Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Gsfdieutu'r KSelmaSm

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gsfdieutu'r KSelmaSm r Ein Ilongyfarchiadau i'r bardd coronog- y Parch. Silyn Roberts, Lewisham. Cafodd ei bryddest ganmoliaeth uchel gan y beirn- iaid. 'Roedd Dafisiaid y ddinas oil yn yr Eis- teddfod eleni. Miss Teifi Davies, Miss Maggie Davies, Mri. William Davies, Madog Davies, Emlyn Davies a Ffrancon Davies, heb son am gatrawd o efrydwyr o dan reolaeth Mr. Maengwyn Davies. <" Mr. Edward Owen o'r India Office a wyr oreu beth i wneyd a'r hen Records a welir yn swyddfeydd y Llywodraeth, ac awgryma efe y dylai'r Llywodraeth ar unwaith benodi rhywun i ymgymeryd a gwneyd rhestr o'r cyfan. Mae angen mawr ar i'r wlad ddod o hyd i gynwys rhai o'r hen hanesion hyn. • Yn ystod Gwyl Bangor, aeth degau o Lun- deinwyr am dro i ben y Wyddfa, a dywedir i Chelsea Boy," dydd Mercher. ganu yno nes gwasgaru y niwl i bellafoedd Ynys Manaw. » » "Pencerddes Teify" yw enw gorseddol Miss Teify Davies ar ol hyn. Cafodd ei hurddo ym Mangor dydd Gwener diweddaf. m Tipyn o framp yw siarad ar ol bod haner dwsin o fobl wedi bod yn siarad yr un peth o'ch blaen, a dyna a deimlai Syr Isambard Owen wrth lywyddu yr Eisteddfod ar derfyn y dydd-dydd Gwener; ond fel meddyg fe wyddodd i ddod o hyd i -newydd-deb ynglyn a'r Wyl, oherwvdd cyffelybai hi i groen dyn, bob amser yn ffitio i gorff y genedl a byth yn treulio allan, ac yn adnewyddu ei hun bob tymhor J # Nis gall yr un Eisteddfod fod yn boblog- aidd heb Mr. Vincent Evans, a da oedd genym weled y derbyniad calonog a gaiff yn y gwahanol gyfarfodydd, oherwydd nid oes neb wedi gweithio mwy nag efe ynglyn a r Wyl yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf hyn. 3 Mae gwahanol farnau yn bodoli ar wisg- oedd yr Orsedd, p'un ai gwella ynte anharddu yr Wyl y maent ? Y mae rhai o'r frawdol- oliaeth yn edrych yn gampus ynddynt, ond gwell fuasai i ereill foddloni ar ddillad gwaith." Wrth eu gweled yng nghylch y cadeirio desgrifiai un Llundeiniwr hwy fel yn artistically hideous," ac y mae cryn lawer i ddyweyd dros ei farn. « Rhaid i gorau Cymreig ddihuno o ddifrif o hyn allan, ac erbyn Eisteddfod Queen's Hall, hyderwn v byddant wedi gwella digon i gadw meddiant o'r gwobrau beth bynag. Ar hyn o bryd nid yw'r rhagolygon yn rhyw ffafriol iawn. « Y Sul nesaf, a'r nos Lun canlynol (Medi'r 28 a'r 29), bydd Cyfarfodydd Diolchgar- wch am y Cynhauaf yn Eglwysi St. Padarn, Hornsey Road, a St. Benet, Queen Victoria Street, pryd y gweinyddir gan weinidogion arbenig. Nos Sadwrn nesaf (Medi 28ain), dechreuir cyfarfodydd blynyddol yr eglwys Fethodist- aidd yn Falmouth Road, a pharheir hwy drwy y Sul a'r nos Lun canlynol. Gweinyddir ar yr achlysur gan y Parchn. Thomas Jones, Rhostyllen, a John Hughes, M.A., Lerpwl. 0 0 0 Hefyd, ar yr un dyddiadau, bydd cyfeillion eglwys y Tabernacl, King's Cross, yn cynhal eu cymanfa flynyddol hwythau. Yn gweinid- ogaethu, bydd y Parchn. Robert Thomas, Glandwr, a W. J. Nicholson, Porthmadog,

HEN ENGLYNION.

BEDD FY MAM.!

[No title]

Advertising