Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

MEWN TEML BAGANAIDD.¡

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MEWN TEML BAGANAIDD. SEREMONIAU HYNOD A RHYFYGUS. PROFIADAU CYMRO MEWN GWLAD ESTRONOL. [GAN HENRY HERBERT, B.A.] Ar fy nychweliad i Gymru o ymdeithio mewn gwlad estronol cyfarfyddais a Mr. Gol. Gyda'i hynawsedd cynhenid, gofynai Mr. Gol. i mi, beth a welais ac a glywais ymhlith yr estroniaid y bu'm yn trigo yn eu canol, ac ar ol clywed peth o'm hanes. gofynodd i mi os gwnawn roddi adroddiad i ddarllenwyr y CELT o'r ddefod ryfedd welais yn un o demlau paganaidd y ddieithr-wlad. Un Saboth, digwyddais fod yn aros mewn tref fawr o'r enw Castrum Luddi, prifddinas yr Ymherodraeth elwir Ultima Thule. Gwelais pan godais fod yr holl ddinas mewn cyffro, ac fod y dineswyr yn tyru tuagat deml fawreddog ynghanol y dref, a elwid yn Eglwys Sant Gingulphus. Eis inau gyda'r dyrfa, ac ar y ffordd clywais beth oedd achos y cynwrf. Mae'n debyg fod pobl y wlad yn credu mewn Duw, ac yn eu credo ceir olio o'r ffydd Gristionogol. Yn wir, mae enw'r Athraw Mawr i'w glywed yn fynych ar wefusau'r offeiriaid yn y moddion cyhoeddusj ac y mae y bobl yn ymffrostio eu bod hwy yn wir ddeil- iaid iddo. Ond, fel y cewch weled yn y man, mae'r bobl mewn cymaint tywyllwch a phe na baent erioed wedi clywed son am y Gwr tlawd, isel, gostyngedig, cynefin a dolur. Y rheswm am y cyffro ar y Saboth hwn oedd, fod un o wyr mawr y deyrnas wedi gwella o glefyd peryglus. Fel y dysgais oddi- wrth y fforddolion, mae yn arfer yn y wlad ryfedd hon i osod un gwr neu un wraig yn ben ar yr holl wlad. Dewisir ef nid drwy lais y werin na thrwy ffafr y doethion, ond drwy dynu blewyn cwta. A phwy bynag a ddewisir, hwnw hefyd fydd yn ben ar yr Eglwys Wladol. Fel y clywais ar y ffordd i Eglwys Gingul- phus, yr oedd y llywydd, un Basileus, wedi clafychu yn ddiweddar, ac wedi ei ddwyn i Lyn Cysgod Angeu gan ei afiechyd. Ond drwy ddeheurwydd y meddygon a ffafr Rhag- luniaeth yr oedd ei iechyd wedi ei adferyd, a'r Saboth hwnw yr oedd Basileus a'i wraig a'r holl bobl yn tyru i Eglwys Sant Gingulphus i ddiolch am ei waredigaeth. Synais pan glywais, oherwydd nid oeddwn yn disgwyl gweled y fath beth yn Ultima Thule. Gwyddwn fod y wlad yn enwog am gyfoeth a masnach, am falchder bydol a thywallt gwaed: ond ni feddyliais y cawn weled yr holl bobl yn gwisgo sachliain a Iludw, yn gweddio am drugaredd,yn cyffesu eu hanheil- yngdod o flaen y Goruchaf, ac yn diolch Iddo am Ei dirionder. Dechreuais gredu fod y wlad, wedi'r cyfan, yn wlad Gristionogol. Pan ddaethum at yr Eglwys, canfyddais fod fy nisgwyliadau yn rhy uchel. Gwelais dyrfa fawr o wyr meirch a gwyr traed o flaen drysau'r deml fawr, yn nacau mynediad i mewn i neb ond i wyr dewisedig. Gollyngwyd fi i fewn am fy mod gyda chyfaill oedd ymysg y gwahoddedigion. Ai nid yw'r Eglwys yn agored i bawb" meddwn wrtho. "0, na," meddai yntau, nid i neb ond i garedigion a gwahoddedigion Basileus." Ond ai nid teml i Dduw yw hon, a pha fodd y gall Basileus wrthod mynediad i mewn i'r bobl ?" Basileus ydyw pen yr Eglwys," ebai yntau. Pan aethom i mewn i'r Deml, canfyddais filoedd o wyr a gwragedd mewn gwisgoedd symudliw amryliw. Paham mae rhai wedi eu gwisgo mewn gwyn, ac ereill trewn coch, ac ereill mewn du ?" meddwn. Offeiriaid a chantorion yw'r gwynicn,' ebai nghyfaill, "milwyr a gwyr y Ilys yw'r ccchion, a dineswyr yw'r duon." "Ond paham y gwisgant fel hyn ?" gof- ynais. Fel hyn y gofynodd Basileus iddynt atebai yntau. Ond pa hawl sydd gan Basileus meddwn inau, i orchymyn pa iodd y dylai addolwyr wisgo yn nhy Dduw ?" Basileus" oedd yr ateb yw Pen yr Eglwys." Beth mae'r holl offeiriaid yma'n wneyd ?" gofynais. Rhai o honynt sydd Archesgobion, rhai yn esgobion, ereill o radd iselach, ac y mae eu heisieu oil i ychwanegu at arddunedd a mawredd yr amgylchiad." u Ond beth sydd eisieu ebai fi, ond calon ddrylliog ac ysbryd cystuddiedig ?" Ond mae Basileus yn dod" oedd yr ateb, a Basileus yw Pen yr Eglwys." A pha eisieu sydd ebe fi ymhen tipyn, "am y milwyr ? A oes gelynion gan Basileus yma ? Na meddai fy nghyfaill, "gosodir y milwyr ar bob ochr i'r ale, fel y bydd i Basil- eus a'i wraig gerdded i fyny i'r allor drwy osgorddlu gwych." Ond ai nid teml i'r Iesu yw hon," meddwn, "acai ni ddysgodd Tywysog Tangnefedd ei ganlynwyr i ffieiddio'r cledd a'r waywffon ?" Dyma orchymyn Basileus" oedd yr ateb, a Basileus yw Pen yr Eglwys." Yna udganodd ugain udgorn, safodd yr holl gynulleidfa ar eu traed ac aeth Basileus a'i wraig i fyny'n araf tua'r allor, a'r esgobion yn eu canlyn yn ufydd a gwasaidd. Wedi cyr- haedd yr allor, eisteddodd Basileus a'i wraig wrthynt eu hunain ar ddwy gadair uchel, gan edrych i lawr ar y bobl. "Paham yr eisteddant acw?" gofynais dra- chefn. Ai nid yw pawb gyfuwch yng ngolwg Duw ? Ac ai nid mab y Saer oedd Iesu ?" Ond Basileus ebai fy nghyfaill," ydyw Pen yr Eglwys." Yna darllenwyd nifer o weddiau printiedig, ac ar ddiwedd pob gweddi canodd y cor Amen." Nid oedd gan y bobl hamdden i weddio, oblegid yr oeddent yn awyddus i gael syllu ar Basileus a'i wraig. Ac yr oedd rhai yn fy ymyl yn condemnio'r awdurdodau yn uchel am nad oeddent hwy wedi derbyn gwell seddau lie cawsent weled Basileus yn agosach. Ai nid dyfod yma a wnaethant" meddwn, i dalu diolch i Dduw ?" Ie, ie," meddai fy nghyfaill, ac i weled Basileus a'i wraig. Canys efe yw Pen yr Eglwys." Yn y gweddiau, diolchid i Dduw am eu dru- garowgrwydd, a gofynid Iddo gadw Basileus rhag ei elynion. Pwy yw ei elynion ?" gofynais. Paganiaid a deiliaid Tywysog yr Awyr ?" Nage 1" atebai fy nghyfaill. Buom yn ymladd yn ddiweddar a chenedl Gristion- ogol o'r un lliw a gwaed a chrefydd a ni, ac y mae'r Arglwydd wedi llwyddo'n harfau'n ddirfawr." "Ond yr ydych feallai ar fedr ymladd a'r Tyrciaid sydd yn merthyru canlynwyr Iesu, neu ryw baganiaid yn China neu Japan ?" "0 na I" yedd yr ateb, Mae'r Tyrciaid a ninau'n gyfeillion mawr, ac yr ydym newydd wneyd cynghrair a phaganiaid Japan." Ond pwy yntau yw gelynion Basileus Nis gwyddom eto, ond fe gawn wybod cyn bo hir gan y Rhaglaw Joseph. 'Dyw efe ei hun ddim yn eithaf siwr eto p'un ai Ffrainc ai'r Almaen ai Rwssia ydyw: ond mae e'n sicr o wneyd ei feddwl i fyny cyn bo hir ac yna, gweddiwn am i Dduw'n llwyddo yn erbyn unrhyw elyn fydd y Rhaglaw am ymladd ag ef." Ond, a wrendy Duw arnoch ?" Mae ein harfau a'n harian wedi trechu ein holl elynicn yn yr smser a fu a Basileus yw Pen yr Eglwys." Yna esgyncdd un o'r esgcbion i'r pwlpud, a darllenodd bregeth barotoedig mewn llai& beiddgar. Tradyrchafai Basileus am ei rin- weddau, ac yn enwedig am ei fod wedi cyd- nabod fed Duw yn fwy nag efe. uAywhynyna yn ihinwedd mewn gwr ?" gofynais. "Ydyw, yn Basileus atebai, oblegid efe yw'r mwyat o'r bob!, ac yn Ben yr Eglwys." Aethum inau allan o'r deml, gan gredu fod y bobl yn barod i waeddi pan welsant Basileus -fel y gwnaethant pan glywsant Herod gynt —" Nid dyn, ond Duw." Wedi hyny deallais- mai paganiaid yw pobl Thule, ac mai Teml Banganaidd yw Temi Sant Gingulphus.

TY'R GLEBER.