Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
"Y GENINEN" AM IONAWR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"Y GENINEN" AM IONAWR. Rhifyn llawn o ddyddordeb ac amrywiaeth yw y rhifyn cyhtaf o'r Geninen am 1906. Ceir ynddo ysgrifau bywgraffyddol, llenyddol, beirn- iadol, hanesyddol, a hyfforddiadol. Ni feddwn fawr o duedd i gymharu a beirniadu y doraeth hon o erthyglau, y maent oil yn ddarllenadwy iawn. Cawsom flas neillduol ar "Adgofion" Mr. Eleazar Roberts, Nicander," Hwfa Mon; Eisteddfod Madog," y Parch. D. Griffith; a Hwfa Mon," y Prifathraw Rowlands. Nid yw yr erthyglau ar y "Tadau Pererinol," gan y Dr, Owen Evans; "Diweddar Esgob Llandaf," gan y Deon Griffith Roberts, yn ddim llai dydd- orol ychwaith. Traetha y diweddar Barch. D. Lloyd Jones ar "Ddyfnderoedd y Mor"; yr Athro D. Morgan Lewis ar Brifysgol Cymru a'r Wlad yr Athro Edward Anwyl ar Safon- au yr Iaith Gymraeg." 0 nodwedd arall yw Pythefnos yn Llandrindod," Myfenydd Morgan; a Cymro Oddicartref," gan Machreth. Traetha y Dr. W. P. Williams ar un o bynciau'r dydd, sef Hawliau Addysg Grefyddol." Cyfoethogir y rhifyn hefyd a lliaws o fan ddarnau barddonol; Cwyn Coll am Enwogion; Gweddillion Llenyddol; Gwehelyth, &c. Digon o amrywiaeth i foddloni pob math o chwaeth. Addawa y Golygydd arlwy gyfoethog eto yng NglzenÙzenGwyl Dewi.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
ERNEST S. JUPP, Cigarette Specialist & Tobacco Blender. Manufacturer of the Celebrated COURT BEAUTIES, Turkish, 6/= per hundred, in boxes, v and SANDRINQHAM, Virginia, No. I, 4/6 per hundred. 8, St. Afbans Place, St. James', S.W. -——— Agent for Smith & Co.'s Tobaccos. ———
Pobl a Phethau yng ,Nghymru.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pobl a Phethau yng Nghymru. Y GWIR Anrhydeddus D. Lloyd-George fydd y prif siaradwr yng ngwledd Gwyl Dewi a gynhelir yng Nghaerdjdd ar y 3ydd o fis Mawrth. AWGRYMIR y dylid gwneyd tysteb i Mr. William Jones, A.S., er ei gynorthwyo i dalu costau'r etholiad diweddar. MAE eisieu goleu yng Nghaergybi, ac mae'r I b Llywodraeth wedi caniatau i'r Cyngor Lleol fenthyca 3,000P. tuagat helaethu'r gwaith try- danol yn y lie. DYWEDAI Syr Alfred Thomas, ddydd Llun diweddaf, fod y Prifweinidog wedi rhoddi addewid pendant iddo y dygai i fewn Fesur Dadgysylltiad i'r Senedd yn 1908. Y PARCH. T. Edwin Jones, ficer Bangor, sydd wedi ei benodi i fywioliaeth Caergybi. Mae hon yn werth tua 400P. y flwyddyn, ac yn un o'r rhai goreu yng Ngogledd Cymru. Gan Goleg yr lesu, Rhydychen, oedd y penodiad, ac fe wyr y Prifathraw Rhys a'i gymrodyr yn y coleg hwnnw pwy sydd yn gweithio oreu o blaid y genedl yng Nghymru, oherwydd 'does yr un offeiriad wedi gwneyd mwy dros Gymru a'r Gymraeg na'r Parch. T. Edwin Jones. Pe bae'r penodiad yn llaw yr Eglwyswyr culaf, diau mai rhyw sparbil o hanner-Cymro a osodid yn y He bras hwn. TRA'N son am ddyrchafiadau Eglwysig mae'n arwydd da fod y fath nifer o Gymry glew yn cael eu dewis i swyddi uchel ar hyn o bryd. Dyna Dyfrig yn cael ei ddyrchafu i ganoniaeth Bangor, cydnabyddiaeth arbenig o'i fedr a'i allu fel pregethwr Cymraeg, ac wele'r hen hanes- ydd dyddan, y Parch. D. Jones, Penmaenmawr, wedi ei benodi i is-ganoniaeth yn yr un esgob- aeth. 0 dipyn i beth fe ddaw'r Eglwys i barchu ei gwyr glewaf. GAN fod y tywydd yn dechreu tyneru ac argoelion o'r gwanwyn yn agoshau, y mae'n ddyddorol i wybod pa le i aros yn y wlad ar adeg y gwyliau agoshaol. Ceir rhestr o rai o'r lletydai goreu yng Nghymru yn ein colofnau o dro i dro; ac os am fyned i fwynhau awelon tyner Llandudno a Llangollen y dyddiau hyn nis gellir gwneyd yn well na dewis y lleoedd a hysbysebir genym. HYSBYSIR fod Mr. Lloyd-George, A.S., wrthi yn awr yn parotoi i'r wasg gyfrol o'i areithiau ymhlaid Masnach Rydd Ar anogaeth daer cyfeillion yr ymgymerodd y boneddwr anrhyd- eddus a'r gwaith hwn. PENODWYD y Parch. E. T. Davies (Dyfrig), ficer Pwllheli, yn ganon trigianol yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae Dyfrig yn Gymro gwlad- garol, yn Eisteddfodwr aiddgar, ac yn un o'r pregethwyr mwyaf hyawdl a fedd yr Eglwys yng Nghymru. UN o nodweddion yr etholiad diweddaf ydoedd fod pob oedran yn ymdaflu iddo. Yn Llanfachell, sir Fon, cerddodd hen wr cant oed i'r etholfan, a llanwodd ei bapur pleidleisio ei hunan. Pleidleisiodd un arall sydd o fewn blwydd i gant yn y Dwyran hefyd. Y PARCH. R. Gwylfa Roberts, Llanelli, sydd wedi ei benodi yn rhan-olygydd i'r Di-wvgiwr fel olynydd i'r diweddar AVatcyn Wyn. BRODOR o Aberaman yw Mr. John Williams, yr A.S. Llafur dros Ddosbarth Gwyr. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1861. Pan yn ddeuddeg oed dechreuodd weithio yn y lofa. Penodwyd ef yn Miner's Agent ar farwolaeth Mr. Isaac Evans, ac y mae yn Ysgrifenydd Cymdeithas Unedig Mwnwyr Deheudir Cymru er 1890. Bu yn pregethu gyda'r Bedyddwyr am rai blyn- yddau, a chafodd ei ordeinio yn weinidog yn eu plith. MAE Ymddiriedolwyr Ysgol Dr. Williams, Dolgellau, wedi penodi Mr. Haydn Jones, Towyn, yn un o'r llywodraethwyr i lanw y bwlch a achoswyd drwy farwolaeth Mr. Hum- phreys-Owen. HYSBYSIR fod Mr. David Davies, Llandinam, wedi prynu yr Hotel Cambria, Aberystwyth, a'i fod yn bwriadu ei chyflwyno drosodd i'r Methodistiaid i fod yn Gartref y Coleg Unedig yr awydda y boneddwr hael ei weled yn cael ei sefydlu yn y dref honno. Fe gofir iddo dro yn ol gynnyg 12, coop. i'r pwrpas o uno Colegau y Bala a Threfecca. Bu polio yng Nghasnewydd y dydd o'r blaen, nid i ethol aelod Seneddol, ond i benderfynu beth wneid a'r betio yn yr heolydd. Yr oedd mwyafrif cryf o'r trefwyr dros i'r Cyngor fynnu deddf Seneddol i roddi terfyn ar yr arferiad ynfyd a niweidiol.
THE WELSH UNIVERSITY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
THE WELSH UNIVERSITY. Reviewing Messrs. Cadwaladr Davies and W. Lewis Jones's book on The University of Wales," published a few months ago, the Athe- nccum critic remarks It is true that the recent abandonment of the federal principle in the case of the Victorian University has already led a few to question the wisdom of retaining that principle in Wales. Owing to the great distance and the poor railway facilities between the three constituent colleges, the federal system in its working is not only costly, but also involves a serious drain upon the time and the physical and mental energies of those who are compelled to work it. Nevertheless, the pre- vailing opinion unquestionably is, in the words of Sir Richard Jebb, that the drawbacks of the federal system are outweighed by the fact that the existing University stands for all Wales and has the undivided support of Welsh sentiment behind itand, as the authors end, 'the main disability of the University and of its colleges at the present time arises not so much from the federal system as from their common poverty.'
WELSH NONCONFORMISTS AND THE…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
WELSH NONCONFORMISTS AND THE GOVERNMENT. On Tuesday, at the Quarterly Association of the Denbighshire and Flintshire Congregational Union at Tanyfron, near Wrexham, under the presidency of the Rev. T. E. Thomas (Coed- poeth), the following resolution was unanimously passed That this Association hails with satisfaction the prominence given in the Liberal programme to the immediate amendment of the Education Act, so as to remove the hardships which it imposes upon the Nonconformists; desires to express its gratification that the anomaly which exists in the connection between the State and the Established Church in the Prin- cipality is shortly to be removed, and that a Bill for the disestablishment and disendowment of the Church of England will be accorded a prominent place in the Liberal programme, and earnestly hopes that the Government will press forward such a measure at the first possible opportunity, for we regard this as a matter of the utmost importance, and one that would be most beneficial to the cause of religion, and ultimately to the Church itself." A resolution was also passed recording the hearty approval of the Union of the new Liberal Cabinet, and heartily congratulating Mr. Lloyd- George on his appointment as President of the Board of Trade, and Messrs. Herbert Lewis and R. M'Kenna on their acceptance of office in the Government.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GOMER PRESS, 9, RED LION COURT, FLEET STREET, E.C., am holl Gyhoeddiadau'r Byd a'r Bettws.
Y LLOFFT FACH;" ,.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
yn barotach i ymladd dros hawliau ei rhyw na Dinah ond yr oedd ei chlywed yn datgan ei barn am y merched yr wyf yn son am danynt yn od o amheuthyn. Am y crotesi dywedai: Dier mi pa'm na rosan' nhw gartre' i helpu'u mame ? Ac am y rhai henaf: Wel, wel, dyna bicil raid fod ar wyr a phlant rheina Mi fasa meddwl am danyn' nhw yn codi lwmp yn 'y ngwddw I; allswn I ddeud yr un gair." A chware' teg i Dinah, o'r braidd y gallaf gredu fod odid i un o'r merched a'r gwragedd a ddaethant heibio i ni yn amser y Diwygiad hwnw wedi cyfiawnhau eu gwaith, y naill i' adael eu rhieni, a'r lleill i adael eu teuluoedd, a myn'd i ysbio lla-wnder y wiad. Dyma'r unig gwestiwn y gwelais I Dinah a Tobias Tomos yn gallu gweled lygad- yn-llygad arno. Yr ydych yn cofio am hobis Tobias, mi wn. (l'w barhaii).