Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

EIN PENDEFIGION, A'R I CYNGHORAU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EIN PENDEFIGION, A'R CYNGHORAU SIROL. NID ydyw Cymru yn lliosog nac yn ddylanwadol yn ei phendefigion, mor bell ag y mae eu perth- ynas a'r seuedd yn myned, A tbybiwn y gallwn ddyweyd nad oes ond un o arglwyddi y Dywys ogaeth sydd yn meddu safle o Wysigrwydd a dylanwad, fel gwleidyddwr o allu a medrus- rwydd, yn Nby yr Arglwyddi, sydd wedi siarad yn erbyn yr ymarferiad o'u gallu gan y oobl-a hwnw ydyw Arglwydd ABEKDAR. Oydnebydd pawb sydd wedi talu sylw i hanes gwleidyddiaeth ein teyrnas, ae i'r rhan y mae ein gwleidyddwyr blaenllaw wedi ei gymmeryd mewn materion cyhoeddus, yn ystod y deng mlynedd ar hugain neu y deugain mlynedd diweddaf, fod Arglwydd ABERDAR wedi gwneyd gwasanaeth nid bychan i'w wlad; a hyny mewn amryw o swyddau a chylchoedd gwleidyddot o gyfrifoldeb a phwysigrwydd. Y mae yn wir mai fel Mr. HENRY AUSTIN BRUCE, ac fel aelod o Dy y Cyffredin, ac nid fel Arglwydd ABER- DAR, ae aelod o'r Ty Uchaf, y gwnaeth fwyaf o wasanaeth cyhoeddus i'r deyrnas; sef, yn y swyddi o Is-lywydd y Cynghor Addysg, ac fel Ysgrifenydd Cartrefol, ac mewn cylchoedd eraill yn y Ty Isaf. Gyda hyn, yr ydym yn barod i gydnabod nad ydyw Arglwydd ABERDAR wedi bod yn hollol ddifraw yn ngwasanaeth ei wlad er pan y mae yn Nhy yr Arglwyddi chwaith. Rhaid addef, er hyny, mai yn rhy araf y mae efe wedi gallu dyfod i fyny â syniadau Rhydd- frydig y bobl. Protfesai ei hun bob amser yn Rhyddfrydwr ae y mae yn sicr ei fod felly, i raddau, yn yr amser gynt; er hyny, methodd roddi ei gefnogaeth i rai mesurau Rhyddfrydig y pryd hwnw, er ei fod wedi dyfod ar ol hyny i'w derbyn. Felly y bu mewn perthynas i'r tugel, a chwestiynau eraill, ag sydd erbyn hyn wedi eu hen a'u llwyr benderfynu. Felly y bu, hefyd, gyda chwestivnau eraill sydd etto heb eu penderfynu, ond sydd wedi dyfod yn hollol aeddfed i'w trin; ac yn eu plith, gallwn enwi Dadgyssylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys Sefydledig yn Nghymru. Y mae Arglwydd ABERDAR wedi dyfod yn bleidiol i'r eyfnewidiad pwysig hwn; a dichon mai dyma yr anhawddaf iddo ei dderbyn o'r cwbl. Rhyddfrydwr clauar a hannerog ydyw ei arglwyddiaetb wedi bod drwy y blynyddoedd. A dyma yr esboniad sydd i'w roddi ar ei ymyr- iad presennol ag etholiad cynghor sirol Morgan- wg, trwy gymmeradwyo ac anghymmeradwyo ymgeiswyr neillduol am aelodaeth yn nghynghor y air y preswylia ynddi. Gan na buom un amser yn meddu syniadau uchel am Ryddfrydiaeth ei arglwyddiaeth, nid ydym yn synu clywed ei fod yn cymmeradwyo ymgeisiaeth gwyr o nodwedd y Meistri R. H. RHYS, o Aberdar, a DILLWYN LLEWELYN, o Benlle'rgare, fel personau cym- mhwys i gynnrychioli rhanau o'r air hono yn ei chynghor. Tori eithafol ydyw Mr. DILLWYN LLEWELYN. Fel dyn, yr ydym yn clywed ei fod yn meddu rhinweddau sydd yn adnabyddus i'w gymmyd- ogion. Ond fel gwleidyddwr a chrefyddwr, y mae ei ragfarn mor gryf fel y rhed ar ei gyfer i gondemnio yr hyn nas gall ei brofi-fel y gwnaeth yn ei sylwadau ar y FANER yn Nghyngres Man- chester. A'i Doriaeth rhonc' ydyw yr achos pa ham y darfu i Gaerdydd, Deheu Morganwg, a'r Gower, wrthod caniatau iddo eu cynnrychioli yn y senedd. Ffafr-ddyn Toriaid a pharsoniaid y sir ydyw Mr. DILLWYN LLEWFLYN etto, dyma y boneddwr y mae Arglwydd ABERDAR yn ei argymmhell ar Ryddfrydwyr ac Anghydffurf- wy r rhan o sir Forganwg. AC am lVlr. R. H. RHYS-a gadael ei wleid- yddiaeth allan o'r cwestiwn—y mae trethdalwyr AberdUr a Merthyr Tydfil wedi cael digon o brofion o bono fel ynad ar y faingc, ac fel cadeirydd bwrdd y gwarcheidwaid, fel y maent yn argyhoeddedig o'i lwyr anghymmhwysder i'w cynnrychioli ar y bwrdd sirol. Etto, dyma ymgeisydd arall y mae Arglwydd ABERDAR yn el ystyried yn ddyledswydd arno ei gefnogi drwy y wasg, a defnyddio ei ddylanwad o blaid ei ddychweliad. Dyma gamsyniadau pwysig iawn o eiddo ei arglwyddiaeth, ac y maent yn sicr o fod yn dra niweidiol i'w gymmeriad a'i safle yn y Dywysogaeth. A gwybydded y psndefig hwn na ehymmer Rhyddfrydwyr ac Anghydffurfwyr dewr a goleuedig Morganwg eu llywodraethu ganddo yn y mater pwysig o ethol eu cynghor- wyr sirol; ac yn hyn y maent i'w canmawl, yn ddiau. Y mae egwyddorion yn llawer pwysicach na phersonau, ac hyd yn oed na chymmeradwy. aeth a ffafr holi gorph arglwyddi y deyrnas. Y mae engraifft arall o ymyriad y bendefigaeth & materion y bobl eu hunain yn sir Faesyfed. Y mae Arglwydd ORMATHWAITE yn arfer ei awdurdod a'i ddylanwad yn y sir hono, gan geisio perswadio y bobl nad oes dim a fyno gwleidyddiaeth a'r cynghorau sirol-dadl a ddefnyddir gan y Toriaid yn mhob rhan o'r wlad, gan obeithio y gallant ddallu yr etholwyr a'i llwch. Er hyny, nid oes neb yn fwy parod i roddi profion diymwad fod a fyno gwleidydd- iaeth a r etholiadau na hwy eu hunain, pan y credant y gallant wneuthur hyn gyda diogelwch, ac er mantais i'w plaid. Y mae sir Faesyfed, hyd yn ddiweddar, wedi bod yn sir dra Ryddfrydig, ond y mae wedi colli. y cymmeriad hwn er's rhai blynyddoedd ac y mae y pendefig a enwyd, a'i swyddogion, yn gwneuthur pob peth sydd yn eu gallu er dylanwadu ar etholiad cynghor y sir hon i fod yn gyfryw ag y gallo ei arglwyddiaeth ei ilywodraethu. Pa fodd y mae Rhyddfrydwyr ac Anghydffurf- wyr Maesyfed yn dioddef hyn 1 Yr oeddynt yn arfer bod yn ddewr a phybyr. Ai tybed fod colli yr iaith Gymraeg wedi peri iddynt golli eu brwdfrydedd a'u hannibyniaeth gwladol a chref yddol hefyd t Y mae y mater yn deilwng iawn o sylw arweinwyr y blaid Ryddfrydig, a blaen- oriaid y gwahanol enwadau crefyddol yn y sir. Nid oes unrhyw fanteision i Gymro i'w disgwyl trwy anghofio yr hen iaith, a chymmeryd ei drawsffurfio yn Sais unieithog; tra y mae llawer o fanteision yn cael eu hennill trwy gadw y Uymraeg yn fyw, er dysgu yr iaith fain.' Am etholwyr Morganwg a Maesyfed, ni bydd iddynt ganiatau i Arglwydd ABERDAR nac Arglwydd ORMATHWAITE ddylanwadu arnynt yn eu dewisiad o gynnrychiolwyr i'w cynghorau sirol; a hyderwn y dangosir i'r ddau mewn modd arbenig yn yr etholiadau sydd wrth y drws mai' Trech gwlad nag arglwydd.'

I YR IAITH GYMRAEG. I

LLANARMON-YN-IAL.

[No title]

T B A N 0 R -