Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

DIWYGIO YR ORSEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DIWYGIO YR ORSEDD. Gallesid tybied ryw hanner blwyddyn yn ol fod y gorchwyl o ddiwygio Gorsedd y Beirdd i gael ei gymeryd i fynu o ddifrif. Hysbyswyd mai ar y dealltwriaeth honno y cydsyniodd Dyfed i sefyll yn Archdderwydd, a phenodwyd pwyllgor i dynu allan "fesur diwygiadol" i'w gyflwyno i sylw yng Nghaernarfon ym mis Awst. Dichon fod y pwyllgor hwnnw wrthi yn gweithio, ond os ydyw, y mae wedi llwyddo i wneud yr hyn na wnaeth unrhyw bwyllgor Cymreig erioed o'r blaen-gweithio mor ddistaw fel iias gwyr neb ei fod wrthi. Os yw awdur- dodau presenol yr Orsedd yn tybied y gwna rhyw fan gyfnewidiadau yn y rheolau y tro i foddloni y genedl, y maent yn sicr o fod yn camsynied. Disgwylia y wlad am ddiwygiadau trwyadl, diwygiadau a wnant yr Orsedd yn ganolbwynt bywyd llenyddol, cerddorol, a chelfyddydol Cymru, ac yn allu gwirioneddol er dyrchafiad a diwylliant y genedl. Cyn y bydd felly, rhaid ei dwyn i fwy o gydgord ag ysbryd yr oes. Ni fynem ddifodi dim ynddi sydd yn drwyadl Gymreig ag urddasol, ond ar yr un pryd credwn y dylid newid cryn dipyn, nid ar ei defodau yn unig, ond ar ei chyfansoddiad. Dylid cydnabod dynion o dalent, ysgolheigdod, a gwasanaeth drwy eu derbyn i mewn i'r cylch heb ddisgwyl iddynt fyned dan unrhyw arholiad. A dylid gwneud rhyw wahaniaeth o fewn y cylch cydrhwng safle dynion fo wedi cyfoethogi llenyddiaeth Cymru a safle y rhai na roddasant brawf o unrhyw dalent heblaw talent bechgyn ysgol i basio arholiad digon peirianyddol. Nid oes son am "ddisgyblion" ymhlith beirdd y dyddiau hyn. Gorseddwyr graddedig ydynt i gyd. Ac i wneud yr Orsedd yn allu o wir rym a dylanwad rhaid gwerinoli llawer ami. Mae yr awdurdod ar hyn o bryd bron yn gyfangwbl yn llaw rhyw bwyllgor o wyth-ar-hugain. Ni fedd y cyfarfod blynyddol hawl i amheu doethineb y gwyr hyn ynglyn a'r pethau pwysicaf. Ym- ddengys i ni y dylai y Pwyllgor gael ei ethol yn rheolaidd, un ran o dair ohono i fynd allan o swydd bob blwyddyn. Ac a oes rhyw reswm dros i'r Archdderwydd a'r swyddogion eraill gael eu hethol am eu hoes ? Onid llawer iawn mwy boddhaol fyddai ethol Archdderwydd am nifer o flynyddoedd, dyweder pump neu saith, a'r swyddogion eraill am gyfnod byrrach ? Yr ydym yn taflu yr awgrymiadau hyn i sylw aelodau yr Is-bwyllgor, i'w cymeryd am eu gwerth. Yn unig gobeithiwn, er mwyn yr hen sefydliad urddasol ei hun, y dygir i mewn ddiwygiadau a roddant derfyn ar y gwawdio a'r crechwennu sydd yn cymeryd lie bryd bynnag y sonir am Orsedd y Beirdd.

Y "GENINEN" AM GORPHENAF.

UNIVERSITY COLLEGE OF NORTH…

[No title]

AUCTIONEERS AND HOUSE AGENTS.