Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Pobl a Phethau yn Nghymru.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pobl a Phethau yn Nghymru. Y MAE Mr. J. Park Davies, B.A., o Landyssul, sy'n awr yn fyfyriwr yn Rhydychain, wedi ennill ysgoloriaeth Hibbert o werth -120 y flwyddyn am dair blynedd. TYBIR mai Lewis Thomas, o Ty'n Bettws, uwchben Cwm Ogwy, yr hwn fu yn Uchel- Sirydd Morganwg yn nyddiau Elisabeth, a ddaeth a'r tybaco gyntaf i Gymru. Yr oedd ganddo ddiadelloedd gorliosog o ddefaid ar y bryniau oddeutu cymoedd Ogwy ac Ogmor. Adwaenid ef oreu wrth-yr enw Llew Beef," ar gyfrif y darnau enfawr o gig eidion a harddent fwrdd ei neuadd. ACHOS o herwhela oedd yr unig fater a ddygwyd ger bron y Barnwr Lawrence ym Mrawdlys Brycheiniog yn Aberhonddu ddydd Sadwrn, ac nid oedd hwnnw yn un sicr, oherwydd rhyddhawyd y rhai a gyhuddid. CAED corph marw Mr. T. D. Thomas, Treorci, ar y rheilffordd yn agos i'w gartref ddydd Sadwrn diweddaf, ond ni wyddis pun ai trwy ddamwain ynte o fwriad y cyfarfyddodd a'i ddiwedd. Yr oedd yn agos i £300 yn ei logell pan gaed ei weddillion. Brodor o ardal Llanymddyfri ydoedd, ac yn flaenor parchus ers blynyddoedd yng Nghapel Gosen, Treorci. MAE Mr. W. Cadwaladr Davies ar fin cyhoeddi cyfrol yn gosod hanes cyflawn am sefydliad y Brifysgol Gymreig, a'r colegau ynglyn a hi. Sicr y bydd yn waith gwerthfawr, a dyma'r adeg i osod y ffeithiau yn briodol pan y mae prif arwyr y gwaith eto yn aros yn ein mysg. ESGOBAETH hen iawn yw Esgobaeth Llandaf er mai bychan a thylawd yw o'i chydmaru a mwyafrif yr esgobaethau Seisnig. Cafodd ei hysbeilio droion o'i phethau goreu, ac mae traddodiad yn dweyd heddyw mai yn Eglwys Gadeiriol Exeter y mae'r clychau a godwyd ar y dechreu yn hen Eglwys Llandaf. Os yw hyn yn wir, byddai yn werth eu cael eto'n ol. MAE cofiant i'r diweddar Barch. W. Ryle Davies, gweinidog am amryw flynyddau ar Eglwys Fethodistaidd Holloway, newydd ddod o'r wasg yn Nghaernarfon. Y PROF.FESWR Hugh Williams, o Fangor, sydd wedi ei benodi yn Ddarlithydd Davies o dan y Cyfundeb am y flwyddyn ddyfodol. ARGLWYDD WINDSOR sydd i lywyddu yng nghinio blynyddol Cymdeithas Gwyr Morganwg yn Llundain ar y 25 am o'r mis hwn. Addawa nifer o wyr enwog gwlad Morgan i roddi eu presenoldeb ar yr un adeg, ac yn eu mysg Syr E. J..Reed, yr aelod dros Gaerdydd.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
DELICIOUS COFFEE. RED WHITE BLUE 0 i, Pot* tSreakfast & after Dinner. r. — — i.1
A WELSH VICAR'S "GRAVE StN."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
A WELSH VICAR'S "GRAVE StN." We give below a copy of a remarkable letter, written by the Rev. Thomas Prichard, Vicar of Rhosllanerchrugog, protesting against the in- tolerant spirit of a neighbouring vicar shown on the occasion of the writer's committing the grave sin of entering a chapel and taking part in a funeral service (extemporaneously) held on the occasion of the interment of a Nonconformist friend:— "SIR,- This morning I received the following communication from a clergyman of the Church to which I belong :— Dear Mr. Prichard,-Is it a fact that at the funeral of ———— you went to the chapel in the parish and gave an address, and, if so, was it with the Bishop's permission ?— Yours truly, The facts are these. The son of a respected neighbour slept in Jesus the other day. I deeply felt for the bereaved father, and I went, as an ordinary mortal, to the funeral. I walked in the procession, and, last of all, I committed the grave sin of entering a chapel with the mourners and friends. Once within, the pastor came to me and asked would I kindly say a few words. Little realising what illegality I was committing, and with only five minutes for obtaining a dis- pensation, I ventured to utter a few words- simple, but which, I hope, came from the heart of a man as well as a vicar. I ask my countrymen Is this kind of thing to last for ever ? When bishops, nowadays, enter chapels and speak on ordinary subjects, is a clergyman who goes to a funeral, and with it enters a chapel, and there and then is asked to join in public expression of sympathy, always to say No,' unless a written permission be sent ? I have been to this clergyman's parish at Bible Society meetings, but always laid it down as a condition the obtaining of the gentleman's consent, but on going to .the funeral it never occurred to me that I should be asked to speak, and should therefore require a permit. If this letter, which conscience and Church interest compel me to publish, is to be law, then from this day forth let no clergyman of the Church who happens to enter a dissenting chapel with a funeral party ever be asked to utter a word of sympathy and consolation. If he be asked, he must reply 'No, no, no I have suffered much quietly on account of trying to act as man with man, and Christian with Christian-the curtain as yet covers it—but I could not allow this incident to pass without putting it to the judgment of the country. The gentleman who penned it must brave the publicity.—Yours in sorrow, "THOMAS PRICHARD, Vicar of Rhosllanerchrugog. «p.S.—I don't feel any personal ill-feeling towards the clergyman, but I am all frown on his narrowness."
GOLUD AC ADDYSG CYMRU, A'I…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GOLUD AC ADDYSG CYMRU, A'I DIWYLLIANT. Yr ydym yn mynych ymffrostio, ac nid heb sail dda, beth a wnaed y blynyddoedd diweddaf hyn yng Nghymru o blaid Addysg. Gan ollwng dros gof ar hyn o bryd, hyd y mae ynom, y gynnen a wthiwyd arnom gan eglwysigion an- ystyriol, y mae'n werth i ni ail-edrych ar sail ein hymffrost cyffredin, rhag i ni ymfalchïo yn rhy gynnar ac yn rhy ddifeddwl. Ofer fyddai i amaethwr siaradus, tua chanol haf, ein galw i edrych ar ei gae, dan ddweyd, "Welsoch chwi erioed hardded aredig ag a fu ar hwn; yr oedd pob cwys wedi ei thorri fel at drwch y blewyn, a phob grwn cyfan fel pe wedi ei gwblhau at fesur modfedd. Y gwir yw, yr oedd gwaith yr aradr mor raenus, mor ddifylchau, fel yr ydym wedi cadw rhan dda o'r cae yn ei gwys, heb ei hau, er mwyn y pleser o ddangos dawn ac amynedd yr arddwr." A fuasai'r olwg ar y grynnau llwydion, erbyn hyn wedi colli eu ham- linelliad cymhesur yn y gwlaw a'r haul, yn ddigon o dal am y gwenith absenol ? Cyfyngwn ein hunain yma i'r hyn a wnaed yng Nghymru dros yr hyn a elwir yn Addysg Uwchraddol. Byddwn yn hoelio'n sylw ar y Tri Choleg sydd wedi eu gosod ar fin, os nad yn swn, y mor ond bydd yna rywbeth arall yn amlycach i'r dychymyg, os bydd modd, na hwy; sef y Brifysgol, nad yw eto'n fawr gwell na rhith anamlwg i'r llygad. Bu Owen Glyndwr yn breuddwydio am dani-neu am fwy nag un, yn wir ac o freuddwydio am hyn, aeth ei gynllun ar bapur; ac yno yr arosodd. Llawer un ar ei ol a freuddwydiodd ac a gynlluniodd; ac wedi hir ddisgwyl, caed dechreuad pan agorwyd, y nawfed o fis Hydref, 1872, Goleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Hyfryd yw son am yr hyn a wnaeth ychydig o uchelwyr a miloedd o werin ein gwlad yr adeg honno, mewn offrymau gwirfoddol, er mwyn achlesu'r sefydliad new- ydd. Yno y gwelid arian y capel ac arian y chwarel yn aberu a'r un lliw oedd i'r ddau,- fel nas gellid fawr o'u gwahaniaethu,—lliw teimlad cenedlaethol, ac weithiau liw dyfnach aberth. Ac ni fu Golud Cymru heb wneyd ei ran y blynyddoedd hynny. Talent ar dalent yw'r dylir ;-ftyrling, Hadling ar hadli..g yr ehedlif. Ymhen deuddeng-mlynedd-ar-hugain pa le yr ydym? Pwy all awgrymu ein bod ar fin gorphen y gwaith da, neu yn wir fod y cariad cyntaf wedi aros heb oeri ? Pa le mae coleg- dai Bangor a Chaerdydd? Y mae o'r diwedd argoel am y cyntaf, ond nis gwyddom beth am yr olaf. Cymharer hyn a'r hyn a wnaed ac a wneir yn Birmingham neu Leeds, ac nid oes genym le i ymfoddhau. Ofer yw ceisio dadleu fod cyfoeth Efrog a'r Canolbarthau gymaint yn fwy. Mwy neu beidio, y mae digon o olud ym Morganwg a Mynwy, yn Ninbych ac Arfon -heb enwi ychwaneg-i fod wedi gwneyd yn anrhaethol well nag a wnaed. Pwy feiddia ddweyd fod y rhai sydd wedi crafangu golud Cymru, o'r mwn neu'r chwarel, wedi dirnad eu braint o gael cynorthwyo ei haddysg? Beth yw'r man ddefnynau sychlyd a geir ganddynt, yn ymyl gwaddoliadau llifeiriol Lloegr ? Credaf fod, ar hyn o bryd, rodd o ugain mil o bunau at adran arbenig yn Aberystwyth ardderchog hynny ond paham y mae y rhodd mor adfydus o unig ? Onid oes degau allasent, o ran moddion, gyflwyno rhodd gyffelyb ? Os yw yn ormod o aberth iddynt ei rhoddi wrth fyw, rhoddent hi wrth farw. Yr wyf wedi sylwi ar ewyllysiau rhai fuont feirw yng Nghymru y misoedd diweddaf hyn, gan adael ar eu hoi werth a rifid mewn cannoedd o filoedd o bunnau bob un; ond ni welais fod un o honynt wedi ewyllysio dim o'r pentwr Cym- reig hwn at y Brifysgol Gymreig. Bryniau a dyffrynoedd Cymru roddodd bron y cwbl iddynt; a Chymru fu raid roddi bedd i'w hesgyrn ond lie mae tal Cymru am ei holl gymwynasgarwch iddynt ? Ymddengys i mi, tra y mae cryn ddyddordeb yn y lleol, fod rhy fach o lawer yn y cenedl- aethol. Y mae'r Ysgolion Canolraddol sydd yn addurn i lawer treflan a thref yn brawf o hael- ioni rhanbarthol; ond ni ddylai'r haelioni ym- gronni yno. Ymhen ychydig flynyddoedd bydd yr adeiladau hyn-neu dylent fod-wedi eu llwyr ryddhau o ddyled. Y mae, drachefn, ysgoloriaethau ar y gwaelod, ac ar y ffordd i fyny; os nad ydynt yn ddigon i gyfarfod a'r anghenion, y maent o fewn mesur i fod. Ond edrycher ar frig yr ysgol: beth sydd yno, ar ol cael addysg, i feithrin yspryd Diwylliant?— (ELFED yn Y Geninen am Ionawr).
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
J. STRONG & SONS. Ltd., HIGH-CLASS PIANOS, 118, EUSTON ROAD. PIANOS BY THE HIRE PURCHASE SYSTEM AND ALSO FOR CASH. A large assortment by all makers is kept in Stock Terms from 10/6 per month. We undertake to say that better value and term cannot be obtained elsewhere.