Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

WESLEYAID CYMREIG LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WESLEYAID CYMREIG LLUNDAIN. Ni chyhoeddir adroddiad blynyddol ynglyn a'r eglwysi Wesleyaidd Cymreig sydd yn y ddinas, rhagor nag sydd angenrheidiol at ofynion cyffredinol yr enwad; ond y mae'n briodol gwneyd ychydig syiwadau arnynt yr wytbnos hon, gan mai ar ddechreu yr wyth- nos y bu eu prit gynulleidfa-yng Nghapel City Road-yn cynhal eu cynulliadau pre- getbu blynyddoi. Un bugail sydd gan yr enwad i ofalu am yr adran Gymraeg yn Llundain. Y mae yma un capel hardd a chyfleus ganddynt yn City Road -gerllaw i gapel mawr John Wesley ei hun; tra y mae dwy gangen eglwys,—yn Gothic Hall, Oxford Street, a Poplar-yn gwneyd nawer iawn 0 waitb. Nid yw'r cynulliadau erioed wedi bod yn Iliosog iawn, ond pan yr ystyriom y gweith- garwch sydd mor nodweddiadol o'r aelodau y mae'n syndod na fuasent cyn hyn wedi llwyddo i gael digon o waith a digon o faes i ddau fugail o fewn y cylch. Hwyrach fod a fyno'r ffaith mai enwad Seisnig yw Wesleyaeth, ac fod y tueddiadau Seisnig yn eu haddoliad, fel ag y mae'r cysylltiad Seisnig' mewn Anibyn- iaeth, yn llawer o rwystr ar ffordd cynydd drwy roddi cyfleusderau i aelodau o'r wlad i redeg at acbosion Seisnig yn hytrach nag at eu pobl eu hunain. Nid felly y dylasai fod, a pburion o beth i'r Wesleyaid yn ogystal ag i rai o'r eglwysi Anibynol, fyddai gosod mwy o nod Cymreigaeth ar yr addoliad, fel ag y gallo pawb dieithr weled y gwahaniaeth rhwng oerni gwasanaeth y Sais a'r cynhes- rwydd naturiol a'r wedd gartrefol sydd mor nodweddiadol o'n heglwysi ni. Anfantais arall, yn ddiau, yn enwedig mewn dinas fel Llundain, yw y cyfnewidiadau par- haus a gymer le yn y fugeiliaeth yn ol cynllun yr enwad. Cymer fwy o amser i weinidog i ymgydnabyddu a chynulleidfa wasgarog fel ag a geir yn Llundain nag a wna yn y wlad, a'r canlyniad yw fod un bugail yn myned a'r Hall yn dod cyn y delo yr holl wrandawyr i gysylltiad gwirioneddol a'u harweinydd. Ar hyn o bryd gofelir am yr achosion gan y Parch. R. Llowd Jones, a daw yn olynydd i rai o wyr galluocaf ei enwad, a hyderwn y caiff dymbor llwyddianus yma a chynhauaf, toreithiog fel ffrwyth ei lafur a'i gariad. Cynulliad bychan, mae'n wir, sydd yn y Gothic Hall; ond gan mai pobl ieuainc yw y mwyafrif o honynt, y mae'r rhagolygon yn addawol iawn, a chydag ychydig mwy o an- turiaeth ac ysbryd cenhadol ni fyddai'n syn- dod genym weled Gothic Hall yn dod yn lie pwysig maes o law. Gwanaidd yw yr achos yn Poplar, eto, gydag ychydig egni a brwdfrydedd gallesid ei eangu gan fod maes rhagcrol yn y cylch hwn. CITY ROAD. Ond, fel y sylwyd eisoes, Capel City Road yw canolfan eu cynulliadau, ac y mae'n foddhaus nodi fod yr achos yno yn parhau yn dra llwyddianus. Yr unig faich sydd ganddynt yn awr yw gweddil1 y ddyled ar y capel. Cyrhaedda hwn dros saith gant o bunau ond y maent wedi gweithio yn galed ar hyd yr amser i'w ddwyn i lawr mor isel. Ychydig yw nifer yr eglw) si Cymreig sydd wedi casglu cymaint o 1 arian i ddiddyledu eu capel, ag a wnaed gan gyfeillion aches City Road pan ystyricm eu nifer. Prif ncdwedd y cynulliadau wythrcsol ar hyd y blynyddau yw, eu gwedd gynadeithasol. Ac y mae'r coffee suppers" asefydlwyd pan cedd y Parch. Hugh Hughes yma, wedi bod yn atdyniad buddiol i'r eglw) s a'r achos. Wrth daflu cipdrem ar y tymhor sydd newydd orphen y mae'n dda genym allu dyweydmai tymhor llwyddianus iawn a gaed. Dywed gobebydd Ileol eu bod wedi cael chwech o'r cynulliadau cymdeithasol yma yn ystod yr amser, a llwyddasant i gael elw rhagorol oddi- wrthynt tuagat gronfa'r capel; ac oddiar eu cychwyniad rai blynyddau yn ol y mae y ddyled yn dri-chan'punt yn llai, drwy y rhai hyn yn unig. Mae capelau ereill wedi canfod gwerth arianol y cynulliadau difyr yma, a'r canlyniad yw fod yna berygl i bob capel bron efelychu pobl anturiaethus City Road, a chynhal math o swper goffi bob wythnos. P^pcawsid hyny, diau na welsid yr un addoldy Cymreig o dan ddyled yn ein mysg. Y GYMDEITHAS LENYDDOL. Hefyd, y mae'r Gymdeithas Ddiwylliadol a Llenyddol ynglyn a'r lie wedi cael tymhor llwyddianus iawn. Caed ymysg pethau ereill ddadleuon pybyr gyda Chymdeithasau Wilton Square ac Eldon Street, a Ilwyddwyd bob tro i gael hwyl anghyffredin o bob tu. Rhoddcdd y gweinidog—Parch. R. L. Jones-bapyr galluog ar Paham yr wyf yn Wesleyad," a bu'r Parch. T. Wynne Jones, Finsbury Park, yn rhoddi ei adgofion am y cewri Wesleyaidd —Bglwysbach, Dewi Mawrth, Vulcan a Chyn- faen. Gan yr aelodau eu hunain caed papyrau, dadleuon a chyrddau amrywiaethol a brofent fod yma ddyddordeb canmoladwy yn cael ei deimlo yn mhob peth a berthyn i Gymreigaeth ac i ddyrchafiad moesau a chref- ydd yn eu plith. Boed llwydd ar yr achos eto yn y dyfodol.

DAETH ADAR Y GOEDWIG I GANU.

ACHOS GOFIDUS YNG NGOGLEDD…

CYNHELIR EISTEDDFOD HOLLOWAY

Advertising

Oddoutuyr Ddinas.