Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

GLANDWR, PENFRO, A'R AMGYLCH-OEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GLANDWR, PENFRO, A'R AMGYLCH- OEDD. Eira a Ithew.—Gwyn a chloedig gan eira a rhew ydyw sefyllfa ein hamgylchoedd er's pythefnos bellach, ac nid oes arwydd Jai nad felly y byddant am bythefnos eto. Y Dosbarth Beiblaidd.- Y mae Dosbarth Beiblaidd Glandwr wedi dechreu yn dra Ue- wyrchus y tymor hwn. Yr pedd yn dda gen- ym weled cynifer wedi ymgynull iddo y nos- waith gyntaf. Hoffem weled rhagor o bob oed a rhyw yn ei fynychu yn y dyfodol. Y mae yn anhawdd cael ei well tuag at gynyddu mewn gwybodaeth ysgrythyrol. Y Ilyfr ydys wedi ddechreu arno y tymor presenol ydyw Daniel, ac yn ddiddadl bydd ei fyfyrio yn adeiladol iawn. Y Cyfarfod Dirwe8tol.- Y mM Cyfarfod Dirwestol Glandwr wedi ei gychwyn eleni eto. Nid oedd y cynulliad cyntaf yn rhyw luosog iawn, ond er hyny, cafwyd dechreuad neilldu- ol dda. Adroddwyd yno ddarnau godidog a chafwyd araeth resymegol rymus yn erbyn yr aferiad o ymyfed gan ein parchus weinidog, y Parch. 0. R. Owen. Byddai ynddagenym pe byddai yno ychwaneg yn ei gwrandaw. Synem hefyd na buasai ychwaneg o aelodau ac yn neillduol rhai o ddiaconiaid eglwys luosog a pharchus fel Glandwr, yn rhoddi eu presenoldeb a'u cymhorth mewn cyfarfod o'r nodwedd yma. Dewch i'r cyfarfodydd hyn gyfeillion, a rhoddwch eich ysgwyddau wrth yr olwyn lwyrymwrthodol; ac ymwregyswch fel un gwr cadarn a nerthol, yn erbyn y pech- od mawr meddwdod. Nid ydym yn credu y gall yr un eglwys ddysgwy], yn rhesymol am adfywiad crefyddol a gwenau y nefoedd, heb ei bod yn gyntaf, yn nerthol filwrio yn erbyn pob pechod. CELYNOG. LLANBEDR-PONT-STEPHAN. Cyngherdd.—Nos Lun, Rhag. 16, cynaliwyd cyngherdd ardderchog yn Neuadd y dref, yn benaf gan y Temlwyr Da. Cymerwyd y gadair gan David Lloyd, Yaw., Peterwell. Ar ol araeth gan y Llywydd, galwyd ar E. Williams yn mlaen ijanerch y cyfarfod, yr hyn a wnaeth yn bwrpaaol iawn. Y rhai a gymerasant ran yn y gwaith oeddynt T. Rich- ards, Evan Jones, David Davies, John Thom- ag, David Thomas, John Evans, William Williams, Thomas S. Jones, David B. Davies, Rachel Owens, ac Edward Williams. Cafwyd cyfarfod llurwog iawn. Yr elw i fyned i drysorfa y Temlwyr Da. Marwolaeth.—Dydd Llun, cyrhaeddodd y new- ydd galarus am farwolaeth ein hen gyfaill anwyl John Lewis Hughes, unig fab Marg- aret Hughes, Red lion, Llanbedr. Un o Dal- gareg ydoedd o'i enedigaetb, ond yn Llenbedr y treuliodd ran fwyaf o'i amser. Yr oedd yn hoff ae anwyl gan bawb a'i adwaenai. Nid oedd er's blynyddau yn dda o ran ei iechyd. Nid oedd ond wyth ar hugain ned. CJadd- wyd of y dydd Mercher canlydql yo Cam- newydd. Demlwyr Da.—Fel y mae'n hvsbys i lawer fod yn Llanbedr Demlwyr Da er's tro bellach, ag wedi dangos hyny erbyn hyn. Dydd lau, cyfarfy Idoda yma y Dasparth Demi. Daeth- ant yn nghyd yma o Aberystwyth, Ysbytty Ystwyth, Tregaron, Abermeiriog, ag amiyw eraill. Yn yr hwyr am chwech cawsom ar- aethiau ar ddirwest yn capel Shiloh. Cymer- wyd y gadair gan Capt. Thorax, T.H.D. Areithiwyd yn dda rhagorol gan Plenydd, T. *.B.D., ag hefyd gan Morris Morgan, T.U.C.B.D. Cafwyd yr araethiau yn rhyf- eddol o dda. GOHEBTDD. BALA. Cofio y Tlawd.-Fel y crybwvllwyd yn y CELT dro yn ol, tanysgrifiwyd swm lied hardd o arian i'r dyben o ddathlu priodas R. O. Jones, YBRT., meddyg trwy roddi te i blant y^golion y dref. Gwahoddwyd nifer lied luos- ° gyfeillion parchus i gydgyfranogi' a hyynt, er y cwbl, credwn na threuliwyd baner yr arian gyda'r te a'i ddanteithion. Pa le'mae y rhan arall tybed ? Addawyd wrth gs^sglu y byddai i'r gweddill gael ei ranu rhwng y tlodion ond dyma o ddwy wythnos i dair wedi myned beibio, o'r amser mwyaf Uymdost er's llawer blwyddyn a'r tlodion eto, mae yn ymddangos heb dderbyn dim. Yn sicr gweithred annynol yw gwneud ffug o'r tiawd. A'i tybed nad yw yn bosibl taraw ar rbyw gynllun mwy llwyddianus y tro nesaf i g o y tlodion ? Diau fod ei eisiau y dyddiau oeirion a chloedig hyn. I TAKYSORIFIWR. I I

Family Notices

MARWOLAETH A CHLADDDEDIGAETH…

[No title]