynu addewid bendant, onest ganddynt i bleldio mesurau dirwestol, yn arbenig mesur i roddi LLAIS UNIONGYRCHOL i'r bobl eu hunain i attal, caniatau, neu adnewyddu trwyddedau, os dewisant hyny. Ac er mwyn mantais 1 etholwyr pob rhan. da fyddai cyhoeddi hanes ymweliad pob dirprwyaeth yn ngholotn ddirwestol y gwahanol newyddiaduron. Mae Mesur y Gwaharddiad Union- gyrchol" ("Direct Veto") yn cael ei osod allan gan rai o'n gwrthwynebwyr yn fesur alia. gdifadu y dyn tiawd o'i gwrw," ac meddant yn mhollaeh-11 Mae gan y gwyr mawr eu clybiau, a chlwb y dyn cyffredin yw y dafariL a gormes greulon yw anturio ei amddifadu ohono." Rhyfedd y dylni y llithra dynion iddo pan yn edrych ar bethau oddiar sane ragfarnllyd, yn enwedig blysiau. Amcan y mesur hwn yw rhoddi i'r dyn tlawd," fel ei gelwir, gyfle i ddyweyd drosto ei hunan a oes arno eisieu y cyfryw leoedd ai nid oes. Mae y creulonder yn gorjmwys mewn gwrthwynebu rhoddi mantais 1 r dyn tlawd i benderfynu drosto ei hunan. Mae gan y cyfoethogion, oherwydd eu meddian- nau, a'r dylanwad a ddeillia ° hyny, allu i symud ymaith dafarnau oddi wrth eu trig- fanau gorwych hwy, a gwnant ddefnydd 0 fanau g Ond fe Henjr tjarnau yn mysg an- neddau y werin bobl, ac nis gallant ddyweyd "Na," ac i'r na hwnw unrhyw awdurdod derfynol. Nid oes gauddynt lais yn y mater ° gwbl. Amcan y mesur crybwylledig yw rhoddi iddynt lais drwy hawl i bleidleisio a fynent hwy y tai hyn yn eu mysg, ai ni fynent. Mae Deddf Gwaharddiad yn gweithio yn ardderchog yn Kansas. Yr oedd cigydd yn ddiweddar yn Topeka, a chanddo dafarn a siop ochr yn ochr. Deuai ei gwsmeriaid yn gyntaf am y ddiod i'r dafarn, ac wedi hyny aent heibio i'r siop i gael cig a chael darpar- iaethau ereill ar gyfer cysuron cartref. 0 dan yr amgylchiadau hyny, un ochr 0 biff yn yr wythnoa a arferai werthu. Ond fe bas- iwyd Cyfraith Gwaharddiad yn y dalaeth, a gorfu i'r dafarn fyn'd gyda'r 111. A got-fu i'r tafarnwr syrthio yn ol ar gigydda anifeiliaid yn UNIG. Yn awr y mae yn gwerthu, yn ol ei dystiolaeth ef ei hun, "chwe' ochr 0 beef a phlant ei gwsmeriaid wedi colli y llwyd- ruddiau a'r teneurwydd a feddent yn flaen- orol." Mae hanes Prydain Fawr, pe ceid deddf gyffelyb yma, air am air yn yr hanes hwn. Gyda deddf fel hon,. a'i rhoddi i weithredu yn briodol, adnewyaaai masnacn, diwellid ein plant purid ein moesau, a sy- mudid ymaith y rhan fwyaf o'r anhawsderau sydd yn ffordd crefydd. Mae tri pheth ag y dylai "llwyr wahardd- wyr gadw yn wastadol gerbron eu meddwl y dyddiau hyn—1. Trefnu eu hunain fel ag Senedd bersonau, a'r rhai hyny yn unig addawant beidio rhoddi llais uniongyrchol i'r bobl i wneyd i ffwrdd a'r traffic meddwl. 2 Gofyn yn bouderfynol i'r ymgeisydd, A ydych chwi o blaid mesur yn cynwys rhoddi i'r bobl lwyr awdurdod i ddeho ftr system niweidiol hon? 3. Na roddant eu pleidlais i'r un dyn oni byddo law a chalon gyda mesur Syr W. Lawson, yn nghyda'r eiddo Mr Stephenson i gau tafarnau Lloegr ar y Sul, ac eiddo-Mr Morgan Lloyd i wella Deddf Cau ar y Sab- both yn Nghymru. Gwyddom am lawer 0 gyfeillion a dynant wynebau hirion pan wisga dir- westwyr lymder ar eu haeliau, a dywedant, "Yr ydych yn myned yn rhy bell yn wir,j gyfeillion, charem ni ddim gwrthod dyn da serch na byddo yn rhyw gryf iawn ar y pwnc dirwestol." "Dyn da," da yn mha beth ? Ai onid ysbryd i ddyrchafu y genedl yn mhob cyfeiriad a wna i fyny ddyn da mewn ystyr boliticaidd ? Os felly, nid yw y difraw a'r didaro yn nghylch yr hyn sydd yn achosi darostyngiad cyffredinol y deyrnaa yn "ddyn da," yn wir nid yw yn deilwng o'r enw dyn o gwbll chwenychwr diegwyddor am fri ac anrhydedd Seneddol yw. "Grug yn niffaethweh" gwleidyddiaeth fyddai. Dywedodd y diweddar Richard Cobden fod y diwygiad mawr dirwestol yn gorphwys wrth wraidd pob diwygiadau gwleidyddol a chymdeithasol. Mae pob cydwybod dyn" yn rhwym o orfod cydnabod grym gwinon- edd y clywediad yna. Gan hyny mae o bwys i Brydam Fawr heddyw pa ryw fath ddynion a enfyn i lawr i drin y gwreiddiau pwysig hyn. Mae dirwest yn myned i fynu;" canys ar y 7fed o'r mis o'r blaen agorwyd ty cyhoedd- us, yr hwn ni chaniateir diod feddwol o'i fewn, ar bwynt uchaf Ben Nevis. Gall teith- wyr ar eu hesgyniad i uwch ystafelloedd yr adar fwynhau llety cysurus a phob angen- rheidiau, a hyny heb ddim or "devil in solution" i annifyru eu gorphwys drwy ddylanwad na themtasiwn. Pa bryd tybed y gwawria y dydd y bydd gwestai dirwestol ar benau'r mynyddoedd (a'r Wyddfa yn eu mysg) heb unrhyw dafarn 0 fewn ein dyff- rynoedd i beri i ni yn ami ymylu ar dori y Uechau" yn wyneb ansawdd cymdeithas o'u herwydd. Nis gallwn feddwl gwrando ar dafarnwyr yn cwyno oherwydd fod masnach yn ddrwg. Mae adroddiad cwmni 0 ddistyllwyr yn Scotland a gyflwynwyd y dydd o'r blaen yn cynwys ymnrost, ond i bob cydwybod heb ei seriomae yn ddychryn. Bostient iddynt wneyd un ran 0 bedair o'r gwlybyron toeet;llion a yfir yn y Deyrnas Gyfunol, a'u bod yn talu pedair miliwn a phum' can l 0 bunnau ° dreth i'r Llywodraeth. Mae hyny yn un ran 0 ugain 0 drethiad y deyrnas. Yr oedd eu helw y flwyddyn yn diweddu Mai 15fed yn gant a dau ar bym- theg 0 filoedd, chwe' chant a thri ar ddeg ar hugain 0 bunnau. Rhoisant 23,953p 13s 8c yn y reserved fund, a rhanwyd 15s y gyfran (share) i'r cyfranddalwyr. Ofnus genym y gellir cymwyso y ddiarheb Seisnig at lawer gweithiwr ° Gyrnro, Ei fod yn enill arian fel ceffyl, ac yneu gwario fel mul." A cheir dosbar i? ae yn eu gwario fel mul. A cheir dosbarth arall frol iawn, yn ceisio boddi gofalon a gofidiau yn y cwpan, a thrwy hyny yn boddi eu hunain. Mae yn ddifrifol meddwl hefyd am y doctoriaid a bwysent ar drueiniaid eu gofal i gymeryd y ddiod gref, nes peri fod meddyg, trueni, ac angeu yn eiriau cyfystyr yn hanes llawer j'n cydgen- edl, yn enwedig yn mysg y rhyw fenywaidd. Dyry llawer 0 famau yr ufel tanllyd ar wef- usau eu plant, ac ysgol elfenol anghymedr- oldeb yw y fron i lawer maban tlws y dyddiau hyn. Mae yn demtasiwn fawr i ni hefyd adrodd geiriau Milton, a dyweyd "blind mouths" pan yn edrych ar rai 0 ar- weinwyr y bobl mor ymdrechgar i gadw i fyny arferion mursenaidd cymdeithas, gyda r "badge of hospitality" a'r "social glass" 'soc i alg! ifas nes traws?irfio rhai 0 gylchoedd eysegre?. icaf cymdeithas yn faes y gy&afan, tie gor- wedd mamau tyner, genethod diwylliedig, a thadauabrodyraduawol, y;n lililf.'i obeithiol. 'Does ryfedd y gall masnachwyr meddwol fostio o'u gwaith a'u helw, tra y mae dynoliaeth yn Mbrydain Fawr yn Illuchio adnoddau a chysuron amserol a I moesol ar yr allor hon yn wastadol.
[No title]
Dydd Mercher, Gorphenaf 8fed, cy- chwynodd Thomas Pugh, 62 mlwydd oed, 0 Hubbard, 0., i Greenville, Pa., i nol 6,000 0 ddolerio'ranandy. Mawr ydoedd trallod ei deulu pan ddychwelodd y ceffyl adref gyda cherbyd gwftg wedi ei orchuddio ft gwaed. Y farn yw i Pugh gael ei lofruddio, neu iddo anfon y cerbyd yn ol er mwyn twyllo ei deulu. Y mae pob ymchwiliad hyd yn hyn wedi profi yn nfethiat
[No title]
MYNWENT LLANDANWG, MEIRION. Ymddangoaodd yn eich "Cobfn Hynai iMthoF ?yddorol ysgrif nea ddwy mewn perthynas i Fedd Sion Phylip yn y fynwent uchod, ac y mae eich gohebydd Los EifioB wedi cyhoeddi yn ei ysgrif y beddargraph yn lied agos fel y mae ar y gareg, ond met yn hollol gywir. Bum innau yn ymwelcdar fynwent yn ddiweddar, ac fel y canlyn y mae y beddargraph o ran ffurf a geiriau I. PH 1600 Bardd dienllib Di gyffelyb Fu SION PH#5B?b_ ,'?. ffelwr Owely an go Yw'r ddaearglo Yma'n huno y mae hemvr Dyma fedd gwr da oedd gu—<S'? FAy?? Sein a philer C mru; Cwynwn fyn'd a ir 0 canu, I garchar y ddaear ddu. H. LLWYD Cynfal Os ystyriwch yn werth rhoddi cyhoeddus- rwydd i'r Beddargraph etc, wele ef at eich gwasanaeth. Bu yr hen adeilad gysegredig yn adfeilion am flynyddau lawer, ond yu ddiweddar y mae wedi myned o dan ad gy- weiriad. Rhoddwyd to ami, ail-adeiladwyd y muriau, &c., fel y gall ddal am flynydd- oedd lawer eto heb fyned i'r an cyflwr ag oedd cyn yr adgyweiriad. Ni fwriedir, yr wyf yn deall, gynal dim gwasanaeth Sab- bothol, trwy fod y lie dipyn yn anghysbell. Mae yn y fynwent amryw gannoedd yn ddi- amheu wedi eu claddu, ond fod y tywod wedi gorchuddio y rhan fwyaf or beddau. Y diwrnod y bum ynocodaisy beddar- graphiadau canlynol oddiar y beddfeim yno. Nid wyf yn tybied fod llawer 0 hynod- rwydd yn perthyn iddynt, ond yn umg am ell bod mor hen. A ganlyn sy restr ohon- ynt, os ystyriwch hwynt yn werth eu cyhoeddi:— 1. Ni ddaeth yr hardd-deg flodau hyn A galdd mor syn eu sym',ld; Ond prin i ddangos pa mor hardd Yw blodau Gardd y Bywyd. 2: Mewn daear yr y'm ein deuwedd-gwedi Gadael byd a'i wagedd Ar air I6n o'r oer annedd Deuwn i farn, gadawn fedd.-1830. 3. Bri hon a gaiff hir barhau, Synwyr a diabsenau; Mwyn oedd ac amyneddol Hynod ei pharch a dintfyd ffol; Gysur difesur a fu A thawelaidd i'w theulu Treuliodd ei hoes yn foesol Ni chair ei hanair o'i hol.-1852. R. AB GWILYM DDU. 4. How lov'd, how valu'd once avails thee not To whom related, or by whom begot, A heap of dust alone remains of thee It's all thou art, and all the proud shall be. -1821. Ar feddau dau frawd o'r enwau Harri a Morgan a fuant foddi gerllaw'r fynwent, Rhagfyr 26ain, 1821, ceir y ddau englyn caulynol 5. Fy anedd yw'r bedd ar ol bcddi-gwl Gwael yw'r gwely difri; Chwerw fu'r lianw a'r lli Ing amharch angau imi. Ow Morgan truan y troes-oer dymhestl Er damwain i'r feroes; Ow 'r mor a'i Ii' er marw loes A'i donnau ddwyn dy einioes. 6. My loving wife and children dear, Mourn not for me as I sleep here; For I sleep here in hope to rise To live with you in Paradise. Teithiais trafaelaistrwyfiloedd-tros donnau Trist anial iflldiroedd Llanw y traeth i'r llyn aim tr6dd Llandanwg, lie am ddnodd. Ar y mor bu oriau 'myd—prawf eglur Mewn peryglon enbyd, Afon 0 draeth, ofnau dryd, Waetha'n modd, aeth a 'mywyd.-1807. 7. Enwog r y sydd yn gorwedd-isod Sion Rhisiart fu n ddewrwedd Doeth oedd ddoe-daeth i'w ddiwedd Yma'n fud y mae'n ei fedd. Deallus cofus teg hefyd-en naws Ac hanesydd diwyd; Gywir bwynt holl gyrrau'r byd Haelaf oe l,d am ge'gl t rrau'r byd Haelaf oedd am gelfyddyd. Bum yn meddwl mai dyddorol iawn fuasai cael tipyn o hanes yr enwog Sion Phylip pan rai o'ch gohebwyr, os oes posibl.-Yr eidd- och yn gywir, MEIRIONWR. (Ie "dyddorl iawn," yn wir, fyddai cael tipyn 0 hanes yr enwog Sion Phylip," a "dyddorol iawn" hefyd fyddai "cael tipyn 0 hanes" yr oil 0 Philipiaid awen- yddol Ardudwy, oblegyd yr oeddynt yn gallu bod yn farddonol ac yn gelfyddydol; ac nid oes berygl i wrid cywilydd gyfodi i ruddiau Ceridwen wrth eu canfod yn gy- sylltiedig &'i henw glan. Y mae yn ein meddiant dros gant 0 ysgriflyfrau gwerth- fawrocach fil o weithiau na'u pwysau o aur yn cyrhaedd o'r bymthegted ganrif hyd amser y prif-fardd o Glynnog Fawr, a gresyn na fyddai rhyw gynllun i'w dwyn i oleu dydd, drwy y wasg, cyn yr elont ac na byddont mwy. Sonir am y rhinwedd ogenedlgarwch yn y cyfansoddiadau, ac ar lwyfanau eisteadfodol, a lleoedd ereill i ond nid yw y siarad swnfawr yn cael ei gario allan yn ymarferol ar yr un raddfa. Mae geiriau, geiriau, geiriau yn rhad ac yn rhwydd. Ond nid geiriau, eithr gweithredoedd sydd yn profi beth yw cy- meriad person neu bobl. Da chwi, lenor- 1. 1 ion Arauawy, aeenreuwen goai a cnau i fyny y bylchau yn ein cenedlgarwch, drwy ysgrifenu hanes Philipiaid Ardudwy, a dwyn allan eu gweithiau. Cewch lawer 0 gynorthwy rhad genym ni, oblegyd y mae braidd yr oil ou gweithiau hwy, yn n.?b x da gweithiau u ho lwelt h ia u V, wy' yn nghyda gweithiau holl hen feirdd Cymru, yn ein meddiant.-M, F.]
I_CYFRIF 0 AMRYW FESURAU.I
CYFRIF 0 AMRYW FESURAU. Tri hyd grawnyn 0 heidden a wneiff Fodfedd. Deuddeg Modfedd a wneiff Droedfedd. Tair Troadfedd a wneiff Lathen; a'r un- fed ar bymtheg rhan o Lathen, sef dwy fod- fedd a chwarter a elwir Hoel Llathen neu Nil. p, Llatnen a enwarter, set tair troedtedd a naw modfedd a wneiS El. Pump Llathen a hanner, sef un droedfedd ar bymtheg a hanner, a wneiff Wialen, Pawl neu Perch. Deugain Pawl neu Perch a wneiff Stad neu Furlong. Wyth Stad neu Furlong a wneiff Filltir. FELLY MAE MEWN MILLDIR SEISNIG. 'O'r Polion hynny 320 dri chant ac ugain. C Lathenau 1760 un mil a saith gant a thri ugain. 0 Droodfeddau 5280 bump mil a dau cant a phedwar ugain.  mil a ?, thri uga' n, o F.odfeddau ?dJ??hnugain, a thri chant a thri ugain. 0 hyd Gra.wn Haidd 190080 cant a deg a  IIEB LAW Y MESURAU HYN, MAE MESURA MEGIS, Lied If syte yn ^gd^oSwnyn He,i don ncu bdwar Ildd GrawnYn Sei(WenweAieuU gosod wrth ystlysau eu gil dd ll,,i Llaw yw Tair Modfedd. ^cSaJ^Triced llw, neu naw :Modfedd. Cufydd yw Hanner Llathcn ncn ddau  ben y bs li ?te ,p?v dwy Drocdfedd a hanner. lSwdZS'SSadTUeda. Gwrhyd yw Chwech Troedtedd. T nais yr hen Fcsurau uchod air a- air, Ilytl;en am l?rthyreii, allan 0 Almanac   eto anfon man gy wreinion 0 ,?a6nol fathai4 allan 0 hen Almanaciau, yn cyrhaedd o'r +1-?,i,i?n lf384hvdyflwyd ?Yn 179?5z ""J—MYKDDLN TAKUU.
I MR CHAMBERLAI A RHAGLEN?…
MR CHAMBERLAI A RHAGLEN?  Nos Fercher bu Mr Chamberkin yn anerch cynulliad lluosog yn Hull. Yn my^g pethau eraill sylwHo?dd ?M Y wlad w?eal ?yni ddeffro i fywio^rwydd ^e^yddoL, Yr oedd ei g?ba?th a? disgwyJiadauynfawr, a byddai yn beryglus siomi gobeithion y S?ychwanegid at nifer yr ethol^T- Nid oedd e yn synu fod rhai 0 r etn°wy yn hawlio rhaglen y ddwy blaid wleidyddol, gan ei fod yn credu i y dyhd nodi -allan yn ,nodol beth ocdd eu ^llumau a u bwriadau gyda golwg ar br gwesti;nau y dydd. (CymeradwyMth. Gwnaeth ef eiran^ yn y cyfeiriad hwnw, gan ei fod yu ystyried fod ganddo hawl i ddadgan ei syniadau ar bob pwnc ag oedd yn dwyn cysylltiad &r cyhoedd. er ei fod yn cael ei feio gan lawer am beidio siarad 0 gwbl; ond nif?ild awer yn edifeiriol yn y graddau lleiaf oherwyda yr hyn a ddywedodd. (Chwerthm). Credai ef mai y Rhyddfrydwyr oeddynt y prif ¡s- gogwyr mewn cysylltiad A phob cynydd a diwygiad a gymerodd Ie ar hyd y blynydd- oedd. Credai, pan ddeuai y bobl i lyw- odraethu eu hunain, y byddai iddynt roddi cvnorthwy sylweddol 1 symud ymaith y camwri ag sydd wedi bod yn warth i'n gwlad a gwareiddiad ar hy y cnnrifoedd (clywch, clywch). Dywedwyd wrthynt ei bod yn amseroedd enbyd y dyddiau hyn. Nid oedd ef yn dymuno ein harwam i chwyldroad, ond gobeithiai na byddai iddynt ymfoddloni i'r trefniadau presenol ar bethau, trwy ba rai yr oedd canoedd 0 filoedd yn cael eu dirwasgu i dylodi a. thrueni, tra yr oedd yr ychydig a ddalient y tiroedd yn byw mewn llawnder a moethau ar lafur ereill (cywilydd). Yr oedd eithafion cyfoeth a tblodi y naill fel y Hall yn ffynonell temtasiwn. a'r dryge. dd mawr a sydd genym i ymwneyd A hwynt mewn canlyniad ydyw cyfraniad afreolaidd cyfoeth, anwybodaeth, anghymedroldeb, anniweirdeb, ac afiechyd y rhai oeddynt yn gyd-gysylltiol a'u gilydd ond ell dylcdswydd ydoedd ceisio dyrchafu y bobl drwy roddi iddynt foddion i ym- bleseru ac adfywio, y rhai agaentlawer gwell effaith arnynt na. thrwy ffurfio cvf- reithiau i gosbi trosedd (cymeradwyaeth). Dymunai efarnynt wneyd hyn yn gyntat peth yn y Senedd ddiwygiedig. Nid ei ddymuniad ef oedd darostwng y cyfoethog, er nad oedd yn tybied fod y dull presenol o gadw yr holl gyfoeth mewn ychydig ddwy- lawyn fanteisiol i neb. Eu hamcan hwy oedd dyrchafu y tlawd a chodi safon a chyflyrau y bobl yn gyffredinol (cymeradwy- aeth). Ystyriai ef fod gan y dyn diwyd nid yn unig hawl i waith, ond hefyd i gydna- byddiaeth deilwng am ei lafur, fel y gallai roddi rhywfaint o'r neilldu erbyn afiechyd ac henaint (clywch, clywch). A oedd hyny yn afrcsymol neu yn amhosibl 1 (" Nac oedd"). Yr oedd hyny yn bodoli mewn lleoedd ereill, bodolai o dan Arglwydd Tollemache, yr hwn oedd yn dirfeddiannydd trugarog, ac yn ceisio lleshad ei weithwyr =ti?a"' a phaham nad allai y Senedd ei sicrhau i'r holl wlad (cymeradwyaeth). Nid oedd ef ar un cyfrif yn bleidiol i ranu meddiannau y wlad cydrhwng yr holl ddeil- iaid, gan y byddai i hyny ddinystrio pob math o sicrwydd ac amddifadu y cyhoedd 0 uchel- gais. Mewn trefn i ddwyn hyn oddiamgylch dadleuai ef y dylid rhoddi y gefnogaeth uwchaf i addysg drwy wneyd yr ysgolion yn rhydd (cymeradwyaeth). Dylai addysg fod yn rhydd i bawb, er lleshad pawb ac ar gô"t pawb (clywch, clywch). Hefyd, dylid cy- meryd i ystyriaeth pwnc y trethiad. Yn ol yr ystadegaeth a wnaeth yn ddiweddar, profwyd fod y dosbarth gweithiol yn talu gymaint ddwywaith o drethi ar gyfartaledd ag a wneir gan y dosbarth uwchaf a r canol. Credai y dylid mabwysiadu rhyw gynllun a uniawnai y camwri dybryd hwn. Ond fel y moddion mwyaf effeithiol er dwyn y cyfnewidiad angenrheidiol a rhesymol hwn oddiamgylch, yr oedd yn rhaid diwygio deddfau y tir. Amaethyddiaeth oedd yr uwchaf 0 holl ddiwydrwydd y wlad hon wedi'r cyfan, a phan yr oedd hono yn cael ei dirwasgu, fel yn y blynyddoedd hyn, yr oedd pob diwydrwydd -arall yn dioddef. Gan hyny, yr oedd unrhyw beth allesid wneyd i ychwanegu llvyddiant aiuaethyddiaeth yn rhwym o fod yn Hesind cenedlaethol. Yr oedd cyfUndrefn amaethyddol y wlad hon yn waeth nag eiddo unrhyw wlad arall ar wyneb y ddaear. Yr oedd ein deddfau yn gowyddo cymaint i un cyfeiriad fel yr oedd y drydedd ran o diroedd y wlad yn meddiant llai na mil 0 bersonau. Ni chrewyd y tir gyda r amcan 1 w berchenogion ddirwasgu y rhent uwchaf am dano allan o'r rhai a i diwylliai (cymeradwyaeth). Yr oedd y materion hyn yn gyfryw ag y dylai y Senedd ddiwygiedig ei ystyried, yn ogystal a chyfnewid y dull presenol 0 brynu, gwerthu, a throsglwyddo tir- oedd. Ond yr unig beth a lesolai amaethwr yn sylweddol fyddai penodiad rhent teg gan ddirprwyaeth anmhleidiol.- (cymeradwyaeth)—gyda'r hawl i werthu ewyllys da (goodwill), ei ymgymeriad, fel rhywun arall. Dywedid nad oedd yr am- aethwyr yn gofalu am ardreth deg na gwerth- iant rhydd. Yroll a allaiefddvweyd oedd— cvliyd ag mai dyna fyddai eu sefyllfa, nid oeddynt yn debyg o gael y naill na'r llall ynte (cwerthin a ch ymeradwyaeth). Nid oedd neb am eu budaioli yn yr hyn nad oedd arnynt ei eisieu, ac ni wnal;d hyny ft'r tenantiaid Gwyddelig hyd nes y dangosasant mewn dull digamsyniol eu bod o ddifrif yn ei gylch (clywch, clywch). Modd bynag, yr oedd y llafurwyr yn gwybod beth oedd arnynt ei eisieu, yr hyn oedd un o'r telerau cyntaf dros iddynt ddysgwyl ei gael (clywch, clywch). Yr oedd arnynt eisieu anedd-dai I"1!11"nCl11 n r1; 'n:' ..1. _L_.J eu horiau hamddenol, a hyny am brisiau rhesymol (cymeradwyaeth). Paham nad allant ei gael ? Pwy a ddrygid drwy hyny ? (clywch, clywch). Drwy hyny ychwanegid cynyrch y tir, dyrchefid cymenad a pharch- usrwydd y llafurwyr.asicrheid dedwyddweh eu teuluoedd. Yn ddiweddaf, byddai iddo ddadleu dros adfer ynol i'r cylic odd y tii-oedd a ladratawyd oddiarnynt-( cymeradwyaeth)— a'i gwneyd yn anmhosibl i ddyn gadw meddiant anghyfreithlon mewn unrhyw eiddo am yr unig reswm ei fod wedi eu mwynhau er's amser maith (cymeradwy- aeth). Gwir fod cysegredigrwydd eiddo personol yn egwyddor bwysig, ond yr oedd lleshad y cyhoedd yn llawer pwysicach, ac ni raid aberthu llwyddiant gwlad er diwallu hawliau eithafol dosbarth ag oeddynt ar hyn o bryd yn trawsfeddiannu yr hyn a ddar- parodd y Creawdwr hael i'r holl hil ddynol (uchel a maith gymeradwyaeth). •
CYMHU YN 1886.-.
CYMHU YN 1886. Nid amlygwyd eto beth a fJ ,-i(,4W" y flwyddyn dyf?doJ" end v Mae  }' cadarn IOOOlthlO y bydd yn (iwyd??, 'a glaer i Gymru, os y?w i-dydran-? ygon a adiewyrchir o ii lel, y 1¡¡<>.gQI. sylw er hyny, y mae ar ein dwvi? cenedL 0 hyn hyd Hydrcf ne? ¡ III., fel fynu ifi?th fydd Cymru yn 18S 6y ? geym III -ld blaenoriaid vc?,? unig, ?d y ni—y werin gyffre(fin_Tw-' iawn i'w weuthur yn uni?ot a rh ? yn yr ychydig wythnosau sydd ,rb,r,,on, gweithwyr a masnachwyr 0 h? f?'* crefyddwyr o bob gra?d, ni, wemidogion a blaenoriaid y gonedlj v 7 ^1 y frwydr, ac i ninau orphwys t. d rhwng gwrthbanau difatenvc)) ? )?"t cysgu yn nydd y frwydr, tra y'n;âe v ''? ion.ynein ?anigylcliynuarbo lia?,. aid i ni ymwadu & ni ein h'mMn ?-da ? bcthau personol, er mwyn cnilI unTIl',n brwydrau mwyaf poeth a ymladdvvyd yn Nghymru, nid yn unig rhwng Tr,;i[dd Rhyddfrydwyr, ond rhwn.? ?!euni 11s wy!!wch, addys ac anwybodaeth ').J?' gwladol a chr??yddot yn erbyn riii. haiamaidd yr Eglwys a'r W!adwtia?f. 7" Eto, rhaid i ni of ala {hvyr ystyri? 'C, fath "un" a fwria<hvn gael i'n cyrrvl1^ yn mhob adran 0'r DYN sogaeth t gallaf roddi gwell desgri?do'run? nag yn ngemau Mr Chamberlain, yn S yr wythno8 ddiweddaf Men 0f tM parent honesty, and sincerity ri faithful to their trust, men t?at nrfv^ turned aside by any eon?,ideratio" 'f ??' sonal ambitions or pri?,at, wyf yn credu fod yn angend.JdM! h?"? fod yn rhaid i bob ymgeisydd fod wedi ei ¿;! yn hollol Wrth yr un itatr?m. y  gormod & lawer 0 hyny wedi 1"1  yr oes bresenol; ond y mae arr ? leu un peth yn neillduol yn nivs» If cynrychiolwyr fel cenedl, set' arv^Lj? y blaid Gymreig Pell wyf 0 g yr un awg?-m nad oes genym ft?? ellid ei ethol 0 bhth e)n haetodatt ttr?.?! etc i gyd, y mae y biaid Gymreig heb Gideon, ac y mae arnom wir anx?n "ntun a if yn ffrynt y fyddin o dan bob ama?)) iadau. Y mae genym ddynion rhagorofet« yn "canlyn o hirbe! ymMntar Lwe, pryd. Gwn yr addefa pob llhyddfndwr gwirioneddol fod angen am y a-t pushing WM?. Mae yr amser wedi niynJ heibio i'r aelodau CymK)? i sefyjt yn miW yn fud a dibwrpas, yn unig fel rhy,v machines pan y teimlant ar eu calonaiL nm pan eu cynhyrfer gan ysbryd <M?a "M?-M???," ys geihv Mr Cham. berlain ef, i fod yn risiau i li:man-«!M 1.1: anrhydedd personol, er sangu ar yddiaa iawnderau y genedl. Y mae hawliau Cymru i fod yn y ffrl'nt y tro nesaf, cofier, a meiddiaf c'.d^vtyd fod yn well i bob ymgeisydd am yr anrhydedd 0 gynrychioli Cymru yn y Senedd nesaf roddi ei fEdil yn y to ar unwaith na mcddwl 7 gall wneyd fel y m?n wedi ei etho!. C' rychiolwyr Cymru fydd raid iddynt ?oAd ac nid cynrychiolwyr gwag-fyinpwyon per. sonol. Byddwn yn disgwyl i bob un yn ddieithriad i rodio yn wrol hyd Jwjbraa progress,,freed'om, ond yn reform. Dywodasoch, Mr Golygydd, yn un o'ch crtliyglau arwein. iol ychydig wythnosau yn ol, fod Cymru we<i f" cysgu hyd 1868." (hl ar ol yr aimer hyny y mae rhai o'r aelodou anrJiydeddua wedi gwneyd yn lied ddu ar y cvfan, a buasent wedi gwneyd yn well re na 'buasai i ambell un o'r diffydd, y diopt, a r prrth- wynebns fod yn tynu yn ol. er nad ydynt wedi dyfod i fyny yn hollol a'r saion a osod- asant o'u blaenau, nac ychwaith a disgwyl- iad y werin, gwnaethaiii cu goreu. Byddai yn warth trasywyd'M i GYIllI11 fyned yn ol i'r hen ddull mu,¿reH y maent wedi iod ynddo am oesoedd dray ethol un Tori" yn yr etholiad dyfodol yn aelod drosti (oherwydd y mae yn beth hollol an. mhosibl i Dori gynrychioli Cymni Ymneill- duol). Dylem firchio yn mlaen yn awr fel cened yn ?ynymach nag ii?,d7 nid canlyn y RhrddfryJrJT Sei,nig rn unig, ond i'w harwam hefytl. Y mae yr oes wedi myned yn mlaen yn ystod y ganrif bresenol yn anad un oes arall yn hanes y byd yn mhob cyfeiriad, ae a ydyw Cymru eto am fyned yn ol i hen coaching fl.¡ Tor. iaetb, a chael ei hud-ddenu gan Id bn. trn" addewidion gwag tir-feduiannwyt gorthrymus > Cael ei chamarwaia trwy ffosydd anobaith wrth olcnni canwyll frwyn haerllugrwydd Ceidwadwyr Cymru < Xa ato Duw i ni feddwl y fath heth, Nid wyf yn ysgrifenu hyn er pleidio un- rhyw berson neillduol, cofier, on d er mwyn symbylu eiddigedd duwiol, os medraf. yn mynwes pob Cymro a Chyniraes dros ddyf- odol eu gwlad, ac er lies cenedlaethau sydd eto yn nghroth y dyfodol yn grefyddol a chymdeithasol. Y mae yr awenau yn awr yn nwylaw y bob], daliwn ein gafael ra dyn yn ein breintiau, awn yn mlaen fel un gwr. Vl mae ein gelynion a glynion rhyddid wedi ein mygu mewn mwgwd yn lIawcrrllytaltn; ymysgydwn o'r llweh: os oedd genyin ddatt Dori yn y Senedd yn 1885, gofalwn beta bynag na aiff yr un i mown yn yr etholiad cyffredinol d'vfodol. Nis gwn am un linell well fel cynglior yn y fan yma n .'r hyn a ddywedodd Mr Rathbone yn ei gwrdd jin- adawol ft dosbarth Eifion Darfu i Mr Gladstone y dydd o'r blacll ddirgjiahel undeb y blaid Ryddfrydol, ac hyderai na fydd iddynt ar yr achlysur sydd yn agoshao, fel y gwnaed yt 1874, haeddu yr ang.a berthyn i redeg mwy nag" un ynigeisyau Rhyddfrydol dros etliolfa sengl. Bydd 1 chwi wybod pa fodd i ddelio Ag unrhyw gyfryw gais i fod yn euog o'r fath fradwriaetfl yn erbyn yr achos Rhyddfrydol, fel ag 1 warthnodi,' fel bradwr anlieilwng am býth o ymddiriedaeth Cymru, pwy bvnig a )-[a' geisia ddryllio yr achos Rhyddfrydig trwj I T? wasgaru gwrth-undeb yn em rlien.-au. iji fy nghydwladwyr, gwn y gwnewch oil gy- synio ft Ir Rathbone mai bradwr annlieu- wng yn haeddu ei warthnodi" ac yn annheilwng am byth 0 ynuIdiriedaethCynira fydd y cyfryw un, neu y cyfryw rai, ac hyderaf y bydd digon o ddoethineb yn y cyfryw ddynion i weled eu ffoiineb os yd™ yn gallu gweled dim, a gadewch i ni (tel y llwyr gredaf y ceir gweled) Honan Sr: Stephan heb yr un Ton ya galIu tlprexd el fod wedi cael ei anfon 0 Gymru.—\r ciu • och, te-. Everton. S. DAEOX JO-VES*
[No title]
Yn mrawdlys Derby, fe farmvyd marsian- dwr gwydr, yn nghyda'i wraig, yn 0 ladd eu gwemidoges trwy hir greulondeb, S dedfrydwyd hwynt i bum' mis 0 garchar. Y mae y Proffeswr Arped llokai we darganfodgwrth-gyfaredd i "strycimine, JT hwn sydd wedi ei broti yn effeithiol rnewlJ ymbrawfiadau ar anifeiliaid. Yr wythnos ddiweddaf ymdorodll jnstyu,, awyr ar fynyddoedd Cordal, yn yr I werddoIlt yr hwn a lifodd i lawr gan wneyd dinystr ar eiddo. LIaddodd Carrie Evans, PluIadc.pDM| geneth 15 oed, ei hunan, am iddi vlleI modrwv a roddasai ei chariad unwaith '"? hi am fys Ilanccs arall. Cymerwyd Charles Williams i'r ddalfa yn New York dan y cyhuddiad 0 roddi enw Learold and Co., o Lundain, wrth ekek am 7c 0 0 ddoleri. Aeth boneddiges" 0 Chicago a'i glingit ddeintydd i lanw un o'idannedd a dpreh fod y D. D. S. wedi llwyddo i wneyd gni-aith twt yn nge:iau creadur bach hyll a diles. Y dyda o'r blaen Haddwyd Richard il- Williams, asiedydd-brodor 0 Langnit:oiUS| Mon—drwy iddo syrthio 0 ben adeilad y Utica. YIl ystod y mis diweddaf bu 135 0 danaa yn y Talaethau Unedig a Canada, y rhaI, II adinystriasant werth 6,750,000 o ddolen 0 feddiannau. Llosgwyd gwerth 50,7"0,i--w 0 ddoleri er dechreu y flwyddyn.
Y GORNANT. - I
Y GORNANT. I Yn nghanol myrdd o ftodau miln, Ar ben y mynydd crugog, Fel gloew lygad angel glan Yw'r ffynon fach risialog; Ymbletha'r blodau'r naill drwy r llall, Yn frodwaith gylch ei hamrant; A thrwy'r blynyddau heb ddim pall, 1'1' gorwel gyra'r Gornant. Eiatoddaf yma fynyd bach, Ar gareg lwyd fwsoglaidd, I yfed o'r awelon iach, A llowoio'i dyfroedd peraidd; Car weled anian oil yn fyw, Gan chwareu mewn llawn nwyfiant, Ac fel yn ymfalchio'n nghlyw Murraurol gerdd y Gornant. Dfegyna dros ysgwyddau'r graig, Fel heirdd edafe- d arian¡ A gwaedda beunydd am yr aig, li chartref dwfn ei hu??an; Mac'n teithio'n ddiwyd ddydd a nos, Y creigiau dani dreuliant; Ac hefyd llawer dysgl dlos 0 honynt wnaeth y Gornant. Ymbrancia'r wyn a'r defaid man Gerliaw ei glanau gleinion, Gerllaw ei glanau e ry ''tn A'r hedydd bychan dery g?n Wrth sain ei murmur ?frion; Holl offerynau Tubal Cain, I mi y cryglyd seiniant, Tra'n gwrandaw ar hyfrydaf sain Eeroriaeth fyw y Gornant. < Rai prydiau ymddolenai'n dlos, Mewn rhyw ddystawrwydd rhyfedd, I wrandaw anian ar y rhos Yn chwareu inewn tanmefedd; Dilynaf ei harafweh lleddf I'r creigiau uchel grogant, O'r man I neidia'n ol ei deddf Yn deuchion yn y Gornant. Ymgynddeirioga megys dr'aig, Glafoeria'n wyllt ei hanian, A berwa yn nghrochanau'r graig, Yn ngrym ei than ei hunan; Ac ar wyllt ffrwst i ffwrdd a hi, Ei dyfroedd byw fwrlymant, A golchi'r creigiaH gyda'i Hi, I.T??wn Ilawes wen wnar G6mant. 'Nol d'od i lawr i odreu'r bryn, Rhwng brwyn a briaill gwylltion, Rhydd dro 0 gylch y bwthyn gwyn, Rhwng tawel lwyni tewion; I'r teulu mad hi rydd yn hael, O'i dwfr grisialaidd yfant; A llawer gwell na'r gwin i'r gwael, Yw dyfroedd oer y Gornant. Ymffurfia weithiau'n llynau gift". Fel drychau gloewon hynod, A Iloria hwy a graian man, Heirdd-c irare fyrddau'r pysgod; Ac ar ei gwyneb, ami iawn Y tant ar bluen chwifiant, A llawer difyr desog nawn A dreuliwyd ger y Gornant. At Ian ei dwfr y bugail ddaw I dawel iach ymborthi, Ac mewn ystafell graig heb fraw Y cana'i fugeilgerddi; A heirdd wyryfon llad yn hon, Fel eleirch gwyn ymolchant; A'u gwedd mor lan ag eira'r fron, Neu ewyn tog y Gornant. Yn nghanol mis Gorphenaf brwd, Ymbrancia'r gwartheg blithion, Am ddiogelwch yn ei ffrwd, A chael o'i ddyfroedd oerion; Hi wasanaethodd oesau maith o rai a dawel hunant, Ac ar eu hoi, mewn tyner iaith, Y galarnada'r Gornant. Yn foneddigaidd iawn ei ddull, Ar gareg loyw, safa Yr 'hedydd bach, ar derfyn gwyn, A'i big o'r nant yr yfa: Ac yna rhoi'r cyweirnod wna, Ei FY'derddorion glywant? A'i li. fe i rhediad hufen ha' 0 beraidd ddwfry Gornant. Pan fyddo'r wlad mewn amdo gwyn, Y. n* ?oedd garw, A bie;;ef.du dôi 'lIa bryn, Ac anian wedi marw; Mor fywiog a soniarus yw Ar lyfnion feini'r ceunant, A thori ar y prudd-der gwyw Wna berwawg ddwfr y Gornant. Hi rydd ei braich mewn lliain main Am wddf y mynydd llwyd-ddu, Ac yn ei glust rhydd dyner sain, I'w gadw ef i gysgu; Ond pan yn misoedd gauaf llaith, Ei ddyfroedd chwyrn ymchwyddant, A gruddiau'r mynydd lawer gwaith A olcbwyd gan y Gornant. Pan heb fugeiliaid chwaith, na beirdd, Chwareua wrthi'i hunan, Trwy wneuthur tai a themlau heirdd A'i chaboledig raian: Hi yrodd gywrain weithwyr byd I ffwrdd 1 ebargofiant, Anghelfydd yw eu gwaith i gyd Wrth waith rhew llym y Gornant. Rhyw hardd grynodeb yma gawn 0 holl hynodion anian: Tawelwch, tlysni, uthredd llawn, A chroch-ruadau'r daran:- Ac ar ei glanan rhodia'n beirdd, Eu tannau a gyweiriant, Tra'n perarogli'r blodau heirdd Ar iach ymylau'r Gornant. Gerllaw ei glanau, 'nghesail bryn, Ceir melin a melinydd, Un lliw ei wisg a'r angel gwyn, Neu eira pen y mynydd; A'r gwladaidd nyddwyr, mawr eu brys, Eu llin a'u gwlan a weithiant, Tra ar eu holwyn erys bys Y gymwynasgar Gornant. 'Nol teithio dros y creigydd certh, A derbyn llawer codwm Tra'n disgyn dros glogwyni serth Yr uchei fynydd noethlwm, Ar lawr y dyfl'ryn teimla'n fliu, Ei dyfroedd araf dreiglant, Ac yna, ar fynwes chwaer sydd hyn, Gorphwysa'r fechan Gornant. Rhyw filoedd fol yGomant sydd Ti, gadael ffynon amser, Gan deithio'r anial, nos a dydd, 1'r mor sydd ar eu cyfer:- O! am gael, fel y Gornant flin, Pan wedi llwyr ddiffygio, Gael pwyso ar y Brawd sydd btn I'm di?n tuag yno. Aberystwyth. IOAN DOKRWEN 0 FÕN. I
-WALTON. I
WALTON. I Fel y mae yn adnabyddus i ddarllenwyr Fel y Ulae Yn adteial ,abw i w erbyn byn fod eich wythnosolyn clodwiw erbyn hyn fod eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, Walton Park, wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch E. J: Evans, Southport, i ddyfod i'w bugeilio yn yr Arglwydd, ac y mae yntau wedi cael ei gyfarwyddo gan Ben mawr yr eglwys i'w hateb yn gadarnhaol; ac erbyn hyn y mae yn myn'd a dyfod yn mhlith y defaid er's tua chwech wythnos bellach. A nos Lun, wythnos i'r diweddaf, cawsom gyfarfocl i'w groesawu ar ei sefydliad yn ein plith, o dan nawdd a defawd y Cyfarfod Misol, pryd yr oedd y ff?wreinidy ogioxi can- 1vnnl vn bresenok=- Parch J. Hughes, D.D., Griffith Ellis, M.A., D. Williams, yn nghyda Mr Edward Jones, Pwllheli; R. Koberts, Netherfield-road; D. Hughes a Mr Hughes, un 0 iiaenonaid Southport. Cadeiriwyd gan y Parch John Hughes, D.D., yr hwn a lanwodd y gadair liti?,,hes, D. D y ardderchog lawn, gan yi, mewn dwy wedd ardderchog iawn, gan yr liv.'n, yn nghyda Mr Roberts, Netherfield- road, ac Weill, y cafwyd cynghorion campus. Bydded nawdci Duw dros Mr Evans a'i deulu i drigo yn eu plith er iachawdwriaeth i lawer o'i gydgenedl yn yr ardal.-R. dp Mem.
golofm g(tugbbiatit. I
golofm g(tugbbiatit. I Hanes yr ??Jt e't-M?M?<? drwy y Bya, I 0 ?/<MMM yr 4Vostf^ hyd yn 6M- o g;lddi?,it David Griffith, DoigeIIau. Caernarfon 0. R. Owen. Y mae cyfnewidiad amlwg a phwysig wedi cymeryd lle yn nodwedd y llyfrau a ddanfonir allan gan y wasg Gymreig yn "ctM V hlvnvddoedd diweddaraf hyn amgen ?' i'r peth oeddynt. Hyd yn gydnmrol ddi- wetldar o'r braidd y meiddid ag antuno dim uwchlaw llyfryn chwech cheiniog, neu swllt, y fan bellaf; a byddai yn ofynol i'r awdwr ei hun ymgymeryd & theithiau blinion er ei hocian ar hyd a lied y wlad rhagbod yn golledwr. Dir yw, fod pethau wedi newid yn ddirfawr erbyn hyn. Y mae genym gyhoeddwyr parchus ac anturiaethus, y rhai drwy eu gwaith yn dwyn allan lyfrau ar raddfa uwchraddol sydd wedi rhoi syrnbyl- iad iachus a nerthol i awduriaeth yn ein plith. Pan y mae dynion astudgar, ysgoleig- aidd a meddylgar yn gweled rhyw obaith i'w gweithiau gael eu liargraphu yn chwaethus a'u gwerthu heb iddynt hwy orfod ymdrafferthu mewn ffordd boenus, ac yn fynych begerllyd, i'w gwerthu, anturiant roi egni ati i anrhegu eu hoes a u cenedl a ffrwyfli addfcd eu meddylian mewn gwedd niwy llafurfawr a thebygol 0 sierhau iddynt safle uwchraddol. yn nheml Ilonyddiaeth. Cyfrifwn y gyfrol hon o eiddo Mr Griffith, Dolgellau, yn un o'r cyfryw. Delia a mater sydd wedi bod braidd yn esgeulusedig gan v Cymry, o leiaf, yn ei wedd mwy gwyddonol, Hanesiaeth Eglwysig. Y mae genym amryw 0 hanesion da a' safonol o'r gwabanol gytun- debau Efengylaidd, eu dechreuad a'u gweith- rediadau; ond y mae braidd bob peth sydd yn yr iaith yn delio a hanes yr Eglwys gy- ffredinol yn dra anfoddhaol. Nid ydynt, i fesur helaeth, ond cymvsgedd anwyddonol 0 festir holaeth, ond ewyie nljloniaeth h b soiliau draddodiadau a chwedloniaeth heb seiliau yn y byd iddynt ond dychymygion yr hen fonachod, y rhai na feddent ddim arall i'w wneyd A'u hamser ond creu dychymygion, nac unrhyw amcan wrth hyny ond mawr glodi eu hurddau. Yn awr fodd bynag, cydrhwng y gyfrol hon gan Mr Griffith, a Hanes yr Athrawiaetk gan Dr Hughes. Liverpool, y mae y Cymro uniaith, ond cfrydg £ u\ wedi ei osod ar dir teg i gyr- haeddyd gwybodaeth weddol gy?r a chyf- lawn yn y maes toreithiog 0 ddyddorol a phwysig hwn. Y mae cynllun Mr Griffith 0 drafod y pwnc yn un hapus iawn i'n bryd ni. Delia â phob canrif ar ei phen ei hun, gan roi penod i bob un. Hefyd trefna bob amgylch- iad yn baragraph rhifedig. Rhydd hyn fath 0 grynodeb a thaclusrwydd i'r matenon au gwnant yn hawdd i'w hamgyffred a'u cofio a chyfeirio atynt. Ceir i ddechreu gyfres 0 ddygwyddiadau cyffredinol yn hyn a hyn 0 baragraphiau rhifedig; yna, yn dilyn, ceir crynodeb o ddygwyddiadau neillduol ac arbenig y ganrif. Cymerer, er enghraipht, y chweched gannt (aewisir non neD un amcan neillduol yn ein cymhell i hyny). Wedi delio & dygwyddiadau cyffredinol y cyfnod mewn 22 0 baragraphiau aiff yn mlaen i nodi dan rif 23, Crefydd yn Nghymru yn y cyfnod;" 24 "Enwogion y cyinod;" 25. C nghoi-'fiiauhyn(,dyganrif;" 26, Hereticiaid." Fel hyn, caiff y dar- llenydd olwg gryno ar bob canrif fel darlun a'i outlines yn glir a phenodol. Ysgrifena yr awdwr mewn arddull brydferth cyfan- soddiad tlws a llyfn yn denu y darllenydd; iaith chwaethus a dullweddau Cymreig. Y mae yr ysbryd yn ddefosiynol, a'r sympathies yn gwbl Efengylaidd. Dyfynwn yr ls-bara- graph canlynol ar y Seintiau, dan brif baragraph 23, sef Crefydd yn Nghymru:" (2.) Y Seintiau. Crybwylla awdwr Hanes y Brytaniaid a'r Cymry fod saint yr Y sgrythyrau a saint' eglwysig yn ddau fath o boblhollol annhebyg i'w gil dd. 'Saint y Beibl,' eb efe, 'yw dynion crefyddol, Crist- lonogion, y rhai a sancteiddiwyd drwy ffydd yn Nghrist; ond Saint Hanes Eglwysig yw nrddo ddynion i wedi eu canoneiddio gan E"lwys Rhufain, a'u galw yn 'Saint' oherwydd rhyw rinweddau oedd ynddynt yn mhell uwchlaw ereill o'u cydfarwolion." Yn ymyl hyn efe a sylwa mai Cristionogion cyffredin ac ymroddgar i ledaenu yr Efengyl oedd y rhai a elwid yn 'saint'wedi'r cwbl, ac mai ychydig 0 sylw a delid iddynt yn eu hoes a'u cenedlaeth; ond i rywrai yn mhen oesoedd ar ol i'w hesgyrn bydru, ddyfeisio eu gorchestgampau goruwchnaturiol, a'u cysegru yn saint,' a phriodoli pob gwrhy- dri iddynt." Yn mhell cyn diwedd y chweched ganrif, fel yr awgrymwyd o'r blaen, yr oedd y seintiau hyn wedi dyfod yn llu mawr iawn. Arferid eti dosbarthu 1 wahanol lwythau, oblegid hanent owa- hanol foneddigion; ac am hyny fe'u had- waenid wrth y fath enwau a'r rhai hyn:- Emyr Llydan Cyff Macsen Wledig Cyff Cynedda, Cyn Coel Coed Hebawg, &c. Yr oedd y prif foncyffion yn naw neu ddeg 0 nifer trayr oedd ereill llai mewn enwog- rwydd yn dra lluosog hefyd. Gyda threigl- iad amser daeth eu blagur gyda'u gilydd i orlenwi y tir yn rhyfedd. Ystyrid eu bod agos oil yn feibion 0 waed a bonedd bren- inol. Honid fod amryw ohonynt 0 genedl- iad goruwchnaturiol, yn debyg i Isaac, Sam- son, neu loan Fedyddiwr. Yn Muchedd Beuno," er enghraipht, dywedir am ei rieni mai dynion oedawg oeddynt, fel na fyddai blant iddynt fyth." Ond ar ryw ddydd gwaith, fel yr oeddynt yn ymddy- ddan, hwy a welynt angel yn dyfod atynt, a'i wisg yn gyn wyned a'r eiry, ac a ddywedodd wrthynt, Byddwch lawen a hyfryd, canys gwrandewis Duw eich gweddi! Yn ganlynol i hyn, ganwyd Beuno. Eu holafiaid a briodolent i'r seint- iau hyn bob math 0 ddoniau rhyfeddol. Gellid meddwl fod eySawni gwyrthiau rn waith mor rwydd iddynt ag anadlu. Dim ond i Beuno ewyllysio, a dyna ben Gwen- frewi yn cael ei osod yn ei le ar ei chorph ar ol ei dori ymaith ft chleddyf. Yn ei syched, gweddiai Elian Gainiad, neu Ysgafn- droed, am ffynon, ac yn y fan, wele Ffynon Elian yn tarddu yn ymyl ei droed..Ami oeddynt y ffynonau a ddaethant i fodolaeth yn y ffordd hon ac nid anfynych y byddai eu ffrydiau yn troi yn win neu laeth at was- anaeth y dwyfolion sychedig! Yr oedd amryw o'r seintiau Cymreig hefyd yn enwog fel rhyfelwyr, megys Cynllo Frenin, liltul Farchog, a Gwrthefyr Fendigaid. Saint milwraidd hefyd oedd Clydwyn Rhawin, Rhun a Nefydd. Yr oedd rhai o'r saint penaf wedi dyfod i wladychu yma o fanau ereill. Un felly oedd Emyr Llydan, yr hwn oedd nai i Garmon, ac a ddaethai drosodd gydag ef i'r Ynys hon. Yr oedd gan hwn lawer 0 blant ac wyrion, a phob un, meddai, yn sant dihalog ac epilgar." Rhydd y dyfyniad uchod enghraipht o ddull cynwysfawr yr awdwr o grynhoi ei faterion a'i ffordd ddeheuig o osod llawer mewn cylch byr, ac mewn dull darllengar. Nis gallwn ddyweyd ein bod yn syWMo i mewn ft %rn neu ddadganiad yr awdwr ar bob peth a ddaw dan sylw o ddechreu y gyfrol i'w diwedd, ond y mae y pethau r. gwahaniaethwn oddi wrtho, rha.id addefy, yn ychydig iawn, ac yn y rhan fwyaf o'r esiamplau yn gymharol ddibwy. Er enghraipht, gwahaniaethwn oddi wrtho yn rha o'i ddyddiadau a fabwysiada lie y mae amheuaeth yn eu cyICh. uweiwn, er enghraipht, ei fod yn ei golofn amseryddol o ddygwyddiadau y ganrif gyntaf yn mab- wysiadu y dyddiad diwedaaraf a roir o ysgifeniad llyfr y Dadguddiad, yn hytrach nar un cynarach. Yn hyn barnwn ef yn anghywir; ond mater o opinwn ydyw wedi'r cwbJ. Diolch yn fawr i Mr Griffith am ei gyfrol penigamp. Dymunem gydnabod derbyniad y can- lynol :—" Canmlwyddiant yr Ysgol Sab- bothol," "YrHaul," "Yr Herald Cenhadot," "Dysgedydd y Plant," "Y Drysorfa," "Y Dysgedydd," "Trysorfa y Plant," "Moses a'r Prophwydi," "Yr Eurgrawn Wesley- aidd," "Cydymaith yr Y sgol abbothol,"&e-
PENSARN, GER AMLWCH,I
PENSARN, GER AMLWCH, Cynhaliodd eglwys Carmel, Pensarn, ei gwyl flynyddol Gorphenaf 30 a 31. Y Parchn J. R. Jones, Llwynpia, a Roberts, Llwyn- hendy, ydoedd y pregethwyr. Cawsant dywydd nynod o ffafriol, a chynulleidfa fawr o wrandawyr. Credwyf mai hwn ydyw yr addoldy yn mha un y bydd y pregethwyr yn cael mwyaf o gynorthwy 0 un addoldy yn Mon.-P.arysman.