Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y TEULU GORTHRYMEDIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y TEULU GORTHRYMEDIG. PENOD XXXVII. "O'r nefoedd fawr, a ydyw fy mab Llewelyn etc yn fyw ?" llefai Gwenllian yn o phwyllog o lawenydd, gan redeg yn wyllt at Hopcyn a chusanu y llythyr. Hopeya yn agor y llythyr, a gweledenw Llewelyn ei fab ar y gwaelod wedi ei ysgrifenu a'i law ei hun, a chyda dagrau gorfoledd yn pistyllio dros el ddwyrudd, llefai allan,- Diolch i'r Mawredd, a mae Llewelyn fy mab yn fyw Yn awr byddaf farw mewn hedd- wch dyma fawn am bob croesau a cholled- ion." Yr holl deulu yn llosgl gan awydd i glywed cynwysiad y llythyr, ac yn cydlefain,— D&rllener y llythyr, darllener y llvthyr." Y gwr dyeithr yn cydorfoleddi gyda'r teulu yn y gobaith gwynfydus fod Llewelyn yn fyw. Hopcyn bron yn rhy gyffrous ei deimladau 1 allu eydymffarfio a chais y teulu diamynedd o ddarllen y llythyr allan. Cydlef gyffrous arall am i Hopcyn ddarllen y llythyr, yr hyn a wnaeth efe wedi adfedd- ianu ei hun:— "Quatre Bras, Mehefin 18, 1815. "Anwyl Rianl,- "Yr wyf yn fyw: cadwyd fi heddyw meg) s o safn angeu wrth ymladd a'r Ffrancod; yr ydvm yn ymbarotol am frwydr arall ar faes Waterloo; mae'r gelynion yn ffyrnig a gwaed- lyd sut yr ymdarawaf Duw yn unfg a wyr ond gwaeddaf yn faith y gelynion 'En avant, En avant!' sef 'yn mlaen, yn mlaen;' ie, yn mlaen nes llwyr orthfygu y gelynion. "Y mae y Cadfridog gwrolfrydig, Syr Thos. Picton, wedi syrthio yn anrhydeddus wrth wasanaethu el wlad. "O! fy nhad, pa fodd nad ydvch yn ateb fy llythyrau ? deg llythyr heb eu hateb Fy anwyl fam wedi anghofio Llewelyn ei mab Teulu'r Hafod wedt cefnu ar eu car Llewelyn yr hwn a'u carai fel ei enaid ei hun. "A ydyw Mari, fy Anwyl Fari o'r Ynys yn fyw a gweddw? Paham na byddai Marl wedi ateb fy lluosog lythyrau ? Ah! at tebyg y gallai yr hon a garwn fwyaf o bawb gefnu arnaf a'm aughofio ? Arglwydd cyfarwydda fy llythyr t ben ei daith, a chadw yn ddiogel deulu'r Hafod a Marify anwylyd. 0! Mari, mae dy enw cysegredig wedi el selio gyda sel cariad ar fy nghalon. 0. "Dywedwch wrth Mari fy mod yn aros yn ffyddlawn I'm haddunedau iddi, a byddaf cyn diwedd y flwyddyn hon yn ddyn rhydd yn rhodio heolydd byth-hoffus Gwalia anwyl, a Mari gyda mi, neu byddaf yn ysbryd digorff yn myd mawr yr ysbrydoedd "Rhaid i mi roddi yr ysgrifell heibio, dyma awm taranllyd magnelau y gelyn yn rhuo yn fy nghlustiau, a Napoleon el hun wedi dyfod i'r maes. "Les Francois sont icl! Ils's empaieDt de la ville "Eich mab, LLEWELYN JONES." Dafydd yn gwaeddi yn bryderus,—"Y mae brwydr Waterloo wedi el hymladd er ys mis, ond 0! a ydyw Llewelyn fy mrawd yn fyw?" Y gwr dyeithr yn sylwl, Hen Richard Tymawr fu yn achos i gadw y llythyrau, a thrallodi teulu yr Hafod efe a'i blant oedd yn carlo y llythyrau yn Ilythyrgod y Plascoch, ac yn eu cadw oil." Hopcyn yn edrych ar y post-mark, ac yn gweled fod y llythyr wedi cyrhaedd Llundain er; ys tair wythnos, ond el. foi wedi cael el gadw gan archfradwr y Tymawr. Gwenllian wedi ei chyffrol gymaint nes y syrthiai i lesmair, gan fwmian yn ddigofus — "Ow! hen Richard Tymawr, dinystrydd uffernol fy nheulu; mab Belial yw efe. v dyhiryn atgas!" Rhys yn sylwi,—"Beth ddywed Mari o'r Ynys am hyn ? Sut y gall ddarllen llythyr Llewelyn heb wrido ? bydd y llythyr yn sicr o'i gyru yn wallgof." "Ie, Llewelyn wedi cadw yn ffyddlawn i Mari (ond bachgen ffyddlawn yw Llewelyn, nid rhyw wlanen o ddyn), och! ond Marl wedi wyned yn eiddo arall-wedl anghofio Llewelyn, nis gallaf edrych mwy yn ngwyneb :Marl." Y gwr dyeithr yn sylwi o'r comel,-ccOyn- llun Richard Tymawr oedd y briodas; clywais ef lawer gwaith yn bygwth gwneud i Marl briodi cyn y dychwelai Llewelyn, fel y gallai ymddial ar deulu'r Hafod." "Diolch i'r nefoedd am na phrlodais i ddy- weddi fy mrawd," meddal Dafydd, gan ofyn, "Beth a ddywed Llewelyn fy mrawd os y dy. chwel a gweled Marl yn wraig i fab y Pistyll- gwyn? byddai ei fywyd yn uffern iddo nis gallai efe ddal y fath olygfa annaturlol a chyffrous—buan y byddai ei lety yn y gwall- gofdy neu'r bedd." "Pwy halodd y llythyr hwnw yn dyweyd fod Llewelyn wedl el ladd yn y rhyfel ? gofynal Gwilym. Y gwr dyelthr yn ateb,-ccCynllun Richard Tymawr cedd y llythyrau ffugiol; clywais ef Shyfforddi ei fab ar y mater cyn ysgrifenu aell erioed." Hopcyn yn trol yn fryslog at yr ymwelydd dyeithr, ac yn edrych yn myw ei lygaid, gan ofyn tddo, At nid Dafydd Morgan, gynt o'r Tyllwyd, yw ein hymwelydd presenol ? Cred- wyf fod ei leferydd yn el gyhuddo." Dafydd Morgan Tyllwyd, (canys efe oedd y gwr), yn syrthio ar el liniau o flaen Hopcyn, ac yn ymbil ag ef,—"O! Hopcyn o'r Hafod, myfi yw'r gwr, ni wiw i mi wadu gwn fy mod wedi syrthio i law cyfaill, yr hwn ni'm brad- ycha byth." Y teulu yn holl yn awyddus am ei helynt, a pha fodd y diangodd o alltudiaeth yntau yn myned dros yr helynt, ac yn gymyscedis agadroddiadau ereill yn sylwf,- 8 8 "Dedfrydwyd fi i ddeng mlynedd o alltud- iaeth benydol yn Jamaica; O'ch! treuliais bump o'r deg mlynedd, ac os oes uffern ddae, arol yn rhywle, alltudfa Lloegr yw hono; trin, iwyd fi fel y trinia yr ellyllon ysbryd y dam nedig—yn greulawn a dwrdiog, heb y mymryr lleiaf o dosturi trigareddol. Gorfodid fi weithio yn y blanhigfa siwgr, fel y niggers duon, heb foment o seibiant o chwech y borei hyd fachlud haul. Yr oedd fy ngwyliwr saru. yn arfog, ac yn ymddifyru fy ffrewyllu a'n: poenydio." "Ond sut y gallasoch ddianc, Dafydd bach!' gofynai Gwonllian yn syn-fyfyriol. Dafydd yn ysgwyd ei ben gydag edrychiac euog, a gofynai,- "Beth am Rachel a'r plant bach? rhaid I mi gael eu gweled cyn toriad gwawr; ond rhaid i mi i ymddyeithrio neu byddaf eto yr y ddalfa, a ch- Gwenllian yn ateb fod Rachel yn fyw, ond fod Rhys ei ail fab wedi marw. Dafydd yn cael ei daraw a mudandod pruddglwyfup, ac yn sefyll fel delw-farmor- aidd, gan nertholrwydd tristaol y newydd alarus. Hopcyn yn beio Gwenllian am fod yn rhy dafodrwydd yn rhoddiad y newydd. Dafydd o'r Hafod yn sylwi,— "Cafodd Dafydd, Tyllwyd, gam mawr gan Richard, Tymawr, a'i gwmni celwyddog; tyngodd Morgan o'r Garth gelwydd dychryn- llyd ar fater y bill hwnw y camgyhuddid Dafydd o'r herwydd." Y gwr o'r Tyllwyd gyda dwys ochenald yn mwmian,- "Georgy'r celdwad, mae el ysbryd yn fy erlid; dial, dial, claddu Rhys fy mab dyma'r ad-daliad am hyny, ie, am- Gwenllian yn dweyd yn nghlust ei phriod,- "Y mae rhyw faich o euogrwydd yn aflonyddu ar Dafydd, oes Hopcyn; ond ofawyf nad yw awyrgylch gwlad bellenig a chosbedigaeth galed wedi gwella dim ar foesau y gwr o'r Tyllwyd; 'os drwg cynt gwaeth wed'yn. Dafydd Morgan yn dechreu adfeddlanu el hun, ac yn cael ei holl yn galed am y dull a'r modd y darfu iddo ffoi o'i alltudiaeth. "Ciliafe o'r blanhlgfa yn nillad y warder melldigedig hwnw," meddai y ffoadur, pryd y gofynid iddo gan yr holl deulu, beth a wnae ei geldwad am ddillad y pryd hwnw, yntau yn ateb yn fyrbwyll,- "Nid oedd eu heisiau ar y lledfegyn diffaeth, yr oedd efe yn ddigon tawel." Hopcyn a'r teulu yn cymeryd yr awgrym, ac yn deall fod Dafydd, Tyllwyd, a Cain, o dir Nod yn frodyr mewn gweithredoedd. Dafydd, Tyllwyd, yn myned rhagddo,- "Newidlais ddillad a rhyw hen nigger caredig, ac wedi duo fy ngwyneb, er bod yn gyffelyb Iddo, dihengais i borthladd ar oror dwyrelniol yr Ynys, a llwyddais I gael gafael mewn cwch pysgota, ac yn hwnw yr anturiais i'r mor mawr llydan, mewn gobaith o gyfarfod a llong; codwyd fi i fyny gan long Yspaen- aidd wedi i mi fod dridiau ar y cefnfor mewn peryglon ac ystormydd; bu'r tri diwrnod I mi fel tair blynedd; a'r tair blynedd fel haner oes. Cludwyd fi i'r Yspaen, ac oddiyno i Gasnewvdd." Y teulu yn rhyfeddu a dweyd mai rhyfedd yw treigl dyn. "Wel, beth am y dyfodol Dafydd ? ofnwyf y rhaid ymddyeithro," dywedal Hopcyn. "Cofier mai Morgan Davies fydd fy enw o hyn allan, ac y bydd I mi ffuglo bod yn haner Sals o sir Fynwy neu Henffordd, a gweithio fel llafurwr oddiamgylch y ffermydd, ond mynaf ymweled yn ddirgel a Rachel a'r plant: druan o Rhys, ni chaf ei weled ef!" Yr ymwelydd hwyrol yn cael el roesawu i'r ystafell wely, a phan yr elal I fyny y grisiau cwympodd rhywbeth o'i logell yn ddi- arwybod lddo, ond a godwyd 1 fyny gan Dafydd o'r Hafod, y bachgen llygadgraff; ond beth oedd y trysor syrthiedig ond cyllell fawr a mlnlog, yn orlawn o yetaenau gwaedlyd, a haeral mab yr Hafod mai gwaed dynol ydoedd. Yu yr argyfwng rhwng haner y nos a chan- iad y ceiliog, clywai Dafydd Jones, yr hwn oedd wedi aros i lawr, rhyw gyffro yn ystafell gysgawl yr ymwelydd alltudiol, a brysiodd i fyny yn lladradaidd gan agor goleu o lantern orchuddiedig o flaen y gwr o'r Tyllwyd, yr hwn oedd wedi amwisgo ac yn prysur chwilio am ei gyllell. "O'r bradwr diefllg," gwaeddal Dafydd o'r Hafod gan el goleru, "yr wyt heb adael eto dy ystranclau gwaedlyd; dos allan o'r ty, neu cal syrthio yn gelain o'm blaen." Dafydd, Tyllwyd, yn dianc allan, a Carlo hen was ffyddlawn y teulu yn ei erlyn 1 bell- deroedd, gan ei ad-dalu a llawer brathiad miniog. Nos tranoeth, dyna'r newydd ar led fod yr alltud ffoedlg wedi ceislo troi i mewn i amaeth- dy cyfagos; adnabuwyd ef, a buan y cafodd fyned i'w le ei hun I dreulio gweddill ei oes. Yn awr, rhaid 1 ni gyfeirio ein camrau tua chymydogaeth amaethdy yr Ynys, a chael gweled helyntion y par feuanc newydd-briod- edig, y rhai nid ydynt eto wedi ymadael i'w preswylfod newydd. Cyrhaeddodd y newydd fod teulu yr Hafod wedi cael Ilythyr oddiwrth Llewelyn 1 glustlau John Morris, y priodfab, a chafodd y briodas. ferch rhyw sibrwd i'r un perwyL "Dechreuodd Mari bruddhau cyn bod y mel-fis allan, ac ymneillduai i'w hystafell ddirgelaidd er dwys fyfyrio ar ei byrbwylldra blaenorol, a dyfalu pa beth 1 wneud yn y dyfodol. Ond gwnaed ei gofid yn fwy ar dderbyniad y Ilythyr a anfonwyd gan Llew- elyn o'r Hafod at ei rieni; derbyniodd ef mewn amlen gyda'r post, yn anfonedig gan un o fechgyn yr Hafod. Daeth yn amser eyfyng bellach ar Mari o'r Ynys, ni feiddial ddadlenu el gofidiau serch- drallodus yn awr fel cynt, gan ei bod yn wraig briod, ac yn eiddo arall. Ah! Mari, ieuodd ei hun yn anghydmarus gyda'r hwn nad oedd el chalon yn ei garu, tra nad oedd sicrwydd digonol fod el hanwyl Llewelyn wedi marw. Wrth ymofidlo a chadw el meddwl Iddi el hun, yr oedd wedi myned mor wan-ysbryd, nes ei dychrynid gan sigliad deilen, neu sibrydiad gwybedyn, ac ofnai gyda phob trwst ei bod yn clywed Llewelyn yn dyehwelyd. Un boreu dyma lythyr fddi wedi el gyfeirio Mari Davies,' a phaa el agorwyd ganddi a Rweled o idiwith bwy ydoedd, meddianwyd hi gan bang o bruddgl WJ f llesmeiriol.

[No title]

DYDD LLUN Y SULGWYN.

[No title]

EANGDER A CHYNYRCHION YR Utf'…