Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

LUTHER.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LUTHER. CAFGDDLuther ei siomi mewn dynion. Dysgwylioddi reswm, synwyr cyffredin, dYlJg, parch i Dduw a'i air, hunan- barch, achosi llawer o gydymdeimlad a chydweifchrediad ag ef. Ond oerodd ei gyfeillion tuag ato. Beiwyd ef gan rai o honynt yn ddirfawr. Teimlai ei hun yn unig yn ei frwydr a Rhufain yn ei masnach faddeuantol felldigedig, ac yn ei cbyfeiliornadan cwbI groes i Air Daw, ac i ogoniant Crist fel Achubwr, unig Achubwr pechaduriaid colledig. Teimlai fod holl awdurdod Eglwyø Rufain yn ei erbyn. Ymdafl- ai amheuon trwy ei feddwl yn nghylch doethineb yr ymosodiad a wnaetb. Ai nid rhyfyg yndddo oedd beiddio anufydd- hau awdurdod, o flaen pa un yr oedd yr holl fyd, bron, wedi ymostwng am oesau ? Pa fodd y gallai efe osod ei hun yn elyn i Eglwys, yr hon y cafodd ei addysgu i'w pharchu o'i febyd ? Pwy oedd efe fel mynach tlawd diamddiffyn i wrthryfela yn erbyn galluoedd mawr- ion mewn byd ac Eglwys, y rhai a'i condemnient ef ? Cyfododd cwestiyn- au fel y rhai hyn yn ei feddwl am ddwy flynedd. Bu yn mron auddo i afaelion anobaith. Yr oedd pawb wedi ei adael, yn ol eifarn ef, am fod Esgobion a dyn- ion dysgedig a mawr wedi troi yn ei erbyn. Ni feddyliodd efe ond ychydig am y lluoedd o ddynion anenwog oedd yn ei fendithio am ddangos iddynt y ffordd i'r nefoedd trwy Grist. Gan fod y rhyfel oddiwrth yr Ar- glwydd, ni allai ofnau ac amheuon Luther ei rwystro i fyned ynmlaen. Teimlodd gyflawniad o'r addewid "Canys yr ienenetid a ddiffygia ac a flina, a'r Zwyr ieuainc gan syrthio a syrthiant eithr y rhai a obeithiant yn yr Arglwydd a adnewyddant eu nerth ehedantfel eryrod; rhedant, ac ni flin- ant; rhodiant, ac niddiffygiant." Parodd dystawrwydd, gwangalondid, a sarhad ei gyfeillion, iddo lawer o ofid meddwl. Ond yr oedd gwrthwynebiad ei elynion yn ei gynhyrfu iowroldeb a beildgarwch, i'r fathraddau nes ysgubo y cwbl o'i flaen. Wedi i Tetzel fyth- eiria ei felldithion yn ei erbyn, dywedai efe, Oaiff y tad sanctaidd (?), hwn fy ngalw yn heretic, yn sismatic, neu beth byaag a welo yn dda. Ni byddaf yn elyn iddo am hyny. Gweddiaf drosto fel pe byddai yn gyfaill. Ond nisgallafoddef iddo ymddwyn tuag at yr Ysgrythyrau sadetaidd, eiii I diddan- web,' (Rhuf. xv, 4.) fel yr ymddyga hwch tuag at sached o geirch. Pan yr wyf yn clywed melldithion Tetzel, tyb- iwyf fy mod yn gwrando ar groch-fref asyn. Rhydd ddedwyddwch i mi, gan y byddai yn ofid i mi fod y fath ddyn yn fy ngalw yn Gristion. Ac er nad yw yn betb cyffredin i losgi hereticiaid am y fath bethau, os oes rhyw swyddog o'r chwii-lys yn pend rfynu cnoi haiarn, ac i chwythn creigiau, y mae iddo ber- ffaith ryddid i ddyfod ataf fi, Doctor Martin Luther, i Wittemberg, caiff wely a bwyd, dan ofal graslon ein tywysog 1 teilwng, Due Frederick, Elector Saxony, yr hwn na wna byth amddiffyn heresi." Yr oedd ei eiriau yn gryfion ac yn eirwon. Ac os oedd eu defnyddio yn fai, dylid cofio nad oedd efe wedi cael iaith addfwyn yn mhlith Pabyddion erioed. Cafodd ei ddwyn i fyny yn nghanol iaith wedi cael ei gorlanw o felldithion a gerwindeb. Iaith fel bon a ddeallai y llnaws. Ond er fod ei iaith ef yn arw, yr oedd yn gweddio dros ei elynion, ac yn cynyg llety iddynt mewn dyogelwch. Syliaen ei wroldeb ef oedd gwirionedd y Beibl. Gair Duw oedd fel craig uchel yn ei ddal i fyny yn nghanoiy storom orwylltgyn- ddeiriog a'i amgylchai ef. Cafodd ddeall fod ganddo gyfeillion raynwesol, cryfion, a ffyddlon eyn i lawer o amser fyned heibio. Yr oedd Spalatin, caplan yr Elector, yn gyfaill calon iddo. Byddent yn ymohebu a'u gilydd yn gynes yn nghanol y frwydr a Tetzel a'i bleidwyr. Arllwysai Luther ei galon i fynwes Spalatin. Y mae llifeiriant profiad calon Luther y pryd bwnw yn ei lythyrau at Spalatin yn peri dedwyddweh hyd heddyw, fel dyfroedd grisialaidd yn rhedeg trwy erddi llawn o rosynau, y rhai a daflant eu peraroglau swynol yn awr, mor gryf a phe byddent newydd ymagor o dan wlith maethlon boreu dydd y Diwygiad Protestanaidd. "Wele engraifft mewn llythyr at Spalatin: "Nis gallwn wneuthur dim o honom ein hunain. Gallwn wneud pob peth trwy ras Duw. Nis gallwn ni goncro anwybodaeth. Nid oes dim anwybodaeth na all gras Duw ei goncro. Po mwyaf yr ym- drechwn o honom ein hunain i gyr- haedd doethineb, agosafi gydy byddwn i ffolineb." Dengys y geiriau uchod o eiddo Luther mai yn Nuw yr oedd ei nerth ef. Yr oedd, fel Paul, yn wrol am ei fod yn gallu ymffrostio fod nerth Crist yn cael ei berffeithio yn ei wendid ef. Gofyna Spalatin iddo am gyfar- wyddyd i ddarllen yr ysgrythyrau yn y fath fodd ag i dynu buddioldeb o honynt. Atebai Luther gyda gostyng- eiddrwydd mawr, "Yr ydych wedi gofyn cwestiwn nad wyf eto wedi cyr- haedd gallu i'w ateb. Ond gallaf eich hysbysu am fy null i fy hun o astudio yr ysgrythyrau. Y mae yn beth eithaf sicr, yn ol fy mhrofiad i, nas gallwn ddeall y Beibl trwy fyfyrdod a deall yn unig. Rhaid gweddio am gyfarwyddyd Duw i ddeall ei Air Ef. Awdwr y Gair yw ei esboniwr. Nid oes neb arall a all ei esbonio fel efe. Dywed efe ei hun, I dy holl feibion a fyddant wedi eu dysgu gan yr Arglwydd.' (Esay liv. 13.) Peidiwch a gobeithio am ddim trwy eich ymdrech eich hun yn unig, nac oddiwrth eich deall eich hun. Ymddiriedwch yn unig yn Nuw, ac yn nylanwad ei Ysbryd Ef. Cred- wch hyn ar air dyn sydd wedi cael profiad." Pa ryfedd fod dyn a dynai ei nerth o'r nefoedd fel hyn wedi.gwneud gwaith cawr, ac wedi buddugoliaethu ar allu- oedd y tywyllweh trwy y byd. Er hyn i gyd yr oedd yn weithiwr diorphwys yn mhob ffurf y gallai wneuthur daioni. Anfonodd lythyr nerthol at yr Elector yn erbyn treth drom a geisia gweinidog yr Elector osod ar ei ddeiliaid. Yr oedd ei lais ef yn fwy nerthol yn mhalas brenin na phenderfyniadau seneddau. Dywedai y gwir wrth bendefigion dros Dduwfel llywodraethwr trugarog yn mhob peth daearol. Yn ymlyniad Luther wrth ysbrydolrwydd crefydd y Belbl, nid anghofiai ei rwymau i garu ei gymydog yn ymarferol mewn materion tymhorol. Nid crefydd per-lewygfeydd defosiwn yn unig oedd ei grefydd ef, ond un ym- arferol, yn porthi, yn disychedu, hyd eithal ei allu bob amser.

LLOSGIAD AGERLONG—COLL- i…

TAN MAWR YN SWITZERLAND.

TANCHWA DDYCHRYNLLYD.

Y RHYFEL DWYREINIOL!

ACHOS Y RHYFEL.

! GWEITHFAOL.

Y BWRDD CYMODOT,;

LLWCHWR.

GOBEITHION Y CYNAUAF.

DAMWEINIAU.

CWMAMAN, SIRGAER.

Advertising