Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

29 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

[No title]

[No title]

BANGOR. __- . I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BANGOR. I SoDDiAB T Loan Wit.i.ouohht.—Dydd Herclier, wythnos i'r diweddaf, cyrhaeddodd dwylaw y Hong uchod y dref yma, yr hon aeth yn ddrylliau ychydig ddyddiau yn flaenorol tuallan i Solway Mrth. Yr oedd yn rhwym o'r dref hon am Silloth gyda llwyth o leclii, a tbarawodd yn sydyn ar y lan. Gan ei bod yn lleuwi a dwfr yn gyflym, ac yn cael ei churo gan y aeth y dwylaw I r cwch yn mhen chwarter awr wedi y tarawiad, ac wedi 4 awr o rWJfo caled, cyrhaeddasant borth- ladd Silloth. Derbyniodd Cadben John Hughes niwed i'w aelodau tra yn myned o'r Uestr i r bad, ond dychwelodd y gweddill o'r dwylaw ynddiogel, a chowsant dderbyniad croesawgar ar eu glamad 1 Silloth gany trigolion,acynenwedig gany morwyr oeddynt yn y porthladd hwnw, ac ymddygwyd attynt yn garedig yn mhob modd. Aeth y llestr yn ddarnau yn fuan wedi iddynt ymadael a Ill. Luiuiad ak Y RnMILFFo ii)D.-Dydd Mercher, wythnos i ddoe, o flaen y Parch D. Evans, cyliudd- wyd Robert Roberts, platelayer, yn ngwasanaeth cwmni y rheilffordd yn agos i Borthaethwy, o dderbyn a lladrata swm helaeth o wifrcn ac eiddo arall perthynol i Gwmpeini Rheilffordd y London & North Western. Mae'n ymddangos oddiwrth y dystiolaeth a roddwyd ar y pryd, i Detective Howell, Caergybi, pan ar ei ymweliad a Phorth- aethwy y dydd blaenorol, ganfod y diffynydd yn •Hwytho trol mul gyda phump o sacbau yn llawn o fan goed a arferir ar y rheilffordd. Wedi i'r drol ladael yr orsaf, canlynodd Howell ef, a chwestiyn- odd ef yn nglyn a chynwysiad y sachau. Addef- odd Roberts eu bod yn cynwys eiddo y rheilffordd, ue erfyniodd ar iddo beidio ei wneyd yn liysbys. Gyda'i ganiatad, chwiliwyd ei dy j'll Penrhqs- garnedd, pan y canfyddwyd SWID helaeth o wiften, darn o bren deuddeg troedfedd o hyd, morthwyl, bar haiarn, a bwyall, gyda llytbyrenau y cwmni arnynt. Amheuir fod gan amryw ran yu y llad- rad. Gohiriwyd yr achos am bythefnos, a rhydd- hawyd Roberts dan feicliiefon. Mae'n ymddangos ei fod yn gweithio ar y rheilffordd er's deng mlynedd ar hugain. Dbwisiad Aroiyoydd ab TR Heddoeidwaid.— Da genym ddeall fod Mr John Jones, diweddar heddgeidwad yn Nghaernarfon, wedi ei ddewis yn aroiyoydd ar yr heddoeidwaid, ae yn myned i gartiefu yn ngorsaf heddgeidwaid y dref lioil. Duposiwn HEWN Addoliad.—Yn addoldy y Tabemacl, boreu Sul diweddaf, yn ystod pregcth ar Ephesiaid iii. 15: Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist," dywedodd y Parch John Williams, gwein- idog y 11e, y dylai teimlad o anheilyngdod nod- weddu gweddi, ac na ddylai ystum y c6rph fod yn anghydweddol & hyny. Gwyddai fod rhai eglwysi wedi rhedeg i eithafion yn y mater hwn, ond eatdbi m yr an pryd mai ein diffyg ni, yr Ymneill- duwyr Cymreig, oedd talu rhy ychydig o sylw i agwedd allanol pan yn gweddio. O'i ran ei hun, gwfidiai fod ein haddoldai wedi eu cynllunio yn y fath fodd fel nad oedd yn gjfleus i bawb o'r gyn- ulleidfa fynod ar eu gliniau yn ystod y weddi; ond cyhyd ag y gellid dylid cofio mai nid Pabyddiaeth, eithr Ysgrythyr, oedd yn cin dysgu i blygu y lin pan yn cyfarch gorsedd gras, a b) ddai yn dda ganddo ef weled byn yn cael ei gydnabod yn nghynlluniad a dodrefniad ein pwlpudan a'n lleoedd cyhoeddus. Yn ngwasanaeth yr hwyr, yn ol ei arfer pan yn ei bwlpud ei hun, galwodd Mr Williams ar y gynulleidfa i ddarllcn Salm o flaen y weddi, yr hyn a wnaed yn effeithiol a tharaw- iadol iawn gan y gynulleidfa luosog, dan arwein- iad Mr Thomas Lewis. Bendith i gynulleidfaoedd ein gwla4 a fyddai mabwysiadu yr un cynlluu. Cyvarkod ADLOllIADOL Hobbb.—Nos Lun di- weddaf cynhaliwyd cyfarfod o'r natur uchod yn ysgoldy newydd capel Horeb, o dan lywyddiaetli y Parch W. Jones, gweinidog y lie. Gwnaed y oyiMtod i fyny o amrywiaethau o gallu, adrodd, da/llen, cystadlu, &c, Mr T. C, Lewis, Garth'er-, wen, ydoedd arweinydd cor y plant, a Miss Lewis a chwaieuai ar yr harmonium, a chynorthwyid hwy gan Miss Jones (York-place), Miss E. Lewis, Cadben Rees Jones, Mr E. James (Ap Iorwerth), Mr Robert Jones, ac eraill, a chawsant gymera- dwyaeth uchel bob tro y canasant. Cafwyd adroddiadau gan Misses Leah Ellis, Margaret Pawy, E. C. Davies, David Robert Ellis, William Arthur Hughes (bacligen wyth oed yn nodedig o dda), Edward D. Jones. Enillwyd gwobrau mown llyfruu yn y gystadleuaeth mewn dar lien difyfyr gan E. C. Davie, Hirael; Elizabeth A. Prichard, Dean-street; a Wm. John Williams. Am adrodd b vmn oreu gwobrwywyd David Robert Ellis a William Arthur Hughes; ae am ateb cwestiynau gwobrwywyd John Owen Prichard, David Robert Ellis a Henry Ellis. Adroddwyd Salm 107 gan R. N. Hughes, C. Roberts, E. A. Prichard, a Leah Ellis. Can odd Mr Thomas Lewis" Cwymp Llowclyn" yn dda iawn, a derbyniodd Mr E. James (Ap Iorwerth) gymeradwyaeth uchel y cyfarfod am ddatganu Am nad oes ffrydiau," a gorfu arno ail-gauu, pryd y rhodd odd" Cymro yn helpu ei hun," geiriau a ymddangosasent yn ddiweddar yn y Gopiedi, ar fesur Hogyn yn gyru'r wedd." Anerchwyd y cyfarfod hefyd gau Mr J. Owen Prichard a Air Evan James; a cliafwyd anerchiadau barddonol gan Owain Arfon, Mr Richard Jones, Mr Joseph Jones, a Mr Samuel Hughes. Cofwyd cyfarfod hwyliog a da bron ar ei hyd.—Qviiiym. Y Siimbdd.—Yn y gymdeithas ddadleuol nos Lun, galwodd Mr Josiah Hughes sylw at sefylIfa trefedigaetb Deheubarth Affrica, ae amddiffynadd y Prifweinidog wladlywiaeth y Llywodraeth, sef gadael i'r trefedigion hyd y byddo yn bosibl weinyddu eu liamgylchiadau eu liunain, gydapr amddiffyniad Lloegr mewn achos o ymosodiad tramor. in nesaf Mr W. B. Lloyd (ar ran yr aelod dros swydd Gaernarfou) a ofynodd gwestiwn o barth i'r telerau heddweh, yr hwn a atebwydgau Mr Henry Lewis (Caughellydd y Trjsorlys), yr hyn a arweiniodd i ddadl frwd rhwng Dr. Ellis (arweinydd yr Wrthblaid), Mr Clayton, Mr T. Awstin Jones, Caughellydd y Trysorlys, a'r Prif- weinidog ()Ir Cadwaladr Davies). Ar ol i Dr. Ellis ddarllen rhestr o'r Weiuyddiaeth newydd, cododd Mr Henry Lewis (Canghell) dd y Trysorlys) ar ei draed, lie mewn araeth faith eglurodd wahanol adranau y Gyllideb, yr hon a gynwysai ad drefniad y dreth ar y tir fel ag i ddwyn chwe' luiliwn o bunnau yn ychwaneg i'r Cyllid, yr hyn a'i galluogai iddiddymu trathy tlodion, 8C i roddi miliwn o bunnau at achos addysg. Gofynid hefyd am swm o bedair miliwn fel rhagoeheliad gyda golwg ar agwedd fvgj thiol pwnc y Dwyrain. Beirniadwyd y cynygion hyn yii Ilym, yn enwedig yr adran gyda golwg ar dreth y tir, gan Mr T. Awstin Jones (Greenwich), ac ainddiffynwyd y Gyllideb, yn euwedig y ddarpariaeth i ddiddvmu treth y tlodion, gan Mr John Hughes (yr aelod dros Derby). O'r diwedd pasiwyd y Gyllideb. Bydd y Weinyddiaeth Ryddfrydig yn dyfod i awdurdod nos" Lun nesaf.

- NEBO, MON. I

.CRICCIETH.I

IIOBART PASHA YN THESSALI.

[No title]

[No title]

BETHESDA.

YR HYN A WELAJ8 AO A OLYWAIS.I

.LLANGEFNI. I

ROB WEN, ger CONWT. -- - I

BWRDD YSGOL WHITFORD AC ACHOSI…

PORTHAETHWY. I

ABEBFFRAW.- - I

DOLYDDELEN.I

l Y CYFYNGDER YN Y DEHEUDIR.

?mr. J£fullðiau nt1Ut}r,

CYNNADLEDI) IIEDDWCH.

ANFODDOGRWYDD YN RWSIA.

Y CYFFRO YN NIIIR -GROECf.

RWSIA A, ROUMANIA.

PWY FY]OD LLYIVYDD Y G YXlU.j).…

CYIIUDDO 0SMAK .PASIIA.

CYMERIAD ERZEROUM.

I BRwnHt FA WR YN nmwcn

Advertising

[No title]