Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

FFESTINIOG.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FFESTINIOG. I EISTEDDFOD GADEIRIOL YR ANNIBYNWYR. I CYNNALIWYD yr eisteddfod eleni yn yr Assemoiy ±vOoms, am ddau a chwech o'r gloch. Yr oedd y cynnulliad yn y cyfarfod cyntaf yn bur lliosog, ag ystyried y gwlaw a ddis- gynai ar y pryd. Yr oedd yr ymgeiswyr ar y gwahanol destynau yn lliosooach eleni nag erioed, a chanmolid an- sawdd v cyfansoddiadau yn fawr. Cyfarfod y prydnawn. I I I I Dechreuwyd y cyfarfod cyntat am ddau o r glocn, dan lywyddiaeth y Parch. W. Parri Hughes, ac arweiniwyd gan y Parch. T. P. Edwards (Cacrwyson), Llanrwst. Aed yn mlaen yn y drefn a ganlyn Can, Y Cymro,' gan Mr. W. R. Williams. Anorchiad gan y liywydd. Gwobrwywyd 24 mewn llyfrau am adrodd yr emyn 407. Am adrodd Luc ii., ymgeisiodd 16, a gwobrwywyd yr oil mewn Ilyfraii. Dau ymgeisiodd am adrodd Gen. i., ii,; Mr. W. Robeits yn oreu a Mr. J. Pritchard, Salem, yn ail. Am y dictation, ymgeisiodd 66, a gwobrwywyd tri; ond ni chawsom eu henwau, Am adrodd Pryf y Bedd,' ymgeisiodd 6; gorou, y Misses Jane Anne Jones, Hyfrydfa, ac Ellin Jones, Bethania. Unawd alto, 'Bu genyf fam a thad buddugwyr, y Mri. R. Fdmunds, Brynbowydd a Joseph Koberts, Llan. Cystadleuaeth datganu unrhyw unawd; goreu, Mr. Thomas Pugh, Ffestiniog. Chwecli a ymgeisiodd ar y pennillion, 'Y Derbyniwr Wyneb; goreu, Mr. E. J. Evans, Llan; a Mr. G. James, Bryn Bowydd, yn ail. Am y par hosanau goreu; gwobrwywyd Mrs. O. Jones, Belle View, LIan. Cystadleuaeth corau y plant ar y datganiad goreu or anthem, 'Gadewch i blant;' gwobr, 3p.; ail, Ip. 10s.; y corau a ymgeisiodd ydoedd Bryn bowydd a Carmel; goreu, cor Carmel, dan arweiniad Mr. W. S. Koberts. Am yr hir a thoddaid Er ccf am Mrs. A. Owen, Bowydd Buildings; 11 o ymgeiswyr; goreu, Mr. D. Jones (Glan Tccwyn), Penrhyndeudraeth. Am atteb cwestiynau ar Gen i., ii.. pump ymgeisiodd, a gwobrwywyd y Mri. E. SGriffith, Tan-y-grisiau; W. E. Jones, Fourcrosses ac O. Roberts, Salem. Civn, Cartref,' gan Mr. R. Edmunds, Brynbowydd. Ail alwyd ef, a chanodd Y Dryw Bach.' Ymgeisiodd pedwar ar y traethodau, ,Hanes Iesu Grist; goreu, Mri. E. Griffith, Tanygrisiau; a J. E. Jones, Jeru salem, a gwobrwywyd y gweddill gan y pwyllgor. Am y datganiad goreu o'r anthem Gweddi yr Arglwydd' (Dr. Parry), ymgeisiodd corau Bethania, Jerusalem, Gareg ddu, a Brynbowydd; dyfarnwyd cor Jerusalem yn oreu; gwobr, 3p. IOs. Ymgeisiodd pedwar ar y traethawd, Urddas Llafur;' gwobr, 15s.; ail, 7s. 6c.; goreu, Anne Griffith, Ffestiniog; J. Push. Hyfrydfa. Cyfarfod yr hwyr. I Am chwech o'r gloch, yr oedd lyr ystatell yn orlawn. Cymmerwyd y gadair gan Dr. Jones, Bryn Marian, ac arweiniwyd gan Caerwyson. Ennillwyd gwobrwyon gan y rhai canlynol: -Asaph Collen, Mri. J. Davies, Dorvil Street; R. Williams, Ffestiniog; W. S. Roberts, Tan-y- grisiau; W. E. Jones, Cromwell Street; Myfyrian Conwy, Richard Jones a'i Gyf.; E. Griffith, Tan-y-grisiau; Misses Ellen Williams, Glasfryn Anne Griffith, Bethel; Mrs. Barlow, Manod Road, a Richard Jones, Benar Road. Y Gadair. Oynnygiwyd eadair dderw, gwerth 3p. 3s., am yr awdl- bryddest oreu, heb fod dros 260 o linellau, ar 'Gyfeillgar- wch Dafydd a Jonathan;' daeth pump yn mlaen i ymgeis- io, ond dyfarnwyd eiddo Shabot' yn oreu, gyda. chanmol- iaeth uchel; y Parch. W. Parri Hughes, Brynbowydd, oedd Shabot,' a chadeiriwyd ef gyda rhwysg anghyffredin. Aneichwyd y cadeirfardd gan amryw feirdd oedd yn bre- sennol. Gwnaed y gadair gan Mr. E. Griffith, Tan-y- grisiau, a chymmerwyd ei defnydd o hen drawst dros 700 mlwydd oed a gafwyd yn hen ffermdy Maenofferen. Can gan Mr. R. Edmund, a rhoddodd Mr. W. R .Davies, Dolgellau, wobr iddo am ganu. Ennillwyd gwobrwyon yn mhellach gan Mri. M. Jones, Glandwr; H. Hughes, Penmaohno; D. Hughes, Glyn- Ilifon Street; R. Williams, Talwaenydd; M. A. Williams, Llan J. Ellin Davies, J. J. Evans, Hyfrydfa; E. Roberts, Khiw a D. J. Jones, Bryn bowydd. Yna, daethpwyd at y brif gystadleuaeth gorawl; sef, i'r c6r a ddatganai oreu yr anthem, Yr lesu a gyfododd' (Alaw Manod); gwobr, 7p.; ail, 3p. 10s.; daeth tri chor yn mlaen; sef, Tan-y-grisiau, Bryn bowydd, a Llan Ffestin- iog. Dyfarnwyd cor Llan Ffestiniog yn oreu yn nghanol cymmeradwyaeth uchel; a Tan-y-grisiau yn ail. Talwydy diolchiadau arferol, a therfynwyd y cyfarfod. Yr oedd y pwyllgoi wedi bod yn hynod ymdrechgar ar hyd y flwydd- Yn,hcboronwydeullafurillwyddiantmawr. Rhoddodd Mr. M. O. Jones, Treherbert, foddlonrwydd cyffredinol tel beirniad cerddorol. Y beirniaid oeddynt :-y Parchn. T. P. Edwards (Cacr- wysori); W. Parri Huws, D. Davies, Hyfrydfa, ac eraill o weinidogion y cylch y Mri. W. Williams, High Street; G. J. Bevan, Ysgol y Manod; M. O. Jones, Treherbert; R. Hughes, Church Street; R. G. Evans, Ysgol y Chwarel- au J. R. Jones (Gcrol/t), Maentwrog; a G. Jones, Park Square; a'r Meistresi Evans, Station Road; a Roberts, Ty'n-y-ttridd.—Tnborfab.

[No title]

LLANDRILLO.

STOCKTON. nI -1 - .. -?

BETHESDA.u.I .11 I

[No title]

BIRMINGHAM.

LLANLLECHYD.

WAENFAWR.

'SENEDD MEIRION.' I

DINB ?Cfl.-I

CLAWDDNEWTDD, GER RHUTHYN.…