Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

HARRI MORGAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HARRI MORGAN. Ffug-chwedl am ardal Llanstephan. PENOD YI. Oddiar pan y cafodd Augustus gwmni achlysurol Gwenllian, ni flinodd ar ei garchariad, ac ni hiraethodd yn ychwaneg am awr ei ryddhad. Pan yn cysgu, yr oedd ei freuddwydion yn llawn o gantores- au â'u gwynebau wedi eu gorchuddio; ac yn ami, ceisiai ddychymygu y gwyneb oedd o dan y gorehudd du hwnw—pa un ai llygaid duon, a gwallt cyn ddued a'r fran, yute y llygaid gleision-mor las a'r wybren -a gwallt euraidd a modrwyog. Ond ni wyddai i beth yr oedd gwynebpryd ei gyd- ymaith deg yn debyg. Pasiodd amryw wythnosau heibio, ac am ran o bob diwrnod, eisteddai Gwenllian wrth ei ochr i dreulio ymaith ei deimlad o unigedd. Darllenai iddo, a siaradent a'u gilydd ar wahanol bynciau, ac yr oedd y geiriau a ddylifent o'i gwefusau yn ei synu a'i foddloni. Ar ddiwedd ei hymweliadau dyddiol a'r careharor, hiraethai yn fawr am dalu yr ymweliad nesaf, a chael y pleser o fod yn ei gwmni. Cyffelyb deimladau a anesmwythai fynwes Augustus. Pruddha- ai calon y ddynes wrth gofio y byddai yn rhaid i'r un a hoffai hi mor fawr ymadael cyn hir; ac yr oedd y ffaith nad oedd efe i wybod ei henw hi ac eiddo ei thad yn peri gofid iddi, ond yr oedd y pryder am ddirgelweh ei thad yn gryfach na hyny. Canfyddodd y cariad a fflachiai yn ei lygaid, a chlywodd y geiriau isel a sisialai wrthi, ond ei dyledswydd a'i gwaharddai i ddangos fod eyffelyb deimlad yn ei mynwes hithau. Pasiodd dau fis heibio, ac yr oedd ar fin ei adferiad, a'i nerth yn dychwelyd yn gyflym, pan yr hysbysodd Harri ef y gallai ymadael yn mhen wythnos arall. Ni rodd- odd y newydd hwn un temlad o lawenydd i Augustus; ac ychydig oriau yn ddiwedd- arach, fel yr ydoedd yn sobr-fyfyrio, daeth Gwenllian i mewn i'w ystafell. Cyfododd Augustus i'w chyfarfod, ac eisteddasant i lawr law yn llaw. Ychydig iawn a siarad- ent a'u gilydd, ond yn awr ac eilwaith esgynai ochenaid hyglyw o fynwes y cariad- fab. Foneddiges," meddai, eto yn dal ei llaw, nis gwn yn mha le ydwyf, na phwy sydd yn fy amgylchynu; ond hyn a wn- yr ydyeh chwi, gyda gofal a thynerwch angyles, wedi fy ngwylio, ac wedi gwneyd carchariad yn well na rhyddid. Ond, yn mhen ychydig ddyddiau, bydd yn rhaid i ni ymadael-efallai am byth. Cyn yr af, caniatewch un dymuniad o'm heiddo- gadewch i mi weled gwyneb yr un sydd yn teyrnasu ar orsedd fy mynwes ddydd a nos -yr un nas gallaf beidio caru tra chura fy nghalon-yr un sydd yn feddianol ar fy nghynged dyfodol, i drengu mewn siomed- igaeth ac anobaith, neu byw yn nghwmni yr hon a wna'r ddaear yn nefoedd i mi. Chwi ganiatewch hyn? Na phetruswch, fy anwylyd—dywedwch y gwnewch. "Nis gailaf-ni feiddiaf, ebe Gwenllian gan ocheneidio yn anmwriadol, ac yn crynu yn annghyffredin yn ei sefyllfa gythryblus, tt ac nid yw yn werth edrych arno, ych- waith." "Fy anwylyd, duwies fy hapusrwydd, oddiar pan ydwyf wedi bod yn eich cwmni swynol, ni ofynais unrhyw gais i chwi ond y dymuniad taer hwn-gweled gwyneb yr hon a ymddygodd tuag ataf gyda'r fath diriondeb digymhar. Gobeithiwyf nad yw y meddwl atgas wedi goresgyn tiriogaeth nefolaidd eich mynwes y bydd i mi fyth eich bradychu. A ydwyf yn debyg i un a roddai ei gyfeillion i fyny ?" "Nac ydych—ni feddyliajs am y fath beth," oedd yr ateb; ond 'ni feiddiaf ei wneyd," ebe y gariadferch, gan dori allan i wylo, a gollwng ei phen i orphwys ar ei fynwes. Gosododd ei law ar ei hysgwydd, a chyffyrddodd a'r rhuban a sicrhaai y gor- chudd-cymhelliad y foment ydoedd—tyn- odd y rhuban yn rhydd, disgynodd y veil, gan ddatguddio i olygon swynedig Augus. tus yr hyn a fu am wythnosau yn hiraethu cymaint am ei weled—gwyneb prydferth a gwallt euraidd Gwenllian Morgan Syll- ai ar ei gwynebpryd dysglaer fel pe b'ai yn berygl bywyd iddo golli golwg arno, yr hyn a baro id iddi wrido ond yr oedd mwy o bryder na digter yn weladwy yn ei gwyneb. Yn araf dreiglio ar ei gruddiau llyfn a rhosynaidd oedd y dagrau-cenadon didwyll y galon-ond Augustus a'u cusan- ent i ffwrdd bob yr un, ac ymddangosai fel pe carasai gyflawni y gorchwyl melus am oes ddiderfyn. Eisteddodd, gan sugno ded- "wyddwch o geinder ei gwyneb. Pasiodd deg diwinod heibio, ac ar bob un ohonynt, yn absenoldeb ei thad, eistedd- odd Gwenllian yn nghwmni Augustus heb y gorchudd ar ei gwyneb. Eto, ni wyddai efe ei henw; a phan ddymunodd arni i'w hysbysu, Ni feiddiaf" oedd ei hateb, gan wylo yn ddystaw. Dywedodd wrthi ei enw ei hun. Gel- wch fi yn Augustus—eich Augustus chwi; ond ymbiliaf arnoch chwitbau i ddywedyd Iffrthyf finau yr enw* a gaf yr hyfrydwch o'ch galw chwi, fy nghariad. A ydych yn fy nrwgdybio i ? Na, na, nid wyf yn gallu meddwl eich bod yn tybied unrhyw ddrwg am danaf. Fy anwylyd, maddeu- wch i mi am ofyn mor daer am eich enw. Ond mor wir a bod y delyn yna, nis gallaf fyw yn hapus heb gael enw yr hon a gar- wyf mor angerddol. Sut y gallaf eich darbwyllo fod yr hyn a lefarwyf yn iaith calon ddidwyll? Yn ystod y llefariad ymbilgar hwn o eiddo y swyddog caeth, disgynai dagrau y ddynes olygus yn gyflym, canys gwyddai y byddai dweyd ei henw ei hun yn gyfartal i ddweyd enw ei thad, yr hyn a'i bradychai ar unwaith, a'i drosglwyddo i'r grogbren. Eto, yr oedd Augustus yn gwasgu arni yn fwy-fwy; a chan fyned ar ei liniau, cododd ei llaw i'w wefusau, ac ar y pryd daeth Harri i mewn i'r ystafell yn ei ffug-wisg arferol. Neidiodd y smuggler yn ol mewn syndod. Beth ebe ei lais cynhyrfus a chaled. Beth a wnaethoch ? Dangos eich gwyneb, dirgelu fy enw, a bradychu eich tad Oh, fy nhad, nac ydwyf," llefai Gwen- llian, gan daflu ei hun i'w freichiau, nid ydwyf wedi eich bradychu. Peidiwch digio wrth eich Gwen fach Gwen!" gwaeddai Augustus mewn llais llawn o syndod ac hapusrwydd dir- fawr,—" Gwen! Bendith ar y gair!" Ac y mae y gair hwnw yn raff i grogi eich tad," meddai Harri wrth ei ferch. N ac ydyw, syr," atebai Augustus, a'i ysbryd yn cymeryd tân. ar unwaith, ond trysoraf v gair hwnw yn nyfnderoedd fy nghalon fel enw un sydd yn anwylach i mi na'r bywyd a arbedasoch." Yr wyt yn siarad fel penboethyn," ebe Harri wrth y swyddog, ac wedi ymddwyn yn annheilwng o'm gofal ohonot trwy ddifa heddwch fy nheulu. Ewch i'r ystafell arall, Gwenllian-chwi fuoch yn ffol!" Ufuddhaodd Gwen i'r gorchymyn yn ddiseremoni, gan wylo yn chwerw. Yn awr," meddai Harri, gan droi at Augustus, nis gelli aros yn hwy dan fy nho i. Parotoa dy hun i fyned. Deuaf a cheffyl i'th gludo at dy gyfeillion, perthyn-. asau, neu i'r lie y mynot. Ond gan i ti ddyfod yma 4th lygaid yn guddiedig; rhaid i ti ymfoddloni myned oddiyma yn yr un modd." Ymddiriedwch yn fy anrhydedd," ebe y swyddog swynedig. Nis gall fy natur ymostwng mor isel a bradychu yr hwn sydd wedi gofalu am danaf, a thrin fy nghlwyfau gyda'r fath dynerwch, am gynifer o wyth- nosaa. Y mae yn anmhosibl." Yr wyf yn amheus o hyny," meddai y smuggler cyfrwys. "Mi ymddiriedais yn dy anrhydedd na fuaset yn holi cwestiynau, ond tydi a'i torais; gan hyny, gwell bod yn sicr o bobpeth. Bydd yn barod pan ddeuaf yn ol." Ar hyn, aeth Harri allan o'r ystafell ag argraff penderfynol yn ei wyneb- pryd. (I'w barhau.)

YN NGHYD A DESGRIFIAD O'R…

Fferylliaeth Pethau Cyffredin.

DARWINIAETH.