Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y CLECION.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y CLECION. -Gobebydd o fri yw Mr D. Fforest Dafis, o Gastellnewydd Emlyn. Ysgrifena yn gyson i'r Celt, y Seven, a'r Tyst. -Derbyniad oeraidd er hyny ga yn y Tyst, oblegid ni cbyboeddir ei lithiau ond dan y pen- awd "Nid ydym yn gyfrifol," &e. -Y mae un J. F. Jones wedi tynu cryn sylw yn ddiweddar yn y Seven. -Gwrth-ddirwestwr egwyddorol y geilw rhywun Myfyr Emlyn. Tybed? -Bardd o fri yw y Parch. Aaron Morgan, Maesteg, fel y prawf ei benillion tyner ar Fy mam," yn y Seven yr wythnos ddiweddaf. —Efe hefyd gipiodd y gadair yn Eisteddfod Penybont-ar-Ogwy ycbydig amser yn ol, y tes- tyn oedd Addysg," a chadeiriwyd ef, yn ngwvneb haul, llygad golenni," pan ydoedd yn rky dvwyll i'r dyrfa ei adnabod. —Y Parch. B. Humphreys, Felin Foel, yw awdwr yr ysgrif ar I- Paham yr wyf yn Fedydd- fwr caetbgymuuol," a ymddangosodd gyntaf yo y Geninen, yna, yn bamphledyn bychan, ac a ystyrir gan Fedyddwyr yn gampwaith. -Telynfab o'r Gadlys sydd yn dwyn allan gofianti Dr. Price, Aberdar. Cofir hefyd mai efe gipiodd y wobr yn Eisteddfod Aberhonddu am draetbawd ar ol y gwron ymadawedig. —Ysgrifena rhyw Ben Rees, Gronant, mewn atebiad i'r Parcb John Evans, Penygroes, a'i gyfeiriad at y Bedyddwyr mewn cwrdd cwarter yn Trefgarn, y dydd o'r blaen. Ofer gwingo yn erbyn y symbylau a gellir cynwys holl ysgrif B. Rees yn y ddiareb hono, Mynydd mewn gwe- wyr yn esgor ar lygoden." —Tarawodd Mr Evans yr hoel ar ei chlopa, a drwg gan luaws na fuasai wedi aros yn ei swydd fel ysgrifenydd Cyfundeb Penfro. -Rhyddfryd wr i'r earn ydyw efe, a thorodd dir newydd i'r cyn-ysgrifenyddion ymadawedig, drwy anfon yr hanes i'r Celt yn gystal a'r Tyst, nid am fod hyny yn un fraint i'r Celt ond yn rhagoriaeth yn Mr Evans. —Y Parch. J. G. Morris, Trefdraeth, etholwyd yn ei le, a gobeithio y bydd yr un rhinwedd yn. ddo yntau. -Pale mae yr Eryr o'r Drigarn ers mei- tyn ? Y mae efe yn awdurdod ar wleidyddiaeth. —Ganwyd y Parch. J. Gwyronydd Evans wrth droed y Freni Fawr, aeth yn bregethwr i Dre- ^Sen, symudodd i Aberafon, ail-ehedodd i Gern- yw* teithiodd yn mhellach i Lundain, daeth yn ol i sir Benfro, ac y mae ar hyn o bryd yn gweini- dogaethu yn Saundersfoot. —Enw mawr yw Pencerdd Gwalia, enw mwy eang yw Pencerdd America,, ond eu coron oil a wnaeth ei ymddanghosiad y dydd o'r blaen fel c. EOfJ y Byd." -Torodd Wynne Evans dir newydd, wrth adolygu ei waith ei hun, a sicrheir fod ei Ail- ddyfodiad" yn y Celt yn ffaith beth bynag am destyn ei ysgrifau.. -Pechod mwyaf Abraham oedd talu y degwm ag eiddo Melchisedec ei dderbyn. Mae y byd wedi troi er hyny. -Nid .oes eisieu nodi fod Maelog Mon yn methu deall englynion, oblegid dengys cynyrch y rhai hyny gawsant yr urdd B.B.D. yn Eistedd- tod Aberteifl fod y gosodiad yh wirionedd. Ble 'roedd Gurnos a'i gynghaneddion, tybed f —" Yr Haul yw teatyn cadair Abertawe, a'r Cenhadwr yw teatyn cadair Rhyl. Y cyntaf yn arddangos Daw mewn natur a'r ail mewn gras. —" Siarad a darllen yw testyn araeth syn- wyrlawn Cynonfardd, ond barna un gwr doeth fod mwy 0 angen dysgu rhaidJtnion i dewinagi glebran yn dragywydd. —Un o'r darnau mwyaf tlws a desgrifiadol yn y ddarlith yw "Rhybaddio Johnstown o'i pher- ygl, gan y gwr ar farch." —" X Pasg" yw testyn darlith newydd o eiddo y Parch. J. Davies, Aberdar. —Drwg genym na wyddom pwy yw awdwr yr englyn serehcanlynol:- Dillya olud Llanelwy,—a Uawnder Llundain anchwiliadwy; Roddwn pe meddwn a mwy Am feinweo fel Myfahwy. —Y deongliad olaf o hono a glywsom oedd fod y Deon John o Lanelwy yn foddlon rhoddi holllawnder Llundain am gadw ei feinwen, sef yr Eglwys Sefydledig. —Yn fynych ysgrifenir trefydd" am trefi." I egluro byn, dywedwn mai trefi yw Dinbych a Mostyn, ac mai dau drefydd yw Dr. Pan a Mr Gee. J —Cymerodd arwerthiadau de^ymol le yn Solfach, y dydd o'r blaen, ac yr oedd Garibaldi fel arfer ar y llwyfan wrth-offeiriadol. -Cyngor Sirol Penfro a ddaafonodd ddeiseb i'r Llywodraeth ar ran achos neillduol, ond dychwelwyd ef am nad oedd wedi ei arwyddo yn briodol. Pa fodd y bu hyn nis gwyddom, gan fod y cadeirydd Allen yn Q.C., ond barna gwyr hirben Dyfed pe byddai y penderfyniad at liw dwr Toriaeth y pasiai yn rhagorol. —Edrychai Adelphos yn Aberteifi y dydd o'r qlaen mor ddiymbongar a phe na byddai wedi bod yn Babylon Fawr erioed. 0 ran hyny, y rhai na fuont o olwg y mwg yw y rhai mwyaf honiadol. -Un on harweinyddion cerddorol mwyaf gobeithiol yw Mr Taliesin Hopkins, Porth. —Amrywiol iawn yw'r barnau am "Yr Arianwen," Dr. Parry. —Ffrwyth ymchwiliad athronydd doeth yw mai y diafol oedd y Tori cyntaf, ac i Adda wrth gjfeillachu ag ef fyned yn Unionist, ond fod modd eto i'n gwneud yn Rhyddfrydwyr a Rad- icaliaid perffaith gwbl. —Gwerthwyd rhanau helaeth o dir Syr M. O. Lloyd, Bronwydd. -Diflanodd dau weinidog Annibynol o Sir Benfro un nosou heb yn wybod i neb. —O herwydd rhyw resymau y mae eglwys Siloh, Aberdar, wedi tori cysylltiad a Mr D. Onllwyn Brace. Ychydig gyda blwyddyn sydd er pan sefydlwyd yr achos. I ba beth y bu y golled hon ? —Ymostyngodd lluaws i'r ddelw aur o Clar- ence yn y Deheudir, er fod yno rai o epil y tri llanc. Ap y Freni er engraifft. -Bardd da yw Blodionwy o dref Dewi Sant, a da fyddai cael ycfowaneg o'i gyfansoddiadau ef a'i gyfaill Gwallter Glan Taf yn y Celt. Y tri mwyaf blaenllaw gyda'r Blaid Gym- reig, yn ol y Tyst a'r Bydd ydynt Michael Jones, Osborne Morgan, a Gladstone. —Ysgrifena y Parch. W. Thomas, Whitland, yn gadarn ar bwnc y degwm, yn fwy felly nag ar ddim arall. —Ysgrifena y Parch. W. Gilbert Evans mewn cysylltiad a chael trysorfa at gael llyfrau i weini- dogion y gyflog fach yn Lloegr a Chymru. Dichon fod angen. —Yr ydym yn cyduno a Gilbert fod Mr Mor- lais Jones yn un mawr, ond ai nid ydyw dweyd ei fod yn ddiameu yr uwchaf Cymro yn Lloegr yn ormodiaith ? Beth am Ossian, Eynon, El- wyn, Elfed, a'r olaf ond nid y lleiaf a enwn, J. M. Gibbon, yr hwn sydd yn un o weinidogion mwyaf dylanwadol y Brifddinas ? —Fel hyn y cleciwyd ar ymweliad y llanc o Fostyn a Roumania:— Dr. Pan yn Roumania,—dyna fod lawn fydd yn rhodiana, Ar yr Olwyn dirwyna,-i'r doethawr Ceir mynwes hwylfawr—ein Carmen Sylva.

Advertising

IY PEIRIANT, BARDDOL.