Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

34 erthygl ar y dudalen hon

I 1 R WYTHNOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

1 R WYTHNOS. Y MAE carcharor o'r enwA. Hier Sav- 0 a 10 age, 53 oed, wedi ymgrogi yn ngharchar Warwick, nos Sadwrn. HYSBYSWYD mewn newyddiauur Saes- onig y dydd o'r blaen, fod tair byddin •*nwog yn Mhontypridd, sef y Salvation Army, y Blue Ribbon Army, a'r Box Hat Army. Deallwn fod Cadfridog yr jlaf wedi marw yn dra disymwth, ac wedi ei gladdu dydd Llun diweddaf. Sen filwr ydoedd, ond wedi bod yn cadw tafarn yn Nhrefforest. YN ystod yr adeg y mae mudiad y Riban Glas wedi bod yn gwneud eii ffordd yn Mhontypridd, y mae yr arian sydd wedi eu rhoddi yn ariandy cynilo y llythyrdy, wedi cynyddu 60 y cant. It ydym yn cael fod mudiad y Riban Glts yn gweithio ei ffordd yn rhagoroi yn Ferndale, a bod yn agos i ddwy fil wedi ymuno &'r mudiad. Y MAE yn dda genym ddeall fod cen- adaeth y Bifean Glas yn Aberdar yn dechreu gwneud eu ffordd yn ml&en yn dda, a bod Aai canoedd wedi ymuno y noson gyntaf. MAE cyailwyn wedi bod ar droed yn Woolwich i ddinystrio y docks. Derbyn- iodd rha.i o'r swyddogion lythyr dienw y dydd o'r blaen, yn rhoddi hysbysrwydd o'r cynllwyn, ond ni chymerodd dim le y noson apwyntiedig, ond cadwydgwyliad- wri&gth am y nosweithiau canlynol, pryd y gosodwyd tan mewn adeilad seiri yn y gymydogsbeth, ac y gwnawd colled o SOOp. Y mae y cynllwynwyr wedi ei siceni yn eu hamcan y tro hwn. Y ma.e yn hysbys bellach fod yr aw- dordodau yn Llundain wedi gwrthod caniatad i'r rhai hyny o Aberdar a ddy- munent wneud ffordd oddiyma i'r Maer- dy. Nid oes amheuaet'h na fyddai j fath ffordd yn gaffaeli&d, ond credwn na fyddai yn iawn rhoddi trethdalwyr Aberdar o dan y baich hwn eto, pan y maent eisioes yn ymgrymu o dan eu beichiau trethol. UN noson yr wythnos ddiweddaf, mewn dawnsfa yn Dublin, gwelid un ferch ieuanc o'r enw Lynch, yn gosodoei llaw ar ei chalon, ac yn syrthio yn farw. Yr oedd wedi achwyn yn flaenorol am boen yn ei hochr, a chredir mai dolur y galon oedd achos y farwolaeth tra sydyn hon. Y MAE gan Mr Gladstone (telephone wedi ei osod i fyny rhwng Ty y Cyff- redin a'i swyddfeydd yn Downing-street, a gall fod yn y Ty mewn pum' mynyd wedi derbyn y neges fod ei angen. Y mae, trwy offerynoliaeth y telephone hwnw, yn gallu bod yn ei swyddfa am lawer haner awr nad oes ei wir angen yn y Ty. YN llys heddgeidwaid Manchester, ddydd Llun diweddaf, dygwyd un Mary Ellen Kirk i fyny ar y cvhuddiad o dry- wanu ei gwr, John Kirk, yr hwn sydd yn awr yn y clafdy. Nid oedd y gar- charores ond newydd dd vfod allan o garchar am drosedd arall, a plian cy deallodd fod ei gwr yn byw gyda menyw arall, ac na fynai efe ddim i'w wneud a [ hi, cyflawnodd y weithred hon. DYWEDIR fod Mr Fawcett yn awr mewn gohebiaeth a'r Trysorlys am ychwanegu cyllogau swyddogion y ychwanegu cyllogau swyddogion y llythyrdai. Dywedir y bydd yr ychwanegiad yn o leiaf 100,000p. Y MAE bron yn sicr bellach fod y Hong City of Dunedin, perthynol i Maryport, yr hon a fordrwyodd o Pensacola am y wlad hon ar yr 2il o Dachwedd di- weddaf, wedi ei cholli, yr nghyda'r holl ddwylaw—25 mewn nifer. HYSBYSIAD o Genoa, Nevada, a ddy- wed fod llithriad eira wedi cymeryd lie yno, trwy yr hwn y collodd 18 o ber- sonau Qu bywydau, ac yn eu plith nifer o Indiaid. Ymwelodd Due a Duces o Edinburgh a Hwlffordd ddydd Llun diweddaf, a chyflwynwyd iddynt anerchiad gan aw- durdodau y dref. DYWED rhai o newyddiaduron Llun- dain fod Archesgob Canterbury yn debyg o roddi i fyny ei swydd o herwydd gwaelder ei iechyd. Y MAE y tywydd am yr wythnos ddi- weddaf wedi bod yn bob peth ag y gallai yr amaethwr ei chwenych. Y mae y mathau goreu o yd y wlad hon wedi oodi rhyw ychydig yn ystod yr wythnos, ona y mathau ereill yn sefyll yn ddi- gyfne\»id, Y mae cynyrch y ddaear mor belled, yn edrych yn rhagorol, yn enwedig yr eglv gwenith. DYWED hysbysiod pellebrol fod ym- gais wedi ei wneud oj-, fywyd y brenin William o Servia. 0 FLAEN Ynad Pontypridd, dydd Mercher diweddaf, dygwyd Jx^rianwr o'r enw William Rogers, perthyaol i lofa y Cymer, o dan y cyhuddiad otiQri un o'r rheolau. Tra yr oedd amry^. ganoedd yn y lofa, aeth rhywbeth o le ar y rhaff, a chafwyd y beirianwr yn cysgu. Trowyd ef ymaith ar unwaith, a dirwywyfl ef i 40s. a'r costau am yr esgeulusdra. ODDEUTU wythnos yn ol, cymerodd merch ieuanc o'r enw Miss Jane Thomas, White House Farm, Leckwith, merch ieuanc 18 oed, dose o wenwyn, gan feddwl mai salts oedd. Wedi cael cy- northwy meddygol, meddyliwyd ei bod ar wella, ond yn dciisymwth iawn bu rfarw boreu dydd lau diweddaf.

Family Notices

.GWEITHWYR GLOFEYDD YR OCEAN…

ABERDAR-ARWERTHIANT PWYSIG.

--PLENTYN YN CAEIJ EI CHY-IIYDSO…

YSBEILIAD MAWR YN NGOGLEDD…

. GORLIFIAD Y MISSISSIPPI.

DAMWAIN GLOFA Y GREAT WESTERN.

DAMWAIN ANGEUOL YN BRITON…

AT HAULIERS CWM ABERDAR YN…

DAMWAIN I BLANT MEWN YSGOL-PEDWAR…

STRIKE FAWR YN AMERICA.:

'AT LOWYR Y GLO CAREG.

--,---ð-.-MOUNTAIN ASH^_J

LLWYDDIANT DAU GYMRO 0 FORGANWG…

<'TY Y CYFFREDIN.

TY YR AR'iLWYDDI.—Dydd Mercher.

TY Y CYFFREDIN.

TY YR ARGL \VYDDI.-D!Jdd Iau.

TY Y CYFFREDIN.

TY Y CYFFREDIN-Difllrl Gu…

CASTELLNEDD.

MAESTEG—GALW AD.

--LLANELLI.

Quinine Biitters

EU GWEITHBEDIAD.

GOPALED PAWB AM HYN.

TRYSORFA GOFFADWRIAETHOL MR…

GLOFA Y GNOLL, CASTELLNEDD.

AT LOWYR CWM ABERDAR.

Y -SENEDD.

------. SARON, ABERAMAN.

AIL AGORIAD JERUSALEM, CAPEL…

Advertising