Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

YR WYTHNOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

f „ YR WYTHNOS. DYDD Sadwrn diweddaf cafodd Mr C. J. Elton, yr ymgeisydd Ceidwadol dros West Somerset, ei ddychwelyd gyda. mwyafrif o 762 o bleidleisiau. Y MAE yn cael ei hysbysu o Ferthyr, fod person yn Thomastown, tra yn trin ei ardd, wedi dyfod o hydi berl gwerth- fawr iawn yn rhwym wrth oyster shell. Dywedir ei fod y llynedd wedi cael llawer o oysters yn rhodd, y rhai, gan nad oeddynt yn addas i'r farchnad, a daflodd efe i'w ardd. Mae yn ymddangos fod y perl yn rhwym wrth yr oyster shell yr adeg hono, ond mai yn awr y dargan- iyddodd efey trysor, yr hwu, meddir, sydd werth miloedd o bunau. BOREU dydd Sul diweddaf, yn agos i Cross-road, Llangeler, deuwyd o hyd i gorff un Mr John Davies, Bwlchyclawdd, diweddar amaethwr cyfrilol, ar y ffordd. Y person a ddaeth o hyd iddo oedd Mr David Jones, Bwlchyclawddbach. Gwel- -wyd ef yn fyw y nos flaenorol. DYDD Sadwrn diweddaf, yn Nhreher. bert, bu farw dyn o'r enw D. Jenkins, mewn canlyniad i niweidiau a dderbyn- iodd yn nglofa y Bute-Merthyr, trwy i gwymp syrthio arno. Gadawodd wraig a dau o blant. MAE bachgen 14 oed, mab i Nathaniel Rees, Lluest Isaf, Llanilltyd, wedi bod ar goll er Ionawr y 13eg. Yr oedd yn un tal o'i oedran. Mae ei berthynasau yn ofni ei fod wedi dyfod i'w ddiwedd yn rhywle. YN sesiwn L'erpwl, dydd Llun di- weddaf, dygwyd pump o fechgyn yn mlaen ar eu prawf, sef McLeon, Duggan, Campbell, Dempsey, a Valentine, ar y cyhuddiad o fod wedi achosi marwolaeth morwr Spaenaidd o'r enw Nunnery, trwy ei gicio i farwolaeth. Yr oedd oedran y carcharorion o 14 i 20, a'r oil wedi cymeryd rhan yn y trosedd, tra y gwelwyd McLean a Duggan yn defn- yddio cyllyll. Dygodd y rheithwyr farn «Euog' yn erbyn y ddau olaf, ond I Dieuog' yn erbyn y lleill. Taerai y ddau eu bod yn ddieuog, ac mai Demp- sey a laddodd y trancedig. DedfrydQdd y barnwr y ddau i gael eu colli, gyda r addewid o anfon dymuniad y rheithwyr ar eu rhan i'r lie priodol ar gyfrif eu hieuenctyd. r r i PRYDNAWN dydd Llun diweddat, fel yr oedd cerbydres deithwyr y Taff yn dyfod i orsaf Llwynypia am ychydig cyn wyth o'r gloch, syrthiodd teithiwr, nad yw ei enw yn wybyddus, oddiar y plat- form o dan y gerbydres, ac a dorwyd yn ddarnau. YN nglofa y Maerdy, yr ydym yn cael i ddau dramp o'r enwau William Williams a Wa'ter English, perthynol i sir Gaerfyrddin, lyned i gysgu yn ymyl y berwedydd nos Sadwrn. Yn mhen yefaydig aeth English o dan y berwed- ydd, gan gredu fod fr"ager wedi f,4 ollwng allan. Modd bynag, boreu dydd Sul, daeth George York i gyflawni byny 0 orchwyl. Agorwyd gwaelod y berw- edydd, a thywalltwyd yr ager ar gorff English. Ceisiodd ddianc, ond methodd, a chafwyd ef yn farw, a golwg druenus arno. Llwyddodd ei gyfaill i ddianc heb ond ychydig niweidiau. Yn ddi- weddarach yr ydym yn cael i'r tanwr yn y Maerdy ddyfod o hyd i'r trancedig yn feddw ddydd Sadwrn, ac yn cysgu ar y glo man. Dywedir hefyd mai Robert Edwards yw ei enw priodol. Yr oedd yn 41 oed. ac yn frodor o sir Fon. CYMERODD marwolaeth truenus le nos Sadwrn yn Mhenrhiwfer. Mae yn ymddangos i un William Powell yfed gormod o'r drwythen uffernol, ac iddo fyned i orwedd ar ffwrnes coke. Cafodd y gwres y fath effaith arno fel y bu farw yr ail foreu mewn poenau dirfawr. YR ydym yn cael fod Mr John Ivor Evans,uno swyddogion Trefol Abertawe, wedi marw boreu dydd Llun, wedi bod yn wan ei iechyd am rai misoedd. Yr oedd yn frodor o Abertawe, ac yn 46 oed. 0 GYMYDOGAETH Dudley yr ydym yn cael fod gwyrth iachaol wedi ei chyflawni gan nifer o aelcdau Byddin yr Iach- awdwriaeth ar ferch ieuanc a orweddai yn glaf er ys ugain mis. Yr oedd y ferch yn orweddog, ac yn methu codi ei phen, ond tra yr oedd dau neu dri o'r brodyr yn gweddio, torodd y ferch ieuanc allan i waeddi' Mae yr Arglwydd yn fy ngwella,' ac eisteddodd i fyny yn unionsyth o honi ei hun. Mae hi a'i mam yn credu fod y gwellhad wedi ei ddwyn oddiamgylch trwy effeithiol* rwydd gweddi. CAWN fod gwallt Mrs Catherine Flan- nigan, yr hon sydd wedi cael ei dedfrydu i farwolaeth am wenwyno yn L'erpwl, wedi troi yn wyn mewn ychydig wyth- nosau o amser.

TANCHWA DDIWEDDAR PENYGRAIG.

Advertising

ACHOS Y GWENWYNO YN L'EBPWL.

..-.--CYFARFOD GLOWYR DOSBARTH…

LLWYDDIANT CYMDEITHAS Y SWANSEA…

EISTEDDFOD MAESTEG.

.' Y RHYFEL YN SOUDAN.

GWAHODDIAD I EISTEDDFOD GAD.…

NANTYMOEL.'

GLANGWENDRAETH PRIZE DRAWING.

Advertising

PELENI 0 DAN YN SYRTHIO YN…

YSBEILIWR MEWN jTRAFFERTH.

GLOWYR "MOUNTAIN ASH A -DOSBARTH…

! MASNACH EIN DOSBARTH.

GLOWYR DOSBARTH CAERFFILI.