Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

LUTHER.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LUTHER. WEDI i Luther gael cartref o dan aden haelioni Conrad, a'i wraig dosturiol, fel y wraig o Shunem, teimlodd ei huil mewn meddiant o fodolaeth newydd. Nid oedd eisiau bwyd yn gerwino ffordd dysgeidiaeth. Yr oedd efe uwch- law gorfodaeth i weithio gyda ei dad yn mwngloddiau Mansfeldt, er mwyn cadw newyn o'i gylla, a noethni oddiar ei gefn. Nid oedd dan rwymau i gladdu ei dalentau yn naear amgylch- iadau ymborth a dillad. Yr oedd gweithred Rhagluniaeth yn ei osod yn nbeulu Conrad, wedi tueddu ei feddwl i ymddiried yn Nuw am bob peth. Wedi rhuthriadau ys- tormydd geirwon aeth awyr ei fyfyr- dodau yn dawel, hafaidd, a chlir. Cartrefodd ei ysbryd mewn haulwen. Meddianwyd ei dymherau gan londer. Ymagorodd teimladau ac adnoddau cyfoethog ei galon. Decbreuodd ym- lawenhau mewn bywyd, fel aderyn yn canu yn y goedwig, wrth ei fodd. Gweddiai yn wresog yn yr ysbryd, a chydag awch gobaith taerineb un oedd wedi cael prawf o drugaredd Duw. Cynyddodd ei syched am wybodaeth, a chyflymodd ei gamrau ar hyd lwybrau dysgeidiaeth. Hoffai gerddoriaeth. Yr oedd swyn ei chwibanogl, a'i Late ef, yn nghyd a'i lais soniarus ei hun, wedi lleddfu gofid ei galon lawer gwaith pan yn dyoddef eisiau. Yr oedd ei fam newydd, y Shunamees, gwraig Conrad, yn hoff iawn o gerddoriaeth. Ymhyfrydai yntau i wledda ei theimladauhi a swyn- ion ei ganiadau. Ac nid seiniau llais yn unig oedd ei ganu ei Canai a'r ysbryd ac a'r deall hefyd." Hoffai gerddoriaeth hyd ddiwedd ei oes, ond hoffai hi fel moddion i ddangos medd- wl a theimladau y galon, ac i'w cyn- yrchu, ac nid fel casgliad o seiniau i foddloni y glust anifeilaidd yn unig. Cyfansoddodd emynau a thonau, y rhai hyd heddyw a gynhyrfant waelodion calonau pobl Germani. Dedwydd oedd amser Luther yn nby Conrad. Ni anghofiodd byth mo hono. Pan y daeth ef i sefyllfa uchel ac i fab Conrad ddyfod i'r ysgol yn Wittenberg, lletyodd ef gyda dedwyddwch, fel un ffordd i ddangos ei ddiolchgarwch i rieni y llanc. Pan y gwelai fachgenyn tlawd oedd yn canu er mwyn cael tamaid o fwyd, tosturiai wrtho yn un- ion, gan gofio mai fel hyny y bu efe ei hun. Erbyn iddo gyrhaedd deunaw ml. oed, yr oedd wedi cynyddu yn ddirfawr mewn dysgeidiaeth. Ond gweddiai lawer bob dydd. Dywedai" Gweddio yw yr haner orau o study" Un diwrnod, pan yr oedd yn ugain mlwydd oed, yn gwneud ymcbwiliadau yn y llyfrau oedd yn llyfrgell fawr Erfurth, daeth un gyfrol i'w law, na welodd o'i bath erioed o'r blaen—a hono oedd y Beibl, yn yr iaith Lladin. Nid oedd wedi gweled ond detholiadau byrion o hono o'r blaen yn llyfrau gweddiau Eglwys Rhufain, yr Eglwys i ba un y perthynai efe. Yr oedd wedi tybio mai y darnau hyny oedd y cwbl o Air Duw oedd mewn bod. Medd- ianwyd ef a syndod tra yr oedd y gyf-' rol yn ei law. Y mgynhyrfodd ei holl natnr curodd ei galon yn gyflym, tra yr oedd yn troi y naill tudalen ar ol y llall, gan ysbio i'r trysorau dyeithr a ymddangosent o flaen ei feddwl; a daeth at hanes Hannah a'i mab Samuel. Llanwyd ei ysbryd a llawenyad mawr. Yr oedd can Hannah mewn cysylltiad a genedigaeth Samuel a'i gysegriad ef i Dduw yn gwefru ei holl enaid. Llan- wyd ef a dymuniad i gael y Beibl yn eiddo eiddo ei hun. Digon tebyg nad oedd neb wedi a ror y llyfr hwn yn yr hen lyfrgell am ganrifoedd. Oddeutu y pryd hwn cymerwyd Luther yn glaf iawn am ei fod wedi gwneud ymdrechion gormodol yn ei ddysgeidiaeth. Meddyliodd efae ereill fod ei oes wedi dyfod at ei therfyn. Ond calonogwyd ef gan hen offeiriad yr hwn a brophwydodd y caffai efe fyw i fod yn gysur i laweroedd. Wedi iddo wella aeth Luther, i ym- weled a'i dylwyth. Yr oedd cleddyf, yn ol ffasiwn yr amser, yn hongian wrth ei ochr. Aeth ei droed yn ei erbyn, syrtbiodd y llafn aUan, a thorodd un o'i wythenau mawr. Rhedodd ei gyd- ymaith i edrych am help. Ceisiodd yntau atal rhediad y gwaed, ond nis gallai. Meddyliodd fod angau yn agos a gweddiodd ar y Forwyn Fair, canys Pabydd oedd efe hyd eto. Daeth y meddyg o Erfurth a rhwymodd y clwyf, ond agorodd wedi 'hyny yn y nos. Syrthiodd yntau mewn llewyg, dan weddio a llefain yn ddibaid ar y For- wyn Fair. Dywedodd mewn blynyddau wedi hyny, pe baasai yn marw y pryd hwnw, y buasai yn myned i'r byd mawr dan bwyso ar y Forwyn yn He ar Grist. Pan yr oedd yn agos 22 mlwydd oed, yn 1505, cafodd y teitlau colegaidd M.A. a Ph. D. Bu gorymdaith, yn mha un y cariwyd canwyllau mawrion yn ffaglu, mewn ffordd o anrhydedd iddo ef, ar yr achlysur. Meddyliodd yntau am fyned yn gyfreitbiwr yn ol dymuniad ei dad. Nid oedd ei dad am iddo fyned yn offeiriad, am fod y rhan fwyaf o'r offeiriaid yn segurwyr dibareh, ac heb lawer o gyflog. Oddeutu y pryd hwn wrth fyned yn ol i Erfurth i'r coleg, wedi bod yn ym- weled a'i dad, daliwyd ef gan ystorom ofnadwy o fellt a tharanau. Aeth Luther ar ei liniau. Yr oedd wedi bod yn myfyrio ar ei bechadurusrwydd mawr, a bod Duw yn ddigllon wrtho fel pechadur. Teimlai fod awr ei farwolaeth efallai wedi dyfod. Ond gwnaeth adduned o flaen Duw, os gwnai efe ei arbed ef, yr ymgysegrai efe ei hun i'w wasanaethu ac i ym- wrthod a'r byd. Wedi i'r storom fyned heibio, chwiliodd ei hun. Gwelodd fod arno eisiau sancteiddrwydd. Ac yn ei bryder mawr am dano, rliag ofn Duw, meddyliodd mai cell y mynach oedd y fan yn mha un y gallai ei gael. Rhoddodd i fyny yr amcan o fod yn gyfreithiwr, ac ymunodd a'r urdd fyn- achol Augustine. Ymadawodd a'i gyfeillion yn y Brif Ysgol er eu mawr ofid. Wrth fyned, gadawodd ei ddillad a'i lvfrau ar ol ond Virgil, Plautus, dernyn o farddon- iaeth, a chwardd-draethau. Nid oedd ganddo Feibl. Wedi myned i'r rnyn- achdy cauodd allan ei gyfeillion a'i berthynasau i gyd. Pan y gwnaeth hyn yr oedd o fewn tri mis i 22 mlwydd oed. Meddyliodd ei fod wedi ymgys- egru ei hun i Dduw yn unig o'r diwedd, fel Samuel. Credai y gallasai yno gael y sancteiddrwydd hwnw y sychedai am. dano. Edrychai ei "gyfeillion arno fel un wedi ei gladdu. Ceisiasant ei berswadio i ymadael a'r mynachdv, ond ofer fu y cwbl. Cafodd ei dad siomedigaeth fawr. Nid oedd efe yn credu yn sancteiddrwydd mynachod. Gwyddai fod mynachaeth wedi di- nystrio llaweroedd. Ysgrifenodd ei dad lythyr chwerw ato, a phenderfyn- odd na chanai geiniog byth ganddo ac yr oedd ei dad y pryd hwnw mewn sefyllfa go gysurus. Ond ymgymododd ei dad ag ef wedi hyny, ar ol i ddau o frodyr Luther gael eu cymeryd ymaith gan bla angeuol. Ond trwy fyned yn fynach rhoddodd Luther help i goel- grefydd felldigedigyr oes, i baunwedi hyny y rhoddodd efe ergyd marwol.

[No title]

ERCHYLLDRA LLOFRUDDIOG Y LENNIE.

[No title]

STRIKE YN LLWYNYPIA.

D AR GAN F YD DI AD DYCHRYN-…

--Y DDAMWAIN YN DOWLAIS-TRI…

+ HALIERS Y RHONDDA.

GARNSWLL GER CROSS INN.

MADDEUANT Y N R K Y D I) I…

DIWEDDAR A PKWYSia