Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL O'R DE,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYN A'R LLALL O'R DE, [GAN AP Y IFBENI FACH.] Dyddorol iawn oedd darllen adroddiad o weithrediadau cyfarfodydd blynyddol y gwahanol Gynghorau Sirol a gynhelid dydd Gwener diweddaf. Rhoddai hyn i ni drem gryno ar yr haner Ymreolaeth y mae y wlad eisoes wedi gael a'r gwelliantau lluosog y mae hyny wedi eu ddwyn oddiamgylch fel y mae yr awenau yn dyfod yn raddol i law y werin! Yn y Cynghor Sirol v mae yr ar. glwydd a'r gweithiwr yn union ar yr un tir, a gwel y gwahanol urddasolion ydynt wedi arfer hyd yma ddal yr holl swyddi breision, fod yn rhaid iddynt hwy brofi bellach y meddant ryw gymhwysderau heblaw cyfoeth a safle ar gyfer y swyddi hyn. Y mae mawrion y tir hyd yma wedi bod yn bur hael ar bwrs y wlad pan yn penderfynu cyflogau eu gilydd. Gwelwyd yn Nghynghor Mor- ganwg na cha pob swyddog godiad yn ei gyflog o byn allan heb reswm da paham. Yr oedd yno ddau swyddog a dderbyniant ganoedd lawer o bunau yn y flwyddyn yn gofyn am godiad. Ond nld heb gryn ddad- leu y cawsant eu ffordd. Y Cynghorvdd David Davies, o Ferthyr, a darawodd yr hoel ar ei chopa pan ddywedodd, os nad oedd y swyddogion hyn yn cael digon o dal mai gwell fuasai iddynt ymddiswyddo ar unwaitb. Tybed fod yna neb bellacb a feiddia aw- grymu nad oes gan Wleidiadaeth ddim i'w wneuthur a'r Cynghorau Sirol. Felly y dy- wedai llawer o Doriaid, ac ambell Rydd- frydwr mewn enw yn adeg yr ethoJiad. Y mae yna rai pynciau, er nad oes ganddynt ddim i'w wneuthur a gwleidiadaeth yn un- iongyrehol, a beoderfynir yn union yr un modd yn mhob lie y mae Toriaid yn y ttiwy- afrif, a hyny yn groes i'r modd y pender- fynir hwy gan Ryddfrydwyr. Cymerer er engraifft yr arian a dd'ont i fewn oddiwrth y diodydd meddwol yn ol darpariaetb deddf ddiweddar y trethiad lleol- Y nM rycneiniog 109 a Maesyfed y Toriaid sydd yn y mwyafrif. Penderfynasant hwy mai pwysicach oedd defnyddio yr arian i ostwng y dreth nag i addysgu y tlawd. Yr holl gynhorau eraill yn y De a droisant yr arian i gynorthwyo achos addysg. # :II: :If: Cafodd Cynghor Sirol Ceredigion brawf ymarferol dydd Gwener, fod Cynghor Sirol Morganwg mewn perffaith gydymdeimlad a hwy yn eu penderfyniad Rhyddfrydig a'u dygasant i wrthdarawiad pendant ag ewyllys gaeth yr Ysgrifenydd Cartrefol. Pasiodd Cynghor Morganwg benderfyniad yn con- demnio gwaith yr Ysgrifenydd Cartrefol yn gwrthod cadarnbau apwyntiad y cynghor o'r diweddar (erbyn hyn) Sergeant Evans yn brif gwnstabl y sir. Yn uniongyrchol nid oes a fyno y naill gynghor a'r Hall, ond yn anuniongyrchol y mae. 1 mae o bwys i'r awdurdodau goruchel ddeall ar unwaith fod Cymru yn benderfynol o fynu Ymreolaeth rinweddol, pa beth bynag a ddewiso y Lly- wodraeth ei galw. A da y gwna Cynghor Morganwg arloesi y ffordd ar gyfer yr adeg y byddont hwy eu hunain mewn cyffelyb amgylchiadau. Myn Cynghor Sirol Ceredigion fod yn wreiddiol yn mhob peth bron. Newidiasant hwy eu cadeirydd y flwyddyn hon yn wa- hanol i'r holl gynghorau ereill. Dewiswyd 0 y Mr Levi James, Aberteifi, yn lie Mr Peter Jones. Cafodd y blaenaf fwyafrif o un ar yr olaf. Rhyddfrydwyr yw y ddau. # # Dewisodd Cynghor Sirol Caerfyrddin, Mr D Rixon Morgan yn drengholydd yn lie y diweddar Mr George Thomas. Mab i'r di- weddar Proffeswr Morgan yw Mr Rixon Morgan. Nid yw mor llithrig ei dafod a'i frawd Mr Lloyd Morgan, A.S., ond gwna drengholydd rhagorol. Wele Ryddfrydwr ac Ymneillduwr arall mewn swydd sydd wedi ei dal yn gyffredin gan Doriaid ac Eg- lwyswyr. Dyn yn y Rbondda yr wythnos ddiweddaf a yfodd ei hun i farwolaeth. Gwna miloedd hyn bob blwyddyn ond yn yr achos hwn daeth y terfyn yn sydyn, ac mewn modd nad oedd dadl nad pethau meddwol ai lladdodd. Cafwyd ef yn farw'yn y dafarn. Mawr obeithiaf y gwneir y defnydd eithaf o'r di- gwyddiad i ddadienu yr arferiad a ffyna mor gyffredinol o roddi faint fyd a fyno o wirodydd meddwol i un gan nad pa mor feddw bynag y byddo ar y pryd.

Advertising

GWIN Y CYMUNDEB.

DICSIONA.I