Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
SEFYLLFA GYMDEITHASOL A GWLEIDYDDOL…
SEFYLLFA GYMDEITHASOL A GWLEIDYDDOL CYMRU. GAN HENRY RICHARD, YSW., LLUNDAIN. At Olygydd y "Morning Star." (Parhad.) Nid oes gan neb hawl i amheu y gonest- rwydd a pha un y mae y clerigwyr Cymreig yn cymeryd eu hochr mewn gwleidyddiaeth. Na, yn wir, mae yn rhaid caniatau nad ydynt, pan yn gwrthwynebu pob mesur rhyddfrydig -yn amddiffyn pob camwri hynafol—wrth osod eu hunain yn erbyn pob cam a roddir yn nghyfeiriad rhyddid, pa un bynag ai- gwladol, crefyddol, masnachol, neu lenyddol-ond dal yn ffyddlawn i draddodiadau eu heglwys. Y ,cyfryw, os gallwn ymddiried yn nhystiolaeth dau o ysgrifenwyr mawr-bob un o honynt, yr wyf yn credu, yn aelod o'i chymundeb- ydyw ymddygiad yr Eglwys o'i sefydliad cyntaf. Ond nis gall y gair eglwys yn y fan hon olygu neb ond y clerigwr, oblegyd y byddai yn anniolchgarwch o'r mwyaf i anghof- io fod yn mysg aelodau lleygol Eglwys Loegr bob amser gyfeillion mor wirioneddol a phen- derfynol i ryddid ag svdd yn mysg aelodau unrhyw enwad crefyddol pa bynag. Ond gyda hynyna o eitbriad, ofnwyf fod geiriau yr ysgrifenwyr y cyfeiriais atynt yn anwadadwy. Mae Eglwys Loegr," ebe Arglwydd Macau- lay, wedi parhau i fod am fwy na chant a haner o flynyddoecld yn elyn anghymodlawn rhyddid cyhoeddus. Hawl ddwyfol brenhin- oedd, a'r ddyledswydd o ufyddhau yn wasaidd i'w holl orchymynion, oeddynt eu hoff bync- iau. Daliodd y gredo hon yn benderfynol mewn amser o erledigaethau gormesol-tra yr oedd cyfraith yn cael ei sathru dan draed, tra yr oedd barn yn cael ei wyrdroi, tra yr oedd y bobl yn cael eu bwyta megys pe byddent fara. Unwaith, a dim ond unwaith, am fo- ment, a dim ond am foment-pan y cyffyrdd- wyd a'r mawredd a'i meddianai hi ei hunan, yr anghofiodd mewn ymarferiad yr ymostyng- iad a ddysgasai." Nid llai penderfynol yw geiriau Mr. Leaky yn ei waith mawr ar "Gy- nydd Rhesymoliaetb." Nid oes un eglwys arall," ebe fe, ag sydd mor unffurfiol wedi bradychu a sathru ar ryddid ei gwlad. Yn yr holl brawfiadau tanllyd yr aeth rhyddid drwy- ddynt er y Diwygiad, darfu iddi hi bob amser daflu ei holl ddylanwad i glorian gormes, cefn- ogodd a chanmolodd bob ymdrech i ddystrywio y cyfansoddiad, ac ysgrifenodd y ddedfryd ofnadwy o dragywyddol gollfarn ar feddyliau merthyron rhyddid. Yr wyf yn rhwym, gan hyny, i amddiffyn perffaith gysondeb fy nghydwladwyr clerigol, yn eymeryd plaid y rhai hyny mewn gwleid- yddiaeth a wrthwynebant bob rhyddid a chy- nydd. Ond gan nad pa mor ffyddlon yr ym- lynant wrth egwyddorion gwleidyddol eu heglwys, nid yw yn llai gwirioneddol eu bod yn hollol wrthwynebol i argyhoeddiadau a dyniuniadau corff mawr o'n cydwladwyr. Ac y mae yn sicr fod yr ystyriaeth ar adegau yn gwthio ei hun i sylw y rhai mwyaf meddylgar o honynt, ei fod yn berthynas annedwydd i fodoli rhwng unrhyw gorff o weinidogion Cristionogol a'r bobl yn mysg y rhai y maent yn byw, pan yr edrychir arnynt, nid fel cyng- horwyr a chyfeillion, yn cydymdeimlo a'u folygiadau a'u cynorthwy wyr, i gyrhaedd eu amcanion, ond yn hytrach fel ysbiwyr a hysbyswyr, y rhai a wyliant eu plwyfolion yn unig er mwyn eu bradychu, y rhai ydynt bob amser yn wrthwynebol iddynt ar bob cwestiwn cyhoeddus, yn ymgyngheirio i'w gorthrechu, yn ymorfoleddu yn eu darostyngiad, ac yn rhoddi benthyg eu hunain fel offerynau ewyll- ysgar i'r gorthrwm a osodir arnynt hwy o herwydd pleidleisio yn ol eu cydwybodau. Fel hyn y maent yn gobeithio hawlio parch ac adenill serchiadau gwrthgiliedig eu praidd! Pan fyddo yr Eglwys Sefydledig wedi colli ymddiried trigolion y wlad, fel ag y maent yn edrych arnynt, nid fel cysegr o orphwysdra neu ddyogelwch, ond fel gwarchawdle gelynol oddiwrth yr hon nad yw y trigolion yn derbyn dim ond blinderau a gofidiau, ynlle amddiffyn a chymhorth, bydd yn annichonadwy yn hir i rwystro i gwestiynau gyfodi mewn llawer o feddyliau, pa mor bell, hyd yn oed ar y sail o reidrwydd politicaidd, y mae yn gydnaws a chyfiawnder a rheswm i barhau y fath sef- ydliad. Yr eiddoch yn barchus, HENRY RICHARD. RHIF XIII. SYR.—Yn fy llythyr diweddaf, myfi a eg- lurais y sefyllfa y mae y clerigwyr ynddi yn Nghymru, a'r dylanwad a gariant mewn achos- ion gwleidyddol. Y mae y rhan fwyaf o'r dosbarth hwn yn Doryaid trwyad], y rhai ydynt wedi dal drwy glod ac anghlod at y gredo druenus sydd yn gwneud i ddyogelwch cymdeithas ddibyiiu ar roddi yr atalfa ar bob math o ryddid, pa un bynag ai rhyddid ym- adrodd, neu gydwybod, neu addoliadol, neu fasnachol, neu bleidleisiol. Mae ychydig o deuluoedd mawrion, v rhai ydynt bob amser wedi pleidio yr achos Rhyddfrydol, fel dyled- swydd a adawyd iddynt gan eu lienafiaid. Ond y mae rhai arwyddion hyllion iawn wedi ymddangos yn ddiweddar, gan nad sut y barnai eu blaenafiaid, y buasai yn llawer gwell gan yr hiliogaeth bresenol aberthu eu hegwyddor- ion politicaidd proffesedig, na chaniatau i un ran o gynrychiolaeth v wlad fyned allan o afael eu dosbarth hwy. y (I'w barhau.)
MAE NHW YN DWEYD.
MAE NHW YN DWEYD. Mae nhw yn dweyd fod yr wyl Geredlaeth- 01 olaf wedi ei chynal yn Rhuthyu, a'r achos o'i marwolaeth oedd fod ei chefnogwyr yn gwrthod rhoddi iddi yr ymgeledd briodol. Mae nhw yn dweyd fod -cynghaws i gael ei ddwyn yn erbyn fiddlers Llundain amlofrad-2- iaeth wirfoddol. Mae nhw yn dweyd fod Talhaiarn i gael ei ddwyn yn mlaen i'r llys o dan y cyhuddiad o fod yn gyfranog yn y llofruddiaeth. Mae nhw yn dweyd mai y cwyn yn erbyn Tal oedd, ei fod wedi llindagu y sefydliad gyda gormod o'r iaith fain, yr hon a ddygwyd i'r wlad gan blant Hengistiana. Mae nhw yn dweyd fod yr hybarch Gweir- ydd ap Rhys yn parotoi bywgraffiad, ac y bydd darlun o Tal yn adrodd Oywydd yr Haul, yn gynwysiad i'r benod gyntaf. Mae nhw yn dweyd fod "Ynir Gwent" yn rhegu y pwyllgor am na chawsai y pymtheg gini a enillodd; ond os na chafodd y wobr, fe gafodd yr anrhydedd o enill. Mae nhw yn dweyd fodrhyw blaned wibiog wedi ymddangos yn ddiweddar, a bod hyny yn arwyddo amser rhyfeddol yn Morganwg. Mae nhw yn dweyd fod y prif ysgogydd yn preswylio ger glanau y mor, heb fod yn nep- pell o Gaerdydd. Mae nhw yn dweyd fod yr Eisteddfod yn Mountainash, a'r Wyl Gerddorol yn Aberdar dydd Nadolig, yn taro yn erbyn eu gilydd, ac y bydd y naill yn dyfetha y llall. Mae nhw yn dweyd nad oes un amheuaeth i fod gyda golwg ar ddychweliad Henry Rich- ard i'r senedd. Mae nhw yn dweyd y dylai Ymneillduwyr Merthyr, Vaenor, ac Aberdar beidio llaesu dwylaw, rhag dygwydd i chwyldroad gymeryd lie, fel ag i dynu gwarth bythol ar Ymneill- duwyr ac Ymneillduaeth yn Nghymru. Mae nhw yn dweyd fod yr Hen Domos wedi troi yn Dory, a'i fod yn myned tua Llundain yr wythnos nesaf i gael ei wneud yn M.P. dros Graig Trebanos. Mae nhw yn dweyd fod Wil o'r Mynydd wedi myned ar goll er ys rhai wythnosau, a barna rhai ei fod wedi canlyn Gwynfead i wlad machlud haul, lie mae yr afonydd yn llifo o laeth a mel. Mae nhw yn dweyd fod y brawd Llwch- haiarn i gael ei benodi yn Stump Orator i gyf- arfodydd y Bwrdd Iechyd, ac y daw gwae ar y neb a gadwo fochyn o hyn allan yn mhlwyf Merthyr. Mae nhw yn dweyd fod yr awenydd Athan Fardd wedi cael ei berffeithio mewn mwg, a'i buro trwy dan. Mae nhw yn dweyd fod y gymanfa farddol a gynaliwyd yn ddiweddar ar ben un o fyn- yddau Morganwg, wedi derbyn melldith Myfyr yr Archdderwydd, ac nad oes gan Creidiol a Glanffrwd ddim ond aros yr amser y cant eu tynu trwy gynffon y sarff dorchog, a'u bwrw i bair Ceridwen, i ddwyn eu penyd am ryfygu ymwneud achyfrinion Barddas y Cymry heb un awdurdod. Mae nhw yn dweyd fod plantos y ffugenwau wedi myned yn amlach na Brain Y. Rhydwen, ac yn fwy hunanol na llyffaint Cors y Fochno. Mae nhw yn dweyd fod y cyfaill Morgrugyn Gwent wedi ei benodi gan Blackie, brenin y blacks, onite ? i daenu gwybodaeth ar fvnydd- oedd Mynwy, a bod llwyddiant mawr yn canlyn ei lafur. Mae nhw yn dweyd y bydd iddo, ar ol gor- phen yn Nghymru, gael ei anfon dros y mor i Amerig, i dalu ymweliad a rhai o deulu y Blackie y sonir cymaint am dano, ac y bydd y Morgrugyn yn myned heibio i'r Cymro Gwyllt yn Lerpwl, dan ganu Beautiful for Ever. Mae nhw yn dweyd fod Caradog Jones yn hen deilyngu tysteb oddiwrth bobl Aberdar, yn neillduol y cerddorion, a bod rhyw debyg- olrwydd y daw i ben cyn y Nadolig. Mae nhw yn dweyd fod y cyfaill Moses H. Davies wedi gadael y Cymry, a myned at y Saeson i Lundain, ac y bydd o yn fuan iawn yn gymaint fiddler a'r un o honynt, a'r peth nesaf ellir ddysgwyl ydyw fod Eos Morlais a Cherddor Gwalia yn ei ganlyn. Rhyfeddol, onite, ydyw yr ysfa sydd yn mhlant Efa am fyned yn ddynion mawr, ac yn Saeson, os gwelwch fod yn dda forsooth. Mae nhw yn dweyd fod Dafydd Morganwg yn bwriadu cyhoeddi Ilyfr Saesneg if you please, a'i alw yn Book to the Nations. Mae nhw yn dweyd fod y benod gyntaf yn barod gan y Cymro Gwyllt, ar y testyn dydd- orol a elwir The Underground Railway. Mae nhw yn dweyd y bydd i'r Rhagdraeth gynwys traethawd buddugol o eiddo Mabon- wyson ar Achyddiaeth chwain," am yr hwn y derbyniodd phiol bren a llwy efydd yn Eis- teddfod Genedlaethol Brig-yr-onen. Mae nhw yn dweyd nad oes dim i fyned iddo ond pethau buddugol, megys traethodau ar ymlusgiaid, a barddoniaeth uchelryw, sef caniadau clod dynion dinod, na wyr y byd ddim am danynt cyn gweled gwobr wedi ei chyplysu a'r enw mewn hysbysiad Eistedd- fodol. Mae nhw yn dweyd fod dyddiau y Quacks wedi myned heibio, ac na chydnabyddir neb mwyach ond y gwir Ddoctoriaid—dynion wedi graddio eu hunain drwy dalent a theil- yngdod, ac nid marchog hen geffyl benthyg a fyddo wedi cael ei brynu am ryw bedwar a grot ar y Cyfandir. Mae nhw yn dweyd fod y ddau frawd enwog Thomas Thomas, Cwmdar, a William Gwi- lym, wedi troi yn Dory, a bod y I laenaf am gynyg ei hun yn aelod seneddol dros Bant-y- ffiash, a'i olaf dros y lie mawreddog hwnw a elwir Tai Pen-y-Waun. Traul yr etholiad i gael ei gymeryd allan o'r County Stock, heb ofyn caniatad Canghellydd y Bwrdd Iechyd. Mae nhw yn dweyd y dylai Llwyd y GWLAD- GARWR tynu cael darlun prydferth o Henry- Richard i'w osod yn y papyr, fel coffadwriaeth am adeg y chwyldroad mawr, ac helaethiad yr etholfraint. Mae nhw yn dweyd fod gobaith am gyf- newidiad mewn llawer o bethau, ac Y11 neill- duol y Mines Inspection Act. Mae nhw am ganu ffarwel hyd dro aralL Yr eiddoch, HWYNTHWY.
YR YSGOL FARDDOL.
YR YSGOL FARDDOL. LLYTHYR XX. DAFYDD.—Yn awr, fechgyn, gadewch i ni gael tro dros y rhai a elwir Beiau Gwaharddedig Gerdd Dafod. JOHN.-Ie'n wir, y mae an gen ychydig eg- lurhad ar amryw o'r rhai hyn oblegyd y mae rhai o honynt yn lied anhawdd eu deall, tra y mae ereill yn ddigon eglur. Y mae 15 o honynt, onid oes ? DAFYDD.—Fe nodir 15 yn y Gramadegau yn gyffredin, a'r fFordd oreu fydd i ni fyned drostynt yn rheolaidd, gan ddechreu gyda y bai a elwir 1. Twyll Awdl, neu twyll odl. A oes rhywbeth yn aneglur i chwi yn nglyn a'r bai hwn ? RHYS.- Wel, nac oes o herwydd y mae yn ddigon amlwg mai yr hyn a ddeallir wrth twyll odl yw hyn, sef bod dwy linell fyddo'n ateb eu gilydd yn diweddu mewn odlau gwa- hanol. Achosir hyn trwy ddefnyddio llefar- iaid anmhriodol i ffurfio y seiniau sydd i ateb eu gilydd, megys gosod u ac y i ateb eu gilydd fel hyn On Gwilym fydd esgeulus Ar y faine fe dyr ei fys. Yn y llinellau hyn mae us ac ys wedi eu gosod i gydodli, yr hyn sydd feius. DAFYDD.—Yn awr, gan fod y bai hwn yn ddigon eglur, ni awn at y bai a elwir 2. Twyll Gynghanedd. Twyll gynghanedd, neu wall cynghanedd, yw bod llythyren neu ychwaneg mewn llinell yn ei atal i fod yn gynghaneddol. Dyma ychydig engreifftiau A daw'r gelyn i'r golwg. Taro'r gwr nes tori 'i goes. Rhoes y dyn ar ei fin fel. Prynais ffon yn Aberhonddu. Yn y llinell flaenaf y mae'r d yn y gair daw yn ei rhwystro i fod yn gywir, am nad oes d yn ei hateb ar ol y gair gelyn. Buasai yn gywir fel hyn Daw'r gelyn du i'r golwg. Yn yr ail linell y mae yr r sydd yn canlyn y gair taro yn peri i'r gynghanedd fod yn an- nghywir, am nad oes r yn atebol iddi ar ol y gair tori. Buasai yn gywir fel hyn:— Taro'r gwr nes tori'r goes. Neu Taro gwr nes tori 'i goes. Yn y drydydd linell? chwi welwch fod y seiniau dyn a fin ar gyferj eu gilydd, yr hyn sydd aghywir. Mae y pedwarydd linell yn anghywir am fod dd yn y gair Aberhonddu heb un dd yn ei hateb ar ol y gair ffon. OWEN.-Mae hynyna yn ddigon eglur bell- ach. Ond beth am y trydydd fai a nodir, sef 3. Gormod odlau. DAFYDD.—Mae rhai o esbonwyr y rheolau yn gaeth iawn ar y pen hwn. Dywedant na oddefir i unrhyw sill fod mewn llinell, yn unodl a'i ddiwedd, heb i'r linell hono fod yn feius. Yr wyf fi yn methu yn lan a gweled y syniad hyn yn gywir oblegyd pe felly, byddai yn rhaid i ni beidio defnyddio amryw eiriau yn ein hiaith, i ddiweddu llinellau, am eu bod yn cynwys dwy sain unodl ynddynt eu hunain. Dyna y gair anian er engraifft. Pe bae y syniad a nodwyd yn gywir, nis gellid defnyddio y gair hwn i orphen llinell, heb i'r linell hono fod yn feius, am fod y gair yn cynwys dwy sain sydd yr un fath, sef an an. Mae y geiriau rhoddodd, a goror, &c., yrun fath yn cynwys dwy sain unodl; ac felly yn ol barn yr esbonwyr y cyfeiriwyd atynt, nis gellir defnyddio y geiriau hyn a'u cyffelyb i orphen llinellau, heb fod ynddynt ormod odlau. Ond mor bell ag wyf fi yn deall, y rheol yw, na ddylai un o'r gorphwysiadau fod yn unsain a'r brifodl; hyny yw, na ddylai yr un gair yn y linell ddiweddu yn unsain a'r brifodl megys,- Dyfroedd hallt geir o'r moroedd. RHys.-Wel, dyna ni yn deall hyn eto. Yn awr, dyro ychydig eglurhad ar y beiau a elwir Prout, Haner Proest, a Phroest Llefa/rog. DAFYDD.-4. Proest, yw bod yr orphwysfa, neu ganol y linell yn diweddu a'r un gydsain a'r brifodl, neu ddiwedd y linell; megys,'— Y dyled oil a dalwyd. Buasai yn gywir pe dywedasid fel hyn:— Y dyled oil a dalwn. Ond am fod d yn diweddu y gair dyled, a'r gair a dalwyd, y mae yn feius. Haner Proest, yw bod y cydseiniaid c. P. t. th. 11., ac g. b. d. dd. 1. wedi eu gosod ar gyfer eu gilydd, y naill yn yr orphwysfa a'r llall yn y brifodl, megys,— A eginodd y gwenith ? Gan fod dd yn gorphen yr orphwysfa, ac th yn gorphen y linell, mae yn feius. Buasai yn iawn fel hyn A egina y gwenith ? Proest Llefarog, yw bod yr orphwysfa a'r brifodl yn diweddu gyda llafariad, megys,- Gwelir llu yn gwylio'r lle-llu lie. JOHN.-Dos yn mlaen dros y beiau ereill yn awr, a dyro air o eglurhad ar bob un o honynt. DAFYDD.—5. Dybryd Sain. Mae y bai hwn yn lied debyg i'r un blaenorol. Hyny yw, gwaherddir i'r ail sain unodl mewn Gynghan- edd Sain ddiweddu gyda'r un gydsain a'r brifodl, megys,- Gwr glan o anian uniawn. Gallesid ei phasio pe buasai fel hyn :— Gwr glan o anian enwog. 6. Gamosodiad, yw body cydseiniaid yny rhan flaenaf a'r rhan olaf o linell yn afreol- aidd, heb fod yn ateb eu gilydd, fel hyn :— Barddoniaeth heb addurnau. 1234 1 3 24 7. Gwestawdl, yw bod yr un gair yn diweddu dwy linell mewn Englyn. 8. Trwm ac Ysgafn, yw bod seiniau an- nghydweddol yn gorphen llinellau, megys llwydd a dydd neu cwyn a gwyn llwyr a gwyr, &c. 9. Lleddf a Thalgron, sydd yn debyg i drwm ac ysgafn. Hyny yw, nad yw yn oddefol gosod seiniau hirion a byrion i ateb eu gilydd yn y prif odlau, megys,- Mantell dlos wisg y rhosyn, Hardda'r lIe ac urdda'r llifryn. ■L a Llyfn, yw bod yr orphwysfa a'r brifodl yn anghydweddu a'u gilydd; ac yn dygwydd pan fyddo dwy gydsain yn gorphen llinell, megys,— Tarw y graig yn tori'i gora. Y tarw gwyllt yn tori'i gorn sydd gywir. 11. Ymsaddr odlau sydd debyg iawn i broest, sef bod rhan o'r orphwysfa yn ymdebygu i'r prifodl, megys:— Enwog iawn yw hwnw gwn.—wn-wn. 12. Garllaes yw bod dwy linell yn diweddu yn Iluosill, pan ddylai un fod yn unsill. Hyny yw, y mae pob penill o gywydd, a dwy linell olaf englyn, i fod y naill yn unsill, a'r llall yn dwy sill, a Garllaes yw enw y bai o osod y ddwy yn Iluosill. Mae hynyna yn ddigon eglur. 13. Garfyrder y gelwir y bai o osod dwy linell nesat i'w gilydd i ddiweddu yn unsill, pan ddylai un fod yn lluosill. 14. Rhy Debyg. Cymer y bai hwn le pan fyddo yr orphwysfa a'r brifodl yn yr un acen, ac mor debyg i'w gilydd o ran sain, fel nafydd ond llythyren feallai yn eu gwahaniaethu, megys Hardd eu gwedd mewn urdd a gwen Yw llawer o rai Uawen. 15. Tor Mesur yw gosod gormod neu rhy fach o silliau mewn llinell, sef gosod mwy neu lai nag a ofynir yn ol y rheolau. Gan fod hyn yn ddigon dealladwy, ofer fyddai ymhelaethu. Mae y Beiau mewn synwyr hefyd yn ddigon eglur, fel nad oes achos ychwanegu. Dyma ni bellach wedi myned trwy y gwa- hanol Gynghaneddion, y Goddefiadau, a'r Beiau a gobeithio nad ydyw yr ymddyddan- ion wedi niweidio neb. Os bydd i'r ymddyddanion hyn gymeryd ffurf arall rywbryd, ymhelaethwn ychydig ar y gwaharddiadau, &c.; ond am y presenol ni a gauwn yr Ysgol ar hyn. (Diwedd.)
MADOG LljWYD.
MADOG LljWYD. PENOD V. Taerai Iolo Goch mai y baban oedd yn ei freichiau ef oedd Hywel, gan fod ei dalcen yn fwy llydan, ei lygaid yn fwy eryraidd, a'i fraich yn fwy cadarn-gryf. Na, na," sylwai Tudur, yr hwn sydd gyda mi ydyw Hywel, gan ei fod yn llai o faintioli, yn llwynogaidd ei lygaid, a'i ben yn fwy cul- eneidiol na Madog, y cyntaf-anedig efillol, a enwyd genyf fi." "Yn wir, nis gellir eu gwahaniaethu," meddai Rhys o'r Gilfach, yn ei ffwdan wrth ddychwelyd, y maent yr un lliw eu llygaid, yr un wallt, yr un lais, yr un ben, yr un ffurf eu haelodau, a'r un fath eu dillad gwell eu hail enwi, a bod yn fwy gofalus o hyn allan." Yr wyf fi yn cydolygu a Rhys," meddai y y tad, nis credaf fod un gwahaniaeth hanfodol o bwys rhwng y naill a'r llall. Dyma'r mab a enwais i," ychwanegai Iolo, dywedais y pryd hwnw mai Hywel oedd y rhagoraf mewn ymddangosiad,-ac wele ef, y diniwaid bach." Na, taw a'th lol," atebai Tudur, tyred a'th Hywel i mi, fel y caffom brawf arnynt." Yna gosodwyd y ddau ar arffed Tudur, ac archwiliwyd hwynt gyda manylder, tra yr oedd y fam yn y gwely yn chwerthin am ben penbleth y gwmniaeth. Yn awr, Llewelyn," "onid yr un a alwai Iolo yn Hywel yw y mwyaf penfawr a golyg- us ? Gosodwch eich llaw ar ei ben, a gwelwch ei ragoriaeth ar y llall." Wel, ynte, dichon fod rhyw fymryn o ragoriaeth yn fy maban a eilw Iolo yn Hywel, a dichon mai efe yw yr Hywel wirioneddol," atebai y tad. Yr wyf yn sicr o'm mater," ychwanegai Tudur gyda thon ac agwedd benderfynol," neu gadawer i'r fam garedig benderfynu y ddadl rhyngom." "Yn awr, fy anwyl Angharad," meddai Llewelyn, "rhaid i chwi am unwaith foddio cywreinrwydd y beirdd yma, trwy nodi idd- ynt, os medrwch, p'un yw Madog." Os gwna felly, gallwn wybod yn rhwydd p'un yw Hywel," meddai Iolo, gyda gwen haner gellweirus. Estynwyd y rhai bychain i freichiau eu tyner fam, yr hon a sylwai wedi rhoddi icldynt bob o gusan,- Y mae arnaf ofn y caiff y rhai bach anwyd genych wrth eu hofran oddeutu yn y dull hwn. Ond at y prawf; wele fan cyn geni" llwydgoch ar ddeheulaw yr henaf, yr hwn a enwyd genym yn Madog, tra nad oes yr un yn perthyn i Hywel ei frawd." "Ha! ha!" bloeddiai Tudur, "dyna fi wedi enill; Madog yw'r goreu-Madog fydd yr arwr Canlynwyd ef gyda dwy linell farddol gan Llewelyn "I ddweyd wrth deimlad heb un gwall, Does tebyg byth i hen wr dall." Yr wyt wedi fy nghuro y tro hwn, yr hen batriarch barddol," meddai Iolo, gan ychwan- egu,— Os "man cyn geni ar ddeheulaw, Arwydda, meddir, erchyll frwydraw." Gyda bod Iolo yn gorphen, wele Rhys ap Dafydd yn estyn llaw ffarwel mewn modd gwresog i'r gwmniaeth, gyda sisial "llwy4<"a thangnef" yn nghlust Llewelyn, wrth groesi'r