Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
BERTHA PRICHARD YN MARW YN…
BERTHA PRICHARD YN MARW YN GYNAR. Gan W. J. Davies, New Castle, Pa. Tery angeu yn gynar wrth ddrws bodolaeth ami un. YmwelyflTl digroes- aw ydyw yn mhob man, ond er hyny ymweled v mae o hyd a'n hardaloedd. Dichon ei fod yn fwy o gyfaill dyn, cyfan, nag y'n dysgwyd i grerlu. Eang yw ei lywodraeth, oblegid gwelir ol ei draed yn mhob cwr o'r cyfanfyd, ac yn mhlith pob peth byw mae marw mor fyw a dim. Ni all y galluoedd meddygol goreu, ni all cariad wedi tori'n fflam, ni all nerthoedd ac egnion cvfeillion, ac ni all taerion a dwysion weddiau rhieni byth ei atal. Na, cryf yw, ac y mae agoriadau y bedd byth yn crogi wrth ei wrQgys. Daeth i New Castle yn ddiweddar a chymerodd yn ei freichiau oerion un o'r blodau prydferthaf yn y fro. Un ieuanc a fu'n cerdded penau'r myn- yddoedd, merch ieuanc a goleuni'r wawr wedi taro ar ei bywyd ac un a aeth i fro'r marwolion lawer yn rhy gynar i'n boddio. Bu hon yn rhodio yn hir ar lan yr afon, bu su y tonau yn toni'n hir ar ei chlyw a gwelodd y glyn pan nad oedd deilen werdd i'w d;irganfod yn unman. Bu Bertha Prichard farw 29ain o Fai, 1915. Ganwyd hi yn Niles, Ohio, yn y flwyddyn 1889. Daeth i New Castle gyda'i rhieni yn y flwyddyn 1896. Merch ydoedd i Mr. a Mrs. Wm. Prichard. Daethant hwy i'r wlad hon o Dowlais, D. C. Yr oedd Wm. Prich- ard yn llysfab i Wm. Jones (Wil Coch), Penywern, Dowlais; ac adna- byd(lid yntau pan yno fel "Bili Coch." Mae llawer o ddylanwad daionus beth- au y blynyddoedd gynt i'w gweled yn mywyd a chymeriad Bili Coch hyd heddyw. Mae olion y cyfarfodydd llenyddol yn aros yn amlwg ar ei fedd- wl clir. Mae Mrs. Prichard yn ferch i Ben- jamin Davies, Ben Abertawe, ond cod- wyd hi gan ei thadcu, Thomas Jones (Twm Poni). Mae hithau fel y rhel- yw o wyr a gwragedd Dowlais, yn feddianol ar lawer o synwyr cyffredin a doethineb. Yr ydym yn son am dan- ynt wrth yr hen enwau, am mai dyma yr unig ffordd yr adnabyddir hwy gan eu llu cyfeillion sydd ar hyd yr Unol Dalaethau. Mehefin laf, yr aethpwyd a'r hyn oedd farwol o Bertha Prichard i or- phwys hyd udganiad yr udgorn y boreu olaf. Daeth tort anferth at eu gilydd i dalu y gymwynas olaf i'r hon oedd mor hoff ganddynt. Yr oedd y blodau roddwyd yn llwythi. Os yw blodau felly, yn siarad am safle person mewn ardal, bydd yn rhaid i ni gredu fod yr ymadawedig ar y pigyn uchelaf yn bosibl. Gwasanaethwyd gan y Parch. G. Richards a'r Parch. Thomas Williams, T. M. Dygwyd y tystiolaeth- au cryfaf ganddynt o blaid cymeriad gwyn a glan y ferch ieuanc. Anhawdd gwybod beth oedd an- hwylder Bertha; ond dyoddefodd am flynyddau a bu dan gyllell y meddyg ragor nag unwaith. Os ydyw tywydd garw y presenol yn help i felysu y dy- fodol i berson, gallwn anturio dywed- yd mai melus, melus fydd ei dyfodol hi, ac os yw drain amser yn goronau yr ochr draw bydd ei choron yn sicr. Wet rieni tirion, codwch eich go- lygon i'r mynyddoedd. Os syrthiodd yr eilun dan frig y ddrycin, os cwymp- odd y rhos gan Iwydrew yn gynar ac os daeth nos angeu i gymylu'r ffurf- afer, ac i ddifa cysuron, byddwch wrol yn y gobaith fod pyrth y boreu tragwyddol wedi agor a bryniau'r dydd yn cael eu sangu gan eich hanwyl ferch. Sisial y bydd ambell un Fod dyn i dyfu'n angel: Ac eraill ddywed nad yw'r nod I hwn i fod mor uchel; Er hyny a trwy'r byd yn lion T diroedd gwynion anwel. Mae ambell fywyd yn y byd Yn wyn i gyd i'r IIygad; Ac nid yw llwch y ddaear hon Yn cyffwrdd bron a'i ddillad, A blodau tlws yn ol ei draed A gaed yn tyfu'n wastad. Mewn einioes fer bydd rhai yn byw Yn hen, a gwiw heb dwrw, Ac eraill er cael einioes faith Ar hyd y daith yn marw: Bu Bertha'n byw bob awr o'i hoes Er loes yr anial garw. Bu bywyd hon er cystudd mawr Yn hardd fel gwawr y boreu; Ac yn ei Ilaw'r oedd Uusern ffydd Boh dydd yn taflu goleu, Ac heddyw mae eu Iwybrau hud Yn wyn ei byd drwy angeu.
Advertising
GWALIA HOUSE 2909 Wilcox Street, CHICAGO, ILL. Gwesty Cymreig, Ystafelloedd cysurtw. Prisiau rhesymol. Cartref dymunol i fechgyn Cymru. Ychydig gamrau o gapel Hebron. R. T. WILLIAMI, Percbenog Phone Kedzie 1783.
RHAGORIAETHAU ARIAN PAPYR.
RHAGORIAETHAU ARIAN PAPYR. Wedi ei Sylfaenu ar Rwymebau yn Dwyn Tri y Cant o Log ar y Safon Aur i'r Llywodraeth. Gan H. W. Evans, Plainsville, Pa. Dios a diwad yw y gosodiad, Pe bu- asai holl arian papyr y wlad wedi eu gosod mewn cylchrediad fel benthyg o drysordy y llywodraeth i amaethwyr, cwmniau rheilffyrdd, a phawb o'r dinasyddion, allai roddi sicrwydd di- gonol am danynt, a chyhoeddi trwy ddeddf fod yr holl arian papyr cylch- redol yn daliad cyfreithlawn o bob dy- led. a bod aur ac arian fel eu bathir i fod o werth cyfartal i'r arian papyr, ni fuasai gan y rhyfel Ewropeaidd un math o ddylanwad niweidiol ar arian- aeth yr Unol Dalaethau. Gwanheid y safon aur trwy fynd i ddyled mewn gwledydd estronol am echwynion ar log ar gyfoeth y wlad hon am o bump i ddeg o weithiau yn fwy na'r aur sydd yn y wlad, fel y mae hawl gyfiawn gan estroniaid ar gwm- niau a phersonau am lawer mwy o arian na'r holl aur yn y wlad, fel y mae galwad am yr aur, yn tynu y safon neu y sylfaen allan o dan yr arian cylchynol. Adeilad ar y tywod yw ein harianaeth bresenol. Tra y byddai arian cylchredol sylfaenedig ar amaethdai, tai byw, rheilffyrdd, glo- feydd, maelfeydd, a holl adnoddau cynyrchiol, fel creigiau.cedyrn yn syl- faen dragwyddol dan yr arian cylch- redol newydd. Rhagoriaeth arall y byddai y safon yn ddigon mawr i gynal digonedd o arian ar gyfer pob angen, gellid cyhoeddi deg mil o fil- iynau o ddoleri o arian, ar haner cyf- oeth y wlad, a bod y dyogelwch yn ,bum doler ar gyfer pob doler ech- wyniad. Byddai y cynllun yn fwy.ystwyth ar gyfer y galwad. Gallai y llywodraeth gyhoeddi digon i gyflenwi y galwad. Ac-wrth natur yr arian, ni fyddai un rhwystr ar ffordd neb, a phawb i dalu eu dyled (pan y gallent. Byddai y ddy- led i'r llywodraeth. Byddai yn sefydlu manteision cyfar- tal i holl ddinasyddion y wlad. Nid oes lie i rydd-gystadleuaeth gyfartal yn y gyfundrefn arianol bresenol. Di- gon o arian yn y Dwyrain am bump neu chwech y cant, a deddfau yn an- nghyfreithloni dros chwech y cant..Y Talaethau Gorllewinol yn cyfreithloni deg y cant er tynu cyfalaf allan yno; personau unigol yn gorfod talu chwech y cant yn y Dwyrain, tra y mae cwm- niau mawrion yn cael arian o wledydd tramor am o dri i bedwar y cant. Ond byddai ein cynllun newydd yn gosod arian o fewn cyraedd pawb am dri y cant, tra bydd y llywodraeth yn talu dau y cant o log i gynilwyr tlawd, y mae hyny mewn ystyr yn dweyd taw dau y cant yw gwir werth arian mewn lie sicr. Trwy helaethu cynllun yr ariandai llythyrfaol, i dalu dau y cant i bawb am eu cynilion, ac echwyna i bawb am dri y cant, sefydlid manteision cyfar- tal i bawb, yna gellid profi gwerth rhydd gystadleuaeth fasnachol. Nid yw yn bosibl i bersonau neu gwmniau bychain sydd yn gorfod talu chwech y cant i'r ariandai, tra mae cwmniau mawrion yn cynal ariandai, a chael arian am dri y cant, i gjstadlu yn llwyddianus a'r corfforiaethau, ond pan ddaw yr arian am yr un llog i bawb, beiddiaf ddweyd y bydd man- teision y dyn unigol galluog yn rha- gori ar gwmniau mawrion, ac yna byddai yn bosibl cael teyrnas Dduw yn y pethau daearol fel yn yr ysbryd- ol. Plant yn yr un teulu yn medd- ianu manteision cyfartal, neu ddefaid yn cael eu bugeilio i bori yn yr un tir o'r bron. Byddai llog cyson ac arian cyfwerth cant yn sefydlu gwerth cy.%)n yn arian y wlad, a byddai swydd-dal y cyflog- edig yn rheoleiddio eu gwerth, wrth y gwaith. Y mae llog yn awr fel cread- ur gwyllt dan reolaeth anturwyr, os bydd. arian yn brin, newidir y llog, neu yn hytrach codir ef; os gor-ddigon- edd o arian, gwesgir y llog i lawr, a thrwy yr arian cyfnewidir gwerth nwyddau o bob math, am hyny, byddai llog sefydlog a digon o arian yn sef- ydlu llwyddiant parhaus. Byddai Hog cyson ag arian cyfwerth yn sefydlu sylfaen gyfiawn dan fas- nach y wlad. Nid oes modd bod yn garedig at weithwyr tlodion tra y mae gofynion cyfalaf yn ymddibynu ar hen drefniadau annuwiol a gormesol ac hunanol. Tueddiadau arianol a chwantau cnawdol yw yr unig allu- oedd" meddyliol sydd yn caniatau dau y cant o log i'r tlawd pryderus, a deg y cant i'r arianwr hunanol. Creadur tlawd yw dyn heb ddeall mawrion dru- gareddau Duw yn natur ar gyfer an- gen dynion, rhoddion Duw i'r plant yw holl adnoddau ein tir. Paham ynte y byddwn mor annuwiol a gorthrymu ein gilydd a,llog uwchlaw enill cyf- oeth y wlad, neu gynydd y trigolion. Cynydd y bobl mewn rhif a dadblygiad yw y galwad, ac y mae yn eglur fod llog uchel yn gorgyfoethogi yr ych- ydig trwy dlodi y llaweroedd, yr hyn wrth natur pethau, sydd yn lleihau y galwad. Pe byddai y bobl yn penderfynu talu holl ddyledion rhyfeloedd ag ar- ian papyr y llywodraeth heb un llog, byddai'r arian yn dreth gyffredinol yn erbyn cyfoeth presenol y bobl, ac yn gorfodi cyfoeth i dalu y draul drwy leihau gwerth cyfoeth yn gyffredinol, felly arbedid y llog ar y draul. Nid oes yr un gronyn o chwareu teg yn y cynllun o dynu y milwyr wrth oedran neu wrth y cant i aberthu eu hunain er amddiffyn cyfoeth y wlad, ac ech- wyna arian a'u talu yn ol gyda Hog blynyddol. Nid bai y plant sydd yn tyfu sydd yn cynyrchu rhyfel, ond pechodau y gorphenol a'r presenol. Yna cyfoeth ddylai dalu y treuliau. Felly, byddai talu dyledion rhyfeloedd mewn arian papyr yn daliad cyfreith- Ion am bob dyled, yn un o'r moddion mwyaf effeithiol i sefydlu heddwch ar y ddaear.
! EDNYFED LEWIS. Y TENORYDD.
EDNYFED LEWIS. Y TENORYDD. Gan E. Puntan Davies. Gyda hyfrydwch mawr yr wyf yn cyflwyno darlun o'r tenorydd swynol uchod geir er ys blwyddyn neu ddwy wedi dyfod i fyw i Philadelphia, ac un sydd yn ymddangos yn ol ei Iwydd- iant dadgeiniadol eisoes, o ddyfod yn dra enwog yn ein plith. Yn sicr, y mae efe yn dringo i fyny, o ris i ris, er pan y daeth yma, yn dystiolaeth diameuol o ddyfodol llwyddianus. Cafbdd ei gyfiogi i ganu mewn eglwys can gynted ag y daeth yma, ac y mae wedi gorfod ei newid er gwell yn fyn- ycn, hyd nes ei fod yn awr wedi cyr- aedd megys pinacl yr eglwysi sy'n talu y cyflog gyda'r uchaf yn y ddinas, os nad yr ucha,, sef y 2nd Presbyterian Church, 22 AValriiit St. Myned trwy gystadleuaeth a wnaeth am y swydd o dan feirniadaeth Musical Critic y "Ledger," ac enillodd ar brif denoriaid y ddinas, ac y mae' hyn yna ynddo ei hun yn ddigonol brawf am ei swyn a'i allu fel tenorydd o'i- radd flaenaf. Ednvfed Lewis. Os nad ydwyf yn camsynied, gened- igol ydyw o Ogledd Cymru, ond o Ler- pwl y daeth yma at ei ewythr a'i fodryb, Mr. a Mrs. D. Wilson Roberts, o barchus adnabyddiaeth yn ein plith er ys tua 35 o flynyddau. Nid oes gwahaniaeth ai Lerpwlian ai peldio ydyw, y mae fel Mrs. Ambrose o waed coch cyfan Cymreig, er wedi ei geni a'i magu yn Lerpwl. Medr ganu Cym- raeg lawn cystal a Saesneg, gyda llais tenor pur nad yn fynych yn mhlith y goreuon y ceir ei well, ac y mae yn ddarllenwr cerddoriaeth rhwydd a chywir. Y mae yn ddyn ieuanc glandeg, a gwna ymddangosiad llwyfanaidd hardd, disigl a boneddigaidd, fel y mae ynddo bob cyfuniad i wneyd dad- ganwr a fydd o glod a pharch i'w genedl, ac yn enwog yn mhlith yr Americaniaid, a jboed iddo oes hir a llwyddianus, gyda digonedd o synwyr cyffredin yn cydfyned ag ef, oblegid methiant yn y pen draw ydyw pob peth megys heb hwnw. Boed iddo bob amser fod y boss, beth bynag fyddo'r dalent, a bendith y mamau ar ben pawb o'r fath. Yn mlaen iliewn llwyddiant yr elot, Ednyfed bach.
IY DDIWEDBAJfc MRS. MARY ANN…
I Y DDIWEDBAJfc MRS. MARY ANN THOMAS. ELIZABETH. N. J. I Gan y Parch. R. Powell. Un o heddychol ffyddloniaid Israel oedd Mrs. Thomas, ac y mae ei choff- adwriaeth yn fendigedig gan bawb a'i hadwaenent hi; a fhiraeth calon sydd ganddynt am dani hi. Merch ydoedd i Edward a Mary Ann Richards o Ran- dirmwyn, swydd Gaerfyrddin; a hi oedd yr hynaf o saith o blant, sef chwe merch ac un mrub. Y mae pedwar o'r merched eto yn fyw. Ganwyd hi mewn ffermdy o'r enw Tynyfoel yn Rhandirmwyn Mawrth 25, 1847, a bu farw yn Wilkes-Barre, yn nhy ei chwaer ieuengaf, Mrs. Owen R. Hughes, y Sul, Mehefin y 6ed, am chwarter i bump y prydnawn, yn y tawelwch mwyaf pan yn ychydig dros 67 o flwyddi oed. Priododd Mrs. Thomas pan yn bur ieuanc a dyn ieu- anc a ddaethai o gymydogaeth gyf- agos iddi o'r enw Lewis Thomas, a ganwyd iddynt chwech o blant, 'sef tair merch a thri fab, pump o'r rhai sydd heddyw yn fyw. Cafodd ei mab hynaf ei ladd ryw bymtheg mlynedd yn ol yn y Red Ash Mines yn Wilkes- Barre, Pa., yr hwn fu yn ergyd trwm iawn iddi hi yn ngyrfa bywyd, oblegid yr oedd yn fab ffyddlon iawn i'w fam. Heb fod yn hir wedi i Mary Ann Richards a Lewis Thomas ymbriodi a'u gilydd yn Rhandirmwyn ymfudasant i'r wlad hon gan ymsefydlu yn Wilkes- Barre, lie y treuliodd weddill ei hoes gyda'r eithriad o bedair blynedd a dreuliodd hi yn Elizabeth, N. J. Fel llawer o'r hil ddynol gwelodd ami a blin gystuddiau. t Pan tua 40 oed collodd ibriod ei hieuenctyd gan adael yn ei gofal chwech o blant. dau o ba rai oedd yn ieuainc iawn; ac fel y cry- bwyllasom, yn mhen rhai blynyddoedd ar ol hyny, collodd ei mab hynaf, Ed- ward, drwy ddamwain. Ergydion trymion iawn fu v rhai hyn iddi hi. a diau yn anuniongyrchol iddynt fyrhau ei hoes hi. Ymladdodrl frwydr bywyd yn dda. a ohododd ei phlant yn an- rhydeddus, gan siorhau iddyn r- bob peth oedd yn angenrbaid bywyd, ac y mae narch ei nhlant iddi hi yn awr yn ddiderfyn. Dvmor yn ol. er mwvn bywiolaeth well i'r plant symudodd i N. J.. ond yn Wilkes-Barre yr oedd ei chalon hi: ac er mwyn mwynhau Jiwbili sefydliad yr achos Methodist- aidd Cymreig yn y dref hono, daeth i fvny o New Jersey, Mai 29, ac ar ei fford(I i'r canel—Methodistaidd — i sryfarfod y Jiwbili. foreli Sul cafodd ergyrl trwm o'r parlys. Yn mhen ych- ydig ddvddiau ar ol hyn, cafodd er- gyri arall yr hwn a fu yn angeu iddi. Ddydd Mercher, Mehefin 9fed, ym- gasglodd tyrfa fawr o wyr a gwrag- edd bucheddol i gladdu ei gweddillion y rhai a osodwyd i orwedd yn ymyl gweddillion priod ei hieuenctyd yn nghladdfa gyhoeddus y dref. Cynal- iwyd gwasanaeth crefyddol iddi hi yn nghapel y Methodistiaid ar Brewer Hill, lie y bu hi yn aelod ffyddlon am Y rhan fwyaf o'i hoes, Mehefin y 9fed; pryd y pregethwyd yn effeithiol a tharawiadol gan y Parch. R. R. Dav- ies, gweinidog newydd poblogaidd yr eglwys, oddiwrth y geiriau "Bydd ffyddlawn hyd angeu, a mi a roddaf i ti goron y bywyd," a chanwyd amryw emynau yn y gwasanaeth cyfaddas i'r amgychiad. Gorphenwyd y gwasan- aeth wrth y bedd drwy ganu yr emyn arferol gan y Cymry, "Bydd myrdd o ryfeddodau," &c. Yr oedd ein chwaer yn aelod cref- yddol gyda'r Methodistiaid drwy ei hoes, ac yn gymeriad dilychwyn yn yr eglwys. Yr oedd iddi hefyd air da gan ibawb a chan y gwirionedd ei hun. Hyderwn y bydd ei phlant oil yn deil- wng o honi. Ei hunig a'i hoff bapyr oedd y "Drych," yr hwn a ddarllenai gyda bias bob wythnos. Ffarwel bell- ach, fy chwaer anwyl a da, "Cu iawn fuost genyf fi." Huned yn dawel. Duw fyddo yn nodded i'w phlant trist ac i'w chwiorydd galarus ydyw ein gweddi daer.
CYFAE.F0B BCSBARTH BWYREIN-IOL…
CYFAE.F0B BCSBARTH BWYREIN- IOL CYM AT"ri" Y GrORLLEWIN. Adroddiad y Parch. R. T. Richards, Ysgrifenydd. Cynaliwyd yr wyl hon eleni yn Wil- liamsburg, la., Mehefin 4-6, 1915. Dechreuwyd gan James C. Morris, Cotter. Darllenwyd cofnodion y Cyf- arfod Dosbarth diweddaf, a chadarn- bawyd hv/ynt. Llywyddwyd y cyfar- fod cyntaf gan Humphrey Richards, Washington, la. Etholwyd y swydd- ogion canlynol: Llywydd, Parch. L. W. Morris, Williamsburg; ysgrifen- ydd, Parch. R. T. Ricliards, Cotter; trysorydd, Robert Evans, Salem. Der- byniwyd y Parch. J. Parry Jones yn aelod o'r Cyfarfod Dosbarth ar sail ei lythyrau cymeradwyol o Gymru. Gwahoddwyd i gydeisteddiad a ni y Parch. H. W. Owen, Lime Springs, la., a Henry Davies, Salem. Ar ol anerchiadau byrion ymarferol gan y Llywydd (Mr. H. Richards), a rhai o'r cynrychiolwyr, aed at y mat- erion eglwysig canlynol: Ceisiadau am gymorth oddiwrth eg- lwys Williamsburg ac eglwys Dawn, Mo. Cais o eglwys Bethel, Cotter, am y Gymanfa y flwyddyn nesaf, 1916. Cymeradwyaeth o eglwys Salem i or- deinio y brawd J. Parry Jones yn y Gymanfa nesaf yn Wymore, Nebraska. Pasiwyd fod y Cyfarfod Dosbarth yn awgrymu i eglwys Salem, Long Creek, y priodoldeb iddynt gynal y Cwrdd Dosbarth yno y flwyddyn nesaf. Siaradwyd ar gyflwr ysbrydol eg- lwysi y cylch gan Mr. J. C. Morris, Bethel; Parch. T. W. Morris, Wil- liamsburg; a Robert Evans, Salem. Dewiswyd y pwyllgorau caniynol: Pwyllgor Afiechyd a Marwolaethau, Parch. T. W. Morris; T. T. Parry a'r Parch. J. P. Jones. Pwyllgor Cenadol, Robert Evans, Salem; J. C. Morris, Bethel, a W. W. Williams. Pwyllgor Dirwestol, Parch. R. T. Richards, Bethel; Thos. R. Williams, Robert L. Parry, H. Richards. Etholwyd yn gynrychiolwyr i'r Gymanfa nesaf: Robert L. Parry, Williamsburg a James C. Morris, Bethel. Dewiswyd fel eilydd Robert Evans, Salem. Yn ail eisteddiad y Cyfarfod Dos- barth brydnawn Sadwrn cyflwynwyd i sylw adroddiadau y gwahanol bwyll- gorau fel y canlyn: 1. Adroddiad, Pwyllgor Afiechyd a Marwolaethau. Fod llythyrau o gyd- ymdeimlad i gael eu hanfon gan yr ys- grifenydd i'r rhai canlynol: Mrs. J. D. Evans, Williamsburg, ar farwol- aeth ei phriod, yr hwn oedd yn swydd- og ffyddlon o'n heglwys yma. Dym- una'r Cyfarfod Dosbarth adferiad fbu- an i Mrs. Evans o'i chystudd. Mri. R. L. Parry a T. T. Parry, Williamsburg, ar farwolaeth eu mam Mrs. Maria Parry. John Davies. Bethel, ar far- wolaeth ei chwaer, Mrs. Rachel Ed- wards. Hefyd a'i phriod Evan Ed- wards, Cotter. Drwg oedd gan y Cyf- arfod Dosbarth dfieall am waeledd Mr. Edwards. Eiddunir iddo adferiad buan. Gofidiai'r Cyfarfod Dosbarth am absenoldeb y Parch. Hugh X. Hughes, Dawn, Mo., o herwydd gwael- edd, a phasiwyd yn unfrydol i anfon cofion cynes ato, a dymuniadau da am ei adferiad. 2. Adroddiad y PwyIIgor Cenadol. Gan fod cynifer o frodyr a chwiorydd yn Williamsburg a'r gymydogaeth nad ydynt yn gallu mwynhau yr Efengyl yn yr iaith Saesneg, ac mai yr unig obaith iddynt mwyach i gael moddion Cymreig ydyw trwy barhad yr eglwys Fethodistaidd, yr ydym fel pwyllgor yn cymeradwyo cais yr eglwys am gy- morth genadol. Gan fod yr Hybarch. H. X. Hughes wedi myned yn mlaen mewn dyddiau ac ar derfyn gwaith y dydd. yr ydym fel pwyllgor yn cym- eradwyo cais eglwys Dawn hefyd am help cenadol. 3. Adroddiad y Pwylleror Dirwest- ol. Fod y Cyfarfod Dosbarth yn mawr lawenhau yn y llwyddiant an- nghyffredin sydd ar Ddirwest ar hyn o bryd yn Nhalaeth Iowa. Ein bod fel Cyfarfod Dosbarth yn llangvfarch y weinidogaeth wladol ar y rhal-olygon dysglaer sydd genym am Wahardd- iaeth cenedlaethol yn y dyfodol agos. Tra yn gofidio yn ddwys o herwydd y Rhyfel ofnadwy sydd yn Ewrop, yr ydym yn diolch i Dduw fod yna addewid o Iwyddiant digymar a buan dirwest a sobrwydd cydgenedlaethol. Ein bod yn gwasgu ar holl aelodau eg- lwysig y Cyfarfod Dosbarth i lwvr- ymwrthod oddiwrth yr arferiad pech- adurus o yfed diodydd meddwol. Fod cymeradwyaeth wresog yn cael ei rhoddi i ymdrech ddi-ildio y Senator Clarkson (Cymro o darddiad) o blaid dadwneyd y Mulct Law. Pleidleisiodd y Cyfarfod Dosbarth yn unfrydol yn ffafr y 'ceisiadau a'r penderfyniadau uchod a gyflwynwyd i sylw. Cafwyd eneiniad ar y Seiat Gyffredinol brydnawn Sadwrn; y mater gerbron ydoedd, "Cadwraeth y Sabboth. Agorwyd yr ymddyddan gan y Parch. H. W. Owen, Lime Springs, a siaradwyd gan amryw o'r brodyr". Pregethwyd gan y Parch. H. W. Owens, J. T. Jones, Salem, a R. T. Richards, Bethel. Cafwyd Cyfarfod Dosbarth rhagorol yn mhob ystyr. Da yn wir oedd bod yno. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgar- weh i eglwys Williamsburg am eu croesaw. Gohiriwyd hyd alwad y llywydd.
T TY AR Y TYWOD
T TY AR Y TYWOD Hanes dyn a feddyliai fwy o hono ei hun nag o'i Arglwvdd; "gwr ffol, vr hwn a adeiladodd ei dv ar v tywod." Gan Iolo Felyn (Blaencowin.). (Parhad Penod VI.). Cododd Abel yn uchel yn y lie new- ydd; yn benaf yn herwydd ei hyawd- ledd. Ymddengys nad yw dysgeid- iaeth, gras na moes yn hanfodol i bre- gethu yn nerthol a chymeradwy; oblegid y mae engreifftiau o bregeth- wyr grymus heb y tri. Ni fwriadwn ddweyd yn gyhoedd fod Abel yn ddyn drwg, am y rheswm ei fod yn athrod dweyd y gwir am ddynion yn safle Abel. Feallai mai y peth goreu yw gadael i'r darllenydd farnu drosto ei hun, gan ei gyngori i gadw e- ben yn nghau. Ond fodd bynag, y mae llawer o orchwyliaethau yn ymarfer- adwy heb foes. Y mae crefftwyr da yn ami yn anfoesol; ceir cantwvr, act- wvr, a chelfwyr godyiog yn anfuch- eddol; a cheir pregethwyr ffraeth yn annuwiol. Gellir dweyd y gwir am ddosbarth o bobl heb syrthio i afael cyfraith athrod. Y cyfiawn, y rhin- weddol. yr anrhydeddus ac felly yn y blaen sydd yn rhaid iddynt wrth foes. Cyll y cyfryw eu cymeriad yn y man y ceir hwy heb ras ac heb foes! Y greff,t- neu y gelf uwchaf yw bod yn bur, oblegid cydgyferfydd gras a dai- oni ynddi. Yn ei le newydd daeth Abel i gyffvrddiad a dyn un diwrnod a rodd gyfeiriad newydd i'w fywyd. sef y Parch. J. Jevons Jones, D. D., a'r hwn y cafodd ein harwr ymgom faith a dyddorol. Dangosodd Dr. Jones iddo ragoroldeb addysg yn America, yn nghyd a'r cyfleusterau i fechgyn tlawd enill graddau anrhydeddus. "Y mae y mynediad i fewn i'r coleg- au yno yn is a'r dyfodiad allan yn uwch nag yma gyda chwi" ebe y Dr. "Beth feddvliwch wrth hyny?" go- fynai Abel. "Well, this way," ebe y Dr.; "y mae yno ddrws agored i'r rhai yn gwy- bod ychydig: a deuant allan wedi eu hurddo yn uwch nag yma, neu unrhyw wlad yn Ewrop." "'Rwyf yn deall," ebe Abel, "y go- fynir yn y wlad hon, yn Lloegr ac Ys- gotland. am gryn wybodaeth er cael mynediad i'r colegau uwchaf, a dys- geidiaeth ddiameuol cyn cael graddau: a yw yn wahanol yn America, gyda chwi?" gofynai Abel. "Certainly," ebe y Dr. gyda gwawd, "Nid gwybodaeth ddylai fod yn cym- wyso dyn i ysgol, eithr yr ysgol i wy- bodaeth: ac felly yn America rhoddir ysgol i ddyn er ei wn,eyd i wybod." "Y mae rhywbeth yn hyny," ebe Abel. "Assuredly, ebe y Dr.; "ac yn ein gwlad fawr ni acw, wedi i stywdent fynychu athrofa neu goleg am nifer penodol o dymorau, graddir ef; nid am ei fod yn ddysgedig, ond am y dylai fod, yn ol yr amser y bu wrthi." "Ie," gofynai Abel, "ond tybier nad yw yn dysgedig, wedi y cwbl?" "My dear sir!" ebe y Dr. gyda graddau o ddiffyg amynedd, "byddai nacau ei urddiad yn ddianrhydeddiad ar y sefydliad. Amcan y coleg yw cyfranu gwybodaeth, ac y mae yn enill clod drwy urddo y nifer fwyaf yn bosib." "A urddir rhai heb fod mewn coleg, o gwbl? gofynai Abel. -"It's this way, exactly," ebe y Dr. "Lie y gwelir dyn defnyddiol yn ceisio. gwneyd y peth sydd yn iawn (the right thing, as the Yankee says), ni phetrusir rhoi urddenw neu ddau iddo er mwyn 'prestidj,' gan mai y ffordd i gael pobl i barchu dysgeidiaeth dyn yw cael rhyw brifysgol (y mae ein hvsgolion ni, gan mwyaf, yn brif- ysgolion) i osod arwyddluniau dysg ar ol ac o flaen ei enw. Beth wyr y bobl gyffredin am ddysg per se, oddi- gerth ei roi mewn sypynau arwydd- nodol fel D. D., Ph. D., &c. Yn y ffurf- iau dwysedig hyn yn unig y medr y 'bobl ei gwerthfawrogi. Yma, yn y wlad hon, rheolir pethau yn ormodol gan ryw exclusiveness; gyda ni, yn ol y Declaration of Independence, every- body is created equal and everybody gets an equal chance. I tell you, America is the poor man's paradise. Os y bydd dyn yn rhy dlawd (yn wy- bodaethol) i gael dysgenw, gall ei gael ar y bargain counter am rywbeth neu ddim." PENOD VII. Ni newidia croesi y Werydd y natur ddynol. Gan fod y fordaith dros y Werydd wedi ei desgrifio mor fynych yn ystod y ganrif aeth heibio nes nad yw yn ddichonadwy dweyd dim newydd. a dyddorol, felly brysiwn i gyfarfod a'n harwr yr ochr arall i'r llyn. Pan yn ysgrifenu ymweliadau ag America, dy- lai pawb vmgadw rhag darlunio y croesiad, eithr cyfeirio y darllenydd yn ddioed at a ysgrifenwyd eisoes yn llyfr cronicl ymfudiaeth. Wedi brysio i westy Cymreig yn New York, cael vmolchiad a chysuron gwareiddiad ar dir sych, rhoddwyd Abel ar fwrdd y tren, a chyn y boreu yr oedd wedi cyraedd Welshtown, lie yr oedd i wasanaethu dranoeth, sef y Sabboth. ac o'r hwn le yr oedd i gy- cbwyn ar daith bregethwrol drwy dal- aethau y Gorllewin. Fel rheol, trefnir y teithiau hyn gan ddau neu dri o weinidogion cynefin a daearyddiaeth grefvddol y wlad. Ymgvmera un a gofalu am yr yrfa o'r Werydd hyd Pittsburg: yna estynir ef dros yr afon i ofal un hyddysg rhwng afon Ohio a Chicago: cvmerir ef mewn IIaw oddi yno hyd lanau'r Mississippi; ac os y teimla fel myned i ben eithaf v wlad. hebryngir ef dros Gamfa y Mvnvdd- oedd Creigiog i ofal un cyfrifol ar y llechweddau yn gwynebu machludiad haul. Tebyg ar fyr y bydd yr ynys- oedd Philininaidd yn bellafnod a thro- bost y daith. Foreu Sabboth yr oedd y capel yn orlawn o wrandawyr astud. Y mae y Cymry yn hoff iawJJ. o bregethwr "dyarth." Yr oedd mwy fyth yn nghyfarfod yr hwyr. Yn y boreu, pre- gethai oddiar Math. 18: 18; ac yn yr hwyr am y gareg a dOJWYd o'r myn- ydd. Pregethodd yr un dwy bregeth ar hyd ei holl daith gyda'r gwahan- iaeth o gyfnewid eu trefn. Yn y boreu, ceid ef yn rhwymo a rhyddhau a'r gareg yn ymdreiglo; ac yn yr hwyr y gareg yn ymdreiglo yn gyntaf ac yna y rhwymo a'r rhyddhau. Yn y lie nesaf eto ffynai trefn arall. 0 dalaeth i dalaeth y clywid yr un son o hyd am y gareg yn ymdreiglo, &c., &c. Cof genyf am un ,aeth a'r Publican a'r Pharisead ar hyd y Gorllewin gan ddy- chwelyd yn ol gyda hwy i'r Hen Wlad. Ddydd ar ol dydd, ac o le i le v par- haodd Abel i bregethu hyd nes y de- chreucdd deimlo blinder a diflasdod yr un peth o hyd. O'r diwedd daeth i bentref yn Ohio, lie y daeth i gyffyrdd- iad a chymeriad a'i dyddorodd yn ddir- fawr, sef Shon Ifan Ddafvdd, engraifft o'r Cambro-American, yn yr hwn yr oedd yr oruch-adeiladaeth America-n- aidd wedi ei gosod ar y sylfon Gym- reig. Er yn y wlad er's haner canrif, yr oedd yn Gymro trwyadl o feddwl, end yn lanci o eneiniad. Yn nhy y gweinidog, ar ol y bregeth. ar nos Tau, y cymerodd yr ymgom le rhwng Shon ac Abel. "Yr ydych yn gwybod ein troion yn lied dda," ebe Abel. "Wel, ydym," ebe Shon: "yr ydym yn dylyn eich gyrfa ar wyneb ein papyr Cymraeg. Y mae efe fel cloch am wddw'r fuwch, yn dadgan symud- iadau y pregethwr drwy anialwch y weinidogaeth yn America." "0, ie, y 'Drych,' onide?" ebe Abel. "Yr ydych yn gwybod llawer drwy y 'Drvch,' gyda rhoi pwyslais ychydig yn wawdus ar y 'Drych.' "Nid cymaint am yr Hen Wlad ag y dymunem lawer pryd. Rhydd hanes ambell i ddamwain Gymreig, yn nghyd a dwy res o farwolaethau Gogledd a De, sydd yn dangos i ni eu bod yn para i farw yn Nghymru fel gynt. Credwn fod yno fwy yn marw, serch hyny, nag sydd o hanes yn y 'Drych.' Wedi'r cwbwl, ychydig o oleuni geir ar gyf- lwr yr Hen Wlad yn gymdeithasol a chrefyddol. Ychydig o ddyddordeb sydd yn mywyd Cymru i ni yma. Nid yw newvddiaduron Cymru o fawr cy- morth ini yn addysgiadol a gwleid- yddol. (I'w Barhau). ———— ————
EISTEBBFOT FFAR Y BYD A'R…
EISTEBBFOT FFAR Y BYD A'R ARDDANGOSFA. I Gan H. J. Lloyd, Gohebydd dros y Panama Pacific Exposition Co. Dal i gynyddu mae rhagolygon a 'brwdfrydedd yr Eisteddfod yn San Francisco-mae y wlad hefyr. yn. gyff- redinol yn cyfranogi o'r un dyddordeb. Mae Pencadlys yr Eisteddfod yin lie prysur o'r Ysgrifenydd i layo. ;hyd yr "errand boy." Croesawir yelWyr i alw i mewn, ac yn bleser caiun gan y swyddogion ateb cwestiynau a goheb- iaethau yn nglyn a hi neu y Ffair. Mae cysylltiad yr Eisteddfod a'r Ffair yn sicrhau y bydd pob gwybodaeth a roddir yn swyddogol ac i ddybynu- arno; a dalier sylw fod y swyddfa wedi ei symud i'r Exposition Auditor- ium, Civic Center, San Francisco, er mwyn hwylusdod, yn neillduol adeg cynaliad yr Wyl (yn yr Auditorium enwyd y cynelir yr Eistedddfod). An- fonwch eich trybini i'n llaw a cha ei wastadhau rhag blaen, ac os nad ydych yn hollol foddlon dowch yma yn bersonol a byddwch ar ben eich digon. Mae dygwyddiadau diweddar yn y byd cerddorol yn ein mysg yn llefaru yn ddigamsyniol am chwaeth uchel y Gorllewin. Llanwyd y Festival Hall ddeuddeg gwaith i wrando ar y Boston Symphony; cynulliadau mawrion hef- yd yn mwynhau treithganau Handel, Haydn a Mendelssohn. Yr Eisteddfod ydyw yr atdyniad mawr nesaf, ac yn wir prif atdyniad cerddorol y Ffair, ac fe'i cefnogir nid yn unig gan ein cen- edl ni, ond cenedloedd eraill yn ogys- tal. Mae'n syndod y modd y cymerir gafael ynddi gan drigolion ein Tal- aeth; fe'i cefnogir gan wyr dylanwad- ol, o bob pen i'r Dalaeth-mae y Bwrdd cyfarwyddol yn llawenychu wrth fwrw trem tros y rhagolygon, a chredwn yn ddiysgog pan gyraedda wythnos ddiweddaf Gorphentif y bydd amgylchiadau yn cydgyfarfod gorona ein hymdrechion, a dysgwyliadau ei charedigion tu hwnt i'n gobeithion goreu. Mae y Ffair yn myned well-well bob dydd. Os oes gwendid ynddi mae yn ei llawnder. Mae y Manufacturers Palace yn denu miloedd yn ddyddiol- yr atdyniad ychwanegol ydyw yr Ital- ian exhibit-statuary o'r radd flaenaf; o George Washington ac Abraham Lincoln i lawr at y crwtyn yn gwerthu matches. Mae purdeb y mynor ac ys- brydoliaeth y lluniwr yn cyduno yn brydferth—nid lie am fynyd neu ddau ydyw hwn, ac os oes IIygaid i weled y drychfeddyliau, a sgil yn y llaw yn cydfyned—bydd yn gyrchfan drachefn a thrachefn, ac felly yn y blaen. Mae'n ofid, fodd bynag, weled yr elfen fasnachol yn codi ei phig yn mysg y ceinion clasurol hyn. Mae diffyg lie yn eu gwasgu at eu gilydd yn ormodol, a'r cyferbyniad i raddau yn colli. Hef- yd "Sold, sold, sold," ar braidd yr oil, eto mae'n eglur fod y Dwyreinwyr yn feddianol ar farn sydd gymwys i wa- hanu y gwir oddiwrth y gau. Mae pum acer a thriugain o le wedi ei neillduo i'r "Zone," yma y ceir di- grifwch o bob dychymyg. Gwarchod ni, dyma le am hwyl. Ie, am addysg a goleuni hefyd; cyngorwn bob ym- welydd i beidio ymadael heb weled y Panama Canal, mae ar scale o bum acer, a'r esboniad goreu ar yr antur- iaeth o'r tu allan i'r gwreiddiol. Un arall ydyw y "Creation;" mae'n ar- dderchog, yn eangach, ac yn meddu gweddau newydd na roddwyd o flaen y cyhoedd o'r blaen. Pregeth reit dda ar Genesis y benod gyntaf. Un arall yd- yw y Grand Canyon. Os nad ydych wedi gweled y Canyon ei hun-mae hwn yn rhyfeddol gwerth y pris bych- an ofynir i fyned i mewn. Eto, Yellowstone Park-hwn o bosibl ydyw y miniature goreu gynygiwyd ar y Pacific slope neu ryw ran arall o'r wlad. Mae wedi talu am dano ei hun eisoes, yr hyn ddengys y gefnogaeth dderbynia, ac a haedda. Mae llawer o bethau dyddorol eraill ar y Zone, ond sylwn arnynt hwythau cyn ho hir, a chawn gyfle feallai i'w gweled gvda'n gilydd.
YN SWN Y PLANT.
fur o wahaniaeth yn eu hysgar. Ond, nis gellir chwareu heb arweinydd. Ac y mae hwnw, yn y cylchoedd bychain hyn, yn sicr o ddod i'r amlwg. Medda ryw ddawn nad ydyw gan y gweddill; rhywbeth sydd yn ei wneyd yn boblog- aidd. Gwrandewir ar ei eiriau, a rhoddir ufudd-dod i'w orchymynion. "Y plentyn yw tad y dyn." Darllener hanes arweinyddion, hen a diweddar, a gwelir eu bod yn rhoddi awgrym o'r peth oedd ynddynt yn mhlith eu cyf- oedion pan yn blant. Yr oedd y "gamp" ynddynt o'r deohreuad. Hwy oedd yn enill y blaen mewn rhedeg, ymryson, a direidi diniwed boreu oes. Ac mor boblogaidd oeddynt yn y cylch bachgenaidd hwnw! Dichon fod rhyw nifer yn eiddigeddu, ac yn cenfigenu; ond yr oeddynt yn y lleiafrif, ac yn cael eu hadnabod gan y Ileill. Y mae yr "arweinydd," fel rheol, wedi ei eni felly. Ac y mae hyny yn dod i'r golwg yn myd y chwareu, a'r dysgu, yn ngwanwyn cynar bywyd. Dichon fod eifhriadau. Gwelir tyst- iolaeth i'r perwyl yma mewn ambell fywgraffiad. Rhoddir pwyslais ar y ffaith nad oedd y "gwrthrych"—neu "ein harwr"—yn debyg i blant yn gyffredin. Yr oedd rhyw elfen neill- duedig yn ei nodweddu. Pan fyddai plant yr ysgol yn chwareu, byddai ef mewn rhyw gongl ddystaw yn darllen ei lyfr. Felly wir! Prawf o athrylith yn ei blagur; v meddwl yn dechreu ymweithio—dydd y pethau bychain. Y mae plant felly wedi bod, a dichon iddynt dyfu yn ddynion dysgedig, ac enwog, mewn rhyw linell o efrydiaeth. Ond ni ddaethant yn arweinwyr y bobr. Gallwn gymeryd ein llw, o'r braidd, fod pob arweinydd gwirionerld- ol wedi bod yn enwog am "chwareu" pan yn fachgen. Ac y mae afiaeth bywyd yn aros ynddynt o hyd. Dy- ddorol ydyw hanes ein milwyr ar y Cyfandir yn chwareu'r bel droed y tu cefn i'r gwarchffosydd. Dyna'r bech- gyn fydd wrthi, dranoeth, yn cyflawni gwrhydri yn y llinell dan-y firing line. Nwyf bywyd sydd yn troi yn ddewr der, ac yn ddyfalbarhad. Oni ddywed- wyd mai ar gae chwareu ysgol Eton yr enillwyd brwydr Waterloo? Yr oedd y bechgyn wedi ymarfer a phethau oedd yn dadblygu eu cyrff ac yn gloe- wi eu meddyliau; ac wedi dysgu "cy- meryd a rhoi" yn ddidramwydd. Dyna un peth y mae'r plant yn ei ddysgu wrth chwareu-peth pwysig iawn. Pan fo un wedi bod yn drwstan, fe chwardda y lleill yn iachus. Hwyrach y tyr efe i grio. Dyna fel y gwnaeth un o'r plant sydd dros y clawdd i mi, ychydig fynydau yn ol. Yr oedd wedi methu gwneyd rhyw gamp fawr (!), a dechreuodd grio. Ond ychydig o gydymdeimlad a gafodd gan y lleill. "Yr hen beth gwirion!" ebai nifer o leisiau iach. "Tyrd i'r fan yma, a thria eto." Cyngor campus, ac y mae plentyn yn ddigon ystwyth i'w dderbyn. Ac wedi "Treio eto" daw heulwen i'w lygad, a phobpeth i'w le. Dyna sydd yn an- dwyo defnyddioldeb llawer o ddynion da, mewn gwahanol gylchoedd. Nid ydynt wedi dysgu "cymeryd a rhoi:" nid oes dim humour yn eu meddyliau. Os collant "gynygiad" mewn pwyll- gor—dyna'r byd ar ben. Y maent am daflu pob peth i fyny ar unwaith. Ed- rychant yn gibog a sarug, ac nis gellir eu cael i wneyd dim. Bendith i am- bell un o'r brodyr, sydd yn tram- gwyddo o herwydd tipyn o feirniad- aeth ddiweniaith fuasai cael eu gosod I yn mhlith y plant, a chlywed y dded- fryd a basiwyd ar y bachgen oedd wedi "pwdu" ar ganol chwareu—"Yr hen beth gwirion!" Y mae difrifwch yn elfen werthfawr ac nid oes fawr o rym mewn bywyd oni fydd difrifwch yn ei waelodion. Ond gall dyn gymeryd pethau yn rhy ddifrifol yn eu perthynas ag ef ei hun. A phan wneir hyny, tebyg y daw siom- iant, a gall hwnw droi yn chwerwder yn ei ysbryd ef ei hun. Dysgwylia i eraill gyfranogi o'i ddifrifwch ef; meddwl yn fawr o'i eiriau, ac o'i weithredoedd. Nid ydyw hyny yn dy- gwydd. Darllenais am dduwinydd, ac eeboniwr, ryw dro, wedi bod yn tra- ddodi cyfres o bregethau ar lyfr y Dat- guddiad. Elai o'r addoldy un noson —noson dywyll iawn. Clywodd ddau ddyn yn siarad a'u gilydd— "Mae hi'n dywyll ofnatsan," ebai un. "Ydl," meddai'r llall, "yn dywyll fel y fagddu. Ond dydi hi ddim mor dywyll a phregeth y dyn ene ar y Dat- guddiad! Clybu y pregethwr y sylw, ac ni lefarodd mwy ar weledigaethau loan y Difeinydd. Gresyn'oedd hyny! Nid oedd sylw y dyn yn haeddu ystyriaeth o gwbl. Dichon nas gwyddai efe ddim am lyfr y Datguddiad, ac eithrio y "pedwar anifail," ac un o honynt yn; debyg i lo! Yr oedd y duwintdd yn cymeryd pethau yn rhy ddifrifol, a buasai ychydig ronynau o humour yn gwrthweithio y feirniadaeth ddam- weiniol hono yn y tywyllwch. Dyna brofedigaeth ami i awdwr- boed fardd neu lenor. Y mae yn syn- led yn rhy ddifrifol am bwysigrwydd ei waith. Nis gall oddef beirniadaeth heb ddigio, a thybied fod y beirniad yn coledd rhyw deimladau annghared- ig tuag ato ef. Y mae "adolygiad" anffafriol wedi gyru ambell frawd i ddyfnderoedd y pruddglwyf. Teimla fod cestyll ei obeithlon wedi eu chwalu i'r llawr. Ysgrifena at ei gyf- eillion i fynegi ei dristwch, ac apelia am eu cydyradeimlad. Gwell fuasai iddo daflu ei hun i fyd chwareu y plant, ac yna cawsai yr un cyngor ag a roddwyd i'r bachgen y soniais am dano—"Yr hen beth gwirion! Tyrd at y gamp, a threia eto." Gwn am awdwr cryn nifer o lyfrau gweddol boblogaidd; ac, un boreu, derbyniodd bamphledyn rhwysgfawr, mewn iaith ac ymadrodd, yn rhoddi rhestr o'r llyfrau sydd yn werth eu darllen, yn yr iaith Gymraeg, yn y cyfnod presenol. Nid oedd dim a ys- grifenodd efe ar y rhestr. A ddigiodd y dyn? Dim o'r fath. Gwelodd ochr ddigrifol y drafodaeth. Cofiodd mai "Mathew oedd yn eistedd wrth y doll- fa" hono, ac yr oedd hyny yn esbonio pob peth! Y mae'r plant wedi fy ffeindio. Daethant i ben y clawdd i edrych ar- naf. "Be ydach chi yn ei wneyd?" ebai un—yr "arweinydd," mae'n debyg. "Ysgrifenu," meddwn. "Ysgrifenu ar holide?" A dyna bwff o chwerthin-ha! ha! Aethant ymaith felly, a chlywais y sylw o'r pellder— "Gwirion, ynte! 'Sgrifenu ar holiriel Ha! Ha! "-O'r "Faner."