Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NID oedd fawr o amheuaeth gan Bav- ille, cyfarwyddwr byddinoedd y brenin Pabyddol, nad allai efe a'i 500,000 ddifodi y Protestaniaid o randirLangu- edoc. Ond yr oedd Cavalier a'i lu bychan mor gyflym, ystrywgar, ac mor gydnabyddus a'r ffyrdd a'r llochesau yn y mynyddoedd, fel yr oedd y gelyn- ion mileinig Pabyddol, er eu holl nifer, yn methu dal na dyfetha y llu bychan Protestanaidd. Yr [oedd milwyr Ba- ville yn cael eu hanalluogi gan flinder cymalau, trwy orfod rhedeg yn ol ac yn mlaen, dringo mynyddoedd, a myned gyda chyflymdra bob dydd, i wasgaru cyfarfodydd crefyddol y Protestaniaid, ac i ladd pawb o honynt a allent ddal, yn y modd mwyaf barbaraidd. Yr oedd Cavalier yn dyrysu holl gynlluniau milwrol y Pabyddion. Pan yr oedd y gelyn creulawn yn meddwl fod y llu bychan Protestanaidd o fewn ei gra- fane, lie y clywai ganu a gweddio, erbyn myned i'r fan He yr oedd y swn wedi bod, yr oedd y Protestaniaid wedi rhedeg ymaith, fel pe buasai rhyw gerbyd tanllyd o'r nefoedd wedi eu cludo, a chlywai y gelyn eu swn cref- yddol fel adar y nefoedd arl wyni digon pell o berygl. Erbyn myned yno, trwy lawer o drafferth, trwy ddrain a drysni, tros nentydd a chreigiau, caffai y Pab- yddion yr un siomedigaeth. Yr oedd y system yma yn parhan fis ar ol mis, o waethaf yr offeiriaid a'r esgob- ion Pabyddol, a holl luoedd creulon y brenin. Ac nid dianc yn unig a wnae Cavalier, a'i lu bychan Protestanaidd. Aent i mewn i'r trefydd PabyddoJ. yn y nos, dyfethent eu gelynion, eu tai a'u heglwysydd, a chymerent ymaith ysbail mawr at eu pwrpas eu hunain, cyn i neb gael gyfle i anfon gair o hysbys- rwydd i'r cadfridogion Pabyddol. Erbyn i'r rhai hyny fyned i'r trefydd, a gweled y galanasdra, ar ol teithio llawer o filldiroedd gyda'r fath gyf- lymdra nes bod bron a cholli eu hanadl, ar ol cael hysbysrwydd, yr oedd Caval- ier a'i lu Protestanaidd 50 milldir o'r He hwnw, yn dinystrio ac yn ysbeilio y Pabyddion mewn lie arall, heb fod neb yn medru eu hatal. Os ymwasgarai y milwyr Pabyddol yn finteioedd bych- ain, yr oedd efe yn gallu trechu y min- teioedd hyn, cymeryd eu harlan, a'r cwbl oedd yn werthfawr yn eu medd- iant. Os cadwai y minteioedd hyn gyda'u gilydd, byddai eu symudiadau yn anhawdd ac araf. Dywedodd Ca- valier yn yr hanes a ysgrifenodd efe wedi hyny, Yr oeddym ni yn gallu myned dros gymaint o dir mewn tair awr, ag a gymerai ddydd cyfan i'n gelynion, am nad oeddynt wedi arfer teithio trwy goedydd ac ar hyd fyn- yddoedd, fel ni." O'r diwedd gwelodd y gelynion Pab- yddol, fod eu holl ymdrechion yn ofer. Galwas n'j wahanol awdurdodau Llan- guedoc, talaeth yn Ffrainc, yn nghyd, er mwyn ymgynghori yn nghylch rhyw foddion mwy effeithiol i roddi terfyn ar Brotestaniaid a Phrotestaniaeth, na'r moddion oedd wedi cael eu defn- yddio. Cyfarfuant yn Montpellier, tref yn sefyll oddeutu deng milldir o lan Mor y Canoldir, a thros driugain milldir y tu gogleddol i fynyddoedd y Pyrenees, y rhai a wahanant Ffrainc oddiwrth Spain. Y mae oddeutu 30 milldir o Languedoc i'r Pyrenees, ac oddeutu 20 milldir at lan Mor y Can- oldir. Yr oedd yn anhawdd iawn i'r esgobion fod yn bresenol yn y cyfarfcd, am fod Iluoedd y Protestaniaid yn feistri ar y ffyrdd. Aeth yr esgobion i'r cyfarfod o dan amddiffyn rhifedi mawro filwyr Pabyddol. Wedi myned i'r cyfarfod, achwynent aryr awdurdod- au, eu bod wedi cael eu bradychu gan- ddynt. Hen arfer yr offeiriaid Pab- aidd yw hon. Fel plant wedi cael eu ffordd yn ormodol—spoiled children- tuchan yw eu can pe gosodech hwynt mewn myrddiwn o JBaradwysau. Hwy sydd yn cadw pobl yr Iwerddon i du- chan trwy yr oesau. Dros yr offeiriaid Pabaidd y mae y bobl truenus hyny yn tuchan. Ac ni ddystewir byth mo honynt tra y bo y tuchanwyr Pabydd- ol yn eu llywodraethu. Eu cybydd-dod gorwancus hwy, na ddywed byth digon," yr hwn sydd am gymeryd y byd i gyd iddynt hwy eu hunain, a gwneud pawb ereill yn fegeriaid slaf- aidd iddynt hwy, yw y felldith Bab- ycdol trwy'r byd, yr hon a wna y byd hwn mor debyg ag yw efi uffern, mewn tuchanrwydd a rhyfeloedd o bob math. 0 na syrthiai Babylon Fawr Ar gais yr esgobion Pabyddol tu- chanus, yn y gynhadledd waedlyd yn Montpellier, gorchymynwyd dwyn allan 32 mintai ychwanegol, at 3 500,000 blaenorol, o Fusiliers Pabyddol, a chatrawd ychwanegol o Dragoons, i ymlid Protestaniaid yn y modd mwyaf barbaraidd o'r byd. Cofied y Cymry fod yr Esgobion a'r offeiriaid Pabydd- ol sydd yn awr yn y wlad hon, yn ceisio eu denu i anfon eu plant i'w hysgolion, yn canmol y creulonderau uchod, a wnawd gan eu brodyr Pabyddol yn Ffrainc yn agos i gant a phedwar ugain mlynedd yn ol. Y mae y llyfrau a gy- hoeddant ac a ddosbarthant yn y wlad hon yn awr yn profi hyn. Fel y Phar- iseaid, y rhai oeddynt yn sychedu am dywallt gwaed Crist, fel eu tadau, y rhai a laddasant y proffwydi, felly y mae y Pabyddion yn yr oes bresenol, yn sychedu am gyfle i gyflawni mesur anwiredd eu tadau creulawn ac erlid- gar. Un o erthyglau sylfaenot credo Eglwys Rhufain yw, nad yw hi byth yn newid, o ddyddian yr apostolion hyd yn awr. Felly y mae hi yn yr erthygl hon yn palmanta ffordi, yn cadw cam- las yn agored, ar hyd yr oesoed, i'r holl waed cyfiawn" a dywalltodd hi erioed, i ddisgyn yn gawod o ddigofaint ar ei phen hi, pan y dechreua Duw ei chospi hi a "phlaau, marwolaeth, galar, a newyn a hi a lwyr losgir a than; oblegid cryf yw yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn ei barnu hi." Dat. xviii, 8. Galwodd Baville am ragor o dra- goons o Rouergue-gatrawd o honynt. Galwodd am forwyr o'r llynges i'w gy- northwyo, a mintai o filwyr wedi arfer rhyfela ar hyd fynyddoedd. Yr oedd mintai o Wyddelod Pabyddol hefyd wedi cael eu galw i'w wasanaethu ef, i labyddio a dinystrio y Protestaniaid. Yr oedd y rhai hyn wedi alltudio eu hunain o'r Iwerddon o bwrpas i gy- northwyo brenin Ffrainc i droi y Pro- testaniaid yn Babyddion a nerth y cleddyf. Yroedd rhai o'r Huguenots, y rhai a alltudiwyd o Ffraine gan y brenin am eu bod yn Brotestaniaid, yn myddin Gwilym III., yr hwn a goncrodd y Gwyddelod Pabyddol, y rhai oeddynt o dan arweiniad Iago II., ei dad-yn- nghyfraith, yr hwn oedd wedi gosod i fyny orsedd wrthryfelgar yn ei eibyn ef yn Dublin. Cynorthwywyd Iago II., yn y gwrthryfel hwn, gan frenin Pab- yddol erlidgar Ffrainc. Ond bu Iago dan orfod i ddianc, efe a'i filwyr Ffrengig, i Ffrainc. A dvwedir fod oddeutu 30,000 o Wyddelod" Pabyddol wedi myned ymaith oddeutu yr un amser ag ef, i fod yn wasanaethgar i frenin i fwtchera yr Huguenots am eu bod yn Brotestaniaid. 0 Gosododd y brenin hwynt i wneud y gwaith mwyaf barbaraidd oedd ganddo ar ei law. Gyrodd hwynt i fwtchera y Wal- densiaid, er fod y rhai hyny heb arfau rbyfcl i amddiffyn eu hunain. Difetha y Waldensiaid o'r byd oedd amcan y Pab, brenin Ffrainc, a'r Gwyddelod Pabyddol. Nid oedd fod y trueiniaid yn ddiamddiffyn yn ddim yn ngolwg y bleiddiaid Pabyddol, ond moddion i awchu eu gwanc cigyddol. Foreign Assassins yw enw y Gwyddelod yn yn mblith y Waldensiaidyn awr. Ond beth a wnaethant yn Llanguedoc ?

DAMWAIN ANGEUOL AR REILFFORDD…

IDAMWEINIAU ANGEUOL.

CYFRAITH BWYSIG YN Y RHONDDA.

CYNADLEDD RYDDFRYDOLj YN LLANBEDR.

Y B WRDD *CYMODOL. |

UNDEB Y GLOWYR, DOS,BARTH…

CYFARFOD GAN LOWYR MOUNTAIN…

DYODDEFAINT MAWR AR Y MOR.

CYFARFOD 0 LOWYR YN NGHOED…

Y CAHCIIAROR WISBBER,1

LLAWER MEWN YOHYDIG.I

STRIKE YR FN IA W N W YR RAILS…

Advertising