Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
A DYKE SIX MILES LONG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
A DYKE SIX MILES LONG. The London and North-Western Railway Company intend to extend the clay puddled dyke on the west side of Foryd Station along- side the line to the railway viaduct over the Clwyd, but (a correspondent writes) they are also contemplating the construction d a similar bank close to and parallel with the railway, all the way from the eastern boundary of the Rhyl urban district to Mostyn, a distance of fully six miles. At the same time the level of the railway is to be raised by two feet, except under the bridges, which, of course, will not, without being themselves raised, admit of the tracks being further elevated. Evidently the present level of the line is below that of high water at the highest of spring tides, and the Company are'' determined that the possibility of the sea Inundating the line and interrupting the traffic shall be entirely obviated. The dyke is to be similar to that at Foryd, and will therefore be about four feet above the level of the rails.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Tt'' fl Swiss Tours, B 111 B ■ 17 Days i7s-6a- I I Norway Cruise, I I ■ ■ |1 July, 3 Days, Y-9 19s. 6d. ■ II I 1 H Particulars — SECRETARY ■ ■ B H ■ I Free Church Touring Guikl ■ 1U11 lUiKtcr-
Pobl a Phethau yng Nghymru.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pobl a Phethau yng Nghymru. MAE cydymdeimlad dwfn gyda'r Athro Henry Jones, o Glasgow, a'i briod. Maent newydd golli eu mab. Bu Mr. Emlyn Davies dan waeledd trwm yn ddiweddar, ond da fydd gan geraint canu Cymru ddeall ei fod yn gwella'n feunyddiol. Erys yn ei gartref yn Nhrefor, Llangollen. CEIR pethau rhyfedd iawn uwchben siopau weithiau. Mynegir uwchben siop mewn tref yn y De vVedi ei drwyddedu i werthu potiau, tybaco, a phob angenrheidiau eraill i anifeiliaid." MAE y Parch Towyn Jones, Cwmaman, wedi cael cynnyg ar y swydd o Genhadwr Cartrefol o dan Bwyllgor y Gronfa ynglyn ag Undeb yr n Annibynwyr Cymreig. Dywedir fod y gwr parchedig hyawdl yn debyg o'i derbyn. MAE Canon Edward Hughes, Rheithior Abermaw, wedi ymddiswyddo, a symuda ei breswylfod i Fangor ddiwedd yr haf. Daeth y Canon i amlygrwydd fel amddiffynwr yr Eglwys yn erbyn y Dadgysylltwyr ryw ugain mlynedd yn ol. Nil) yw Mr. Clement Edwards, A.S., wedi bod yn abl i ddilyn ei ddyledswyddau Seneddol am beth amser. Bratbwyd ef yn dost yn ei law gan ryw gi, a bu raid iddo fyned dan driniaeth law-feddygol. Da genym ddeall ei fod yn gwella. YR wythnos o'r blaen bu farw Mr. Beynon Puddicombe, gwr "Allen Raine," yr awdures boblogaidd. Dyn busnes" ydoedd ef, ond wedi ymneillduo oherwydd gwaeledd ers tair blynedd, ac yn byw yn Nhraethsaith, ar lan bau Aberteifi. Mae'r Law Times yn enwi nifer o doll-byrth ar draws y ffyrdd cyhoeddus yn Mhrydain sy'n rhwystrau i drafnidiaeth ac yn hollol ddi-alw-am- danynt. Yn eu mysg y mae'r toll-borth ar Bont y Borth. Paham na ymuna'r awdurdodau cyhoeddus i brynu hawliau yn nglyn a hwn, er mwyn gwneud y ffordd i ac o Fon yn hollol rydd ? MAE Mr. Andrew Carnegie, y miliwnydd Americanaidd, wedi addaw cyfrannu y gwobrau yn y brif gystadleuaeth gorawl yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarvon. Bydd y swm yn ymyl dau cant o bunnau, ond beth yw hynny i filiwnydd. Bydd y boneddwr yn cyd-lywyddu gydag Ardalydd Bute ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod. GAN i ni grybwyll yr Eisteddfod, dyddorol yw sylwi fod y Pwyllgor wedi gwahodd boneddiges i lywyddu yn un o'r cyfarfodydd, a'i bod hithau wedi cydsynio. Y foneddiges a anrhydeddir fel hyn yw Alicia Needham, y gerddores Wyddelig athrylithgar ac adnabyddus, yr hon a adwaenir o fewn cylch yr Orsedd ers blynyddoedd fel Telyn y Werddon." Y PWNC sy'n dyrysu Gwarcheidwaid Penrhyn- deudraeth a'r fro gylchynol ar hyn o bryd ydyw pa le y mae y pytatws rhataf i'w cael. I )aeth rhai allan yn y cyfarfod diweddaf dros Borth- madog fel lie rhad, dadleuai eraill nad oedd 'datws rhatach yn y byd nag yn Ffestiniog, tra 'roedd cynrychiolwyr y Penrhyn yn dal yr un mor gadarn mai hwy oedd bia'r bri yn hyn o beth. vVeI, wel! Gresyn na fa'i gan ein cyrph cyhoeddus oil ddim mwy i boeni yn ei gylch na phris 'tatws. Y NOS lau o'r blaen yr oedd Aelod Cymreig neiliduol yn cymeryd rhan yn y drafodaeth ar ryw bwnc, pryd y sylwodd cymrawd iddo ei fod yn dechreu colli ei afael yn y rhaffau. Ofnai iddo fynd "dros ci ben" a pheri boddhad i'r Philistiaid, ac felly, gan ei fod yn rhy bell oddi- n wrtho i dynu ei got, sibrydodd yn lied groew Cau dy geg Deallodd y brawd, a dirwyn- odd ei araeth i ben. Ond yr oedd rhai o'r Saeson wedi sylwi, a mawr fu eu chwilfrydedd i wybod ystyr y geiriau. Erbyn hyn y maent wedi deall, a'r dybiaeth ydyw y bydd amryw o'r Aelodau Llafur yn medru'r ymadrodd yn rhigl pan gyfarfyddir wedi'r gwyliau. FE gofir i'r Parch. Peter Price, Dowlais, feirniadu Mr. Evan Roberts, y diwygiwr, dipyn yn Ilym ryw flwyddyn a hanner yn ol. Yr oedd y gwr parchedig yn un o bregethwyr etholedig n n t, Cymanfa Annibynwyr Arfon, a gynhaliwyd yng Nghriccieth yr wythnos ddiweddaf. Yng ngwahanol gapelau y dref y pregethid, ond gwrthododd un enwad roddi benthyg ei gapel i gynnal gwasanaeth oddigerth ar yr amod nad oedd beirniad y diwygiad i bregethu ynddo. Ni bu gwasanaeth o gwbl yn y capel hwnnw, ond cafodd Mr. Price oedfaon a hir gofir yng nghapel y Wesleyaid. Torrodd yn orfoledd mawr o dan ei bregeth. BRODOR o Gorris, Meirionydd, ydyw'r Parch. Dr. John Roberts, Cymedrolwr newydd y Gymanfa Fethodistaidd, ac y mae'n 64 mlwydd oed. Tra'n fachgen gweithiodd yn y chwarel i gynal ei fam weddw. Ond cafodd ddechreu pregethu yn 1863, aeth i'r Bala yn 1866, ac wedi hyny i Edinburgh i ymberffeithio ar gyfet y maes cenhadol, ei uchelgais er yn ieuanc. Priododd ferch Glan Alun y bardd, ac yn Medi; 1871, hwyliodd y ddau am yr India. Yno ar y maes cenhadol ar Fryniau Khasia y treuliodd y Doctor ei fywyd hyd yn hyn, gan wneud gwaith addysgol a chrefyddol pur werthfawr. Mae wedi cyfieithu tair-ar-hugain o lyfrau'r Hen Destament i iaith Khasia. MAE chwech o Gymry ym mysg ynadon newydd dinas Lerpwl. Adeiladydd ydyw Mr. John Morris, genedigol o Lyn Artro, Meirion- ydd, ac y mae'n aelod yn Prince's Road. Mae Mr. J. Harrison Jones yn ddiacon yn yr un addoldy, heblaw bod yn aelod o Bwyllgor Coleg y Bala. Masnachwr coed ydyw ef. Mae Mr. Robert Roberts yn oruchwyliwr tir, a cheir yntau yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol Lerpwl. Aelod yn Chatham Street (M.C.) ydyw Mr, Thomas Roberts, a genedigol o Llandyrnog, Dyffryn Clwyd. Mae'r Henadur W. H. Williams yn fab i Mr. John Williams, Moss Bank, diacon hynaf Princes Road; tra y mae Mr. Henry Jones, yr arwerthydd, yn enedigol o Gaernarfon, ac yn Annibynwr selog.
THE WELSH CLUB.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
THE WELSH CLUB. The Annual General Meeting of the members of the Welsh Club was held at the Club, on Thursday, 7th June, at 6 p.m., Sir John Puleston presiding. Among the members present were the Rev. G. Hartwell Jones, M.A., Rev. J. Machreth Rees, Mr. William Evans (Board of Trade), Mr. Richard Davies, J.P., Dr. A. Harries, Mr. Pennant Jones, Mr. John Hinds, Mr. Gom Simon, Mr. L. J. Prichard, Mr. Kelt Edwards, Mr. W. E. Davies, Mr W111. Wilkins, and Dr. Lloyd Jones. The Chairman stated that the Club opened last August with a membership of 558 which had now reached a total of 705. The Club year would not end until July, and the com- plete accounts, which were not now available, would be placed before the next General Meeting. As matters now stood the actual receipts to date on Revenue Account were £ 1,034 16s. 8d., and the actual expenditure ^594 7s. 5d. Viscount Tredegar was re-elected President of the Club. Sir John H. Puleston, Mr. Richard Davies, and Mr. W. E. Davies, were re-elected Members of the Committee, and Sir Clement Hill and Mr. Philip Williams, Earl's Court, were elected to fill vacancies. The proceedings terminated with a cordial vote of thanks to the Chairman.
Y LLOFFT F A C H. YN YR HON…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
danoch ch'i wrth ddrws y ty, ond nad ydi o ddim wedi bod i fynu," ebe Dinah! n daw el. Gwyddai hi amcan sut yr oedd pethau. Na; mi fasa Gwen yn siwr o fod wedi deud," ebe yntau. "A 'blaw hyny, Mr. Aaron ydi 'ngweinidog 1. Ond dyna, 'dydw I ddim yn ffit iawn i fod yn aelod, a mae o'n eitha' reit i gadw draw." "Ma' gen I well meddwl o'r gweinidog na hyny," ebe Dinah. Mae o wedi bod yn fy holi I lawer gwaith yn y'ch cylch ch'i; a phe bawn I'n myn'd ar fy llw ar beth na wn I, mi awn ar fy llw fod Mr. Aaron wedi bod yn y gegin fwy o weithiau na'r 'ffeirad er pan y'ch ch'i'n dost." Gyda hyn, dyma Mrs. Puw i fewn ac wrth fod Dinah yn codi i fyn'd i gadair arall i wneud lie i'r feistres, digwyddodd edrych allan drwy'r ffenest', a phwy welodd ond Mr. Aaron y'myn'd drwy'r glwyd allan i'r hewl, fel pe byddai newydd fod yn nhý'r doctor. Ond dd'wedodd hi ddim. Gwen" ebe Jfan yn sydyn, ydi Mr. Aaron gartre' ? If an bach, pa'm y'ch ch'i'n gofyn i mi ? ebe Mrs. Puiv yn giwt. "Synu 'rydw I na basa fe wedi bod yn 'y ngwel'd I, os ydi o gartre' "0 ydi, mae o gartre' ebe Dinah. Mi gweles I o'n pasio 'nawr Cochodd y wraig fach at ei dwyglust, pan ddaliodd lygaid Ifan yn edrych ami, ar ol sylw Dinah. Mi fuasai Dinah yn gadael i bethau fyn'd pe buasai yn gwel'd Mrs. Puw yn treio bod yn "streit." "Ydi o wedi bod yn holi am dana' I, Gwen ? "'Roedd o wrth y drws pan ddes I 'fyny," ebe hi. 'Roedd gormod o frys arno i dd'od i fewn." "A fine yn ei feio," ebe Ifan. "Sawl gwaith y bu o'n holi am dana' I, Gwen ? A sut nad ydi o wedi bod yn y rwm yn 'y ngwel'd I ? 'Doedd dim i wneud 'nawr ond rhoi'r gwyneb gore' ar bethau, oblegid yr oedd yn arnlwg fod Ifan wedi gwel'd drwy'r trie. Mae Doctor Preis yn groes iawn i ch'i gael mwy-na-mwy o ddynion i'r rwm, a ma'n rhaid ini dynu'r lein yn rhywle, wyddoch." Eitha' reit; ond pa'm y'ch chi'n gneud gwahaniaeth rhwng Mr. Aaron ar 'ffeirad ? 'Ngweinidog I ydi Mr. Aaron, ac nia y llall." Methodd Mrs. Puw a dal. Cododd, a fflingiodd ei hun i lawr y grisiau, heb dd'weyd gair. Ond yr oedd Mr. Aaron yn y rwm clranoeth. (Ilw barhau.)