Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU O'R EISTEDDFOD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU O'R EISTEDDFOD. Wedi bod mor hyfryd ag y gallesid .dymuno ddyddiau cyntaf yr wythnos, trodd y tywydd yn dra anffafriol yn Aberpennar bore dydd Mercher, o daliodd felly hyd ganol dydd Iau. Effeithiodd hynny lawer ar y cynulliadau, a mwy ar y brwd- frydedd. yn ystod y ddau ddiwrnod. Ond yr oedd y babell yn ddiddos hollol o dan y cawodydd trymaf, a da oedd hynny. Ymddiriedai y rhai oedd i mewn yn y to, ac ni chawsant achos i edifarhau. Lied deneu oedd y cynulliad yng nghyfarfod y Cymmrodorion bore Mercher, oherwydd y tywydd fe dybid. Ond cafodd y rhai ddaeth ynghyd anerchiad hanesyddol tra dyddorol gan y Proffeswr Anwyl ar Lenyddiaeth yr Eistedd- fod." Os dim, rhy fach o feirniadaeth oedd ynddo, ond profodd y Proffeswr mor oleu a'r dydd fod llenyddiaeth Cymru o dan ddyled ddirfawr i'r Eisteddfod. Hi feithrinodd ein holl lenorion o fri am fwy na chan mlynedd, a hi a gyfeiriodd ein lien at ddadblygiadau newydd- ion. Mae y Proffeswr wedi addaw darllen papyr eto yn beirniadu y lien a gynyrchwyd gan yr Listeddfod yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif. Cystadleuaeth udidog ydoedd y brif gystad- leuaeth gorawl prydnawn dydd Mercher. Ni bu ei rhagorach, os ei hafal mewn unrhyw eisteddfod erioed. Canodd pob un o'r pum cor fel pe yn benderfynol o fynnu y llawryf, ond ttid oedd cysgod amheuaeth pa gor a ganodd 0reu. Buasai yn foddlonrwydd mawr pe buasai y corau Seisnig a gariasant y dorch y blynydd- oedd o'r blaen yno i ymaflyd codwm gyda chor Brynamman. Cafodd Cor Portsmouth dder- oyniad cynnes, a chanodd yn dda, ond bu raid ^•do ymfoddloni ar fod yn olaf yn y rhedegfa. raid i Gymru ofni dim am ei llawryfau cerddorol yn y dyfodol, ond iddi fod ar ei goreu. Y mae'n syndod, pan gofir mor rhagorol oedd y brif gystadleuaeth, fod y cystadleuaethau corawleraill mor gyffredin. Ni throdd cystad- leuaeth y Corau Meibion allan cystal a'r dis- gwyliad, a siomiant i liaws ydoedd i Gor Llundain wanhau cymaint tua chanol y corawd. Am y ddwy gystadleuaeth gorawl arall, goreu po leiaf a ddywedir. Anhawdd iawn cyfrif am y gwahaniaeth. Dichon fod truenusrwydd y cynulliadau ddydd Iau wedi peri iddynt wan- galonni. Bu raid i'r beirdd gynnal eu Gorsedd dydd lau yn eu dillad eu hunain, a thynodd hynny lawer oddiwrth rwysg y seremoni y bore hwnnw. Ac eto yr oedd yn amheuthyn gweled plant Cerid- wen- Mewn cob, heb r6b,heb rubanu, Ar ddydd heb gywydd, heb ganu, ys dywedodd Cadfan. Ond ni fedrai y gwlaw na dim arall gadw y bobl rhag ymgynnull wrth y cannoedd o amgylch yr Orsedd. Mae honno yn dal o hyd yn drwyadl Gymreig, dim cysgod acen Seisnig ar ddim o'r gweithrediadau. A hwyrach fod a fynno'r ffaith na raid talu am fyned iddi-neu ati yn hytrach—rywbeth a'i chadw mor boblogaidd. Ond bid a fynno, oni bae am yr Orsedd buasai Eisteddfod Aberpennar yn gryn fethiant. Cadwodd beirniaid y Gadair y dirgelwch iddynt eu huna.in hyd y funud ddiweddaf eleni. Sibrydid enwau amryw fel yn debyg o ennill ruban glas" yr Eisteddfod, a chredai llawer mai cadair ddu a fyddai; ond sibrydion a thybiaethau gau oeddynt i gyd. Siomedigaeth ddybryd i'r beirdd oedd wedi mynd i'r drafferth o wisgo gwisgoedd eu gogoniant ac wedi parotoi englynion i longyfarch y gorchfygwr, oedd clywed y dyfarniad nad oedd un yn deilwng. Aeth llu o englynion yn ofer y diwrnod hwnnw, Diau y bywheir llawer ohonynt mewn eistedd- fodau dyfodol. Beirniad didderbynwyneb yw yr Athro John Morris Jones. Nid oes flewyn ar ei dafod pan yn dinoethi diffygion a ffaeleddau awenyddion. Ac y mae ef yn meddu y ddawn brin iawn honno i wneyd beirniadaeth yn ddyddorol i bawb a'i clywant. Llefara yn hyglyw, a theifl y mynegiant priodol i bob gair a brawddeg. Mae min ar ei watwareg sy'n cyrhaedd hyd wahaniad y cymalau a'r mer, a phan y cyfieithia ambell ymadrodd i'r Saesneg gyrr bawb yn deilchion. Ond y mae y llymder i gyd yn berffaith iach a diwenwyn, a'r holl sylwadau yn cael eu gwneyd er mwyn puro a choethi ein lien. Pe cawsid rhagor o feirniadaethau cyffelyb i eiddo yr Athro yn ystod y deng mlynedd-ar-hugain diweddaf buasai cynyrchion eisteddfodol yn llawer mwy awenyddol a difrychau. Deallaf y bydd ei feirniadaeth ef yn y rhifyn nesaf. Caed hwyl neillduol yng nghyfarfod unedig Cymdeithas yr Orsedd a Chymdeithas yr Eis- teddfod pan yn penderfynu ymhle y cynhelir yr hen wyl yn mhen dwy flynedd. Nid oedd ball ar ddoniau y gwyr arabus a ddadleuent hawliau Abertawe a Llundain. Ildiodd Llundain am fod Abertawe wedi gwneyd cais o'r blaen ddwy flynedd yn ol, ond yr oedd rhestr yr enwau wrth y cais o'r Brifddinas yn ddigon dylan- wadol i gario y dydd pe aethid i frwydr. Daw tro Llundain ym mhen pedair blynedd, ac nid yw yn rhy fuan i ddechreu parotoi er gwneyd Eisteddfod 1909 yn gynllun ac esiampl i'r holl eisteddfodau a'i dilynant. Ni fwynhawyd dim byd cystal yn yr Eistedd- fod eleni a chanu pennillion Eos Dar. Ni fedd yr Eos ail na thrydydd yn y gelfyddyd honno. Mae ganddo stor ddihysbydd o bennillion newyddion bob blwyddyn, a rhyw ergyd pert ym mhob pennill bron. Dywedir mai Watcyn Wyn a Brynfab yw awdwyr y rhan fwyaf o honynt. Rhai gwir ddoniol oedd pennillion Brynfab i'r bwydydd, lie y prophwydai y byddwn, os par- haem i fyw ar fwydydd estronol, yn fuan Yn feinach nag Eifionydd, ond os troem at hen yd y wlad y byddai Meibion Cymru Fydd Yn gyfydd hwy nag Hwfa.

Welsh Reforms.

Yr Eisteddfod.