Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Pobl a Phethau yng Nghymru.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pobl a Phethau yng Nghymru. MENTRODD un o gynghorwyr anturiaethus dinas Bangor am dro ar hyd Ffordd Deiniol" y dydd o'r blaen. Cychwynodd yn hoew gan dybied y cai daith hwylus. Ond daeth i drybini enbyd yn fuan iawn. Cafodd ei hun mewn cors a siglen, a suddodd hyd glicied ei en mewn dwr a llaid cyn oered a'r ia. I wneud ei gyflwr yn fwy gresynus yr oedd Ffordd Ddeiniol" o fewn hyd llythyren iddo, a gwelai lu yn rhodio ar honno yn hapus ddigon, ac ysywaeth ni chymerent sylw o'i floeddiadau croch am help. NID yw dynion "ymarferol" yn cytuno bob amser. Mae dau bensaer wedi bod yn edrych ar yr adeilad a gynygia Mr. Davies, Llandinam, i Gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd i fod yn gartref coleg yn Aberystwyth, un o honynt dros bwyllgor Coleg y Bala, a'r llall dros bwyllgor Coleg Trefecca. Yn ol barn y Gogleddwr nid yw y cyn-westy yn rhyw gymwys iawn at bwrpas coleg, ond barna y Deheuwr y gwna y tro yn gampus. Dywedodd rhyw gellweirddyn mai gwybod teimlad y pwyllgor a gynrychiolai ar bwnc y symud yr oedd y naill bensaer a'r Hall. Bu beirnadu lied lym ar awdurdodau ac athrawon Coleg y Gogledd yng Nghyngor sir Arfon yr wythnos ddiweddaf. Dywedid fod y naill a'r llall yn wrth-Gymreig. Honnid fod yr awdurdodau wedi gwrthod i benseiri Cymru gael cydgystadlu a'r Saeson i barotoi cynlluniau y colegdy newydd, a bod yr athrawon, yn lie cefnogi masnachwyr lleol drwy brynu ganddynt, yn anfon i Lundain am eu holl nwyddau. Ond ymddengys erbyn hyn nad yw y cyhuddiadau yn wir, er o bosibl y cred rhyw rai hwy oblegid iddynt gael eu gwneud yn y Cyngor. Nid ar y lie y pwrcasa athraw ei de a'i siwgwr a'i gig moch y dibyna Cymreigrwydd sefydliad. BLIN genym ddeall fod effeithiau y ddamwain a gyfarfu yr aelod anrhydeddus dros Fwrdeisdrefi Fflint yn dostach nag hyd yn oed yr ofnid ar y cyntaf. Er gwaethed y briwiau allanol, y mae'r rhai hynny yn gwella; ond niweidiwyd yr ymenydd drwy y codwm, ac y mae lleferydd a chof Mr. Idris wedi ei amharu am dymmor. Rhaid iddo orwedd yn yr yspyttu am fis o leiaf, a chymer fisoedd wedyn cyn y gellir ei symud oddigerth i letty gerllaw. Cydymdeimlir yn fawr ag ef a'i deulu yn wyneb yr anffawd flin. MAE y Parch. T. Mardy Rees, Bwcle, newydd gyhoeddi cyfrol fechan o ganiadau Seisnig yn dwyn y teitl Awelon Oddiar Fryniau Cymru" (Breezes from the Welsh Hills). Rhaid fod rhywbeth yn awelon Mynydd Bwcle yn feithrinol iawn i'r awen. Onid yno y dechreuodd awen ber Elfed flaguro ? Ac er mai yn Saeneg y can Mardy, mae'r awelon hyn yn llwythog o arogl grug a blodau gwylltion. Bu damwain alaethus yn un o byllau glo Abercynon dydd Sadwrn. Rhedodd wagenni Ilwythog yn wyllt hyd y goriwared at waelod y pwll i ganol bagad o ddynion oedd yn disgwyl cael eu codi i'r lan. Lladdwyd pump o'r dynion yn y fan, a derbyniodd chwech eraill niweidiau difrifol. Yr achos ydoedd i ddolen yn y gadwyn ddirwyn dorri. PAN oedd dau fachgen ieuanc oeddynt gyfeillion calon yn chwareu a'u gilydd mewn ty gerllaw Castellnewydd Emlyn, cafodd un o honynt afael mewn dryll llwythog, a rywfodd neu gilydd, yn ystod y chwareu, aeth yr ergyd allan ac i gorff y llall, fel y bu farw mewn ychydig amser. Dyma rybudd arall rhag cadw drylliau llwythog mewn tai. CWYNIR fod troseddau yn cynyddu yn ddif;:fol,ymysg plant yn nhrefi ac ardaloedd poblog y De. Dywedodd Ynad Cyflogedig Pontypridd a'r Rhondda y dydd o'r blaen ei fod ef yn dychrynu wrth feddwl gymaint o blant ieuainc a ddygid o'i flaen. Ni byddai yn eistedd ar y fainc odid ddiwrnod heb orfod gwrando achosion yn erbyn bechgyn o ddeuddeg i bedair-ar-ddeg oed am ladratta. A lladratta drwy gynllwyn a wnant hefyd. Yr oedd, medd ef, wedi holi a oedd y plant hyn yn mynd i'r ysgolion, a dywedid eu bod, ac hefyd fod eu rhieni yn bobl barchus. Diau y cymer rhywrai fantais ar y dadganiad hwn i enllibio Cymru, ond dylid cofio mai estroniaid didoriad yw rhan helaeth o drigolion y lleoedd poblog y cyfeirir atynt. MAE Cymro glan ei dafod wedi ei godi i'r fainc esgobol yn Scotland. Y Parch. Rowland Ellis, D.D., Esgob Aberdeen ac Orkney, ydyw. Bu Dr. Ellis un adeg yn rheithior y Wyddgrug, a chyfrifid ef y pryd hwnnw yn un o'r pregeth- wyr hyotlaf a feddai Eglwys Loegr yng Nghymru.

NORTH WALES METHODISTS AND…

THE MEMBER FOR MONTGOMERYSHIRE…

Advertising