Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mae y tawelwch ar ol y storm yn Nhy y Cyffredin yn boenus i rai sydd yn hoff o ych- ydig gyffro. Ba penderfyniad y Llefarydd a'r Llywodraeth yn foddion i ddofi yr Home Rulers. Os nad ydynt wedi eu hadfern i'w pwyll, y maent wedi eu darostwng i ofn. Gwnant eu goreu i wrthwynebu Mesur Mr. Forster, mae'n wir, ond nid trwy gamddefaydd- iad bwriadol o ffurfia j y Ty fel cynt. Pleid- leisiwyd yr ail ddarlleniad yn eisteddiad dydd Mercher trwy fwyafrif o 359 yn erbyn 56-y lleiafrif yn cynwys enwau saith o Ryddfrydwyr, ao yn eu plith Syr Wilfrid Lawson. Buasid yn disgwyl Ty llawer llawnach ar achlysur o'r fath bwysigrwydd, ond cauwyd rhai ugeiniau allan trwy i'r rbaniad ddyfod yn gynt nag y disgwylid.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dydd Iau, ar waith y Llefarydd yn datgan y Mesur yn "bwysig," yn unol a/r rheolau new- yddion, ymffurfiodd y Ty yn bwyllgor heb un- rhyw ddadl. Heb y rheolau newyddion gall- ssai y Mesur fod heb gyraedd i Bwyllgor eto. Yn eisteddiadau dyddiau Iau, Gwener, a Llun:a Mawrtb, dadleuid gwelliantau ar adran gyntaf y Mesur. Cynwys yr adran hono ydyw fod aw- durdod yn cael ei rhoddi yn llaw yr Arglwydd Raglaw i orchymyn dal a chadw yn nghrcbar unrhyw bersonau a amheuir. Yn ystod y dyddiau a nodwyd, dadleuwyd lliaws o well- iantau ar yr adran hon, gyda'r amean o leihau yr awdurdod a gynygir i'r Arglwydd Raglaw, ond yr oil o ba rai a wrthwynebid gan y Llyw- odraetb, gyda sicrhad na fydd i'r awdurdod gael ei chamddefnyddio. Yn y rhaniadau ar y gwelliantau, pa fodd bynag, cbwyddid ychydig ar y lleiafrif Gwyddeiig gan aelodau Rhydd- frydig, y rhai, tra yn cydnabod yr angenrheid- rwydd am well amdoiffyniad i fywyd ac eiddo yn Iwerddon, ydynt yn anmharod i ymyraeth ond i'r graddau lleiat y byddo yn fcosibl a rhyddid y deiliaid. Ond y mae yn amlwg mai effaith rhai o'r gwelliantau fyddai gwneyd y Mesur yn hollol ddiwerth.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mae y rheolau newyddion gyda golwg ar ddadleuaeth yn Nhy y Cyffredin, pa rai a gy- hoeddwyd ganol yr wythnos ddiweddaf, wedi tynu cryn lawer o sylw fel yr oedd yn naturiol disgwyl. Er fod rheolau y Ty yn flaenorol yn cael eu hystyried y rhai perffeithiaf a geid mewn unrbyw gynulliad dadleuol yn y byd, profasant yn annigonol i gyfarfod ag ystrywiau yr Home Rulers, ac ar un o'u rhagoriaethau penaf—eu hamddiffymad i ryddid yraelodau- y cymerid mantais i'w gwneyd yn aneffeitbiol. Nid yw y rheolau newyddion wedi eu bwriadu i fod ond am dymor, ac i gyfarfod kg amgylch- iadau neillduol, ond y mae rhai o honynt mor gyfaddas i gyfansoddiad y Ty am y blynyddoedd diweddaf fel y mae bron yn sicr y deuant i blith ei reolau sefydiog. Nid oes dim ond goddetgarwch y Llefarydd bellach a ganiata lawer o wastraff bwriadol ar amser y Ty. Bydd gan y Llefarydd awdurdod ynddo ei hun i atal y cynygion am ohiriad y ddadl, neu y Ty, os tybia fod hyny yn cael"ei wneyd yn^unig gyda bwriad i rwystro y gweithiediadau. Gall atal siaradwr y tybia ei fod yn ail adrodd, neu yn dwyn i'w araith faterion anmherthynasol gyda bwriad i ladd amser. Gall ddwyn dadl i der- fyniad pan y tybia na byddo ei pharhad pellach ond amcan nifer byshan i rwystro. Mae rhai o'r rheolau yn ddiameu yn ymddangos fel yn ihoddi yr holl Dy at drugaredd y Llefarydd, ac y mae yn sicr na fwriedir hwynt ond yn unig ar gyfer amgylchiadau neillduol. Ond y mae y Llefarydd a Chadeirydd y Pwyllgorau wedi rhoddi prawf yn barod nad oes dim i gael ym- yraeth & rhyddid yr aelodau tra y byddo yn cael ei ddefnyddio gyda rhyw gymaint o barch i weddeidd-dra, Gwell fyddai yn ddiau goddef ychydig o dreth ar amynedd y Ty na dim y gellid ei ystyried yn ymyriad & rhyddid llawn neb o'r aelodau.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Claddwyd Mr. Thomas Carlyle ddydd Iau yn mynwent wledig Haddington, o tewn ei sir enedi«ol. Aufonodd Deon Stanley genadwri at tluiu yr ymadawedig, yn dymuno ar i'w gorff gael ei roddi i orpbwys gydag enwogi n Prydain yn mynwent gysegredig Westminster ond yr oedd Cariyle wedi rhagweled y posibil- rwydd y byddai i'gaisj felly gael ei wneyd, ac wedi dymuno am i dy ei hir gartref fod oohr yn ochr ag eiddo ei anwyl briod a fu farw yn 1865. Er mai mwy cydweddol & theimlad y wlad fuasai gweled y gwron'yn cael yr anrhyd- edd uwchaf sydd yn bosibl ar ei farwolaeth; eto, nid oes angen am golofn fynor i gadw yn fyw ei goffadwriaeth-bydd ei weithiau yn gofgolofnau mwy parhaol na dim a ellid adeil- ada yn Westminster. Ar un adeg amlygodd Carlyle ei ddymuniad na byddai i hanes ei fywyd gael ei gyhoeddi, ond yn ddiweddarach, deallir iddo ymddiried i ofal un o'i gyfeillion- Mr. J. A. IFroude-ddefoyddiau, yn cynwy. llawer o lythyrau nad ydynt wedi eu cyhoeddi, i ysgrifenu cofiant teilwng o hono. Diameu y bydd yn cynwys ychwanegiadau pwysig at ei weithiau blaenorol.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Darperir adgyfnerthion lliosog i gynorthwyo Syr George Colley a'i filwyr yn y Cape, ac yn ychwanegol at y rhai sydd eisoesIar gyraedd y Cape, y mae eraill i'w dilyn mor ddiymdroi ag y mae modd o'r wlad hon a Madras. Hwyrach ei bod yn rhy fuan i feirniadu galluoedd mil- wrol Syr G. Colley, ond y mae un coll pwysig ynddo sydd yn peryglu diogelwch y milwyr sydd o dan ei ofal. Amcan-gyfrifa allu y gel- ynion yn llawer is nag y mae yn bosibl iddynt fod, ac oherwydd hyn y mae wedi crybwyll amryw weithiau fod gormod o adgyfnerthion yn cael eu hapfon allan. Hyd yn nod ar ol y profiad chwerw a gafodd yn Laing's Nek, y mae yn teimlo yn awyddus am gadw nifer ei fyddin i lawr, a thrwy hyny y mae yn ofnus y bydd iddo arfer gormod o hyfdra. Ond y mae Mr. Childers wedi penderfynu anfon allan gwmniau lliosog o feirch'j a thraed-filwyr, yn gystal a byddin o fagnelwyr, y rhai y disgwyl- ir iddynt gyraedd y Cape yn gynar yn Mawrth. Pan y mae yr,.d gyfuerthion yn cael eu hanfon aUan, mae yn foddhaol i'r wlad ddeall oddiwrth atebiad Mr. Gladstone yn Nhy y Cyffredin, mai prif ymgais y Llywodraeth ydyw cael y Boers i sefyllfaj gellir yn foddhaol sefydlu heddwch & hwy. Cyflwynwy,d dymu niadan y Llywodraeth i'r Boers yr wythnos ddiweddaf, ac y mae y cais y fath fel ag i roddi lie cryf i obeithio y byddant yn llwyddianus i sefydlu heddwch heb dywallt rhagor o waed. Yn ddi- weddarach, deallwn fod cais am heddwch wedi ei anfon oddiwrth y Boers at y Llywodraeth, a bu y cais dan ystyriaethy Cyfrin-Gyngor ddydd LIun, o'r hwn yr "anfonwyd atebiad at Syr G. Colley.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mae symudiadau dirgelaidd Mr. Parnell allan o Dy y Cyffredin yn creu llawn cymaint o chwilfrydedd a'i ymddygiadau o'i fewn. Yn uniongyrchol bron ar ol carchatiad Mr. Davitt, collwyd Mr. Parnell o'i le arferol yn y Ty, ac o'r cylchoedd y troai ynddyct yn Llundain. Aeth o'r golwg yn ddisymwth, ac yr oedd yr t amcan oedd ganddo mewn golwg yn gymaint dirgelwch ag i ba le yr aeth. Parai baner dwsin o wahanol adroddiadau i Mr. Parnell fod mewn yn agos gynifer a hyny o leoedd ar yr un adeg, a phriodolid i'w symudiadau bron ddwbl hyny o ddibenioD. Gwadai cyfeillion mynwesol Mr. Parnell eu bad yn gwybod ymha le yr oedd yn ystod dyddiau cyntaf ei ymgudd- iad, a dywedir fod cenadwriaethau pellebrol yn cael eu dychwelyd yn ol lawer gwaith yn y dydd hyd yn nod i ystafell pwyllgor yr Home Rulers' yn Llundain. Ond ymddengys erbyn hyn nad oes amheuaeth nad yn Paris y treul- iodd Mr. Parnell y rhan iwyaf o'i amser, a'i amcan yn myned yno yn ol rhai ydoedd i drefon rhyw ddiogelwch i fund y Land League, yr hon yr oedd Mr. Parnell a'i gyfeillion yn ofni ei gadael o fewn terfynau y Llywodraeth Seis- nig; ond yn ol eraill, ei amcan ydoedd cael ol- ynydd teilwng i Mr. Davitt, yr hwn oedd un o'r ymddiriedolwyr. Ond nid yw hyn yn ddigon i roddi cyfrif am yr holl ddirgelwch a arferodd, a chynygir esboniad o nodwedd ychydig mwy dyddorol i deimladan chwilfrydig. Yn ol yr esboniad hwn, yr oedd Mr. Parnell yn ofni fod rhyw weithrediadau neillduol o'i eiddo wedi dyfod i wybyddiaeth y Llywodraeth, ac y bu- asai yntftu yn debyg o gael y fraint o ddilyn Michael Davitt mor gynted ag y deuai y Coet- cion Bill i weithrediad. Gan weithredu yn unol & hen ddiareb Gymreig adnabyddus, barnodd Mr. Pamell yn ddoeth gan hyny, yn ol yr un sibrwd, i fyned drosodd i Pari., gy &'r bwriad o groesi y Werydd unwaith eto. Ond beth bynag oedd bwriadau cyntaf Mr. Parnell, a beth bynag oedd amcan ei symudiadau dirgel- aidd, dywedir yn awr nad yw am chwareu y llwfrddyn. Mae yn cael ei dditgwyl i'w le eto yn Nhy y Cyffredin, meddir, ac wedi rhoddi heibio y bwriad o fyned i America. Y newjdd diweddaf am dano yw ei fod yn nghwtnDi Rochefort a Victor Hugo yn Paris, ond yn trefnu i ddyfod drosodd iLundain.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Galwyd ar yr Ysgrifenydd Cartrefol, yn eisteddiad dydd Linn diweddaf, i roddi eglur- had ar fater lied ddieithriol i'r wlad hon yn awr. Gofynoddlaelod Gwyddeiig i'r Poatfeistr Cyffredinol a oedd ganddoallu i agor llythyrau cyfrinachol ya eu mynediad trwy y Llythyrdy, i ddibenion gwladwriaethol. Yr oedd y cwest- iwn yn awgrymiad fod rhai o swyddogion y Uywodraeth yn agor llythyrau a ddanfonid i rhyw gyfeiriadau neillduol, ao yraddengya mai hyn ydoedd y ffaith, ac mai trwy hyn y daeth y Llywodraeth yn hysbys o rai ffeithiau lied bwysig am y Land League. Amheuodd blaenoriaid y terfysgwyr Gwyddeiig fod hyn yn cael ei wneyd, a chymerasant lwybr hynod o gywrain, meddir, i sicrhau hyny. 0 hyn y tarddodd y cwestiwn a roddwyd i'r Postfeistr Cyffredinol, ond yr hwn a atebwyd gan yr Ysgrifenydd Cartrefol, fel yr un oedd gyfrifol am y gorchymyn yn yr schos. Yr oedd yr atebiad yn ochelgar, ond yn ddiflpesgnL Os ydyw y Llywodraeth yn meddu sail resymol i dybio fod bradwriaeth ar droed, gyffelyb i'r fradwriaeth Ffeniaidd, cyfiawnheid hwy, meddai Syr William Harcoort, am ddefnyddio y dull hwn i gael allan y bradwyr yn awt fel mewn amser a aeth heibio, ac os oeddynt i'w cyfiawn- hau o gwbl am y peth ei hun, yr oeddynt i'w cyfiawnhau am beidio rhoddi unrhyw hysbys- rwydd a fyddai yn debyg o roddi y troseddwyt ar eu gocheliad. Rhoddodd yr atebiad y bodd- lonrwydd a ddisgwyliasid i'r Ty. Wrth gwrS, nid yw yn beth hapus i unrhyw Lywodraeth addef eu bod yn defnyddio y moddion hwn, ond pan y mae bradwriaeth yn cael ei chario ymlaen trwy gyfrwng y Llythyrdy ei han, y mae dy- ledswydd tuag at y wlad yn galw amjddef- nyddio pob moddion i'w atal.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nid yw yr Americaniaid, beth bynag aiii eu gallu i raghysbysu, yn galln ffrwyno elfenra natur fel ag i ddiogelu eiddo a bywydau rhag cael eu dinystrio ganddynt. Clfoddhai parth- au o'r Talaethau brofiad o ystormydd cyffalyb i'r rhai a deimlwyd yn y wlad hon ychydig amser yn ol. Ymddengys mai Washington a ddioddefodd fwyaf oddiwrth eu houth, ac yisa gallwn dybio eu bod yn llanw y synild Amet- icanaidd am beth mawr. Torodd y Patomac dros ei cheulanau, a rhuthrodd i mewn i'r ddinas nes gorchuddio lliaws o'r heolydd a llanw y tai i ucbder mawr. Gan nad yw cadern-í: id yn adran bwysig yn nghredo yr adeilad. wyr Americanaidd, nid rhyfedd oeddgwelta Iliaws o'r tai yn rhoddi ffordd o flaen y Ilif- ogydd-rhai yn syrthio i'r llawr, ac eraill yn nofio fel cychod. Gwnaeth y dwfr gryn ddif- rod yn swyddfeydd y Llywodraeth, a dywedir y par hyn oediad yn nghyhoeddiad canlyniad y cyfrifiad diweddaf. Mewn rhanau eraill OT Talaethau, ac yn neillduol yn Ohio, gwnaed l dinystr mawr gan y llifogydd, ao achoswyd llawer o anhwylusdod acholled i gwmniaa rheilffyrdd. O'r Gorllewin y mae adroddiadi^i am ystorm o eira ddigyffelyb sydd wedijachqgj mwy o golliant bywydau na'r llifogydd, ac wedi. rhoddi rhwystr mwy parbaol ar ffordd trafnid- iaeth. Gorchuddir y rheilffyrdd a'r ffyrdd mewn rhai lleoedd gan tna SO troedfedd o eiràr ac nid gorchwyl bychan ydyw ei, symud mewn gwlad lie y mae yn disgyn yn barbausam wyth. nosau, ac yn parhau am fisoedd heb feirioli.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Adroddid chwedl ddigrifol gan rai o'r papyr- au y dyddiau diweddaf. Dywedir i weinidog pertbynol i'r Free Kirk, yn Skye, yn yetod T bregeth ar y Sabbath, gyngbori ei gynulleidfm gyda difrifwcb mawr i fyned gartref gydtphob brys, i amddiffyn eu bbelvvydydd s'a cartrefi, gan fod y Rwsiaid, trwy fradwriaeth Mr. Gladstone, wedi goteagja Lloegr. Derbyniwyd