Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

21 erthygl ar y dudalen hon

BRYNGWRAN A LLANGEFNI, A CRY.…

GARN DOLBENMAEN. - -

PORTDIN OKVV10.

AEHOLIAD YSGOLION SAB-IBOTHOL…

I -BETHESDA. I

LLANBERIS.

Advertising

I TJNDEB BANGOR A BEAUMARIS.

CAWRFILOD YN GWASGARU BYDDIN…

i O'R "TBICYCLING JOURNAL."

BWRDD YSGOL COLWYN BAY AI…

I-LLANDDEINIOLEN. -..1 - -…

IQUININE BITTEBS GWEuTM EVANSI…

I HYN A'R LLALL. j

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I HYN A'R LLALL. j Yr oedd gan y British Weekly am yr wythnoo ddiweddaf nifer o lythyrau oddi- wrth wyr enwog ar y Dadgysylltiad, ac ya- ddynt ceir cyfeiriadau at y pwnc yn Nghymru. Ymadawodd Mr W. T. Stead, golygydd y Pall Mali Gazette, am y Cyfaodir. Llawer sydd o ddyfalu beth yw ei amcan. Adroddir yn awr mai ysmaldod i gyd ydoedd yr hanes a gyhoeddwyd fod Syr A. B. Walker. y ewerthwr ewrw. vn mvned i adeiladu Eglwys Gadeiriol Lerpwt ar ei gost ei hun. Dywedir y bydd i Mr Chamberlain a Mr John Morley dreulio gwyliau y Sulgwyn yo nghartref Syr William Harcourt yn New Forest. Beth y mae hyn yn ei arwyddo, tybedf Y mae y papyrau dyddiol yn y wlad hon yn hysbysu fod uehelgais. y Cadfridog Boulanger yn peri iddo edrych am yr an- rhydedd o eistedd yn nghadair lywyddol Ffrainc. Ofnir y gall hyn brofi yn chwerw i'r Ffrancod, os llwydda y Cadfridog beidd- gar. Dydd [au, yn Nosbarth Maine y Fren- hinea, cafodd dyn ieuanc o Glasgow iawn o 700p gan Gwmni Cyffredinol Cerbydau Llundain, oherwydd niweidiau a dderbyn- iodd ar un o'u eerbydau. Bwriada y Morlys ddwyn lluaws o ar- brawfiadau llyngesol yn mlaen yn fuau ar draethellau Cymru, yn benaf oddeutu Porth- ladd Aberdaugleddyf, sir Benfro. Diameu y gwylir y gweithrediadau hyn gan luaws mawr o breswylwyr Gwyllt Walia, a ddichon fod yn trigianu lie y gwneir hwy. Hysbysir fod bywoliaeth Niwbwreb, Mon, yr hon a aeth yn wag trwy symudiad y Parch D. Jones i Borthaethwy, wedi ei thoddi i'r Parch Richard Evans, M.A., per- iglor Llanddaniel. Hysbysir fod Arglwydd Randolph Church- ill yn myn'd i draddodi tair neu bedair o anerchiadau ar lywodraeth leol i'r Iwerddon yn ystod gwyliau y Sulgwyn. Mewn canlyniad i waith perehenogion heol-gerbydau Santiago de Chile yn gwrthod gostwng prisiau y cludiad, gwnaeth nifer o bersonau ymosodiad ar feddiannau a cher- bydau y cwmni, gan achosi difrod o 100,000 o ddoleri. Yn heddlys Dalton dydd Mercher, dir- wywyd tafarnwr o'r enw Richard Ames, i 20p am ddyfrio porter. Nid yw y gantores swynol a adnabyddid gynt wrth yr enw Miss Mary Davies yn bwriadu teitlio ei hun yn Madame Mary Davies, fel y gwna y mwyafrif o oleuadau y byd eerddorol. Ymfalchia hi yn y ffaith mai Cymro ydyw ei phriod; ac felly galwa ei hun wrth yr enw syml Mrs." Y mae teimlad cryf yn bodoli yn Sydney, Awstralia, yn erbyn ymfudiaeth y Chineaid i'r wlad hono. Yr wythnos ddiweddaf, dywedodd Syr Henry Parkes, y Prif Weinidog, na chai yr un o'r Chineaid oedd ar fwrdd yr agerlong Afghan, ydoedd ar ei ffordd i Sydnny, lanio yn New South Wales. Anfonodd y Frenhines goronbletb o friallu i'w gosod ar fedd Arglwydd Beaconsfield yn nghladdfa. Hughenden. Pellebr o Belgrade a ddywed fod cyn- byrfiadau wedi cymeryd lie yn Monastir, ac fod y Serviaid a'r Groegiaid wedi ymuno i wrthwynebu yr awdurdodau Tyrcaidd. Dydd Iau aeth morfil yn mesur 16 o droedfeddi ar lawr yn y bau ger West Kirby, a bu yn gorwedd yno hyd nes y cododd y llanw. Nid oes gwirionedd yn y ehwedl fod Tywysog Cymru yn cael ei wylio gan hedd- geidwaid rhag ei fradlofruddio gan y dyna- meitwyr. Yehydig ddyddiau yn ol diangodd dyn a dynes ieuanc yn MeKto gyda'r amean o briodi; ar eu gwaith yn dyehwelyd yn ol saethwyd y dyn yn farw gan un o berthyn- asau yr eneth. Diau y ceir clywed yn mhen ychydig ddyddiau am yr anturiaethwr enwog, Mr H. M. Stanley. Sibrydwyd ei fod wedi marw, ond y mae yn fyw ac yn iach, a cheir manyl- ion am ei ymgyreh cyn bo hir. Brysneges o Rufain a hysbysa fod ofnau mawr yn cael eu coleddu gan y trigolion yn nghymydogaeth y llosg-fynydd Etna, yr hwn sydd er's dyddiau yn bwrw allan lava yn waeth nag erioed, ac ofnir y cleddir amryw I bentrefi ganddo. Drwg stenym hysbysu am farwolaeth Mr Owain Thomas, prif lywodraethwr car- chardy Caerfyrddin. Yr oedd Mr Thomas yn enedigol o Ddolgellau, ac yn barchus gan bawb. Rhoddodd y Llywodraeth Rwsiaidd arch- ebion i gwmni yn Ffrainc i adeiladau dpuddeg o gychod torpedo o'r dosbarth cyntaf. Yn ystod yr wythnos hon, tybir y daw y cyngaws am athrod yn erbyn y Times am y cyhuddiadau a ddygodd yn erbyn ilir Parnell, o flaen y barnwyr Mani3ty a Huddleston. Arglwydd Derby fydd arweinydd y Rhyddfrydwyr Undebol yn Nhy yr Arg- lwyddi o hyn allan. G wneir parotoadau mewn amryw fanau o'r deyrnas i ddathlu gorchfygiad y lynges Yspaenaidd ganrifoedd yn ol. Y mae nifer y gwelliantau ar Fesur y Llywodraeth Leol yn amlhau o hyd-rhifent 420 pan ysgrifenem y nodiad hwn. Rbyddhawyd Mr Gilhooly, A S. Gwydd- elig, boreu Iau, o garcbar Cork, Iwerddon. Y mae gwrthdystiad y Pab i Gynllun y Cadgyreh wedi creu cyffro yn mhlith y Gwyddelod. Edrychir yn mlaen yn awyddus at adrodd- iad y pwyllgor a benodwyd i ystyried y pwnc o ymweliad dyeithriaid a Thy'r Cyffredin. Bydd gan y Prif-athraw Dr Edwards, o Brifysgol Aberystwyth, ysgrif yn y rhifyn cyntaf o'r British Weekly Pulpit. Yn ol ewyllys y ddiweddar Miss Susan Dent, Llundain, y mae ei chwaer, Miss Augusta Dent, i gael 3,300p, a'r oil o'r in- terest, drwy ystod ei bywyd, a'r glofeydd, a thiroedd yn y Wyddgrug. Ymddengys y bydd raid i Mr William O'Brien, AS., dreulio tri mis arall yn y carchar. Caethiwyd Llefarydd Ty y Cyffredin i'w wely un o ddyddiau yr wythnos ddiweddaf. Dyoddefai gan boen yn ei gefn. Dwg Mr David Thomas y gwyn o flaen y Postfeistr Cyffredin yn nghylchygwahardd- iad i gludo llytbyrau ar y rheilffyrdd heb iddynt yn gyntat tyned drwy'r llythyrdy. DeaHwn fod fod llyfr yn dwyn yr enw Methodistiaeth Mon, Q'r dechreu hyd y Awyddyn ??7, yn awr yn ngofal Mr David Jones, Amlwch. Awdwr y llyfr yw y Parch John Pritchard Amlwch. Y mae y pwnc yn un par ddyddorol, a'r awdwr yn adna- byddus i'r holl genedl. Diau y caiff dder- byniad teilwng gan y wlad. Ceir manylion pellach yn y papyr hwn pan y daw allan o'r wasg. Cafodd wy, deg wns a haner, ei ar- ddangos yn marchnad Trallwm yr wythnos ddiweddaf. Y mae yr Arglwyddes Watkyn Williams, priod diweddar Farwn Watcyn Williams, wedi cyhoeddi ffugchwedl yn dwyn y teitl Even such is life."

I MYNED I'R CA.PEL YNI BECHOD!

I AUR YN NGflAERGYBI.

II DARGANFYDDIA.D AUR YN FFESTINIOG.…

.0-m-0 LERPWL.I

--ABERTAWE. -

-CAERGYBI. -I

1-_FFESTINIOG.-...