Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

GAIR 0_t"LiRPWL.

AT TINMAN, YSTALYFERA. -

Y* rhyfel. I

Colliad Agerlong a 200 o Fywydau.

Y Diweddar John Stuart Mill.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Diweddar John Stuart Mill. Dydd Sadwrn, Ion. 26ain, am haner dydd, ym- gynullodd tyrfa fawr o bobl ar y Thames embankment i weled dadleniad cerflun o'r di- weddar athronydd enwog, Mr. John Stuart Mill. Y mae y cerflun wedi ei osod i fyny yn un o'r gerddi addurnol ar yr embankment. Saif yn yr ardd sydd gyferbyn a swyddfa y Bwrdd Ysgol. Yn mhlith y rhai oedd yn bresenol oedd Syr Charles Dilke, A.S., Mr. Shaw-Lefevre, A.S., Proff. Fawcett, A.S., a Mrs. Fawcett, Proff. Gold win Smith, a Mr. Arthur Arnold. Traddodwyd areithiau hyawdl ac addas i'r am- gylchiad gan Proff. Fawcett ac ereill. Y mae digon o gofadeiladau wedi eu gosod i fyny mewn gwahanol fanau o'r wlad i filwyr, morwyr, breninoedd, pendefigion, gwleidyddwyr, ac ereill, ond yn anfynych iawn bydd y cyhoedd yn malio am dalu anrhydedd eyffelyb i athron- wyr. Yr oedd John Stuart Mill, yn ddiau, yn un o athronwyr penaf yr oes. Bu iddo luaws o elynion hynod anhael, ac adolygwyr tra annheg yn ystod ei oes, ond fel ag y dywedai Proff. Fawcett, fe fydd cOf am John Stuart Mill, fel ^kronydd, fel meddyliwr, ac fel dyn, a bydd ei weithiau yn cael eu darUen a'u gwerthfawrogi pan fydd ei holl elynion wedi marw, ac wedi eu llwyr annghofio.

Cyfarfod o Gynrychiolwyr y…

Y S E N E D D.

GENEDIG AETH A U.

[No title]

Advertising