Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
I Y Golofn Amaethyddol. I
Y Golofn Amaethyddol. I GAN BRYNFAB. Dyma ni yn cychwyn ar linell new- ydd, o dan yr oruchwyliaeth newydd. Sicrheir fi gan y Gol. newydd fod llawer o amaethwyr yn ddarllenwyr cyson o'r Darian," ac y byddai yn fuddiol ac yn deg darparu rhywbeth yn arbenig ar eu cyfer. Ceir rhai o'r wythnosolion Seisneg yn arlwyo yn ar- fcenig iddynt hwy er's blynyddoedd lawer. Paham lai, ynte, na cha yr amaethwr Cymreig yr un chwareuteg yn ei iaith ei hunan ? Amcenir gwneud y golofn hon yn fuddiol i lawer heb law yr "hen ffermwr"-fel y gelwir ef tua- chymoedd Morganwg yma. Mae gen- ym ni fel amaethwyr lawer i'w ddysgu eto, er ein bod yn credu ein bod yn gwybod pobpeth am drin y tir, codi cnydau, a magu anifeiliaid. Mae y "Manddaliadau" hefyd wedi dyfod i fodolaeth ym mhob sir, a llawer o'r rhai hynny wedi troi yn fethiant, oherwydd nad oedd yr ymgymerwyr yn gwybod nemawr o ddim am y gorchwyl oedd o'u blaen. Ceir rhai o'r "Manddaliadau" mewn lleoedd gwledig, lie mae y bobl- ogaeth, hyd yn hyn, heb anghofio mai Cymry ydynt, nac ychwaith wedi eu diddyfnu oddiwrth lenyddiaeth Gym- raeg. Ym mhlith y rhai hyny, y dis- gwyliaf y bydd i'r golofn hon ,fod yn ddyddorol ac addysgiadol. Nid yw trin gerddi eto, ond megys am y clawdd a maes yr amaethwr, a bydd yn y golofn rywbeth na wna ddrwg i'r tyddynwr, nad yw yn awdurdod ar ddim ond tyfu tatws a bresych. Nid wyf am honni fy mod yn gwybod pobpeth am fyd yr amaethwr, na byd y tyddynwr, ond mae genyf gyfleusderau wrlh law. i ddadrys pob pwnc yn y naill a'r llall. Nid wyf yn bwriadu cadw y golofn hon i mi fy hun chwaith. Os bydd gan rywun gweatiwn amaethyddol, ag eis- iau ei wyntyllu, neu un o'n darllenwyr ag eisiau goleuni ar ryw fater, bydd y golofn hon at ei wasanaeth, a cheisiaf finnau ateb unryw gwestiwn a ofynir. Mae genyf ddrws agored at yr Hyffordd- wr Amaethyddol sydd yn gwneud gwaith mor dda o dan Gyngor Sir Morganwg, ac hefyd at yr Hyfforddes sydd o dan yr un Awdurdod. Mae ,y naill a'r llall wedi gwneud gwaith rhagorol yn barod ym mhlith meibion a merched amaethwyr y Sir. Mae rhai o Siroedd eraill Cymru yn gofalu am y Ganghen Amaethyddol o Addysg, ond credaf fod Cynghorau Siroedd Morgan- wg a Mynwy ar y blaen i holl Gynghoiv au Cymru yn y cyfeiriad hwn. Mae Mr. Hedger Wallace wedi chwyldroi llawer ar yr hen drefn "pen bawd" fu gan amaethwyr y dyddiau gynt; a dyn- ion ieuainc yn dod yn gyfarwydd a dir-j gelion daear ac anifail na freuddwyd- iodd ein tadau erioed am danynt. Mae Miss Edwards, yr Hyfforddes, dra- chefn, wedi chwyldroi y gelfyddyd o wneud caws ac ymenyn, fel y mae merched Morganwg yn cipio y gwo- brwyon trwy yr oil o Gymru, a rhai o honynt yn medru enill y gwobrwyon a'r anrhydedd ym mhrif Arddangos- feydd Amaethyddol Lloegr. Ysgotyn yw Mr. Hedger Wallace, ac fel llawer o'r genedl honno, nid oes llawer o bethau nad yw yn gwybod pob- peth am danynt. Un o ferched Sir Aberteifi yw Miss Edwards, ac, wrth gwrs, yn Gymraes lin loew. Fel y nodais, y mae wedi gwneud ei hoi ar ferched Amaethyddol Morganwg, ac yn gwneud mwy na gwerth ei harian i'r Cynghor Sir. Mae Mr. Hedger Wallace yn barod i ymweled ag unrhyw le, o fewn y Sir, i draddodi darlith ar unrhyw desfyn amaethyddol. Nid yw yn gofyn am gynorthwy llogell neb mewn unrhyw ardal. Sicrhewch ystafell iddo, a dyna yr oil a gyst y wybodaeth a gyfranna. Cymered rhywun ran flaenllaw i dref- nu cyfarfod iddo ym mhob ardal, a bydd yn falch o gael hyfforddi yr hen a'r ieuainc, a sicrhaf y bydd pawjb a'i gwrendy yn falch o'r wybodaeth a geir ganddo. Gellwch osod y testyn a fyn- noch iddo, oherwydd y mae pob gwy- bodaeth amaethyddol ar flaenau ei fys- edd. Os bydd rhyw bwynt ganddo yn ei ddarlith ag eisiau ei egluro yn fwy trwyadl, gofynwch iddo rhagblaen, o herwydd mae yn hoffi cael ei gwestiyno, ac yn ei atebion y mae yn rhagori. Yn annibynol ar fynd ar draws gwlad i gyfrannu gwybodaeth amaethyddol, bydd ganddo ddosparthiadau yng Nghaerdydd—i ferched a bechgyn, yn rhydd ac yn rhad. Ymgvmered rhyw- un a chasglu enwau deg neu ragor o ddisgyblion ac anfon at Ysgrifenydd Addysg y Cynghor Sir, a threfnir y dos- parth yn ddiymdroi. Cynhelir y dos- barthiadau hyn am bythefnos, a thelir y cludiad o ben pellaf y Sir i bob dis- gybl neu ddisgy,bles a fynycho yn gyson. Felly, chwi welwch nad vw Cynghor Sir Morganwg yn hollol ddibris o hawliau Addysg Amaethyddol; ac nad oes un esgus i fab neu ferch fod yn amddifad o bob cyfrinach amaethyddol. Rhai lled anhawdd i'w gwthio ym mlaen Syda r amserau yw y ffermwyr, ond cred f f d  d ,t f symudiad mawr wedi cymer- ^rT n ? eu P? yn y?od y deg mlyn- edd d' d ???i.weddaf; ac ym Morganwg, i Mr H I W Hedger Wallace perthyn y clod mwy- af am yr ymddadebriad. Heblaw cyf- ranu addysg trwy ei ddarlithiau, ae"vn el ddo' th' d ei ddosparth ia d au, fe drefna y Cynghor I r i  Hedger Wallace fynd a chwm- m 0 f/ugyn ar ymweliad a rhai o rli 0 fechgyn ar y mwehada ?ai o 'SefYdliadall A-aethyddol y Cyfandir, un flwyddyn a 'hnvmni o ferched y R-yddyr, 1 yno Ond d I'd cofio ?? dim oud y h' ?-? ?? ??? ?V- yhu ei yddo wedi m.vn- •vchuei ddoSparthiarl ef a ^8B Ed- wards ,ydd i lwynhau Y teitbiau addysg- iadol hynny. Tair nu^ yw cost yr ym- weliad a Ffrainc, yr Allmaen, a'r Isel- diroedd. Cymer bythefnos o gartref yn yr ymweliadau hyn. Wrth gwrs, cyst y wibdaith lawer mwy na'r tair punt, ond rhydd y Cynghor Sir ei bapur ar yr Ariandy i gyfarfod y gweddill o'r costau. Fe ddywedir llawer am ragor- iaeth amaethwyr y Cyfandir ar rai y wlad hon. Ar yr ymweliadau hyn fe ga yr efrydwyr farnu drostynt eu hun- ain, ym mha le mae ein haddysg ni yn colli, ac ym mha le y mae addysg y Cyfandir yn rhagori. Mae yr Hyfforddes, Miss Edwards, yn barod i gynal dosparth i'r merched, mewn unrhyw ardal. Ymgymered rhyw eneth a chasglu deg o enwau, ac yna ohebu ag Ysgrifenydd Addysg y Sir, a bydd yn barod i'w gwasanaethu. Daw a'i holl gelfi amaethyddol gyda hi i'r merched ymarfer yn y grefft o wneud caws ac ymenyn, a daw yr hufen bras- af o Ddyfnaint at eu gwasanaeth yn rhydd ac yn rhad. Yr hen ffordd i wneud ymenyn oedd ei drin i gyd a'r dwylaw, pa un a fyddai y dwylaw hyn- iy yn lan neu beidio. Yn ol y drefn newydd, nid oes Haw yn cyffwrdd ag ef o'r pryd yr aiff i'r fuddau hyd y pryd y rhoddir ef ar y frechdan. Yn ol yr hen drefn pennyd-wasanaeth oedd corddi ar dywydd oer yn y gauaf. Gwn yn bersonol am y pennyd hwnnw, a gwelais daflu y gwaith i fynny heb gael ymenyn o gwbl. Ond mae ein merch- ed, erbyn hyn, wedi cael eu dysgu i wneud ymenyn mewn amser penodol, haf a gauaf. Dim ond dysgu y grefft sydd eisiau, a daw yr ymenyn yn ddi- drafferth. Bob blwyddyn cynhelir ar- holiad mewn lie canolog, a chymer y merched a fynychodd ddosparthiadau Miss Edwards y cyfleusdra i enill Ys- goloriaethau yn rhai o'n prif Golegau Amaethyddol. Cynhelid Arholiad yr wythnos ddiweddaf yng Nghaerdydd, pan y dyfarnwyd deg o Ysgoloriaethau o Xlo yr un, a thair o £20 yr un i ferched oedd wedi enill y deg punau y llynedd. Caiff y rhai llwyddianus ddewis eu colegau, ac wedi iddynt gyrhaedd i'r lleoedd dewisiedig, bydd cyfran o'r deg ar ugain punoedd yn eu dilyn,- a'r gweddill wedi y gorphenont eu cwrs. Feallai y dylwn grybwyll y rhaid i'r ym- geiswyr llwyddianus dalu eu cludiad eu hunain. Nid yw hyn ond swm fechan i'w thalu am yr addysg a geir yn y gwa- hanol Athrofeydd Amaethyddol. Trwy yr Ysgoloriaethu hyn galluogir llawer merch i ymgymeryd a gwasanaeth yn Llaethdai y Pendefigion, lie na rwg- nachir am dalu cyflog dda am wneud caws ac ymenyn. Maent hefyd wedi parotoi y ffordd i amryw o ferched Cymru i gael swyddi anrhydeddus ac enillfawr ar hyd a lied y wlad. Merched yr Ynys Werdd, yr Alban, a Lloegr, sydd wedi bod yn mwynhau y bras der yn y cyfeiriad hwn. Erbyn hyn mae ,u-iei;ched £ !ymru yn (Jechreu gwthio y rllif estronol yn ol, a cheir eu gweled yn meddianu y tir y tu arall i'r Clawdd yn y man. Mae y cyfleusderau yn eieh hymyl, ferched. Cymerwch fantais arnynt. Gadawer i mi eto wahodd eich dar- llenwyr amaethyddol i dalu sylw i'r golofn hon, a gwneud defnydd o honi yn y ffordd y mynont.
I IDatganiadau Dinesydd o…
I Datganiadau Dinesydd o Ferthyr yn cael eu cymharu. Pan y rhoddwn o flaen trigolion Aberdar y ddau ddatganiad a ganlyn, gwyddom fod unrhyw sylw pellach yn ddiangenrhaid, oblegyd y mae dau ddatganiad o'r fath, gydag ysbaid o ddwy flynedd cydrhyngddynt, yn lle- faru drostynt eu hunain. Mr. John Way, yr hwn a drig yn 14 Lower Thomas Street, yn agos i'r Lyfrgcll Rydd, Merthyr, a ddywed Bum gartref o'r gwaith am dri mis, yn dioddef oddiwrth bocnau gwanol yn fy nghefn. Twymo yn eithafol yn y pwll, ac yna myned allan i'r awyr oed ydoedd, yn ddiamheu, yr achos o'r trwbl. Yr oeddwn yn anesmwyth yn y nos, ac wrth g.N-rs yr oeddwn o ganlyniad yn flinedig iawn yn ystod y dydd. Dechreuais fyned yn isel ys- bryd ac yn anfoddus. Yr oedd y dwfr allan o drefn ac yn annaturiol. "Cynghorwyd fi i dreio pelenau poen cefn Doan at yr arenau, ar ol treio amryw feddyginiaethau heb un- rhyw fudd parhaol. Cefais ymwared mawr drwy gyfrwng y blwch cyntaf o'r pelenau hyn, ac erbyn i mi gymer- yd y trydydd blwch yr oeddwn wedi fv ngwellau yn llwyr. Yr oedd fy iechyd yn gyffredinol yn well nag y bu am gryn amser. (Arwyddwyd), John Way." Ddwy flynedd yn ddiweddarach, dywedai Mr Way:—" Y mae yr hyn a ddywedais o'r blaen am y budd a gefais oddiwrth belenau poen cefn Doan yn eithaf cywir. Yr wyf o hyd yn mwynhau iechyd da, ond bob am- ser pan y caffwyf gyffyrddiad o'r poen cefn o herwydd newid tywydd yr Mtyf yn cael fod y pelenau yn fy adfer yn drwyadl. Credwyf eu bod y feddy- giniaeth oreu a gymerais erioed. Bydd i mi yn sicr eu cymeradwyo i ereill a flinir fel fy hunan." Pris 2s. gc. y blwch, chwech o flychau am 13s. gc., oddiwrth yr holl werthwyr, neu oddiwrth Foster McClellan Co., 8 Wells Street, Ox- ford Street, London, W. Peidiwch gofyn am belenau poen cefn a'r arenau—gofynwch yn glir am belenau poen cefn Doan at yr arenau, y fath ag a gafodd Mr Way.
[No title]
I Am bob math o Argraffwaitb I ymefyner yn Swyddfa'r "Leader" a'r Darian," 19 Cardiff Street, Aberdar.
I Taith i Lydaw.
I Taith i Lydaw. (Sef gwlad y bechgyn sy'n dod a winwns i Gymru). I CAN "GANLLYW." Llydaw ydyw'r enw rown ni ar y wlad a eilw'r Ffrancwr Bretagne, a'r Llydawr 'arfor' neu 'Bretan Vihan.' Ni wyr y preswylwyr am y gair 'Llydaw,' a sicr ddigon nis galwant eu hunain Llydaw- wyr. Dywed Owen Rhoscomyl mai ardal yn Sir aGernarfon o gwmpas Llyn Llydaw ydoedd Llydaw, ond iddo gael ei roi ar Brydain Fechan mewn cam- argraff a cham-wybodaeth o'i safle bri- odol. Modd bynag, gwyddom heddyw beth a olygwn wrth yr enw, y wlad a orwedd ar Orllewin Ffrainc ydyw, a phreswylir hi gan y Brythoniaid, pobl o'r un cyff a gwaed ac o gyffelyb iaith a ninnau. Rhennir y wlad i bump adran: Ill-et-Vilaine, Loire Inferieur. Cotes-du-Nord, Morvihan a Finisterre. Ychydig iawn o bobl yn y ddwy adran sy'n ffinio a Ffrainc, Ille V"I Loire Inferieur, fedr siarad y Frython- eg, ac y mae llawer yn Cotes-du-Nord a Morvihan na fedrant chwaith, ond y mae bron yr holl o'r preswylwyr yn Finisterre yn fedrus arni. Mae poblog- aeth y wlad i gyd dros dair miliwn, ych- ydig yn fwy na phoblogaeth Cymru, ac y mae dros filiwn a hanner yn medru'r Frythoneg, a miloedd lawer na fedrant siarad yr un iaith arall, hyd yn oed y Ffrangeg. Ychydig iawn, iawn o'r Ffrangeg wyr y bobl hyn a ddeuant o flwyddyn i flwyddyn i werthu winwyn i'n gwlad. Daw'r mwyafrif o honynt o'r rhan honno o'r wlad a elwir "lan pagan" a orwedd rhwng Roscoff a Brest, y rhan fwyaf Frythonaidd o'r wlad. Siaredir pedair tafodiaith wahanol o'r Frythoneg, sef yw rheiny, Vannetais, Cornouaillais, Trecorrais, a Leonais. Dywedir fod llawer mwy o wahaniaeth rhwng y tafodieithoedd hyn nag sydd rhwng Cymraeg y Gogledd a Chymraeg y De. Diau fod llawer o'r gwahan- iaeth hwn i'w briodoli i'r wlad gael ei gwladychu a'i sefydlu gan ymfudwyr o wahanol rhanbarthau o'r ynys hon. Dywedir mai'r Cernywiaid ymsefydlodd yn Cornouaille neu ern, ac i'r Gwydd- elod a'r Gogleddwyr ymsefydlu yn Treguer, ac i bobl Gwent a Morgan- wg ddyfod i Leon. Sut a phryd y daethant sydd anhysbys. Ceir llawer traddodiad. Dywedir ym Mreuddwyd Macsen Wledig mai'r milwyr Prydeinig aeth drosodd i'r Cyfandir i gynorthwyo a sicrhau gosod Macsen ar ei orsedd ymherodrol yn Rhufain gafodd y wlad fel gwobr am eu gwaith, ac i rhan o hon- ynt o dan arweiniad Gynan Meiriadog aros a chartrefu yno. Tristddifyr yw'r modd y cawsant wragedd iddynt eu hunain. Lladdwyd gwyr y wlad gan- ddynt, yn ol arfer y dyddiau hynny, a chymerasant hwythau y merched a'r gwragedd yn wragedd priod ond yn hytrach na gadael i'r rhiannod lygru eu hiaith drwy ddysgu iaith eu mam i'r plant, torrasant eu tafodau, yr hyn yw'r gosb drymaf ellir roi ar ferch neu wraig, oblegid wedi colli'r tafod beth wnant wedyn; o'r hyn y tarddodd y gair Llydaw, medd y Chwedleuydd Cym- raeg. Ceir stori brydferth brudd arall yn y Brest. Dywedir i Vronla gasglu un fil a'r ddeg o foneddigesau a deugain mil o forwynion eraill, ac iddynt gy- meryd llongau ar fwriad mynd dros- odd i Llydaw fel gwragedd, ond ni fu'r mor yn foddlon i'w neges. Boddwyd y mwyafrif, a merthyrwyd y lleill gan Bafoniaid. Modd bynag, cafodd y gwyr eu gwragedd, a chadwasant eu hiaith hyd heddyw ai trwy dorri tafodau neu gadael fddynt droi a throelli nid oes wahaniaeth. Dywedir ymhellach yn y trioedd mai o Dir Meiriadawc, o Dir Seissyllyg ac o Dir Gwyr a Gorwennydd y daeth y llu a arweiniodd Gynan. Enw ar gantrefi Ceredigion ac Ystrad Tywi ydyw Seissyllwg. Yn Sir Dinbych mae Meiriadawc, a'r hyn elwir yn Browyr heddyw ydyw Gwyr, gyda hyn o wahan- iaeth yr arferai Gwyr gynnwys plwyfi Llangyfelach, Llandilo, Talbont, Llan- giwc a Llansamlet, a diau mai y Gron- eath bresenol ydyw Gorwennydd a ym- estyn ymlaen o Gilfai drwy Gwm Nedd. Felly cynrychielir y Northman, y Cardi, y Sirgar a'r Morganwciaid yn Llydaw. Rywle tua'r chweched ganrif yr ym- sefydlodd yr ymfudwyr hyn, ac yno maent wedi aros. Bu cyfathrach agos rhyngddynt a'r Cymry am ganrifoedd, ond darfu'r gyfathrach am lawer canrif wedi hynny, fel yr amgylchwyd hwy gan ddylanwadau gwahanol i'r eiddom iii, fel nad ryfedd, er eu bod yn gnawd o'n cnawd ni ac yn asgwrn o'n asgwrn ni, ac yn siarad iaith debyg i ninnau, y gwahaniaethant gymaint oddiwrthym. "Meddyliais, cyn cychwyn i Lydaw," meddai Mr. O. M. Edwards, "y cawn y wlad honno'n llai dieithr imi nag un wlad arall dan haul, ond fy ngwlad, fy hun. Ail Gymru ydyw Llydaw, ie, ond gyda gwahaniaeth mawr. Cymru heb ei Diwygiad ydyw Llydaw. Cymru heb ei Ysgol Sul ydyw. Cymru wedi sefyll tua dechreu'r ddeunawfed ganrif ydyw, mewn crefydd, mewn moesoldeb, mewn gwybodaeth. Wrth fynd i Lydaw y mae'r Cymro'n mynd ymhellach na thros for, y mae'n mynd ddwy ganrif yn ol." Dywedwn ninnau, ydyw, os nad tair canrif mewn rhai ystyriaethau. Gymru cyn cyfodiad Anghydffurfiaeth ydyw yn grefyddol. Dyma'r wlad y cefais gyfleusdra i ymweled a hi Haf 1909. (I barhau.)
I Llythyrra Sion Sana.
I Llythyrra Sion Sana. Mishdir Golycudd Newydd,— Gatwch i n'ch llongyfarch chi ar ych dyrchafiad i gatar golycudd y Darian. Yn wir y'ch chi wedi'n. hala i mwn ticyn o stwmp, a wn i ddim yn iawn beth i wed; ond mi alia wed y peth wetws y dyn hynny wrth Dr. Cynddylan yn y stesion y dydd o'r blan-ma pethach rhyfadd yn dicwdd witha. Sefwch chi nawr, chi yw Llywelyn y Darian, ynte? Wel, wi'n mentro dechra scrafennu i chitha, ag os 6s gytach chi fasgad. eith dim mwy nag un o'n llythyrra i iddi. Wi wedi dechra cal rhyw flas ar scra- fennu ticyn i baso'r amsar yn ddiweddar ma, a ma'r hen wraig yn darllan y'n llythyrra i. Wir i chi, wi'n cretu i bod hi yn meddwl mwy o lawer o hono i. Pan ddaw rhywun diarth miwn i'n ty ni, fydd hi ddim yn hir cyn gofyn-fys- ach chi'n leico gweld y Darian. a ma hi'n gofalu fod y Darian wedi'i phlygu fel bydd llythyrra Sion yn y golwg. Os dicwdd fod Sion yn i stafall sana yn dewis rhai i roi ar i geffyl erpyn y daith nesa, a rhywun yn dwad at y drws a gofyn ble ma fa, ma'r hen wraig yn apad i bod hi'n meddwl i fod o wrthi'n para- toi rhwpath i'r wasg. Wel, ma'r hen wraig yma a finna wedij darllan lot o'ch gwaith chi, syr, a ry'n ni trw holi a grondo wedi dwad i wpod ticyn bach o'ch hanas chi. Ry'n ni hefyd wedi bod yn treio analeiso ticyn bach ar ych cymwysdera chi i fod yn Olycudd, ag yn Olycudd Tarian y Gwithwr. Un peth wi wedi neud mas ynnoch chi yw, nag os arnoch chi ddim of an neb. Ma nhw'n gwed wrtho i nag ych chi ariod wedi crynu yn ych scitsha a falla fod hynny'n un cymhwysdar i fod yn Olycudd y Darian. Ma son am danoch chi hefyd fel ymladdwr. Wi wedi timlo diddordeb mawr yn ych brwytra chi ar ddalenna'r Darian. 'Y marn i yw nag odd neb yn gallu sefyll o'ch blan chi. O'ch chi byth yn colli'ch tymar, a roech chi'n gwpod shwt i hala rhai erill mas o'u co', a weti'n chi odd y cilog. On i'n clywad bo chi'n gwed, pan fysach chi'n paratoi am frwytyr a rhywrai, taw mynd i gripo ticyn ar u gwallt nhw och chi; a nag odd dim yn rhoi mwy o ddifyrrwch i chi na gweld amball un yn mynd o'r maes a'ch galw chi'n bopath ond gwr bynheddig wrth fynd. Ma son am ych brwytra chi mwn cylchodd erill hefyd. A wn i ddim a allwn fwrw fod y duadd yma i ymladd sy ynnoch chi'n gymhwysdar i Olycu'r Darian. Gobitho cawn i'n siomi o'r ochor ora. Ma nhw'n gwed taw hen botshers sy'n gneud y ciperiad gora, a ta hen ymladdwrs all gatw'r ring ora. Gobitho ta felny bydd hi. Wi ddim yn meddwl fod dim amheu- ath am ych cydymdeimlad chi a'r gwithwrs. Ry'ch chi wedi bod yn with- wr ych hunan. Ry'ch chi'n gwpod ticyn am waith glo a gwaith fferm. Dy'ch chi ddim yn gallu gweld lycad yn llycad a rhai falla shwt i gal i budd- ianna i'r gwithwrs, ond os w i yn ych napod chi'n iawn, mi weta hyn-y byta i'n het os cymrwch chi'ch pyrnu i frad- ychu'r gwithwrs mwn dim. a ma hyn yn siwr o fod yn gymhwysdar. Y cymhwysdar penna sy ynnoch chi, yn ol 'y meddwl i at Olycu'r Darian yw'ch bod chi'n ddicon o ffwl. Pidwch chi a nghamddiall i nawr. Wi'n eitha yscrythyrrol yn hyn. Genta beth yw'ch rhacoriaetha, ne'eh diffycion chi, a ma nhw'n llawer, wi'n mentro gwed y llwyddith y Darian dan ych I Haw chi am ych bod chi'n ddicon o nwl. Ma nhw'n gwed wrtho i, y rhai sy'n ych napod chi, nag ych chi ariod wedi arbad ych hunan a galsa chi fod yn gyfoethog tasa chi dicyn callach, ago yn meddwl ticyn mwy o honoch ych hunan. Ma gydach chi argoeddiata a ma rheiny i sefyll ta beth ddaw o honoch chi. A mae nhw'n gwed tysech chi dicyn call- ach yn ych cenhetlath fel ma plant y byd hwn y gallach chi neud enw i chi'ch hunan a gneud busnas dda o'ch argoedd- iata run pryd. Ond nid argoeddiata yw'r pethach sy yn y farchnad. Ffol- bethau y Jbyd pia hi yn y,diwadd, os gallwn ni gretu'r Postol Paul ar y matar. Wel, ma gytach chi rwpath i neud. Mi fydda i'n etrach arnoch chi yn ych catar gyda diddordab mawr. Gobitha na neith y dyrchafiad ddim o honoch chi'n llai nag oech chi. Ma hi'n dicwdd felny'n amal. Wi'n cofio dyn yn ddiacon yn yr un eclws a fi rodd a'n gallu wilia'n ddoniol iawn yn y set fawr. Odd pawb yn dotio ato fa, a on nhw am i neud a'n brygethwr. Wei nhw fynson i hala fe i'r pulput. Ond wir i chi odd y pethach odd yn mynd mor dda o'r set fawr ddim yn mynd o gwpwl o'r pulput. Watshwch chi'ch hunan nawr. na ddewch chi lawr ar ol mynd lan dicyn bach. Esgus- otwch fi am wilia dicyn yn blaen a chi. syr, ond un felny w i, a ma'r matar yn bwysig i'r Darian, i'r genedl a chi'ch hunan. Wi'n dymuno pob lwc i chi, a blwyddyn newydd da i chi a'ch papur. Dyw e ddim llawer o bwys gen i. ond er mwyn yr hen wraig yma fyswn i'n leico se chi'n gallu bod dicyn yn dru- garog wrth y'n llythyrra i hefyd.— Yr eiddoch, etc., SION SANA. [Ysgrifenned Sion rywbeth diddorol. a bydd yn bleser gennym roddi gofod iddo. Dipyn yn fain a maith yw ei lythyrra weithiau. Arno ef ei hun y bydd y cyfrifoldeb os siomir yr hen AN-raig.-Gol. ]
Advertising
A WELSH NOVEL by the author of "Maid of Cefn Ydfa." "O'r Cryd i'r Amdo," published price, 1/6; sold for 6d. each at "Leader" and "Tarian" Office. Aberdare. GWAED! GWAED! i GWAED! MAE IECHYD A BYWYD YN DIBYNU AR WAED PUR CRYPt IACH A MAETHLON. Hughes's Blood Pills Mae "Hughes's Blood Pills" yn hynoi efleithiol at Creu Cwaed Newydd, Pur a Chryf, felly yn dylanwadu ar hall Organau y Corft, drwy hyny yn laohau Dolur Pen, OtHyg Traul, ?a?t\ Biliousness, ?r? \?.  A fu DdrwI, Tarddlantau IfH fl JT]) ar y Cnawd, jryJIJ Cornwydon, Scurvy, Piles Fits, Nerv- ousness, Jl jj Cwynt, Cwynegon (neu Cymal- wst), poen CefnJ Lum- bago, Corti- Neuralgia, au yr Aren- au, I seider 6 VylTa! Cyna. BENYWOD! At Anhwylderau tueddol i bob Gwraig, Mam a Merch o bob oedran mae II ughes's Blood Pills" yn nodedig o effeitbiol. Rhodder prawf arnynt. RHYBUDD PWYSIG. Wrth brynu y Pilla hyn gofaler rhag gael eich twvllo. Mynwch weled y Trade Mark, sef llun Calon fel hyn- PF ar bob blwch. Heb hwn, twyll ydyw. Gwrthodwch bob peth arall. Ar werth gan bob Chemist a Stores am 1/1i. 4 S. Neu danfonwoh ei Gwerth mewn Stamps neu P.O. at y Perchenog— JACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST, M.P.S., L D.3 Penarth, Cardiff. Athrofa Aberystwyth (UN O'R COLEGAU YM MHRIFYSGOL CYMRU). Prifathraio-T. F. ROBERTS., M.A., LL.D. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynhygir amryw o ysgoloriaethau (rhai o honynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Am fanylion pellaoh, ymofyner a—' J. H. DA VIES, M.A., Gofreatrydd. Progeth "WII Bryan." Yn gyr.taf, y gwrthddrych a nodir- I 'Davies's Cougb Mixture." Yn ail, y ddyledswydd a gymmhellir Ei gymmeryd a'i reoom- mendio." Yn drydydd, y wobr a addewir- I "Rhyddhâd oddi wrth Beswch ac Anwyd." DAVIES'S[OOUGH MIXTURE, at Beswch, Anwyd. DAVIES'S COUGH MIXTURE, at Asthma, Crygni. DAVIES'S COUGH MIXTURE, at Pas, Bron?lgti,, DAVIES'S COUGH MIXTURE, at Influenza. Nid rhaid i DAVIES'S COUGH MIXTURE wrth ganmoliaeth-y mae wedi bod o flaen y cyhoedd er's blynyddoedd; ac y mae y per- chenog, drwy draul a llafur di-ildio, wedi ei berffeithio yn y fath fodd fel y mae yn cael ei gydnabod fel darganfyddiad gwerthfawr at yr anhwylderan, IS" Nid ydyw DAVIES'S COUGH MIXTURE yn mhlith y darpariaethau hyny sydd yn cael eu hargymmhell at bob Afiechyd, ond yn unig at anhwylderau y Frest, megys Anwvd, Peswch, Asthma,. Pas, Crygni, Bronchitis, Caethdra, a Diffyg Anadl.. Mewn Poteli /1J a 2/9 gan bob Druggist. HUGH DAVIES Chemist, Machynlleth. LADIES BLANCH ARD'S PILLS Are unrivalled for al Irregularities, &0.. they speedily afford relief and never Oil to alleviate all suffering. They supersede Pennyroyal, Pil Cocbia, Bitter Apple, &0. eianchard's are the Best of all Pills for Women." Sold in boxes, 1 Ili. by BOOTS' Branches, and all Chemists, or post free, same price, from T ESLIE MARTYN Ltd., Chemists. 3 DALSTON LANE, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free Id. stamp EVERY MAN. To those who sufler from any Skin or Blood Disease, Nervous Breakdown, Kidney, Bladder Troubles, or any ohronic complaint or weakness, Scientific treatment can effect a complete cure. Write or, if possible, call. TRBATMENT BY POST. DR. "TTUXLEY Medicine Company, J? XX Telephone 1228 Cardift. MILL LANE, ST. MARY ST., CARDIFF. EVERY WOMAN Should send two stamps for our 32 page Illustrated Book, containing Valuable Information how aU Irregularities and Obstructions may be entirely avoided or removed by simple means. Recom- mended by eminent Physicians, as the only Safe, Sure and Genuine Remedy. Never Fails. Thousands of Testimonials. Established 1862. MR. PAUL BUNCHARD, Mot. HoMe. DWaton Lame, logAM AIL ARGRAPHIAD O'R DDE U A WD BOBLOGAIDD A SWYNOL. Su Hwl Lwll (Hush my Baby). Y Geiriau Cymraeg gan GLAN PADARN. I Y Geiriau Saesneg gan S. WILLIAMS, C.M,, Llanboidy. Yn y Ddau flodiant. Pris 6 Cheiniog. I'w chael oddiwrth yr Awdwr- | TIMOTHY RICHARDS, Ardwyn, Lampeter. f m~m^ Do you want M 0 N E Y C\ 0 you.wan$ MONEY f ID for extending yoor business, entering into a new business, or for any good purpose what- soever ? Apply THE SOUTH WALES EQUITABLE MONEY SOCIETY Registered nnder Friendly Societies Act) ALBERT CHAMBERS, j HIGH STREET, CARDIFF Branohes SWANSEA—10 High Street Arcade. NEWPORT-J. R. Rowlands, 11, Skinner St. PF,NTRE-E. T. Davies, Victoria Chambers. FERNDALE—W. J. Jones, Tudor Chambers. TREDEGAii-Temperance Hall. PONTYPOOL-J. R. Rowlands, 20 Crone St. MERTHYR—A. T. Smith, 4, Castle St AGENTS WANTED where unrepresented. 2C 10s for Is 2d per week, 913 for 2s 3d per week, and so on up to 932 100 for lis 2d per week. Assets nearly £ 50,000. Ask for Balance Sheet and prospectus. THE Aberaman & fountain Ash Billposting and Advertising Co. Proprietors of the most prominent stations n Aberaman, Cwmsman, Cwmbach, Abercwmbol, Aberdare and District. ADVERTISE BY BILLPOSTING. EVERYONE SEES POSTERS. All communications and parcels should be addressed to the MANAGER, Public Hall & Institute, Aberaman, Aberdare Tel. P.O. 12, Aberaman, Send your Orders for PfylNTtylG TO THE Leader & Tarian Office Cardiff Street, Aberdare. 1 Posters, Handbills, Circulars, Tickets, Programmes, Balance Sheets, Church Reports, and all kind8 of Printing done in up-to-date Style, combined with ifrst-class Workmanship. SATISFACTION PROMPT GUARANTEED. DESPATCH. Hysbysiad o Bwys I Hysbyswyr, Gohebwyr a Dosbarthwyr. Teimlwn mai angenrhaid yw gwner4 yo hysbys y cyhoeddir y Dariao bod dydd Mawrth, ac y danfonir hi i ^r holl ddosbarthwyr brydnawn yr jn dydd. Dymunwn ar i bawb a anlonant hvsbvsiadau neu newvddion urgcitt ofalu eu bod yn cyrhaedd y swydtf;* heb fod yn ddiweddarach na bore j Mawrth. Carem gael bob gohebittm araB mor gynar ag sydd bosibl. Iarall -nor gynar ag -d d bosibi. Anfoner pob gohebiaeth a phob tra- fodaeth yn dal perthynas a r "Darian" i'r cyfeiriad a ganlyn YN UNIG:- SWYDDFA'R DARIAN," ABERDAR. MPAGE Book about Herbs and how to use then —— Post Free. Send for one. Trimnell, 2he Herbalist, 144, Richmond-road Oudiff Hstabltahai 18T9, PLEASE NOTE THE ADDBIIIS8 fO prevent fraud see th?t 100 ?et "E.t.bU,h. TC) pi,ev on every label Md wrapper of my prep." 'iona, with?ut which none Mf g?naino -Trtmnell Tb Herbalist, 144, Richmond-road, Cardiff. TBIMNELL'S PILLS AND tOWDEBB have eon Thooeands Why not yon f See that 70a M< "E?tubMehcd 1 8T9 on every l?bel.—Trimoen. *&< Herbalist. 144, Ricximccd road, Cardi9, Agent wanted. Specialities, ladfarubber AppUaoaea, snows &a. Best and Obeapgat. s apptlcatiaa Trimeell, Riabtnood-road Cardiff